Skip to content

Categori: Digidol

Yr hyn a ddysgais o gymryd rhan ym mhodlediad #NatterOn

Mae’r ffordd ni’n dysgu a chymryd gwybodaeth i mewn yn datblygu drwy’r amser. Yn y blogbost isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar beth y dysgodd trwy gymryd rhan ym mhodlediad NatterOn. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rydw i wedi bod yn gwrando ar bodlediadau i ehangu fy ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y byd ac i gael dealltwriaeth well o sut allai wella fy ngwaith. Mae’r app Podcast Addict wedi bod yn ffordd dda o reoli podlediadau ddiddorol gan ei fod yn dod â sawl podlediad at… Read more Yr hyn a ddysgais o gymryd rhan ym mhodlediad #NatterOn

Mynd i’r Afael â Chynllunio Gwasanaeth Digidol

Sut all gwasanaethau cyhoeddus dechrau i ddylunio gwasanaethau digidol? Isod mae Jess Hoare ac Amy Richards o Y Lab yn edrych dros y pethau allweddol sydd i’w hystyried wrth i chi dechrau ar eich siwrne o Ddylunio Gwasanaethau Digidol. Ychydig o wythnosau yn ôl, cafodd Y Lab wahoddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal gweithdy yn ystod un o’i Seminarau Digidol. Roedd y seminarau hyn yn ddigwyddiadau bywiog gyda rhai cwestiynau gwirioneddol wych yn cael eu codi yn ystod y sesiwn panel. Dyma un o’r rhai diddorol: Beth yw’r prif… Read more Mynd i’r Afael â Chynllunio Gwasanaeth Digidol

Mentrwch i fod yn agored i wella gwasanaethau cyhoeddus

Sut all arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ymgorffori meddylfryd digidol o fewn eu sefydliadau i ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus? Isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar yr hyn y dysgodd o weithdy’r Cynghorydd Barry Parsons a Carl Haggerty yn ein Seminar Digidol. Roedd ein seminar yn edrych ar ddulliau digidol, ond yn realiti dim ond rhan bach o’r seminar oedd am dechnoleg. Yn lle hynny, roedd seminarau’r Gogledd a’r De yn canolbwyntio ar y camau y gallai sefydliadau eu cymryd i ddatblygu meddylfryd Digidol a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell. Fe wnes i gynnig sesiwn… Read more Mentrwch i fod yn agored i wella gwasanaethau cyhoeddus

Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol: cynhadledd am newid diwylliant

Beth oedd y negeseuon allweddol o’n digwyddiadau diweddar ar ddigidol? Isod mae Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn adlewyrchu ar y prif bwyntiau dysgu mae hi’n cymryd i ffwrdd. Ar 13 Medi mynychais ddigwyddiad a drefnwyd gan Gyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru o’r enw Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol. Er i mi gyfeirio ato fel cynhadledd at ddibenion cyseinedd teitl yn Saesneg, seminar ydoedd mewn gwirionedd gyda gweithdai rhyngweithiol – gyda bwyd arbennig o flasus – a gafodd ei gynnal yn Stadiwm SWALEC yng nghanol Caerdydd. Dyma… Read more Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol: cynhadledd am newid diwylliant

Beth all Data Agored wneud ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus?

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal Google Hangout ar Ddata Agored. Fe fydd y Hangout yn edrych ar sut all Data Agored helpu ni i ddarparu gwasanaethau ar y cyd sy’n dryloyw ac effeithiol. Yn blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar pam mae gan y Gyfnewidfa Arfer Da diddordeb yn y pwnc. Blwyddyn ddiwethaf fe wnaeth tîm Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau sy’n Agored i Niwed Llywodraeth Cymru gysylltu â ni am y posibilrwydd o wneud ychydig o waith ar amlygu arfer da ar rannu data mewn modd effeithiol.… Read more Beth all Data Agored wneud ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus?

Allwch chi fynd heb e-bost mewnol?

Ai e-bost yw’r dyfodol o fyd gwaith, neu gall ffyrdd newydd helpu ni i rannu gwybodaeth yn fwy effeithlon? Siaradodd Dyfrig Williams i Lee Mallon o Rarely Impossible i gael gwybod. Rydyn ni gyd yn gwybod y teimlad o ddychwelyd i’r gwaith ar ôl gwyliau i ffeindio mynydd o negeseuon e-bost. Rydw i wastad yn cael y teimlad bod angen i mi fynd i’r afael â’r negeseuon hynny cyn i mi ddechrau gyda fy “ngwaith go iawn”. Yn ddiweddar, blogiodd fy nghydweithiwr Beth am yr adolygiad diweddar o’n Treialon Coffi… Read more Allwch chi fynd heb e-bost mewnol?

Treialon Coffi ar Hap: Sut maen nhw’n mynd?

All Treialon Coffi ar Hap helpu pobl o fewn eich mudiad i rwydweithio a rhannu gwybodaeth? Yn y blogbost yma, mae Bethan Davies yn arolygu defnydd y Gyfnewidfa Arfer Da o’r dull. Efallai bod rhai ohonoch eisoes yn ymwybodol bod y Tîm Arfer Da wedi bod yn cynnal Treialon Coffi Ar Hap yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel ffordd o annog cynadleddwyr i barhau i sgwrsio ar ôl digwyddiadau. Gwnaeth Dyfrig Williams flogio am Dreialon Coffi Ar Hap y llynedd. Ym mis Ionawr, dyma ni’n meddwl y byddai’n syniad da… Read more Treialon Coffi ar Hap: Sut maen nhw’n mynd?