Cydweithredol Cymru

Casey Edwards

Mae Casey Edwards @casey_walescoop, Canolfan Cydweithredol Cymru @WalesCoOpCentre, wedi ysgrifennu blog i ni am sut mae cydweithrediaethau tai yn helpu creu cymunedau hydwyth. Byddwn yng Ngogledd Cymru ar gyfer ein digwyddiad #WAOADM yr wythnos nesaf.

Nid oes dwy gydweithrediaeth dai’n debyg; nid oes un ateb i bawb. Mae tai cydweithredol yn ymwneud â chymunedau’n cael rheolaeth ddemocrataidd dros wneud penderfyniadau ynghylch eu cartrefi, eu cymdogaethau a’u cymunedau. Mae’n ymagwedd hyblyg ac arloesol at sut rydym yn diwallu anghenion tai a dyheadau cymdogaethau lleol. Gellir datblygu cydweithrediaethau ar gyfer tai newydd neu dai sy’n bodoli eisoes a gallant gwmpasu ystod o denantiaethau.

Sefydlwyd y Prosiect Tai Cydweithredol yn 2011 ac mae’n cael ei reoli gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, a’i gefnogi gan y Cydffederasiwn Tai Cydweithredol. Mae’r prosiect wedi helpu i gyflenwi dros 130 o gartrefi ledled Cymru ac mae’n helpu i gyflenwi llawer mwy drwy ddatblygu arbenigedd mewn modelau cydweithredol gwahanol a rhoi cyngor i ddatblygwyr a grwpiau cydweithredol.

Ymunais â Chanolfan Cydweithredol Cymru ym mis Mai 2017 fel cynghorwr y prosiect ac rwyf wedi sylweddoli bod angen i lawer o bobl wneud llawer o waith er mwyn i’r cynlluniau hyn gyrraedd y cam lle maent yn barod i ddechrau adeiladu. Mae’r holl gynlluniau tai wedi datblygu mewn ffyrdd cyferbyniol ac wedi mabwysiadu modelau gwahanol, o’r ffyrdd gwahanol roedd cynlluniau’n cael eu dechrau a’u hariannu; sut daeth unigolion i gymryd rhan ynddynt; i faint, natur a deiliadaeth y gydweithrediaeth dai. Felly a yw’r holl waith caled hwn yn dwyn ffrwyth mewn gwirionedd?

Mae cymryd rhan mewn cydweithrediaeth dai’n llawer mwy na chael to fforddiadwy dros eich pen. Mae hefyd yn golygu bod yn rhan o system gymorth, helpu eich hun ond hefyd gymryd y cyfrifoldeb i helpu eraill yn y gymuned ehangach. Darllenwch am sut mae Luana, Cymdeithas Pentref Loftus, yn helpu i ddod â’r gymuned ynghyd drwy drefnu digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.

Mae enghreifftiau fel hyn hefyd yn dangos sut gall cydweithrediaeth dai hefyd helpu i fynd i’r afael ag ynysu ac unigrwydd, yn enwedig ymhlith y rhai sy’n agored i niwed a’r henoed. Mae cymunedau cydweithredol yn ffurfio cydberthnasau agos ac yn gofalu am ei gilydd; y teimlad hwnnw o fod yn rhan o gymuned sy’n brin yn yr 21ain ganrif. Mae Haydn, Cydweithrediaeth yr Hen Dderwen, yn dangos sut mae cymryd rhan yn y gydweithrediaeth wedi’i helpu i fagu hyder a chymryd cyfrifoldeb yn y gymuned.

Mae byw mewn cymuned amrywiol, gefnogol hefyd yn rhoi’r cyfle i bobl rannu gwybodaeth a sgiliau â’i gilydd na fyddent wedi cael y cyfle i’w dysgu o bosibl o fyw mewn amgylcheddau mwy traddodiadol. Fel rhan o ddatblygu’r gydweithrediaeth, mae tenantiaid yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddiant drwyadl sy’n cynnwys pynciau megis egwyddorion cydweithrediaeth, trefniadau llywodraethu a rheoli tai. Maent yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy newydd a all eu helpu i wella eu statws cyflogaeth neu roi’r hyder iddynt newid gyrfa. Mae ein cynllun, Tŷ Cyfle, yn grymuso pobl ifanc i reoli eu tai’n annibynnol, gan ddysgu sgiliau newydd ar y ffordd.

Mae’r dull hunangymorth a hunangyfrifoldeb hwn o ddiwallu’r angen am dai yn cael llawer mwy o effaith na darparu cartrefi fforddiadwy yn unig. Mae’n creu cymunedau hunangynhaliol, gwydn ac iach, sy’n gallu lleihau’r galw ar wasanaethau cymorth ehangach.

Mae byw mewn cynllun tai a arweinir gan y gymuned gynnig y math o gymorth y mae’n fwyfwy anodd i wasanaethau cyhoeddus ei gynnig, yn aml mewn ffordd fwy personol a chost effeithiol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) bellach wedi gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i feddwl am yr hirdymor; gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd; atal problemau a chymryd dull mwy cydgysylltiedig. Mae tai cydweithredol yn gwneud hynny eisoes.

Mae’r saith nod llesiant yn cyd-fynd â’r saith egwyddor gydweithredol a ddatblygwyd gan y Gynghrair Gydweithredol Ryngwladol y dylai pob cydweithrediaeth eu dilyn. Maent yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu cymunedau deniadol, hyfyw, iach a chynaliadwy sy’n cynnal yr amgylchedd naturiol a hyd yn oed yn ei wella. Cymdeithas ddemocrataidd a theg ag economi sy’n creu cyfoeth heb wahaniaethu. Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyrraedd eu potensial, beth bynnag yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau. Cymdeithas sy’n rhoi cyfleoedd gwaith ac addysg a hyfforddiant i weithlu medrus. Cymdeithas gydweithredol sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd llesiant cymdeithasol a diwylliannol.

Gall tai cydweithredol a arweinir gan y gymuned fod yn rhan o’r ateb i’r argyfwng tai yn y DU. Ond, yn fwy nag ateb cyflym yn unig, gall fod yn rhan o opsiwn cynaliadwy hirdymor i ddarparu cartrefi fforddiadwy a chreu cymunedau gwydn.

