Skip to content

Categori: Asedau

5 Ateb Sydyn mewn Rheoli Ynni

Wythnos diwethaf, daeth grŵp o arbenigwyr mewn ynni – gyda chyfanswm o dros 300 mlynedd o brofiad – at ei gilydd yn ein Seminar Rheoli Ynni. Gyda chyfoeth o wybodaeth fel hyn mewn un ystafell, roedd trafodaeth ddiddorol iawn o ddulliau gwahanol o reoli ynni. Ni ddylai’r wybodaeth yma gael ei gyfyngu i rheini a fynychodd y Seminar, felly hoffwn rhannu gyda chi rhai syniadau a dulliau allweddol fe ddysgais i yn ystod y diwrnod. Y bwriad, fel arfer, yw eich ysbrydoli chi i gymryd risgiau sydd wedi eu rheoli… Read more 5 Ateb Sydyn mewn Rheoli Ynni

Gwneud y mwyaf o’ch asedau

Oeddech chi’n gwybod bod costau ynni busnes wedi codi o 243% ers 2006? Na, doeddem ni ddim chwaith. Mae sector cyhoeddus Cymru yn ymwybodol o’r angen i leihau costau a gwella gwasanaethau. Ond beth ydych chi’n ei wneud pan rydych yn wynebu costau sydd yn ymddangos i fod allan o’ch rheolaeth? Gallwch geisio reoli eich asedau yn well trwy ddefnyddio syniadau neu ddulliau newydd. Bwriad Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yw’ch cynorthwyo i ddod ar draws y syniadau a’r dulliau newydd trwy gynnig seminarau, adnoddau a chanllawiau am ddim ar reoli… Read more Gwneud y mwyaf o’ch asedau

Diogel i Fethu

Rydw i wedi bod yn dilyn blog What’s the PONT Chris Bolton ers sbel, cyn i mi ddechrau gweithio yng Nghyfnewidfa Arfer Dda Swyddfa Archwilio Cymru hyd yn oed. Mae gan Chris dawn ar gyfer teitlau arbennig, felly pan wnaeth e flogio am Lygod Trojan fe wnes i dalu sylw. Prosiectau bach sy’n ddiogel i fethu yw Llygod Trojan. Un o brif egwyddorion y Gyfnewidfa Arfer Dda yw dydyn ni ddim yn ailddyfeisio’r olwyn, felly does dim synnwyr i mi amlinellu’r theori i gyd eto pan mae blogiau Chris yn… Read more Diogel i Fethu