Archifau Categori: Cyfathrebu

Y pwysigrwydd o gydnabod y berthynas rhwng ymchwil ac iaith

Read this blog post in English

Beth sy’n gwneud ymchwil yn llwyddiannus a pha rôl mae iaith yn chwarae yn hyn? Isod mae Ena Lloyd yn rhannu blogbost gan Jeff Brattan-Wilson o Anabledd Cymru, sy’n sefydliad annibynnol, dielw a sefydlwyd yn 1972. Maen nhw’n gorff aelodaeth o grwpiau anabledd a chynghreiriaid ledled Cymru.

Ffotograff o Jeff Brattan-Wilson o Anabledd Cymru

Jeff Brattan-Wilson o Anabledd Cymru

Ar Ddydd San Ffolant fe fynychais lansiad yr Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol yn y Deml Heddwch, ble cwrddais Jeff Brattan-Wilson o Anabledd Cymru. Gofynnodd Jeff gwestiwn arbennig i’r prif siaradwr, Peter Beresford OBE. Roedd hyn yn un o’r achlysuron hynny ble roeddwn i rili eisiau rhannu’r neges yn ehangach. Cefais sgwrs gyda Jeff ar ôl hynny a gofynnais a fyddai’n rhannu ei feddyliau ar ein blog. Dyma ei stori:

Ym mis Chwefror eleni, roeddwn yn bresennol yn nigwyddiad lansio ‘Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru’ yn y Deml Heddwch.

Rhoddodd Peter Beresford OBE (Athro Emeritws Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Brunel Lloegr ac Athro Cyfranogiad Dinasyddion ym Mhrifysgol Essex) gyflwyniad ar effaith ymchwil a oedd wir yn sbarduno’r meddwl.

Roedd Peter yn siarad am y ffaith bod llawer o ddarnau pwysig o waith ymchwil, a ysgrifennwyd dros flynyddoedd lawer, a hynny’n bennaf ar gyfer cyfnodolion arbenigol, fel arfer yn eistedd mewn llyfrgelloedd, ar silffoedd, ac yn aml yn ymddangos fel pe baent y tu hwnt i gyrraedd pobl nad ydynt o gefndir maes ymchwil.

Yn sgil ei sgwrs, dechreuais feddwl o ddifrif am yr holl waith ymchwil sydd wedi cael ei wneud yng Nghymru, y gallai cyfran fawr ohono arwain at newidiadau sylweddol neu wneud gwahaniaeth enfawr yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â chymunedau lleiafrifol.

Daeth cwestiwn i fy meddwl: sut rydym yn mesur effaith ymchwil o’r fath? Drwy’r math o gyfnodolyn lle y caiff y gwaith ei gyhoeddi? O ran y ffordd y mae’n datblygu gyrfa rhywun? Neu ai’r ffordd y caiff y canfyddiadau eu defnyddio yn y gymuned sy’n bwysig, a ph’un a ydynt yn cael unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd bywyd pobl?

Gofynnais i Peter, “Beth y gallwn ei wneud gyda’n gilydd i sicrhau bod gwaith ymchwil yn cael ei ysgrifennu mewn iaith bob dydd, fel bod llawer o sectorau yng Nghymru yn gallu ei ddarllen a’i ddefnyddio fel meincnod i ymgynghori â’r gymuned?”.

Yr ateb oedd bod gwir angen i ni weithio gyda’n gilydd; mae angen i brifysgolion, ysgolheigion ac academyddion ddeall eu bod yn creu rhwystrau rhyngddynt a phobl yn y gymuned ehangach drwy ddefnyddio iaith gymhleth sy’n llawn jargon.

Gallwn ddadlau y dylai iaith fod yn llwybr i hyrwyddo deialog ystyrlon – nid rhywbeth a ddefnyddir gan unigolyn i hyrwyddo ei ragoriaeth ieithyddol ei hun.

Ar ôl hynny, cafwyd trafodaeth o amgylch fy mwrdd ynglŷn â darparu gwasanaethau i bobl hŷn yng Nghymru. Roedd yn fy nharo unwaith eto, er ei bod yn ddigon posibl bod sawl math o waith ymchwil wedi cael ei wneud, a llawer o atebion wedi cael eu darganfod, fod arnaf ofn bod y cyfan wedi cael ei golli oherwydd yr arddull ysgrifennu, wedi’i gyhoeddi mewn cyfnodolion arbenigol na fydd llawer o bobl wedi clywed amdanynt.

Mae’n hawdd dangos yr hoffai pobl o lawer sector gwahanol ymgynghori â’r amrywiol gymunedau mewn cymdeithas, e.e. gwahanol grwpiau ieithoedd lleiafrifol neu hyd yn oed gymuned Iaith Arwyddion Prydain. (Iaith Arwyddion Prydain yw’r drydedd iaith fwyaf cynhenid yng Nghymru, ar ôl Saesneg a Chymraeg). Er mwyn ymgynghori â’r gymuned, mae’n bwysig defnyddio iaith bob dydd.

Dychmygwch – beth petai’r holl waith ymchwil hwnnw wedi cael ei ysgrifennu mewn iaith bob dydd? Byddai gennym gyfoeth o syniadau, atebion, datrysiadau a meddwl creadigol, i gyd ar gael yn hawdd ar flaenau ein bysedd.

O’r gwaith y mae Anabledd Cymru wedi’i wneud, mae’n amlwg mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy gydgynhyrchu â phobl eraill. Os yw academydd am ymchwilio i farn grŵp penodol, neu os yw’r Llywodraeth am ymgynghori ynghylch materion sy’n ymwneud â chymuned benodol, does bosibl mai’r ffordd orau o wneud hyn yw drwy gydgynhyrchu â’r grŵp hwnnw? Dyna sut y gellir cael y ddeialog ystyrlon honno, a hynny yn iaith bob dydd y bobl hynny. Onid yw hynny’n synnwyr cyffredin?

Ar adeg ysgrifennu’r blog hwn, rwy’n sylweddoli ein bod, drwy fod yn agored i ystyried ein defnydd o iaith bob dydd, efallai’n debygol o ddenu ystod fwy amrywiol o lawer o bobl a allai ystyried gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain, gyda’r ystod o bynciau yr ymchwilir iddynt hefyd yn dod yr un mor amrywiol o ganlyniad i hynny.

Gobeithio y gall y rhai sy’n ariannu ymchwil gymryd sylw o hyn a mynnu bod canfyddiadau gwaith ymchwil yn cael eu cyhoeddi mewn iaith bob dydd ac mewn cyfnodolion prif ffrwd fel bod yr holl sectorau (a’r holl bobl) yn gallu cael mynediad cyfartal at y gwaith hwnnw.