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cynnig cymorth a chyngor i unrhyw sefydliad newydd neu bresennol sydd am ddatblygu tai cydweithredol. Gallwn gynnig cyngor arbenigwyr am dai cydweithredol a sgiliau a hyfforddiant datblygu i aelodau cydweithrediaeth. Yn ddiweddar, rydym wedi datblygu Pecyn Cymorth Tai Cydweithredol er mwyn helpu grwpiau cymunedol, cymdeithasau tai, cydweithrediaethau, awdurdodau lleol ac eraill yn y camau cychwynnol o ystyried sut i ddatblygu cydweithrediaeth newydd a chartrefi a arweinir gan y gymuned. Cymerwch gip.

Cewch fwy o wybodaeth am dai cydweithredol a pha gymorth sydd ar gael gan Ganolfan Cydweithredol Cymru drwy ffonio 0300 111 5050 neu e-bostio co-op.housing@wales.coop.

Sgiliau Gwledig

Gan weithio gyda’n gilydd ers 2009, mae Gwalia (Pobl – @poblgroup) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (@Croesobannaub) wedi datblygu cyfres o brosiectau awyr agored sydd wedi cyfoethogi bywydau pobl sy’n byw mewn tai â chymorth a chleientiaid allgymorth.

Un o’r mentrau cyntaf oedd Hyrwyddwyr Cymunedol Bannau Brycheiniog a oedd, gyda chyllid CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru @NatResWales), yn cefnogi pobl ifanc mewn hyfforddiant gweithgareddau awyr agored. Cyflawnodd yr holl gyfranogwyr Wobr Efydd y Cynllun Mordwyo Cenedlaethol (@nass_office) ac aethant ymlaen i drefnu gweithgareddau o’u dewis nhw’n annibynnol a chymryd rhan ynddynt.

Rhoddodd gweithgareddau’r prosiect gymaint o ysbrydoliaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau Brecon Foyer (Gwalia) fel y gwnaethant sefydlu pwyllgor lleol a grŵp. Nodau’r grŵp oedd cynnig gweithgareddau a chyfleoedd dysgu cynhwysol a hygyrch drwy arfer gwrthwahaniaethol, gwella’r ddelwedd o bobl ifanc a chynyddu ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio arnynt. Ers hyn, mae’r grŵp wedi llwyddo i sicrhau arian ar gyfer prosiectau, gan gynnwys taith addysgol i Auschwitz yn dilyn prosiect ar hanes Iddewig; taith gweithgareddau awyr agored breswyl i Ddyfnaint; ymweliadau â Llundain a Rhufain a phrosiect byw’n iach.

Mae rhagor o brosiectau ar y cyd wedi cynnwys Datblygu Geogelcio 2010-12, Sgiliau Gwledig 2012- 2014, Llwybrau Parc 2014, Diwrnod Iechyd Meddwl a Lles 2015 ac, yn ddiweddaraf, sicrhau cyllid Arian i Bawb sydd wedi golygu y gellir bwrw ymlaen â rhaglen hyfforddiant Sgiliau Gwledig 2016/17. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda’r holl gyfranogwyr yn llwyddo i gyflawni achrediad Agored Cymru (@AgoredCymru) mewn Sgiliau Awyr Agored, Torri dail tafol, mieri, gwrychoedd a Sgiliau Coetir Ymarferol.

Bu’r cyfuniad o hyfforddiant a’r cynnydd yn hyder y cyfranogwyr yn ysbrydoledig, gan arwain at y canlyniadau canlynol: mae 1 unigolyn wedi dod o hyd i gyflogaeth amser llawn;

mae 4 unigolyn wedi cymryd rhan yn rhaglen Get into the Brecon Beacons Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog/Ymddiriedolaeth y Tywysog (@PrincesTrustWales) a oedd yn cynnwys rhaglen “Get  Into” pythefnos o hyd ac Archwilio Menter, mae 2 unigolyn wedi cael eu recriwtio’n llwyddiannus i raglen waith 3 mis Get Into the Brecon Beacons partneriaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog/Ymddiriedolaeth y Tywysog fel Ceidwaid dan Hyfforddiant – gweler darllediad ITV Cymru o’r hyfforddeion yma.

Ymunodd Matt Baker â thîm Countryfile y BBC (@BBCCountryfile) â’r grŵp ar ddiwrnod gweithgaredd geogelcio er mwyn darganfod sut y gall yr amgylchedd naturiol ac ychydig o dechnoleg newydd sbarduno ffyrdd newydd o fod yn actif a gwella lles meddyliol.

Dilynodd Inside Housing (@insidehousing) o’r sylw ar y teledu a lluniodd yr erthygl hon sy’n cyfeirio at sut y gall Cymorth Tai gyfoethogi bywydau y tu hwnt i gymorth tenantiaeth yn unig.

Mae brwdfrydedd, cyfranogiad a chynnydd pawb a fu’n rhan o’r prosiectau hyn yn dangos y potensial sydd gan y gwaith hwn i wneud gwahaniaeth sylweddol i’r ffyrdd mae grwpiau sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol yn ystyried yr amgylchedd awyr agored, yn cael mynediad ato ac yn cael budd economaidd-gymdeithasol ohono.

Yn gryno, mae’r prosiectau lleol hyn wedi’u datblygu gan y ddau bartner er mwyn rhoi’r cymorth gorau posibl i bobl ifanc dan anfantais sy’n byw mewn ardaloedd trefol a gwledig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn cynyddu eu mynediad at gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Rural Skills

Pam mae Safonau Agored yn arwain at wasanaethau cyhoeddus gwell

Read this blog post in English

Sut y gall defnyddio Safonau Agored sicrhau y caiff systemau Technoleg Gwybodaeth a gwasanaethau cyhoeddus eu hintegreiddio’n well? Mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar yr hyn a ddysgodd drwy gymryd rhan yng ngweminar y Gyfnewidfa Arfer Da ar Safonau Agored.

Mae digidol wedi bod yn un o themâu allweddol ein gwaith ers sbel. Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ar y thema, o’n seminar ar Dechnoleg Gwybodaeth fel rhan o’n gwaith ar asedau yn 2013, i’n gweminar diweddaraf ar Safonau Agored.

