Skip to content

Categori: Cyllid

Craffu er mwyn sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol – mwy o gwestiynau nag atebion?

Ym mis Ionawr, rydym yn cynnal seminar a fydd yn anelu at herio’r ffordd y mae angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ailystyried sut y maent yn sicrhau bod aelodau a swyddogion yn atebol mewn perthynas â chenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn cydnabod bod hyn yn newid mawr i wasanaethau cyhoeddus a chawsom sgwrs gyda’n cydweithiwr Tim Buckle sy’n gysylltiedig â’r ddwy ochr i’r geiniog – gan weithio ar adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o drefniadau craffu awdurdodau lleol yn ystod 2017-18 a helpu i lunio’r seminar hon. Cafwyd sawl sgwrs am… Read more Craffu er mwyn sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol – mwy o gwestiynau nag atebion?

A ddylem fod yn symud i ffwrdd o arfarniadau?

Yn ein blog diweddaraf, mae Russell Higgins, Partner Dysgu Adnoddau Dynol Swyddfa Archwilio Cymru, yn ystyried y broses arfarnu ac yn rhannu ei brofiadau o’r sioe dysgu a datblygu CIPD yn ôl ym mis Mai.  Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer cynyddol o gyflogwyr wedi bod yn symud i ffwrdd o arfarniadau blynyddol ffurfiol ac wedi bod yn cynnal deialog gyda chyflogeion yn lle hynny. Mae arweinwyr ym mhob man yn sylweddoli mai pobl yw ased mwyaf gwerthfawr sefydliad, ac nad yw prosesau rheoli perfformiad traddodiadol yn dylanwadu ar sgiliau… Read more A ddylem fod yn symud i ffwrdd o arfarniadau?

Sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi data i archwilio’n fwy effeithiol

Beth allwn ni ddysgu o’r ffordd mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi ei data ar gyfer eu harchwiliadau? Cafodd Dyfrig Williams sgwrs ffôn yn hynod o gynnar yn y bore er mwyn darganfod mwy. Fel rydw i wedi dweud o’r blaen yn fy mlogbost ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, rwy’n edrych i nodi ffyrdd o wneud defnydd gwell o ddata a thechnoleg i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n gweithio. Fe wnes i ddod ar draws yr erthygl hon ar sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi data… Read more Sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi data i archwilio’n fwy effeithiol

Datblygu personas ar gyfer gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Sut all personas helpu i sicrhau bod prosiectau yn canolbwyntio ar y defnyddiwr? Isod mae Dyfrig Williams yn adlewyrchu ar sut maen nhw wedi bod yn rhan o’i waith ar fynd i’r afael â data yn effeithiol. Rydw i wedi bod yn gweithio ar arbrawf i gasglu data ar gyfer archwilwyr fel y gallwn weithio’n fwy effeithlon fel rhan o fy ngwaith ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad. Rydw i wedi blogio o’r blaen ar fy niddordeb mewn darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol achos y ffocws di-baid ar angen… Read more Datblygu personas ar gyfer gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr