Archifau Categori: Deddf Lles Dyfodol Cenedlaethau

Taclo Anghydraddoldeb

Ers ei lansio yn 2012 mae Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi £4miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol dros ddau gyfnod o’i raglen GalwAmWeithredu mewn 21 prosiect unigol.  Mae wedi arddangos ymarfer rhagorol trwy bartneriaethau arloesol i gyflawni cyfranogiad gan grwpiau anodd eu cyrraedd.

Mae Carwyn Young – swyddog arweiniol Chwaraeon Cymru ar gyfer GalwAmWeithredu yn rhoi ei safbwynt personol ar y dysgu sy’n codi o werthusiad arhydol Gwasanaeth Ymgynghorol Ymchwil y Deyrnas Unedig (RCS) o’r rhaglen a beth allai olygu ar gyfer Chwaraeon Cymru a’r sector.

Rwy’n dal i gofio’r sgwrs yn Ionawr 2014 a arweiniodd at roi’r dasg i mi o sefydlu Cam 2 GalwAmWeithredu.  Gyda chasgliadau gwerthusiad mewnol o Gam 1 i’m harwain, ymroddiad cyllideb ddangosol o £3miliwn a phedwar maes Ffocws:

  • Merched a Menywod Ifanc
  • Pobl ag anableddau
  • Pobl o gefndir BME
  • Pobl ifanc yn byw mewn tlodi

Buan iawn y sefydlais weithgor traws sefydliadol, felly dim fi oedd yr unig un!

Ac wedyn tair blynedd yn ddiweddarach, gydag 11 o brosiectau wedi eu cefnogi, gwerth dwy flynedd o adolygiadau cynnydd a chasgliadau gwerthuso, pa ddysgu sydd wedi codi?

Dwi’n mynd i gychwyn gyda rhai o’r “Gwersi Mawr” mae RCS wedi casglu o’u canfyddiadau mwyaf diweddar:

  • Mae’n bosibl ymgysylltu gyda grwpiau anodd eu cyrraedd
  • Mae ymgysylltu â’r grwpiau hyn yn galw am ddulliau arloesol……
    • …o ran llywodraethu a phartneriaeth…
    • …a chyflawni.
  • Mae hefyd yn cynnwys elfen o risg i enw da ac ariannol sy’n dderbyniol ac y gellir ei reoli, ond sy’n parhau……
  • Gall gwersi o GalwAmWeithredu hysbysu Chwaraeon Cymunedol, iechyd y cyhoedd ac amcanion llesiant ehangach

I gyd yn bethau positif ym marn pawb, dwi’n credu, felly beth yw rhywfaint o’r dysgu wrth wraidd y “Gwersi Mawr” yma?

Dwi’n mynd i edrych eto ar gasgliadau allweddol adroddiad Effaith Dros Dro cyntaf RCS, ond dwi wedi crynhoi’r canfyddiadau allweddol yn fy ngeiriau fy hun:

Amseru a Chyflymder:  Yn eich gwaith cynllunio, gadewch amser i ddod i adnabod ac ymgysylltu gyda’r grŵp targed cyn i’r cyflawni ddechrau.

Allbynnau a Ragwelir: Byddwch yn glir o ran beth mae’ch prosiect i fod i’w wneud a beth all ei gyflawni

Cyfranogi: Sicrhewch eich bod yn cipio effaith ar unigolion nid dim ond y niferoedd

Llywodraethu a Phartneriaethau: Mae prosiectau yn effeithiol pan fydd partneriaid yn cyfuno eu meysydd arbenigedd.  Byddwch yn glir ynghylch beth ydych chi ei eisiau gan ac y gallwch ddarparu i’r bartneriaeth

Ffyrdd o Weithio: Rhaid deall y sawl rydych eisiau cynnwys yn yr ymgysylltu a phersonoli eich negesu/ymgysylltu.   Cyflawnwch beth mae pobl eisiau, nid beth ydyn ni’n meddwl maent angen i feithrin hyder ac ymddiriedaeth.

Arddangos Gwerth: Sicrhewch fod gennych chi’r prosesau yn eu lle i gipio holl effaith y prosiect o’r cychwyn

Newid strwythurol: Byddwch yn hyblyg a chael y gallu i addasu’r prosiect wrth i heriau godi

Mi hoffwn i feddwl wrth i chi ddarllen trwy’r casgliadau yma i chi feddwl “mae hynny’n go amlwg” ond mi hoffwn i chi hefyd ystyried os yw’ch dulliau presennol o weithio yn eu cynnwys pob tro? Os ydych chi, a allech chi ei wneud hyd yn oed yn well?

Mae un o fy hoff ddarnau o ddysgu sydd wedi codi o’r prosiect GemauStryd ‘Ni Ferched’ ac mae’n beth mae nhw wedi ei alw yn “ymgysylltu cyn cynnar”.  Mae’n golygu ymgysylltu gyda’r grŵp targed i feithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth fel bod perthynas yn ffurfio rhyngddynt a’r prosiect cyn hyd yn oed crybwyll y mater o fod yn egnïol.  O safbwynt ‘Ni Ferched’, roedd yr “ymgysylltu cyn cynnar” ar ffurf sesiynau coluro, sesiynau sgwrsio rhithwir, ymweliadau i weithgareddau, a daeth yr amser ac ymdrech i wneud hyn yn elfen allweddol o’r prosiect.  Doedd “ymgysylltu cyn cynnar” ddim yn ddull y byddech fel arfer yn ei gysylltu gyda phrosiect a gefnogir gan Chwaraeon Cymru, ond yn un sydd wedi profi i fod yn allweddol i ymgysylltu’n llwyddiannus gyda’r grŵp yma o ferched.

Mi hoffwn i gloi trwy ategu un o “Wersi Mawr” RCS, “Mae’n bosibl ymgysylltu gyda grwpiau anodd eu cyrraedd”.  Mae prosiectau GalwAmWeithredu wedi cadarnhau nad yw hyn yn hawdd, ond mae’n braf gweld effaith y prosiectau ar fywydau pobl.  Dyma ddolenni i ambell fideo i ddangos hyn:

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

‘Ni Ferched’ Chwiorydd Mawr

Hoffwn nodi hefyd bod yr hinsawdd rydym yn gweithio ynddi ar hyn o bryd yn sylweddol wahanol i 2014 pan lansiwyd cam 2 GalwAmWeithredu.  Doedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddim hyd yn oed yn bodoli!  Gallech ddadlau fod GalwAmWeithredu eisoes wedi dechrau gweithredu rhywfaint o’r ‘5 Ffordd i weithio’.  Byddai gweithredu’r dewis i gam 3 o GalwAmWeithredu yn gymharol syml, her fwy yw i’w gweithredu i beth fyddwn ni’n ei wneud yn ddyddiol ac mae’n un dwi’n credu yr ydw i Chwaraeon Cymru yn barod amdani.

Felly rwy’n gymharol hyderus yn yr amgylchedd newidiol hwn yr ydym yn gweithredu ynddo bod gennym ddigon o’n plaid ond peidiwch â chymryd fy ngair i am hyn, darllenwch yr adroddiadau gwerthuso RCS.

Cwmni Bro Ffestiniog

cwmni bro

Mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ddatblygiad hollol arloesol yng Nghymru; sef rhwydwaith o fentrau cymdeithasol llwyddiannus sydd wedi dod at ei gilydd i gydweithio dan faner un cwmni bro.

Mae’r Cwmni Bro yn gweithredu yng nghymunedau Blaenau Ffestiniog, Trawsfynydd a Phenrhyndeudraeth a’r pentrefi cyfagos sydd, rhyngddynt, gyda phoblogaeth o tua 8,000. Roedd Blaenau Ffestiniog yr ail dref fwyaf yng ngogledd Cymru yn 1900 gyda phoblogaeth o tua 13,000 ond wrth i’r diwydiant llechi edwino mwy na hanerwyd y boblogaeth erbyn y flwyddyn 2000. Erbyn heddiw mae Bro Ffestiniog yn un o’r ardaloedd tlotaf yn economaidd ym Mhrydain. Er y dad-ddiwydiannu mae’r etifeddiaeth ddiwylliannol yn goroesi i raddau helaeth ac yn gynsail i’r model cyfannol ac integredig o ddatblygu cymunedol a arloesir yn yr ardal heddiw.