Hwn yw’r digwyddiad â’r thema fwyaf technolegol a gynhaliwyd gennym ers ein gweminar ar Gyfrifiadura Cwmwl, ond mae’n bwnc roeddem yn awyddus iawn i roi sylw i gan fod Safonau Agored yn bwysig iawn i integreiddio gwasanaethau cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae gwasanaethau hyfforddi ac ymgynghori ledled Prydain yn anfon deunydd marchnata sy’n gwerthu pob math o gynnyrch a gwasanaethau â’r rhagddodiad “digidol”. Mae Safonau Agored yn allweddol i’w gwneud yn bosibl i lawer o’r gwasanaethau sy’n cael eu gwerthu i integreiddio â’i gilydd a gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ystod ein gweminar, disgrifiais Safonau Agored fel safonau a ddatblygir drwy broses gydweithrediadol ar gyfer data, fformatau dogfennau a rhyngweithredadwyedd meddalwedd. Ond fel y nododd Evan Jones, nid oes unrhyw ddiffiniad cyffredinol y cytunwyd arno o Safonau Agored – sy’n eironig! Felly, am y rheswm hwnnw yn unig, mae’n werth cael gwybod am y weminar!

Felly, beth oedd fy mhwyntiau dysgu allweddol?

“Gwnewch y gwaith caled i wneud pethau’n hawdd”

Rhoddodd Terence Eden o Wasanaeth Digidol Llywodraeth y DU i ni feddwl amdano yn ystod y weminar. Dilynwyd y perl hwn gan un arall, sef “Dyw e ddim amdano chi, mae fe amdano’r defnyddwyr.” Y cwestiwn cyntaf a ofynnwyd gan un o’r cynadleddwyr oedd a fyddai’n anodd rhoi’r Safonau Agored ar waith gyda’u technoleg bresennol. Fe wnaeth ymateb Terence gwneud i mi feddwl fod Safonau Agored yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn hytrach na bod yn nod ynddynt eu hunain. Dylem fod yn meddwl am sut y gallwn ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i’r defnyddiwr terfynol, ac nid yw defnyddio safonau perchenogol sy’n rhwystro integreiddio yn helpu i gyflawni’r nod hwnnw. Fel y dywedodd Terence, “Gall Safonau Agored achub bywydau!”

Rydym wedi meddwl llawer yn y Gyfnewidfa Arfer Da am yr amgylcheddau cymhleth ac anodd lle y darperir gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein Rheolwr Chris Bolton wedi ysgrifennu’r eitem wych hon ar y problemau sy’n gysylltiedig â mabwysiadu un dull i ddatrys pob problem mewn sefyllfa lle y ceir llawer o newidynnau. Y broblem sy’n gysylltiedig â pharhau i ddilyn y llwybr perchenogol yw ein bod yn ychwanegu haenau o gymhlethdod at amgylchedd sydd eisoes yn gymhleth. Mae’n lleihau’r opsiynau ar gyfer gwasanaethau ac yn golygu bod yn rhaid i’r atebion eu hunain fod yn fwyfwy cymhleth, a all greu rhagor o broblemau a lleihau dibynadwyedd. Mae’n werth darllen sut y trefnodd Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol yn Seland Newydd fod eu systemau gwybodaeth yn rhai agored yn ddiofyn, a arweiniodd at system Technoleg Gwybodaeth fwy dibynadwy a chadarn oherwydd y cyfluniad mwy trefnus heb ganiatadau a chyfyngiadau di-ben-draw.

Nid yw Safonau Agored ar gyfer arbenigwyr ym maes Technoleg Gwybodaeth yn unig

Nid oedd y trafodaethau yn ystod y weminar yn ymwneud â systemau Technoleg Gwybodaeth yn cydweithio’n dda yn unig. Nodais uchod fod Safonau Agored yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus gwell ac, felly, ni ddylai gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ohonynt fod yn gyfyngedig i adrannau Technoleg Gwybodaeth. Maent yn helpu i integreiddio systemau a galluogi cydweithredu. Gellir defnyddio’r data a gasglwyd i gynllunio ar gyfer yr hirdymor, felly mae’n amlwg sut y gallant fod o fudd mawr i alluogi sefydliadau i weithio drwy rai o’r ffyrdd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Os ydym am gasglu data i wneud gwaith cynllunio effeithiol a chydweithio er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, yna mae’n bwysig bod cynrychiolwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, o Aelodau Etholedig i Reolwyr Prosiectau Cyfalaf, yn ymwybodol o Safonau Agored.

Pŵer caffael

Yn gysylltiedig â’r pwynt uchod sy’n nodi bod Safonau Agored yn bwysig y tu hwnt i faes Technoleg Gwybodaeth, mae’n rhywbeth y dylai staff mewn rolau caffael ei ystyried. Maen nwh’n lleihau cymhlethdod er mwyn galluogi integreiddio, a hefyd maent hefyd yn agor cyfleoedd caffael y tu hwnt i werthwyr mawr i fusnesau bach a chanolig. Mae’n amlwg bod hyn yn gysylltiedig â rhai o’r Canlyniadau Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â Chymru Lewyrchus a Chymru gydnerth (yn economaidd).

Fel y nododd Evan Jones yn ystod y weminar, mae Safonau Agored hefyd yn eich helpu i ystyried systemau o safbwynt mwy hirdymor, achos y byddan nhw’n rhyngweithredadwy â chi yn y dyfodol. Cafwyd trafodaeth dda hefyd ynghylch annog gwerthwyr i weithio gyda Safonau Agored yn ystod y weminar, ac fel y dywedodd Jess Hoare, mae’n bwysig cofio mai ni, fel gwasanaethau cyhoeddus, sy’n caffael gwasanaethau. Efallai ei bod yn hawdd anghofio yn y sefyllfaoedd hyn mai gyda ni, fel caffaelwyr, y mae’r pŵer yn ystod trafodaethau. Anogodd Evan bob un ohonom i drafod â gwerthwyr – os na allant storio data mewn Safon Agored, dylech amau eu cymhellion.

Y camau nesaf

Caiff adnoddau o’r gwaith hwn ar Safonau Agored eu bwydo i mewn i’n gwaith Digidol er mwyn sicrhau y bydd ei effaith yn parhau a hefyd roi i bobl sydd â diddordeb yn yr agenda rywbeth i gnoi cil drosto. Rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn rannu’r gwaith hwn yn fewnol hefyd. Rwyf wedi bwydo’r hyn a ddysgais o’r weminar i brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, ac rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn rannu’r hyn a ddysgwyd ag archwilwyr, gan fod gan Safonau Agored rôl allweddol i’w chwarae o ran sicrhau y gall systemau a sefydliadau gydweithio’n effeithiol i sicrhau gwerth am arian. Mae meddwl byrdymor yma yn cael effaith fawr yn y tymor hwy.

Rydym hefyd wedi trefnu gweminar ar gaffael fel rhan o raglen eleni, sy’n rhoi cyfle i ni edrych unwaith eto ar rai o’r materion a godir yma. Rydym wedi dod ar draws rhai enghreifftiau o arfer diddorol yn ystod ein gwaith cwmpasu cychwynnol ar gaffael, yn enwedig sut mae CivTech wedi mabwysiadu dull gwahanol o ysgogi arloesedd yn yr Alban. Hoffem glywed gennych os oes gennych enghreifftiau eraill o arfer y gallwn dynnu sylw atynt. Oherwydd wedi’r cwbl, dim ond os bydd yn dysgu o’r materion allweddol rydych yn eu hwynebu fel gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn eu hadlewyrchu y bydd ein gwaith yn llwyddiannus.

Adrodd ein Stori NI

Yn y blogbost yma mae Dr. Rachel Hughes, Pennaeth Mewnwelediad Chwaraeon Cymru, yn esbonio pam mae hi o’r farn bod adrodd ein Stori NI yn bwysig i les Cymru.

Rwyf wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â rhai pobl ardderchog wrth helpu i lunio’r seminar rhannu dysgu sydd ar y gweill, sef Dyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae yna nifer ohonom yn y grŵp sydd heb weithio gyda’n gilydd o’r blaen. Daethom at ein gilydd i bwrpas a rennir, gan edrych ar bethau trwy wahanol lensiau, ac rydym wedi datblygu seminar sydd, gobeithio, yn greadigol ac yn ymestynnol. Yn ganolog i’r seminar, fel y dywedodd Alan Morris yn ei flog diweddar, y mae deall a datblygu ymddygiadau sy’n datgloi ein hadnoddau mewn ffyrdd llawer mwy creadigol a chynaliadwy.

Trwy EIN gwaith, rydym NI wedi gwrando ac wedi chwilio am yr endid sy’n datblygu. Rydym NI wedi gofyn i ni ein hunain beth ydym NI am ei gyflawni yma? Beth sydd orau i NI, pob un ohonom NI? Beth yw EIN cam nesaf? Rydym NI, yn ymwybodol, wedi ceisio helpu cyfranogwyr i’r seminar i chwilio am y llinynnau anweladwy sy’n ein cysylltu NI i gyd, er mwyn adrodd ein stori NI; stori posibilrwydd.

Clawr llyfr 'The Art of Possibility: transforming professional and personal life' gan Rosamund Stone Zander a Benjamin ZanderOs oes unrhyw rai ohonoch wedi darllen The Art of Possibility: transforming professional and personal life gan Rosamund Stone Zander a Benjamin Zander, yna mae’n debygol eich bod yn deall yr hyn rwy’n ei olygu wrth adrodd ein stori NI. Os nad ydych wedi ei ddarllen, byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn gwneud hynny. Fe’m hysgogwyd gan y llyfr hwn i feddwl am ein sefyllfa fel tîm arwain yn Chwaraeon Cymru – ein hymddygiadau, ein cysylltiadau, ein datblygiad, ein posibiliadau – a sut y mae’r rhain yn datblygu yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Fel arfer, pan ydym yn gweithio mewn sefydliad, rydym yn naturiol yn gweld y byd trwy edrych allan o’r tu mewn. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ein hannog i feddu ar bersbectif tu allan-i mewn hefyd, ac i weld pethau trwy lygaid eraill – cydweithredwyr (posibl), defnyddwyr gwasanaethau, dinasyddion ac, yn bwysicach fyth, dinasyddion y dyfodol – gan edrych ar yr hyn sy’n bosibl. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni symud ein system weithredu; y matrics hwnnw sy’n arwain ein hymddygiad.

Yn Chwaraeon Cymru, rydym yn ceisio gwneud hyn mewn dwy ffordd ryng-gysylltiedig.

Mae’r ffordd gyntaf yn golygu deall a mesur ein heffaith, ac adrodd stori gymhellol (chwaraeon). Rydym yn defnyddio damcaniaeth newid i’n helpu gyda hyn. Trwy gynnal gweithdai dros y misoedd nesaf, rydym yn gobeithio tynnu allan y damcaniaethau newid sy’n cysylltu ein gweithgareddau allweddol â’n canlyniadau allweddol ar gyfer chwaraeon ac ar gyfer lles Cymru.

Trwy wneud hyn, rydym yn cydnabod y gallai fod yna dueddiad i ni fynd i fodd prosesu, a pheidio ag ystyried mai pobl (neu ymddygiadau) yw’r ffynhonnell , er mai’r deilliant yw’r canlyniadau.

Felly, wedi’i ymgorffori yn y gwaith hwn y mae’r cyfle i ni oedi a myfyrio ar yr hyn rydym yn ei wneud, a sut yr ydym yn ei wneud. At hynny, mae yma gyfle i ddatblygu lens newydd i edrych ar bethau trwyddo, lens sy’n cynnwys yr amcanion lles, y ffyrdd o weithio ac, i ni, DNA chwaraeon (y pethau hynny y mae arnom angen eu hystyried er mwyn i rywun wirioni ar chwaraeon – cymhelliant, hyder, cyfle ac adnoddau, ymwybyddiaeth, a’r profiad). Dylai dinasyddion fod yn ganolbwynt i’r lens, a bydd hyn yn ein helpu i feddu ar bersbectif tu allan-i mewn.

Mae’r ail ffordd yn ymwneud â datblygu ein tîm arwain. Gwyddom fod ein hymddygiadau (arwain) yn pennu canlyniadau, ac rydym yn canolbwyntio mwyfwy ar hyn. Yn bwysig iawn, nid fel unigolion, ond fel tîm. Dyma lle y bu ein stori NI yn fwyaf defnyddiol i mi.

Mae ein stori NI yn “cyfeirio at berthynas yn hytrach nag at unigolion, at batrymau, ystumiau a symudiadau cyfathrebu, yn hytrach nag at wrthrychau a hunaniaethau ar wahân. Mae’n tystio i’r pethau rhyngol. Yn debyg i natur ronynnau-a-thonnau golau, mae’r NI yn endid byw ac yn llwybr hir o ddatblygiad.” Ac, yn ei hanfod, dyma beth rydym yn symud tuag ato fel tîm arwain.

Mae’n rhaid i NI ymarfer bod yn NI. NI fel tîm arwain yn Chwaraeon Cymru, ond hefyd NI, pob un ohonom NI yng Nghymru, ar gyfer lles cenedlaethau’r dyfodol.

Trwy adrodd ein stori NI, daw pob un ohonom yn sianel ar gyfer yr endid cynhwysol hwn. Mae’n arwain y ffordd at fath o arweinyddiaeth sy’n seiliedig ar y dewrder i siarad ar ran unigolion, ac am y llinell hir o bosibilrwydd dynol.

Rydym ar ddechrau’r daith hon, taith a fydd yn symud yn gyson! Trwy rannu ein dulliau a’n ffordd o feddwl bresennol, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer trafodaeth, bod yn agored, a dysgu a rhannu pellach, ac yn darparu naratif o’n hamgylch NI.

Dyma rai camau i’n helpu NI i ymarfer :

  1. Adrodd ein stori NI – stori’r llinynnau anweladwy sy’n ein cysylltu ni i gyd, stori posibilrwydd
  2. Gwrando a chwilio am yr endid sy’n datblgu
  3. Gofyn: beth ydym NI am ei gyflawni yma? Beth sydd orau i NI, pob un ohonom NI? Beth yw EIN cam nesaf?

Deall Ymddygiadau Staff ac Anghenion Teithiau Busnes

Ffotograff o geir cronfa logi yn ôl yr awr ar y safle Cyngor Dosbarth Bro Aylesbury

Ceir cronfa logi yn ôl yr awr ar y safle Cyngor Dosbarth Bro Aylesbury

Sut llwyddodd Cyngor Dosbarth Bro Aylesbury i arbed £90,000 a haneru ei allyriadau? Siaradodd Ena Lloyd gydag Alan Asbury.

Yn ddiweddar, es i seminar a gynhaliwyd gan Enterprise Rent a Car ynglŷn â’r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn trafod â’r sector preifat i wella eu trefniadau teithiau busnes. Arweiniodd hyn at gyfraniadau mawr tuag at eu targedau cynaliadwyedd ac at arbedion mawr hefyd.

Holais Alan Asbury, Rheolwr Cynaliadwyedd ac Ynni yng Nghyngor Dosbarth Bro Aylesbury, am bolisi teithio’r Cyngor. Roedd gen i ddiddordeb arbennig yn y modd roeddent wedi canolbwyntio ar ymddygiad staff a’r defnydd hollbwysig a wnaethant o ddata er mwyn cael dealltwriaeth glir o anghenion teithiau busnes y staff.

Dechreuais drwy holi tipyn am y Cyngor. Mae’r Cyngor yn gofalu am hanner uchaf Swydd Buckingham, ac mae’n cyflogi tua 500 o aelod o staff ac mae 220 o’r rheini’n gyrru ar deithiau busnes.

Fe wnaethant greu’r polisi gydag Enterprise er mwyn sicrhau bod y cyngor yn gyson â’r ‘economi rannu’ a’r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer arbed arian. Fe wnaethant ddadansoddi data defnydd y cyngor ac roeddent yn gallu dosbarthu teithiau busnes y gweithwyr yn ôl cost-effeithlonrwydd, gan weld lle byddai llogi yn ôl yr awr a llogi yn ôl y dydd yn fwyaf effeithiol. Er enghraifft, drwy gyfyngu ar logi yn ôl y dydd i deithiau sy’n fwy na 75 milltir neu wyth awr, llwyddwyd i sicrhau bod cerbydau allyriadau isel y clwb ceir yn cael eu defnyddio’n fwy cyson.

I roi’r polisi ar waith, sefydlwyd ceir cronfa logi yn ôl yr awr ar y safle drwy Enterprise Car Club, i’w darparu i weithwyr a oedd yn gwneud teithiau byrion, ynghyd â cheir llogi yn ôl y dydd gan Enterprise Rent-A-Car ar gyfer teithiau pellach. Maent wedi llwyddo i ddisodli’r ‘fflyd lwyd’ fel opsiwn rhatach sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.

Newidiwyd y polisi teithio i ganolbwyntio ar ddiogelwch, sy’n hanfodol o ystyried cyfrifoldebau’r cyngor o ran dyletswydd gofal. Mae’r staff sy’n dal i ddefnyddio eu cerbydau eu hunain ar gyfer y gwaith yn llenwi ffurflen â blychau ticio arni er mwyn gwirio nifer o agweddau ar gynnal a chadw cerbydau a gyrwyr, fel diogelwch, yswiriant, trwydded yrru, iechyd a ffitrwydd a chyflwr y cerbyd.

Fel rhan o’r fenter, cafodd cyfradd ad-dalu milltiroedd y ‘fflyd lwyd’ ei thorri hyd at 0.65 ceiniog y filltir i 0.15 er mwyn annog y gweithwyr i ddefnyddio cerbydau’r Enterprise Car Club yn ogystal â llogi yn ôl y dydd, o ystyried yr arbedion posibl ar gostau a’r manteision amgylcheddol.

Ar ôl monitro’r cynllun yn ofalus, mae wedi’i gwtogi i wyth o gerbydau’r Enterprise Car Club. Mae pob un ag allyriadau isel, ac maent yn cynnwys tri char Nissan Leaf sy’n rhai cwbl drydanol. Yn y flwyddyn gyntaf o’u defnyddio, mae’r Cyngor wedi arbed £90,000. Mae hyn hefyd wedi eu galluogi i ailgyflwyno cymhorthdal o 50% ar y bysiau ar bedwar llwybr sy’n cael eu gweithredu’n lleol. Yn gyffredinol, mae ei allyriadau carbon cludiant wedi gostwng fwy na’i hanner. Mae’r Cyngor hefyd yn gweithredu cerbydau trydan, gan gynnwys BMW i3s.

Wrth feddwl am y polisi teithio newydd, dywedodd Alan: “Roedd ein polisi teithio newydd yn seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o’r modd y mae ein gyrwyr yn ymddwyn a beth yw eu hanghenion o ran gallu symud o gwmpas. Fe wnaeth Enterprise ein helpu i ddadansoddi i ble mae’r staff yn teithio, pa mor aml a pham, ac roedd hyn yn hollbwysig os oeddem ni eisiau iddynt wneud hynny’n fwy effeithlon.

“Mae defnyddio clwb ceir wedi’n helpu i arbed degau o filoedd o bunnoedd, ac mae Enterprise wedi ein helpu i weithio gyda’n gweithwyr i ddeall beth yw nodau’r rhaglen ac i ddangos beth roedden ni eisiau ei gyflawni. Bu hyn yn hynod lwyddiannus, ac rydym wedi cael ein gwahodd i siarad â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i ddangos iddynt be wnaethom ni, a sut.”

Ychwanega Adrian Bewley, Cyfarwyddwr Llogi Busnes y D.U. ac Iwerddon yn Enterprise Rent-A-Car: “Mae’r cyngor wedi gallu defnyddio cyfuniad o logi yn ôl yr awr a llogi yn ôl y dydd, yn ogystal â llogi ar les, er mwyn cael dull mwy effeithiol a mwy gwyrdd o ymdrin â theithau’r gweithwyr.

“Mae’r Cyngor yn cael ei weld, yn gwbl gywir, fel arweinydd o ran teithiau busnes yn y sector cyhoeddus. Cawsant y wobr arian yng Ngwobrau Arwyr Fflyd yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ym mis Tachwedd 2015. Yn bwysicaf, mae’r rhaglen wedi llwyddo oherwydd ei bod yn seiliedig ar ddadansoddi ymddygiadau a theithiau gyrwyr. Data yw’r offer pwysicaf i greu polisi teithio gwell ac i newid y modd y mae gweithwyr yn meddwl am yrru.”

Os hoffech ddysgu rhagor am y prosiect a sut y gallai Aylesbury eich helpu chi i wneud rhywbeth tebyg, cysylltwch ag Alan yn aasbury@aylesburyvaledc.gov.uk.

Effaith Cyfathrebu MAWR y Gronfa Loteri Fawr

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn gyfrifol am rannu 40% o’r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol. Yma, mae’r Swyddog Cyfathrebu, Rosie Dent yn trafod sut y cafodd un ymgyrch gyfathrebu effaith ystyrlon, fesuradwy.

Llun o Rosie Dent, a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer ei hunanlun Loteri

#LotterySelfie Rosie Dent

Yng Nghymru, rydym yn rhoi tua £100,000 y dydd i brosiectau sydd â’r nod o wella bywydau pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf. Y llynedd, gwnaethom lansio ein fframwaith strategol ar gyfer 2015-21 sy’n nodi beth y gall pobl ei ddisgwyl gennym fel ariannwr dros y chwe blynedd nesaf. Ein gweledigaeth yw y dylai pobl arwain y ffordd wrth wella eu bywydau a’u cymunedau.

Fel Tîm Cyfathrebu, rydym o’r farn mai un o’r ffyrdd gorau y gallwn gael pobl i arwain yw drwy roi’r ffocws arnynt hwy a rhoi’r adnoddau iddynt allu hyrwyddo’r gwaith gwych maent yn ei wneud, waeth pa mor fawr neu fach yw hynny. Y ffordd hon o feddwl a arweiniodd at lansio ein hymgyrch #LotterySelfie.

Mae dwy elfen i’r ymgyrch, un ohonynt yw annog prosiectau i rannu delweddau gyda ni drwy ddefnyddio’r hashnod #LotterySelfie. Y nod, wrth i ninnau rannu’r delweddau hyn, yw y gall prosiectau o bosib gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae’r elfen hon o’r ymgyrch wedi bod yn rhedeg ers mis Ionawr 2016 ac mae hyd at 600,000 o argraffiadau bob wythnos ar Twitter.

Ail elfen yr ymgyrch yw ‘Llythyr Syrpreis y Loteri’. Bob blwyddyn mae ein staff yn asesu miloedd o geisiadau ac yn anfon miloedd o lythyrau sy’n rhoi gwybod i ymgeisydd bod ei gais am grant wedi bod yn llwyddiannus. Gyda chynifer o lythyrau, mae’n hawdd anghofio sut y gall arian Loteri newid bywydau cymunedau yng Nghymru. Gwnaeth hyn i ni feddwl, beth am i fwy o staff ymweld â phrosiectau a gwneud i’r prosiectau deimlo’n arbennig drwy ddosbarthu rhai o’r llythyrau cynnig grant â llaw?

Y sefydliad a gafodd syrpreis gyntaf gyda Llythyr Syrpreis y Loteri oedd NuHi Cyf. yng Nghaerdydd sy’n cynnig ymwybyddiaeth, addysg a hyfforddiant ym maes camddefnyddio sylweddau i’r gymuned ehangach. Bydd yn defnyddio’r grant o £4,775 i greu ystafell TG a gwefan fel y gall pobl sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau gael gwybodaeth a chefnogaeth. Holly, gwirfoddolwraig, a orffennodd ei thriniaeth adsefydlu yr union ddiwrnod hwnnw, a gafodd y syrpreis. Gwnaethom gadw’r syrpreis yn syml. Yr oll oedd gennym oedd llechen, llythyr cynnig ac wrth gwrs siec enfawr (oherwydd pwy sydd ddim yn breuddwydio am gael siec enfawr?), gan ei gwneud yn ymgyrch hynod o rad, sy’n costio dim heblaw am amser staff.

Beth oedd y canlyniad i NuHi?

Pan ofynnwyd sut roedd hi’n teimlo ynglŷn â’r syrpreis, dywedodd y Sefydlydd Yaina: “Mae’r gwirfoddolwyr yn dal i fod yn wên o glust i glust”. Roedd Yaina yn teimlo bod morâl staff wedi cynyddu ers y syrpreis.

O fewn pythefnos i’r syrpreis, roedd y sylw ar gyfryngau cymdeithasol wedi arwain yn uniongyrchol at sefydliadau eraill yn cysylltu â nhw ynglŷn â gweithio mewn partneriaeth a gwahoddiad i fod yn siaradwr gwadd mewn digwyddiad entrepreneuraidd.

Gwnaeth y sylw hefyd arwain at roddion cyhoeddus ac, o ganlyniad, rhoddodd NuHi fotwm rhoddion ar ei wefan. Credwn fod hyn yn ganlyniad hynod gadarnhaol i NuHi gan y gallai rhoddion gynyddu cynaliadwyedd y sefydliad. Roedd hefyd wedi arwain at dri ymholiad newydd am gymorth gan bobl sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau.

Llun o bobl sy'n ymwneud â NuHi Cyf.

NuHi Cyf.

A fu effaith ar staff y Gronfa Loteri Fawr?

Dywedodd Liz Hertogs a fu’n asesu’r cais ac a ffilmiodd y syrpreis wrthym, “Dyma oedd fy ymweliad prosiect cyntaf, felly roedd yn wych cael cwrdd ag un o’n deiliaid grant, ac roeddem yn gallu rhoi ein pecyn cynnig iddo a thrafod beth sy’n digwydd nesaf ar yr un pryd. Roedd bod yno pan wnaeth ddysgu ei fod yn cael ei ariannu gennym yn brofiad arbennig iawn.”

Cawsom lawer o sylwadau cadarnhaol ynglŷn â’r fideo gan staff ac aelodau’r pwyllgorau. Nid ydym erioed wedi gweld staff wedi cyffroi cymaint am gynnyrch cyfathrebu o’r blaen! Roeddech yn gallu clywed staff yn sôn amdano o amgylch y swyddfa am ddyddiau, roedd wir yn teimlo fel ei fod wedi creu cyffro yn ein swyddfeydd, yng Nghaerdydd a’r Drenewydd. Roedd y cyffro hwnnw’n heintus, cawsom sylwadau gan dimau’r Gronfa Loteri Fawr yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Camelot a thîm Achosion Da y Loteri Genedlaethol.

Pa sylw a gafodd y fideo?

O fewn diwrnodau roedd 8,800 o bobl wedi gweld y fideo ar Facebook, gan ei wneud yn un o’r pethau mwyaf poblogaidd i ni ei bostio ar y llwyfan. Cafodd cynnwys cyfryngau cymdeithasol ei rannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Achosion Da y Loteri a We Are Cardiff, i enwi dim ond rhai.

Cafodd fideo a stori Holly, y wirfoddolwraig, eu cynnwys ar Wales Online, a chafodd yr erthygl ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol dros 340 o weithiau.

Myfyrio

Fel mae timau Cyfathrebu eraill yn ei ganfod mae’n siŵr, gall fod yn anodd casglu tystiolaeth am ganlyniadau eich gwaith, yn enwedig canlyniadau cadarn. Fodd bynnag, mae effaith yr ymgyrch hon wedi bod yn anhygoel ac wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Roedd llawer o’r canlyniadau, fel rhoddion cyhoeddus ac ymholiadau am gymorth gan y prosiect, yn annisgwyl ac maent yn dangos sut y gall cyfathrebu, gan gynnwys cyfryngau digidol, ychwanegu gwerth a chael effaith ystyrlon ar sefydliadau a chymunedau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Loteri Fawr Cymru, ewch i’n gwefan, dilynwch @LoteriFawrCymru ar Twitter neu hoffwch Cronfa Loteri Fawr Cymru ar Facebook.

YMCA Plas: Gweledigaeth well ar gyfer y Rhath

Sut all sefydliadau ddatblygu strategaeth ar gyfer ased cymunedol? Ymwelodd Dyfrig Williams ag YMCA Plas (cyn-Ganolfan Gymunedol Plasnewydd) yn y Rhath i ffeindio allan.

Ffotograff o YMCA Plas

YMCA Plas

Rydw i wedi bod yn ymweld â sefydliadau sydd wedi mynd drwy’r broses trosglwyddo asedau yn barod yn fy mlogbostau ddiweddar ar drosglwyddo asedau. Roedd fy ymweliad olaf bach yn wahanol, achos wnes i fynd i sefydliad sy’n datblygu eu cynllun busnes ar gyfer safle. Fe wnes i ymweld â’r YMCA, sydd wedi cymryd drosto hen adeilad Canolfan Gymunedol Plasnewydd ar sail prydles am 100 mlynedd o Gyngor Caerdydd. Maen nhw’n edrych i ailddatblygu’r safle, ac yn wreiddiol roedden nhw eisiau’r adeilad ar sail rhydd-ddaliad i wneud y mwyaf ohono.

Fel yn achos pob un o’r asedau yn y gyfres yma o flogbostau, byddai’r trosglwyddiad ddim wedi digwydd os na fyddai’r sefydliad wedi gweithio’n agos â’r cyngor. Mae’r trosglwyddiad yn dod gyda chytundeb am 25 mlynedd heb rent, a heb hynny byddai’r YMCA ddim wedi bod mewn sefyllfa i gymryd yr adeilad. Mae hyn wedi galluogi nhw i roi’r blociau adeiladu cywir mewn lle i sicrhau twf cynaliadwy.

Mae pris tir ac adeiladau yng Nghaerdydd wedi gwneud e’n anodd dod o hyd i safle addas, yn enwedig gyda’r cynnydd enfawr yn y nifer o fyfyrwyr yn yr ardal. Ond nawr mae’r cytundeb mewn lle, mae’n bosib i Adran Ieuenctid a Chymuned y YMCA i symud o gysgod y gwaith digartrefedd mae’r YMCA yn gwneud yn yr ardal.

Doedd y cyngor ddim eisiau cyfyngu ar sut gellir defnyddio’r safle, ond mae’r trosglwyddiad ar yr amod bod y safle yn cael ei ddefnyddio er budd y gymuned. Yr unig amod arall yw dim ond 33% o’r adeilad all yr YMCA rhentu allan. Trwy gydol y broses wnaeth yr YMCA dweud nad ydyn nhw’n gallu cymryd y staff cyflogedig trwy TUPE achos nad oedd ganddynt y gallu i wneud hynny.

Beth yw’r strategaeth ar gyfer YMCA Plas?