Un peth arall sy’n bwysig ei gofio o gyflwyniad Peter yn fy marn i: dywedodd wrthym y byddai ei fam yn darllen ei waith. Byddai’n dweud wrth Peter p’un a oedd yn ei ddeall ai peidio. Os oedd yn ei ddeall, yna roedd yn addas i’r rhan fwyaf o bobl; os nad oedd yn ei ddeall, roedd Peter yn gwybod ei fod yn gwneud rhywbeth o’i le. Roeddwn yn meddwl bod hwn yn beth diymhongar a gonest i’w rannu â’r gynulleidfa. Penderfynais roi cynnig ar rywbeth tebyg.

Mae hynny’n fy atgoffa o un o’m hoff ddyfyniadau:

“Os byddwch yn siarad â dyn mewn iaith y mae’n ei deall, bydd hynny’n mynd i’w ben. Os byddwch yn siarad ag ef yn ei iaith ef, bydd hynny’n mynd i’w galon.”

Nelson Mandela – Cyn-Arlywydd De Affrica

Bod yn agored yn ddiofyn

Sut allai swyddfa archwilio agor ei systemau fel bod gwybodaeth yn agored yn ddiofyn? Siaradodd Dyfrig Williams â Tom Haslam am ddull gweithredu Swyddfa Archwiliwr Cyffredinol Seland Newydd.

Logo Swyddfa Archwiliwr Cyffredinol Seland Newydd

Rwy’n gweithio ar brototeip Data Agored fel rhan o brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad Swyddfa Archwilio Cymru. Yn ystod y gwaith yma fe ddywedodd cydweithwyr i mi y gallem wella ein ffordd o drin data. Ond nid trwy casglu data newydd o reidrwydd – dywedodd y rhan fwyaf o’m cydweithwyr mai’r mater pwysicaf iddyn nhw oedd meithrin ymwybyddiaeth well am y data sydd gan y swyddfa yn barod, a gallu cael gafael ar y data hynny mewn ffordd rhwydd.

Mae gan ein sefydliad ddau ymarfer arbenigol – archwilio ariannol ac archwilio perfformiad. Mae’r rhaniad hwn yn hwyluso arbenigedd, fel bod gennym gydweithwyr sy’n hynod wybodus yn eu meysydd arbenigedd. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu bod rhaid i ni weithio’n galed i chwalu seilos sefydliadol, sydd weithiau’n cael eu hatgyfnerthu gan y systemau sydd gennym ar waith.

Mae diogelu data yn nodwedd bwysig o’r ffordd rydym wedi gosod ein systemau gwybodaeth. Mae ffolderi rhwydwaith wedi’u diogelu. Dim ond timau a phersonél penodol sy’n gallu cael mynediad atynt, sy’n golygu bod y data sydd ynddynt yn gaeedig i bobl eraill yn ddiofyn. Mae ein system SharePoint hefyd wedi’i gosod mewn ffordd debyg ac nid yw’r swyddogaeth chwilio cystal ag y gallai fod. Mae hyn i gyd yn golygu eich bod yn annhebygol o ddod o hyd i ddata oni bai eich bod chi’n gwybod yn union ble mae fe.

Dysgu gan swyddfeydd archwilio eraill

Fe wnes i sôn am gydweithiwr o’r enw Tom Haslam yn fy mlogbost diwethaf ar waith Swyddfa Archwilio Queensland. Mae Tom wedi gweithio yn Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol yn Wellington, Seland Newydd. Nododd ei swyddfa nhw problemau tebyg i’r rhai sydd gennym o ran y ffordd roeddent yn trefnu ac yn dal eu data.

I fynd i’r afael â hyn, rhoddodd y Swyddfa system wybodaeth newydd ar waith sy’n seiliedig ar SharePoint, ac i ategu hyn gwnaethant sefydlu grwpiau peilot traws-swyddfa o’r enw ‘iShare’. Roedd y grwpiau hyn yn seiliedig ar bynciau swyddogaethol trawsbynciol (er enghraifft yr iShare Trafnidiaeth) gyda’r nod o helpu i chwalu seilos sefydliadol a hyrwyddo dull gweithredu un tîm ar gyfer y swyddfa gyfan.

Roedd mabwysiadu’r system wybodaeth newydd yn gyfle i’r Swyddfa drafod rhinweddau o systemau gwybodaeth sy’n agored neu’n gaeedig yn ddiofyn. Trafodwyd hyn ym mhob rhan o’r swyddfa mewn sawl cyfrwng.

Ar y cyfan, roedd y system wybodaeth flaenorol yn annog dull gweithredu lle’r oedd gwybodaeth yn ‘gaeedig nes ei bod yn agored’. Ond yr ymdeimlad cyffredinol oedd y gallai data caeedig rwystro’r Swyddfa rhag gwneud y gorau o’r wybodaeth a ddelir ganddi. Tueddiad naturiol pob archwilydd yw bod yn ofalus, felly o dan ddull gweithredu lle mae gwybodaeth yn ‘gaeedig oni bai ei bod yn agored’, gellid ystyried bod gwneud gwybodaeth yn ‘agored’ yn risg y byddai’n well ei hosgoi, hyd yn oed os nad oes cyfiawnhad dros wneud hyn. Yn ymarferol, mae gwneud gwybodaeth yn gaeedig yn golygu bod angen gosod hawliau mynediad a chaniatâd amrywiol. Gall hyn ynddo’i hun fod yn rhwystr rhag rhannu data.

Fe wnaeth Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol strwythuro ei system wybodaeth newydd fel bod gwybodaeth yn ‘agored oni bai ei bod yn gaeedig’, gyda metadata er mwyn helpu staff i ddod o hyd i’r hyn y maent yn chwilio amdano. Roedd y dull gweithredu hwn yn hwyluso rhannu data, gan annog staff i feddwl am sut y gallent ychwanegu gwerth drwy gydgysylltu gwybodaeth. Roedd gosodiad diofyn lle bo gwybodaeth yn ‘agored oni bai ei bod yn gaeedig’ yn gwneud i staff ystyried yn fwy gofalus y rhesymau dros gau mynediad, er enghraifft deunydd ag iddo oblygiadau o ran diogelwch gwladol neu wybodaeth bersonol adnabyddadwy.