Amcanion y Cwmni yw hybu cydweithrediad rhwng y mentrau, meithrin mentrau cymdeithasol newydd a hefyd gweithio gyda busnesau preifat bach sydd wedi’u hangori yn y gymuned. Hyn i gyd er mwyn datblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr ardal.

Yn ôl pob tebyg mae mwy o fentrau cymdeithasol y pen yn yr ardal nag yn unrhyw le arall yng Nghymru. Daeth 13 o fentrau cymunedol yr ardal at ei gilydd dan faner Cwmni Bro Ffestiniog. Rhestrir isod y mentrau sy’n aelodau Cwmni Bro.

Antur Stiniog     www.anturstiniog.com

Barnardos    www.barnardos.org.uk/cabanbach.htm

Cyfeillion Croesor     www.orielcafficroesoratcnicht.co.uk

CellB/Gwallgofiaid    http://www.cellb.org

Cwmni Opra Cymru    http://www.opra.cymru

Deudraeth Cyf.    http://www.deudraethcyf.org.uk

GISDA    http://www.gisda.org

Seren    www.seren.org    Gwesty Seren www.gwestyseren.org

Pengwern Cymunedol http://www.ypengwern.co.uk

Trawsnewid

Y Dref Werdd www.drefwerdd.cymru

Ysgol y Moelwyn/Canolfan Hamdden sg@moelwyn.gwynedd.sch.uk

Mae gweithgareddau amrywiol y mentrau hyn yn cynnwys rhedeg gwestai, siopau, bwytai, canolfan twristiaeth, canolfan hamdden, canolfan celf a chrefft, beicio mynydd, manwerthu, garddwriaeth, darparu rhandiroedd, gwaith addysgol a diwylliannol, opera, gwaith amgylcheddol, cynhyrchu trydan, hybu arbed ynni, lleihau gwastraff bwyd, ailgylchu, glanhau afonydd, gwaith gydag oedolion gydag anghenion ychwanegol, gwaith gydag ieuenctid yn cynnwys ynglŷn â digartrefedd a dysgu siliau amgylcheddol a chyfryngol.

Rhyngddynt mae aelodau’r Cwmni Bro yn cyflogi tua 150 o bobl. Dengys dadansoddiad diweddar o effeithiau economaidd y mentrau bod canran uchel o’u hincwm yn dod o fasnachu. Ymhellach, dangoswyd bod yr incwm, i raddau helaeth, yn aros a chylchdroi o fewn yr ardal. Am bob punt a dderbynnir fel grantiau neu fenthyciadau mae 98 ceiniog yn cael eu gwario’n lleol, yn bennaf ar gyflogau. Cedwir 53% o’r 1.5 miliwn o bunnau a werir ar gyflogau yn lleol. Mae bron hanner y gwariant ar nwyddau a gwasanaethau yn lleol ac felly’n ailgylchu arian yn yr ardal.

Yn mis Awst 2018 cychwynwyd menter newydd, BROcast Ffestiniog, sef gwasanaeth darlledu cymunedol digidol, gyda’r bwriad o hyrwyddo cyfathrebu rhwng mentrau cymunedol yr ardal a’r gymuned ac oddi mewn i’r gymuned. (Gweler BROcast Ffestiniog-YOUTube a facebook.com/BROcastFfestiniog ).

Credir bod y model integredig a chyfannol o ddatblygu cymunedol y mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ei arloesi yn cynnig patrwm y gellir ei efelychu gan gymunedau eraill. Bydd Cwmni Bro yn ymateb yn gadarnhaol i wahoddiadau i ymweld ag ardaloedd eraill i esbonio’r hyn a gyflawnwyd ym Mro Ffestiniog ac i drafod potensial cyffredinol y model.

Mae’r model hefyd yn gosod sialens i lywodraeth yng Nghymru i ddatblygu polisïau a chefnogaeth briodol er mwyn hyrwyddo’r model hwn o ddatblygiad cymunedol yn ehangach ledled y wlad.

CYSWLLT

Cwmni Bro Ffestiniog, 49 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd. LL41 3AG

CwmniBro@CwmniBro.Cymru      07799 353588

Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru

circular economy

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da bob amser yn awyddus i rannau arloesedd a ffyrdd diddorol o weithio, felly pan wnaethom glywed am waith y Grŵp Ymchwil Economi Gylchol, roeddem yn awyddus i rannu.

Mae Dr Gavin Bunting yn Athro Cyswllt ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltu yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â RCE Cymru ac mae Dr Gavin Bunting wedi ysgrifennu blog cyn y digwyddiad ‘Good to Share’ a gaiff ei gynnal ym Mangor a Chaerdydd.

Mae’r grŵp wedi bod ynghlwm wrth ymchwil ddiddorol iawn ar sut y gallwn leihau gwastraff yng Nghymru, a chreu economi gylchol, a allai olygu bod Cymru ar ei hennill o £2 biliwn y flwyddyn. Syniadau fel hyn a fydd yn creu Cymru cenedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau bod datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu gwaith. Darllenwch ei flog isod i ddysgu am sut mae’r Grŵp Ymchwil ac Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru wedi cydweithio, gan gymryd camau breision tuag at gyflawni nodau Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.


Mae’r DU yn cynhyrchu 200 miliwn o dunelli o wastraff bob blwyddyn a chaiff bron i chwarter ohono ei anfon i safleoedd tirlenwi, tra bod llawer o’r adnoddau sydd eu hangen at ddefnydd hanfodol, megis cynhyrchu pŵer, cyfathrebu ac offer meddygol yn mynd yn fwy prin.

Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf ohonom wedi bod mewn sefyllfa lle mae’n rhatach prynu argraffwr, peiriant golchi neu ffôn newydd ac ati na’u hatgyweirio neu eu diweddaru. Beth yw’r rheswm dros hyn?

Un ateb i fynd i’r afael â’r gormodedd o wastraff a’r darfodiad hwn yw trawsnewid yr economi i fod yn gylchol lle y caiff cynhyrchion eu dylunio i sicrhau:

  • Eu bod yn para’n hirach
  • Y gellir eu diweddaru, eu hatgyweirio a’u hailddefnyddio
  • Y gellir adfer ac ailgylchu’r deunyddiau cyfansoddol y maent yn eu cynnwys ar ddiwedd cyfnod y cynnyrch

Mae Sefydliad Ellen MacArthur a WRAP wedi amcangyfrif y gallai manteision economaidd posibl gweithredu economi gylchol yng Nghymru gyrraedd £2bn y flwyddyn, ar gyfer y ddau sector canlynol: nwyddau cymhleth tymor canolig, e.e. ceir, offer electronig a pheiriannau; a nwyddau defnyddwyr a ddefnyddir yn aml, e.e. bwyd a diod, dillad a gofal personol.

Er mwyn symud tuag at economi gylchol, mae angen gweithredu mewn ffordd amlddisgyblaethol sy’n cwmpasu ymchwil ac arloesedd mewn meysydd megis: dylunio cynhyrchion i’w hailwampio a’u hailddefnyddio; datblygu deunyddiau newydd a chael gafael ar adnoddau defnyddiol o ddeunyddiau naturiol; datblygu modelau busnes newydd sy’n cymell y gwneuthurwr i ddylunio cynnyrch hir oes; ac ymchwilio i’r ffordd y gallwn gyfleu’r cyfleoedd a herio canfyddiadau o economi gylchol.

Dim ond drwy gyfuno arbenigedd mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau y gallwn fynd i’r afael â’r newid sydd ei angen yn y system i gyflawni economi gylchol.

Mae cryn dipyn o’r arbenigedd hwn i’w gael mewn prifysgolion yng Nghymru a thrwy gydweithio gallwn fynd i’r afael â heriau economi gylchol. Felly gweithiais gyda chydweithwyr yn y Grŵp Addysg Uwch ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymru, Canolfan Arbenigedd Ranbarthol (RCE) Cymru, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe er mwyn sefydlu’r Grŵp Ymchwil ac Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru’.