Roedd y system Technoleg Gwybodaeth yn rhedeg yn fwy dibynadwy gan ei fod wedi’i ffurfweddu’n fwy taclus heb ganiatadau a chyfyngiadau diddiwedd. Fe wnaeth dibynadwyedd gwell y system SharePoint newydd arwain at arbedion amser a chynnydd yn hyder y staff a’u boddhad â Thechnoleg Gwybodaeth. Gwnaeth y cynlluniau peilot iShare annog aelodau’r grwpiau i chwilio am gyfleoedd i gydweithio a rhannu gwybodaeth.

Wrth i’r cynlluniau peilot hyn fynd yn eu blaen, ac wrth i’r swyddfa ehangach gael gwybod am eu llwyddiannau, gwnaethant annog agwedd fwy agored o fewn y timau – roedd pobl yn gallu gweld bod modd rhannu data a chydweithio heb i bopeth fynd o chwith.

Roedd Tom hefyd yn meddwl bod ymddiriedaeth yn ffactor. Mae ymdrin â gwybodaeth sensitif am gleientiaid yn rhan o waith bob dydd archwilydd. Felly, roedd gwneud data yn agored yn arwydd clir bod y Swyddfa yn amgylchedd ymddiriedaeth uchel.

Fodd bynnag, mae newid yn daith ac mae’r Swyddfa yn ategu hyn o’i phrofiad ei hun. Mae’n parhau i annog ac anelu at amgylchedd lle bo gwybodaeth yn agored nes ei bod yn gaeedig. Ond nid yw pethau wedi bod yn hollol ddidrafferth ers i’r system wybodaeth newydd gael ei chyflwyno. Mae rhai aelodau o staff wedi croesawu’r cyfle i rannu gwybodaeth yn agored. Mae rhai eraill wedi bod yn fwy petrusgar ynglŷn â rhannu mwy o wybodaeth, neu maent yn dal i weithredu yn yr un ffordd ag o’r blaen a heb newid i fod yn fwy agored. Mae wedi bod yn ofynnol i’r Swyddfa hyrwyddo ac atgyfnerthu’r dull gweithredu newydd o bryd i’w gilydd. Mae’n cydnabod na fydd newid o’r maint hwn yn digwydd dros nos na heb ymdrech barhaus. Ond mae’r diben – sef defnyddio gwybodaeth gyfunol i ddylanwadu ar welliant a gwella atebolrwydd – yn cyfiawnhau’r ymdrech.

Sut mae hyn yn cyd-fynd â gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da

Mae gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da ar rannu data yn effeithiol yn dangos bod hyn yn dibynnu ar yr egwyddor o fabwysiadu camau cymesur wrth ddiogelu data.

Mewn blog blaenorol fe wnes i ceisio weld os oedd rhannu data yn rhwystr rhag gwella gwasanaethau cyhoeddus, ac ynddo fe wnes i grybwyll y Comisiynydd Gwybodaeth. Dywedodd ef fod pobl eisiau i’w data personol weithio iddyn nhw, a’u bod nhw’n disgwyl i sefydliadau rannu eu data personol lle bo angen er mwyn iddynt darparu’r gwasanaethau maen nhw eisiau. Dywedodd hefyd fod pobl yn disgwyl i gymdeithas ddefnyddio ei hadnoddau gwybodaeth i atal trosedd a thwyll a chadw dinasyddion yn ddiogel. Mae’n sicr yn werth gwylio Anne Jones, Comisiynydd Gwybodaeth Cynorthwyol Cymru, yn amlinellu sut y gellir rhannu data yn effeithiol.

Bydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol sydd ar ddod yn tynhau’r trefniadau diogelu data i raddau, ond mae fe hefyd yn gyfle i ailystyried sut y gallwn rannu data yn effeithiol. Yn benodol, sut rydym yn sicrhau bod archwilwyr yn ddigon hyderus i wneud y gorau o waith casglu a rhannu data.

Rwyf wedi blogio’n flaenorol am ein digwyddiad ymddiriedaeth staff, lle y clywsom fod ymddiriedaeth yn hanfodol er mwyn i wasanaethau cyhoeddus allu cymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n dda, arloesi a darparu gwasanaethau cyhoeddus sydd wir yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Mae Tom yn arwain prosiect ar wahân o fewn Swyddfa Archwilio Cymru i edrych ar y ffordd rydym yn defnyddio ein systemau gwybodaeth gan gynnwys SharePoint. Un opsiwn rydym yn ei ystyried yw defnyddio SharePoint Online, a fyddai’n ei gwneud yn haws i ni ddatblygu maes y gallai cyrff allanol a phartneriaid gael mynediad ato – porth. Mae blogbost Leigh Dodds yn rhoi trosolwg da o’r hyn y gallai porth ei gynnwys.

Byddai porth yn ein galluogi i rannu data â chyrff a archwilir a phartneriaid yn fwy effeithiol. Rydym wedi profi’r cysyniad hwn gyda phorth prototeip sy’n seiliedig ar SharePoint ar gyfer rhai o’n cydweithwyr ym maes iechyd. Bydd yr hyn a ddysgir drwy hyn yn bwydo’n ôl i brosiect Tom.

A’r prif beth y mae gweithio ar brosiect Archwilio Arloesol wedi’i ddysgu i mi yw mai dulliau gweithredu cydgysylltiedig a chydweithredol yw’r ffordd orau o sicrhau ein bod yn ychwanegu gwerth gwirioneddol at y gwaith a wnawn.

Mae’r ysgrifen ar y ddesg!

Mae desgiau bwrdd gwyn Gartrefi Melin wedi hyrwyddo newid ymddygiad cadarnhaol, arbed arian ac adnoddau, a hefyd gwella’i arfer Diogelu Data! Isod mae Ena Lloyd yn blogio ar y stori y tu ôl i’w desgiau.

Galwais heibio’n ddiweddar i weld Trisha Hoddinot yn Cartrefi Melin ar ôl i Mari Arthur o Cynnal Cymru sôn am y gwaith da maent yn ei wneud ar eu Cynllun Ceir. Nid jyst arbed arian a sicrhau canlyniadau cynaliadwyedd da, roedd yna hefyd arwyddion cynnar o newidiadau cadarnhaol mewn ymddygiad.

Pan gyrhaeddais ei swyddfa, sylwais fod pob un o ddesgiau’r Tîm Cynaliadwy yn wyn, ac wrth eu hastudio ymhellach, roedd llawer o negeseuon ysgrifenedig drostynt hefyd! Felly roedd yn rhaid i mi ofyn beth oedd y tu ôl i’r desgiau yma. Clywais mai desgiau bwrdd gwyn oeddynt. Byddaf yn rhannu gwybodaeth am eu cynllun ceir mewn blog diweddarach! Dyma stori Trisha am y desgiau bwrdd gwyn.

Ffoto o fwrdd desg gwyn Cartrefi Melin sydd gan ysgrifen arno

Bwrdd desg gwyn Cartrefi Melin

Ni yw’r Tîm Cynaliadwyedd a ffurfiwyd ym mis Chwefror 2016 i nodi’r hyn roedd Cartrefi Melin yn ei wneud o ran Cynaliadwyedd – i gael y gorau allan o bopeth rydym yn ei wneud. Roeddem eisiau arwain drwy esiampl a dangos bod pethau’n bosibl drwy ddangos, fel tîm, y gallem fod yn gwbl ddi-bapur. Doedd dim esgus gennym, roeddem yn dîm newydd sbon. Rydym yn dîm arloesol ond realistig. Doedden ni ddim yn disgwyl i dimau fynd yn ddi-bapur dros nos. Mae gennym ni lai o gyfyngiadau na thimau eraill o ran archwilio allanol a chadw cofnodion. Ond, petai pob tîm yn mabwysiadu rhywfaint o’r hyn rydym yn ei wneud, byddai wir yn gwneud gwahaniaeth.

Beth rydym wedi’i wneud yn wahanol

Dyma sut rydym yn annog eraill:

  1. Rydym yn enwi’r tri thîm sydd wedi cwtogi fwyaf ar eu hargraffu ar ein sgriniau teledu mewnol bob mis.
  2. Yn y dyfodol, bydd unrhyw ddesgiau newydd a gaiff eu prynu ar gyfer Cartrefi Melin yn ddesgiau bwrdd gwyn.
  3. Rydym yn gwneud i bobl feddwl. Mae gliniaduron a llechi ymhob ystafell gyfarfod fel y gall pobl fewngofnodi i wneud nodiadau, rhannu agendâu cyfarfodydd ar y sgrin a gweld dogfennau, yn hytrach na defnyddio peniau ysgrifennu a phapur.
Ffotograff o Staff Cartrefi Melin yn defnyddio'i byrddau gwyn

Staff Cartrefi Melin yn defnyddio’i byrddau gwyn

Penderfynom ddefnyddio byrddau gwyn maint A4 yn hytrach na nodiadau post-it a phapur nodiadau ar gyfer negesuon, a thryw ddamwain dyma ni’n sylweddoli bod ein desgiau yn ddesgiau bwrdd gwyn. Y gellir eu defnyddio ar gyfer rhestr ‘i’w wneud’, nodiadau pan fyddwch ar y ffôn ac ati. Nid oedd pawb yn rhannu ein cyffro i ddechrau, ond o fewn 2 i 3 diwrnod, roedd ein cydweithwyr llai brwdfrydig yn dechrau cael eu hargyhoeddi bod hyn yn syniad da ac yn gofyn am fyrddau gwyn er mwyn ymuno â’n chwyldro! Mae ein tîm cyswllt cwsmeriaid hefyd yn defnyddio byrddau gwyn, sydd nid yn unig yn arbed papur, ond hefyd mae’n helpu ni i ddiogelu data, oherwydd gellir ysgrifennu nodiadau yn ystod yr alwad, ac yna ei sychu’n lân yn syth wedyn.

Y ffordd y gwnaethon ni hyn

I ni, yr unig ffordd o wneud hyn oedd heb eithriadau, dim esgusodion, dim argraffu a dim padiau ysgrifennu. Pan fyddwn yn cwrdd ag eraill ac yn cael papurau, rydym yn ei sganio ac yn ei chadw ar system ein tîm a’i ddinistrio. Un her y gwnaethom ei goresgyn oedd sefyllfa lle byddai un o fy nghydweithwyr yn diweddaru gwybodaeth gan ein contractwyr ar gronfa ddata ac yn argraffu un ddogfen tra’n diweddaru un ar sgrin. Er mwyn datrys hyn, gwnaethom gysylltu ail fonitor.

Ffotograff o aelod o staff Cartrefi Melin yn defnyddio dau fonitor cyfrifiadur i arbed papur

Aelod o staff Cartrefi Melin yn defnyddio dau fonitor cyfrifiadur i arbed papur

Beth fu’r manteision

Yn ogystal â manteision amgylcheddol a’r arbedion ariannol ar gostau papur ac argraffu, mae yna manteision ehangach. Nid oes angen styffylwyr, peniau ysgrifennu, sisyrnau ac ati mwyach, ac mae ein desgiau yn llawer taclusach. Mantais arall yw’r cyfle i atgoffa pobl ein bod yn ddi-bapur pan fyddant yn gofyn am gael benthyg pen ysgrifennu.

Beth yw’r dysgu yr hoffech ei rannu ag eraill?

Pe bawn ni am roi cyngor i eraill ynglŷn â mynd yn ‘ddi-bapur’, y cyngor hwnnw fyddai peidiwch â rhoi disgwyliadau enfawr ar ysgwyddau bob aelod o staff. Bydd troi’r ymarfer yn rheol orfodol yn gelyniaethu pobl yn syth. Gosodwch yr her ac arweiniwch drwy esiampl.
Manteisiwch ar bob cyfle i atgyfnerthu’r hyn rydych am ei gyflawni. Pan fydd aelod o’n tîm yn mynychu cyfarfod mewnol, yn ddiau fe fydd aelod o staff yno sy’n ymddiheuro am fod ganddo bapur a phen ysgrifennu ac yn teimlo’n euog. Does dim rhaid i ni grybwyll dim byd, ond rydym bob amser yn croesawu’r cyfle i atgoffa pobl mai ni yw tîm di-bapur cyntaf Cartrefi Melin.

Mae angen i chi fod yn ymwybodol o gyfarfodydd allanol. Rwyf bob amser yn teimlo bod yn rhaid i mi egluro i eraill pam fy mod yn defnyddio ffôn neu lechen i gymryd nodiadau, rhag ofn iddynt feddwl fy mod yn ddigywilydd ac yn tecstio ffrindiau neu’n darllen y cyfryngau cymdeithasol.

Os ydych o ddifrif ynglŷn â newid, gallwch ei gyflawni. Pob lwc!

Ceisio rheoli amser yn effeithiol

Gall rheoli eich amser mewn swyddfa brysur fod yn dasg fawr yn ei hun. Yn y blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar sut mae ef wedi newid ei ffordd o weithio.

Mae newid mewn amgylchiadau personol wedi meddwl fy mod i wedi bod yn gweithio mwy o gartref. Nid fy nghartref yng Nghaerdydd, ond cartref fy nghariad yng Nghaerwysg. Mae Kelly yn sgwennu’n lot gwell ‘na fi, felly fe wnâi’ch cyfeirio at ei blogbost gwych ar ein perthynas a rhamant ddigidol yn lle amlinellu sut y dechreuodd hyn i gyd.

Cyn i mi ddechrau’n o iawn, rhaid i mi ddweud fy mod i’n hynod o lwcus i weithio mewn sefydliad sydd wedi fy helpu i i gydbwyso fy ymrwymiadau gwaith gyda fy hapusrwydd personol. Rydw i hefyd yn ddigon ffodus i weithio o fewn tîm ffantastig sy’n hynod o gefnogol. Dyw hyn ddim wedi achosi unrhyw drafferth mor belled. Efallai bod hyn achos ni’n gweithio mewn sawl lleoliad yn barod – mae Bethan yn byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru ac ar hyn o bryd mae Chris yn treulio hanner ei amser ar secondiad gyda Phrifysgol Bangor. Yn ffodus i ni, mae Ena hefyd yn gweithio yn anhygoel o galed yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.

Beth rydw i wedi dysgu

Ffotograff o galendr Dyfrig Williams, sy'n dangos sut mae Trello wedi'i integreiddio iddo

Fy nghalendr, sydd wedi’i integreiddio gyda Trello

Mae yna sawl her i weithio o gartref, ond mae’r ymarfer wedi fy ngalluogi i i edrych yn agosach ar sut rwy’n gweithio. I roi hyn mewn cyd-destun, rydw i’n anhrefnus i’r pwynt ble rydw i wedi bod ar ddau gwrs rheoli amser. Ni wnaeth un o’r rhain gweithio, a dydw i ddim yn sicr mai cwrs hyfforddiant oedd y ffordd fwyaf priodol i ddatrys y broblem. Serch hyn, rydw i’n ymwybodol iawn o fy ngwendid, felly rydw i wedi setio fyny systemau a phrosesau i fy helpu i i drefnu fy ngwaith yn fwy effeithiol. Rwy’n sefydlu bwrdd Trello ar gyfer pob pwnc rwy’n gweithio arno, a nawr mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi uwchraddio meddalwedd Microsoft i Office 365, rydw i wedi sicrhau bod fy nghalendr Outlook wedi ei ddolenni iddo fel bod gennyf ddiweddariad pan fod rhaid i mi wneud tasg.

Yn fwy na dim, mae gweithio o gartref wedi dangos i mi faint o amser rwy’n gwastraffu yn ystod y diwrnod gwaith. Rwy’n credu’n gryf y dylai cyfryngau cymdeithasol fod yn gymdeithasol, felly roeddwn i’n mewngofnodi ar ein cyfrifon gwaith sawl gwaith y dydd i ddysgu oddi wrth eraill ac i rannu negeseuon allweddol. Fy ngwir bwrpas oedd addysgu fy hun yn y modd cymdeithasol a hwyl yma, ac i osgoi rhai o’r tasgau hanfodol undonog sy’n sicrhau bod y Gyfnewidfa Arfer Da yn gweithio’n effeithiol. Roedd rhaid i mi gael sgyrsiau anodd gyda fy hun. Nawr rwy’n canolbwyntio fy ngwaith o gwmpas sicrhau newid a dangos tystiolaeth o ganlyniadau.

Y dasg aruthrol o reoli negeseuon e-bost

Yn fy ngwaith ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, rydw i wedi bod yn gofyn i aelodau o’n staff sut yr hoffan nhw glywed am newidiadau i’n systemau. Yr ymateb nodweddiadol oedd mai e-bost oedd y ffordd gorau yn ôl pob tebyg, ond bod rhaid i staff ddelio a nifer mawr ohonynt. Nid ni yw’r unig gorff sy’n wynebu’r her hon – ffeindiodd Tai Halton bod ei gweithwyr yn gwario 40% o’u hwythnos waith yn delio ag e-bost mewnol sydd ddim yn ychwanegu unrhyw werth i’r busnes. Fe wnaethon nhw droi ei e-bost mewnol i ffwrdd.

Fe wnaeth un person cwestiynu sut oedd gan bobl yr amser i fynd ar Yammer. Beth rwy’n ffeindio’n ddiddorol yw bod pobl yn gweld gwahaniaeth clir rhwng dau fodd o sgyrsio a all arwain i’r un diben. Weithio mae’n ymddangos fel petai e-bost yn waith yn ei hun. Yn hytrach, nad yw e-bost yn tynnu ein sylw o waith cynhyrchiol? Roedd fy e-bost arfer bod ar agor drwy’r dydd. Roedd hyn yn golygu roeddwn i’n delio â negeseuon wrth iddynt ddod i mewn. Nawr rwy’n agor fy e-bost cwpl o weithiau pob dydd i ateb negeseuon. Wedi’r cyfan, does neb yn gyrru e-bost os oes yna argyfwng.

Ar ôl darllen erthygl Oliver Burkeman ar reoli amser (sydd hefyd ar gael fel podlediad), rwy’n sicr bod dull Inbox Zero Merlin Mann, sy’n anelu i gadw ein mewnflychau yn wag, yn arwain pobl i ateb negeseuon e-bost ar draul gwaith go iawn. Ac fel y dywedodd Burkeman, “mae prosesu e-bost mewn modd gor-effeithlon yn golygu fy mod i’n cael mwy o e-bost: wedi’r cyfan, mae’n aml yn wir fod ymateb i neges yn creu ateb i’r ateb hwnnw, ac yn y blaen.” Felly mae e-bost yn dod yn ddull diofyn o gyfathrebu, boed yn briodol neu beidio. Y dywediad yma gan Burkeman sydd wrth wraidd hyn i gyd: “Rydych chi dal yn Sisyphus, yn rholio eich clogfaen i fyny’r bryn am byth – ond nawr rydych chi’n gwneud hyn ychydig yn gyflymach”.

Oes angen cael gwared ar y swyddfa?

Mae gweithio o gartref wedi golygu bod gen i ddau ddiwrnod sy’n rhydd o gyfarfodydd pob wythnos, sy’n rhoi digon o gyfle i mi ymgymryd â gwaith dwfn heb ymyrraeth. Rwy’n person cymdeithasol tu hwnt felly dydw i ddim yn dadlau dros roi’r gorau i ryngweithio cymdeithasol. Mae Dydd Iau Heb Sgyrsio Basecamp a Rheolau Llyfrgell yn swnio fel uffern i mi. Rwy’n credu’n gryf bod angen pobl i fuddsoddi’n emosiynol ac i brynu mewn i’w gwaith, ac mae mwynhau gwaith yn rhan allweddol o sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud. Fodd bynnag, gall offer fel Doodle ein helpu ni i ddewis amser priodol ar gyfer cyfarfodydd, gan fod rhaid i bobl optio mewn i amser penodol, yn hytrach na chreu amserlennu sy’n seiliedig ar yr amser rhydd yn ein calendrau.

I mi, mae dulliau Basecamp yn dangos does dim rheol blanced ar gyfer gweithio effeithlon. Dim ond trwy hap a damwain dwi wedi cael y cyfle i edrych ar sut rwy’n gweithio a beth sy’n gweithio mewn amgylcheddau gwahanol. Rydw i wedi ysgrifennu hwn o safbwynt personol, ac nid yw pawb yn gweithio yn yr un ffordd. Mae’n bwysig ein bod ni’n edrych ar y dulliau yma yng nghyd-destun sut allant fod yn fwy cynhyrchiol fel timau ac unigolion.

Dechreuais y blogbost yma drwy sôn am gydbwysedd bywyd/gwaith a sut mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi hwyluso hynny. I mi, mae hyn wrth wraidd rheoli amser. Os ydych chi’n edrych i fod yn fwy effeithlon er mwyn gwneud gwaith diddiwedd, yna mae’n debyg na fyddwch yn osgoi’r straen rydych chi’n ceisio osgoi. Ond os ydych chi’n edrych i gydbwyso’ch bywyd yn well, mae’n gallu’ch helpu chi i sicrhau eich bod chi’n canolbwyntio ar ble mae gan eich gwaith y gwerth mwyaf. Mae’r dull yma wedi gwneud fy ngwaith yn fwy boddhaol, ac mae fe wedi fy ngalluogi i i ganolbwyntio ar fy mywyd personol a gwneud mwy o’r pethau sy’n bwysig i mi. Rydw i’n dechrau fy nhaith ac rwy’n mynd i gadw llygaid ar sut mae hyn yn datblygu. Fel y soniais uchod, does dim un ateb i bawb. Felly os oes gennych awgrymiadau rheoli amser sy’n gweithio i chi, fe wir hoffwn i glywed o chi.

Yr hyn a ddysgais o gymryd rhan ym mhodlediad #NatterOn

Mae’r ffordd ni’n dysgu a chymryd gwybodaeth i mewn yn datblygu drwy’r amser. Yn y blogbost isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar beth y dysgodd trwy gymryd rhan ym mhodlediad NatterOn.

Copi o logo Podlediad NatterOn

Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rydw i wedi bod yn gwrando ar bodlediadau i ehangu fy ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y byd ac i gael dealltwriaeth well o sut allai wella fy ngwaith. Mae’r app Podcast Addict wedi bod yn ffordd dda o reoli podlediadau ddiddorol gan ei fod yn dod â sawl podlediad at ei gilydd i mewn i un ffrwd.

Dyma rai Podlediadau rydw i wedi ffeindio’n ddefnyddiol:

Fe fyddwn i’n ychwanegu podlediad NatterOn i’r rhestr hefyd. Mae’n bodlediad ddigidol a marchnata sy’n cael ei rhoi at ei gilydd gan Helen Reynolds a Ben Proctor. Mae gan y ddau ohonynt feddylfryd hynod o flaengar. Mae Helen yn deall yn well na neb sut fydd cyfryngau cymdeithasol yn newid cyfathrebu. Ac rydw i wedi dysgu cymaint am ddata o Ben. Mae ei blogbost ar Aeddfedrwydd Data mewn llywodraeth leol yn arbennig, ac mae’r erthygl wedi bod yn sail i fy meddylfryd wrth i mi fynd i’r afael a data gyda Gweithgor Data a Thechnoleg Swyddfa Archwilio Cymru.

Felly pan wnaethon nhw ofyn i mi gymryd rhan yn y podlediad, dywedais ‘ie’ yn syth achos byddai’n rhoi’r cyfle i mi wneud y fwyaf o’u harbenigedd ar wella gwasanaethau cyhoeddus am awr.

Felly beth ddysgais i?

Fi’n siwr na fydd hyn yn syndod i unrhyw un, fe ddysgais i lot. Rhannodd Helen blogbost diddorol iawn ar Rhagfarn Anymwybodol, sy’n dod a nifer o wahanol fathau o ragfarn at ei gilydd i mewn i bedwar prif broblem:

  • Rydym yn hidlo gwybodaeth yn weithredol er mwyn osgoi gormodedd o wybodaeth.
  • Mae diffyg ystyr yn ein ddrysu, felly ni’n llenwi’r bylchau i mewn.
  • Rhaid i ni weithredu’n gyflym, felly ni’n neidio i gasgliadau.
  • Rydym yn gweithio mewn amgylcheddau cymhleth felly rydym yn canolbwyntio ar y darnau pwysig. Mae ein penderfyniadau yn llywio ein modelau meddyliol o’r byd.

Felly beth mae hyn yn golygu i wasanaethau cyhoeddus? I mi, mae’n ymwneud ag ymwybyddiaeth. Os ydym yn cymryd yr amser i fyfyrio’n weithredol ar y problemau yma, gallwn fod yn fwy ymwybodol o’n rhagfarn wrth i ni ryngweithio â phobl a darparu gwasanaethau. Rydym wedi nodi hwn fel mater pwysig yn Swyddfa Archwilio Cymru, felly cynhaliom ddigwyddiad mewnol i fynd i’r afael a hyn. Mae’r Storify yn cynnwys lot o adnoddau defnyddiol, gan gynnwys Prawf Cysylltiadau Ymhlyg Harvard.

Cawsom sgwrs dda iawn ar ymddiriedaeth a beth mae hyn yn ei olygu o ran Cysylltiadau Cyhoeddus a gwasanaethau yn gyffredinol ar ôl i Ben rhannu blogbost ar y rhyfel ar wirionedd. Edrychodd Helen ar y swyddi sydd ar frig Baromedr Ymddiriedaeth Edelman, sy’n dangos bod ymddiriedaeth pobl yn y llywodraeth yn dibynnu ar ba mor fodlon maen nhw â’u byd. Mae gan hyn oblygiadau mawr i sut rydym yn rhyngweithio â phobl o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd gwahanol.