Nod arfaethedig y grŵp yw cysylltu’r arbenigedd a’r profiadau ategol er mwyn hwyluso arloesedd ac ymchwil ar economi gylchol yng Nghymru, drwy gyflawni’r amcanion canlynol:

  • Darparu fforwm i rannu arfer da ac i hwyluso’r broses o gyfnewid gwybodaeth rhwng academia, busnes a llunwyr polisïau.
  • Cydweithio er mwyn cynyddu’r gallu ac adnoddau ymchwil economi gylchol mewn sefydliadau yng Nghymru.
  • Ymgysylltu â diwydiant er mwyn datblygu ymchwil a arweinir gan ddiwydiant.
  • Darparu tystiolaeth i lywio polisïau a rhaglenni’r Llywodraeth.
  • Datblygu fforwm ar-lein i hwyluso’r broses o gyfnewid arfer da, cyfleoedd ariannu, newyddion a digwyddiadau.
  • Arddangos allbynnau economi gylchol y rhwydwaith yn rhyngwladol, gan gefnogi’r broses o ddatblygu partneriaethau rhyngwladol.
  • Cydweithio ar y broses o ddatblygu cwricwlwm a darparu hyfforddiant ar ei gyfer.
  • Cydweithio â rhwydwaith byd-eang y Ganolfan Arbenigedd Ranbarthol (RCE) (a gydnabyddir gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig) er mwyn rhannu dysgu ac arfer da ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.

Cadeiriais gyfarfod cyntaf y grŵp ar 8 Mehefin, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r prifysgolion canlynol: Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru, Abertawe a’r Drindod Dewi Sant. Eglurodd Dr Andy Rees, Pennaeth Gwastraff, Llywodraeth Cymru, y sefyllfa gan ddarparu rhai ystadegau defnyddiol a oedd yn amlinellu offerynnau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer arloesedd economi gylchol.

Bu’n gyfarfod cynhyrchiol, lle y gwnaethom drafod syniadau ar sut y gallwn gydweithio ar ymchwil, addysgu, cyfnewid gwybodaeth a llywio polisïau’r llywodraeth. O ran ymchwil, y farn gyffredinol oedd na ddylwn ganolbwyntio ar geisiadau am gyllid ar gyfer ymchwil a oedd yn ymwneud â’n economi gylchol yn unig – gan fod modd i’r economi gylchol ychwanegu newydd-deb at amrywiaeth eang o feysydd ymchwil. Nodwyd hefyd fod angen i ni edrych ar sut y gallwn wella’r ffordd y caiff yr economi gylchol ei chyfleu i fyd diwydiant a’r cyhoedd er mwyn annog arloesedd a newid. Yn benodol, cytunwyd ei bod yn bwysig sôn am yr elfen o gystadleurwydd wrth gyfathrebu â diwydiant, ynghyd â chanolbwyntio ar y sectorau sy’n bwysig i economi Cymru. Gallai’r Safon Brydeinig ar gyfer Economi Gylchol, BS-8001, fod yn ffordd ddefnyddiol o ymgysylltu â chwmnïau a gall rhwydweithiau academia-diwydiant sydd eisioes yn bodoli megis ASTUTE ddarparu llwybr sefydledig ar gyfer cyfnewid gwybodaeth.

Nod craidd y grŵp yw annog cydweithredu, a hwylusir i gychwyn drwy ddarparu cyfeirlyfr o arbenigedd, fel y gall aelodau nodi cydweithredwyr posibl ar gyfer ymchwil yn hawdd. Yn ogystal, byddwn hefyd yn sefydlu bwletin e-bost rheolaidd a fforwm lle y gall aelodau drafod meysydd o ddiddordeb. Mae angen cymorth ysgrifenyddiaeth da i gadw grŵp fel hyn i weithio, ac mae Ann Stevenson o Brifysgol Caerdydd wedi bod mor garedig â chynnig i ddarparu hyn.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn cynnal cyfarfod arall o’r grŵp yn yr hydref ac yn cynnal sesiynau yng Nghynhadledd RCE Cymru ar 8 Tachwedd 2018, yng Nghaerdydd, lle y byddwn yn cynnal trafodaethau ysbrydoledig a chynhyrchiol gobeithio.

dr gavin
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r Grŵp, neu os