Mae ein prosiect wedi gwneud gwaith ar bwysigrwydd ymddiriedaeth staff yng ngwasanaethau cyhoeddus. Mae’n ddiddorol i gymryd rhai o’r gwersi o’r gwaith yma a’i rhoi mewn cyd-destun ehangach o weithio a chymunedau:

  • Gallu – ydyn ni’n dangos ein bod ni’n gallu gwneud ein gwaith?
  • Haelioni – oes gennym gymhellion diniwed a phryder am eraill sydd tu hwnt i ein anghenion ein hunain?
  • Gonestrwydd – ydyn ni’n weithredu i’n egwyddorion? Ydych chi’n weithredu mewn modd deg ac onest?
  • Rhagweladwy – ydy pobl yn gwybod beth rydyn ni’n debyg o wneud?

Ac ar ôl i mi rannu blogbost ar Ddull Digidol GCHQ, dysgais hefyd bod y ddywediad am brogaod mewn dŵr berwedig yn celwydd a hanner!

Beth arall wnes i rannu?

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da hefyd yn meddwl am sut allwn ni helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu eu hymagweddau at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Felly rhannais blogbost Chris Bolton ar Gemau Efelychu a Gwneud Penderfyniadau Cynaliadwy gan ei fod wedi ysgogi mi i feddwl yn wahanol am sut rydyn ni’n helpu gwasanaethau i wella.

Rydw i hefyd wedi bod yn meddwl am rôl dysgu a datblygu yn y gweithle. Rydw i wedi bod yn gweithio i wasanaethau cyhoeddus am ddeng mlynedd neu fwy, a dim ond tri o’r cyrsiau hyfforddi sydd wedi cael effaith go iawn ar fy ngwaith. Felly ydy e’n bosib i ddolenni ein dysgu a datblygiad gyda gwelliant gwasanaethau cyhoeddus? Mae Carl Haggerty wedi ysgrifennu blogbost arbennig ar hyn.

Rhannu gwybodaeth mewn modd addas

Mae yna sleid rydym yn defnyddio yn ein digwyddiadau i ddangos y ffyrdd gwahanol rydym yn rhannu gwybodaeth – drwy ein blog, cyfryngau cymdeithasol, Treialon Coffi ar Hap, e-bost a dros y ffôn. Rydym yn cydnabod nad yw pawb eisiau derbyn gwybodaeth yn yr un modd, ac nid yw pawb yn prosesu’r wybodaeth yma yn yr un ffordd. Un o egwyddorion allweddol ein gwaith yw does yna ddim dull ‘un maint i bawb’ ar gyfer gwasanaethau gwell. Mae podlediadau yn un o sawl ffordd ddefnyddiol y gallwch dderbyn a rhannu gwybodaeth, felly mae’n werth gwrando ar y podlediad yma a phodlediadau eraill i weld os allan nhw eich helpu chi i wella’ch gwaith a beth chi’n gwneud.

Allwch chi fynd heb e-bost mewnol?

Ai e-bost yw’r dyfodol o fyd gwaith, neu gall ffyrdd newydd helpu ni i rannu gwybodaeth yn fwy effeithlon? Siaradodd Dyfrig Williams i Lee Mallon o Rarely Impossible i gael gwybod.

Logo Dadfentora LocalGovDigital

Rydyn ni gyd yn gwybod y teimlad o ddychwelyd i’r gwaith ar ôl gwyliau i ffeindio mynydd o negeseuon e-bost. Rydw i wastad yn cael y teimlad bod angen i mi fynd i’r afael â’r negeseuon hynny cyn i mi ddechrau gyda fy “ngwaith go iawn”.

Yn ddiweddar, blogiodd fy nghydweithiwr Beth am yr adolygiad diweddar o’n Treialon Coffi ar Hap, sy’n paru pobl i drafod y pwnc o’u dewis.

Ochr yn ochr â hynny, rydw i wedi bod yn cymryd rhan yn Dadfentora LocalGovDigital, ei fersiwn nhw o’r Treialon Coffi ar Hap. Yn fy nhrafodaeth ddiweddaraf cefais gyfle i glywed os oedd e-bost yn wir yn gymorth neu’n rhwystr trwy ddal i fyny gyda Lee Mallon o Rarely Impossible, sydd wedi rhoi’r gorau i e-bost ar gyfer cyfathrebu mewnol.

Pam trafod e-bost?

Mae gan e-bost ychydig o broblemau, ac mae lot ohonyn nhw achos ein hymddygiad ni. Efallai bod pobl yn anfon negeseuon e-bost i bobl sydd ddim wedi gofyn amdanynt, neu ryw ddefnydd amheus o gopïo pobl i e-bost i gyfiawnhau teimlad o bwysigrwydd (cewch gipolwg ar flogiau Chris Bolton ar arferion e-bost drwg), mae lot o’r problemau yn deillio o ni fel defnyddwyr. Mae’r podlediad Natter On diweddaraf yn rhoi ystyriaeth i ddwy ochr y ddadl e-bost: da v drwg.

Problem arall gydag e-bost yw ei fod yn tueddu i ganolbwyntio ar waith unigolion yn hytrach na thimau. Dyma le y gall offer fel Slack helpu o bosibl, gan fod y fformat yn annog pobl i weithio mewn timau. Gall offer fel Trello helpu hefyd – pam nad ydyn ni’n mewngofnodi i checio’r sefyllfa yn lle anfon cyfres hir o ddiweddariadau e-bost?

Dyw hwn ddim i ddweud bod newid y dull yn ateb ynddo’i hun. Mae mabwysiadu teclynnau newydd yn dod â materion hefyd. Mae’n bosib na fydd pobl yn arbennig o hapus am gael ffynhonnell arall o gyfathrebu i checio, ac ydy dull cyfathrebu anffurfiol fel Slack (sydd gyda Emojis a GIFs) yn anathema i ddiwylliant gweithio rhai sefydliadau?

Ond os mae cymdeithas yn newid, ac mae disgwyliadau pobl o wasanaethau cyhoeddus yn newid, oes yna angen i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus newid eu ffordd o weithio hefyd? Mae lot wedi cael ei ysgrifennu am sut na allwn ni barhau i gyfathrebu yn yr un modd (gan gynnwys blogbost grêt Helen Reynolds ar seicopathi a chyfryngau cymdeithasol). A allwn ni wir cysylltu â chymunedau mewn modd priodol pan mae ein ffordd ni o gyfathrebu yn hollol wahanol? Mae yna arwyddion yn barod bod pobl ifanc yn dewis cyfathrebu trwy apps yn lle e-bost.

Beth mae Rarely Impossible yn gwneud?

Dyma pam roedd fy sgwrs i gyda Lee mor werthfawr. Roedd e’n hapus i rannu ei brofiadau dros y ffôn, ac roedd e hefyd yn hapus i rannu adnoddau ar ôl hynny. Roedd e’n hynod o ddiddorol i glywed am y sianeli roedd Rarely Impossible yn gweithio trwyddo ar ôl 6 mis, ac mae eu blogbost “1 flwyddyn ar ôl y newid” yn ganllaw wych ar leihau eich dibyniaeth ar e-bost.

A rhag ofn eich bod chi’n meddwl bod e’n un peth i gwmni preifat i fynd heb e-bost a peth hollol wahanol i wasanaeth cyhoeddus, edrychwch ar beth sy’n digwydd yn Nhai Halton.

Er mai e-bost yw’r ffordd rydym yn cyfathrebu ar-lein yn fwyaf aml yn y swyddfa, rydym mewn cyfnod lle mae dulliau ac offer newydd yn cael eu datblygu drwy’r amser. Os yw’ch mudiad yn ystyried ffyrdd o fynd heb e-bost, byddai fe’n grêt i glywed o chi fel y gallwn ni rannu’r dysgu o’ch profiadau ac i glywed os yw’n helpu chi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Treialon Coffi ar Hap: Sut maen nhw’n mynd?

All Treialon Coffi ar Hap helpu pobl o fewn eich mudiad i rwydweithio a rhannu gwybodaeth? Yn y blogbost yma, mae Bethan Davies yn arolygu defnydd y Gyfnewidfa Arfer Da o’r dull.

Efallai bod rhai ohonoch eisoes yn ymwybodol bod y Tîm Arfer Da wedi bod yn cynnal Treialon Coffi Ar Hap yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel ffordd o annog cynadleddwyr i barhau i sgwrsio ar ôl digwyddiadau. Gwnaeth Dyfrig Williams flogio am Dreialon Coffi Ar Hap y llynedd.

Ym mis Ionawr, dyma ni’n meddwl y byddai’n syniad da gweld sut y mae’r broses yn mynd yn ei blaen, a ph’un a yw’n rhywbeth y dylem barhau ag ef, neu a oes angen i ni ddod o hyd i ddull newydd o weithredu. Gwnaethom benderfynu cynnal arolwg ymysg y rhai a fynychodd ein seminarau i geisio barn y rhai a oedd wedi cymryd rhan a’r rhai nad oeddent wedi cymryd rhan, i gael eu barn.

Cawsom 65 o ymatebion i’n harolwg, gydag ymatebion diddorol, ac ar y cyfan, roedd y rhan fwyaf yn gadarnhaol. Dyma rai o’r rhesymau pam roedd pobl yn hoffi’r Treialon Coffi Ar Hap:

  • Mae’n dda cael gwybod bod cydweithwyr yn y sector cyhoeddus yn wynebu’r un math o rwystredigaeth a heriau!
  • Mae’n gyfle da i drafod gwaith cyfredol, rhannu arfer da a dysgu oddi wrth eraill.
  • Mae’n gyfle i gael trafodaethau defnyddiol gyda phobl na fyddent byth yn dod ar eu traws fel arall yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
  • Mae’n ffordd wych o ddysgu beth mae pobl a sefydliadau eraill yn ei wneud ac yn helpu i nodi cyfleoedd posibl a all fod o fudd i waith eich sefydliad eich hun.

I’r rhai nad oedd wedi cymryd rhan yn y treialon, roedd y rhesymau’n amrywio o ddim amser gan bobl i gymryd rhan ar ben eu swyddi o ddydd i ddydd, doedd ganddynt ddim diddordeb yn y broses, neu doeddent ddim yn deall y broses, sy’n wers i ni.

Gwnaeth yr adborth i mi feddwl sut rydym yn sicrhau bod cynadleddwyr yn cael yr un cyfleoedd i ymgysylltu a pharhau i sgwrsio ar ôl ein digwyddiadau. Gall cael swydd brysur o ddydd i ddydd olygu nad yw rhai pobl eisiau gwneud ymrwymiad ychwanegol i gwrdd â rhywun newydd. Un adborth diddorol a gawsom gan gynadleddwr oedd y dylem sefydlu Treil Coffi Ar Hap yn ystod neu ar ôl ein seminar – rhywbeth tebyg i ‘speed dating’! Byddai hynny’n galluogi pawb i gymryd rhan, a gobeithio y byddai’n rhoi eglurhad pellach i’r rhai nad ydynt yn deall y broses, a galluogi’r rhai sydd eisiau parhau i wneud hynny. Rhywbeth i ni ei gadw mewn cof!

Awgrym arall oedd cael gofod ar-lein lle gall pobl rannu eu straeon a dod o hyd i bartneriaid/sefydliadau newydd a hoffai drafod yr un materion. Enghraifft ddiweddar o sefydliad sy’n gwneud rhywbeth tebyg yw Monmouthshire Made Open.

Ciplun o Monmouthshire Made Open

Mae Monmouthshire Made Open yn caniatáu i bobl osod heriau; torfoli datrysiadau; cyflwyno syniadau a gofyn am arian, gwirfoddolwyr neu ddeunyddiau ar un llwyfan unigol. Yn wahanol i gyfryngau cymdeithasol eraill mae’n caniatáu i bobl droi problemau yn gamau gweithredu mewn un lle. Mae pobl yn meithrin ac adeiladu cysylltiadau a ffurfio grwpiau, gall pobl ‘hoffi’ syniadau a helpu i lunio datrysiadau a all helpu i adeiladu consensws ac ymgyrchu dros newid.

Mae Monmouthshire Made Open yn parhau i fod yn ei gyfnod datblygiad cynnar, ond mae’n werth taro golwg drosto. Mae Cyngor Sir Fynwy yn gobeithio y daw’r llwyfan hwn yn offeryn allweddol er mwyn cynnwys pobl yn y gwaith o ddatblygu’r asesiad lles ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’u helpu i nodi datrysiadau arloesol a rennir.
Rydym am barhau gyda’r Treialon Coffi Ar Hap yn y dyfodol agos, ond os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar ein cyfer, yna cysylltwch â ni!

Gan fod pob un ohonom yn wynebu cyfnod cymhleth a heriol, nid oes gan unrhyw unigolyn neu sefydliad unigol yr atebion i gyd, felly mae’n bwysig ein bod yn annog cyfathrebu rhwng sefydliadau ac annog dysgu.