Gan fod y brydles ar gyfer yr adeilad mor hir, mae’n rhaid i YMCA Plas fod yn aml-ddefnydd. Bydd hwn yn galluogi iddynt newid yr adeilad os mae’r amgylchiadau’n newid. Mae llai o bobl wedi bod yn dod i’r adeilad gan ei fod wedi cael ei glustnodi i’w cau ers peth amser, felly ar hyn o bryd mae’r YMCA yn cynnal digwyddiadau i ail-ymgysylltu â’r gymuned, ac maen nhw’n edrych i ymgynghori ar ei ddyfodol.

Y nod yw i YMCA Plas fod yn ganolbwynt cymunedol ar gyfer grwpiau lleol a phobl yr ardal. Maent yn awyddus i ddatblygu cyfleuster chwaraeon gyda champfa, er mwyn cynhyrchu incwm, ac fe fydd hwn yn rhoi ffocws iechyd a lles i’r ganolfan.

Mae’r sefydliad hefyd yn datblygu strategaeth gofal plant a meithrinfa. Maen nhw wedi nodi, trwy weithio gyda Chymunedau yn Gyntaf, bod yna prinder o ofal plant fforddiadwy yn yr ardal. Does dim lot o bobl yn gwybod mai’r YMCA yw’r darparwr gofal plant mwyaf yn y DU, ac mae’r sefydliad yn edrych i wneud y fwyaf o’i gapasiti a gwybodaeth i gymryd y rhan hon o’r cynllun ymlaen. Maent hefyd yn edrych i rentu ystafelloedd lle mae’n bosib ac i rentu lle i fudiadau sydd â’r un dibenion â’u nodau a’u hamcanion.

Mae’r fynedfa i’r adeilad ar ochr y stryd, felly mae’r sefydliad hefyd yn bwriadu symud y fynedfa fel ei fod yn fwy amlwg i ymwelwyr. Bydd hyn yn dangos yn glir ei fod yn agored ac yn hygyrch i’r cyhoedd, yn hytrach na dibynnu ar bobl i fynd i lawr yr ochr stryd.

Gwersi a ddysgwyd

Roedd y YMCA yn canolbwyntio ar amserlenni’r cyngor trwy gydol y proses, a golygodd hyn nad oedd y ffocws bob amser ar eu gofynion eu hunain. Gan nad oedd y staff yn trosglwyddo drosodd i’r sefydliad, roedd ymsefydlu staff newydd wrth gymryd drosto gyfleuster newydd yn her fawr. Roedd hyn yn golygu na allent ddechrau gweithio yn y ffordd y byddent wedi hoffi, ac roedd cymaint o sylw ar y trosglwyddiad roedd e’n anodd canolbwyntio ar beth oedd yn mynd i ddigwydd wedyn. Fodd bynnag, y neges graidd yn y tymor byr oedd cynnal y busnes presennol. Er nad yw’n talu’r biliau, mae’n cyfrannu ato. A gan fod y mudiad wedi cynllunio’n effeithiol, maen nhw’n gallu amsugno colledion uniongyrchol tra mae’r cynllun busnes yn cael ei ddatblygu. Yr her nawr yw i’r sefydliad i barhau i redeg y busnes wrth ddatblygu’i gynllun.

Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Rydw i wedi bod yn byw yn y Rhath sawl flwyddyn nawr, ac mae’n lle bywiog i fyw. Rydw i wedi rhoi gwaed yn y ganolfan, ond rhaid imi gyfaddef fy mod i heb wneud y gorau o’r cyfleuster sydd wedi bod ar fy stepen drws.

Mae gan yr ardal lot o bobl amrywiol yn fyw yn ochr yn ochr, ond dydyn nhw ddim wastad yn integreiddio. Mae unrhyw beth sy’n dod a phobl at ei gilydd yn ddatblygiad positif, ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r YMCA yn gwneud eu gweledigaeth ar gyfer y ganolfan gymunedol yn realiti drwy gynnwys grwpiau cymunedol a phobl Rhath.

Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr: Adeilad gwell, democratiaeth gwell

Cafodd democratiaeth leol ei adfywio ar ôl i Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr symud o’i hen adeilad i’r llyfrgell yn Nhŷ Carnegie. Ymwelodd Dyfrig Williams â’r Cyngor i ffeindio allan mwy am yr adeilad newydd a sut mae’n cael ei ddefnyddio i roi hwb i gelfyddydau’r dref.

Llun o Dŷ Carnegie

Tŷ Carnegie

Roedd Cyngor Tref Pen-y-bont wedi ei leoli yn hen swyddfeydd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr yng Nglanogwr nes iddynt symud yn ddiweddar. Yn 1987 cafodd ei gyn-swyddfeydd ei droi’n unedau henoed a symudodd y Cyngor Tref i hen adeilad Adran Penseiri Cyngor Bwrdeistref Ogwr (a oedd hefyd yn Glanogwr), lle wnaethon nhw aros nes fis Ionawr 2014. Ond pan ddaeth eu cytundeb tenantiaeth i ben, roedd yr amser yn iawn i symud. Yn ffodus roedd llyfrgell Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn symud i gyfleuster arall ar yr un pryd. Manteisiodd Cyngor y Dref ar y cyfle i symud i ganol y dref a’r gymuned.

Roedd grŵp allanol hefyd yn edrych i greu canolfan gelfyddydau ar gyfer y dref ar yr un pryd. Mae gan Dŷ Carnegie lot mwy o le na’r adeilad blaenorol, felly penderfynodd y Cyngor Tref i ddatblygu’r llawr gwaelod i fod yn ganolfan gelfyddydau ac i ddefnyddio’r llawr cyntaf i gartrefi’r cyngor tref.

Sut wnaethon nhw wneud hynny?

A photo of the Town Council Chambers inside Carnegie House

Siambrau’r Cyngor Tref tu fewn i Dŷ Carnegie

Prynodd y Cyngor Tref yr adeilad ar sail rhydd-ddaliad am £1, a golygodd hyn bod y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gallu dadlwytho adeilad doedd ddim yn cael ei ddefnyddio. Roedd hyn hefyd yn golygu bod yr adeilad yn cael ei gadw fel cyfleuster cymunedol, ac fe wnaeth y Cyngor Tref y fwyaf o’r cyfle trwy gynnal noson ymgynghori i glywed o’r gymuned beth yn union roedden nhw eisiau o’r prosiect.

Byddai fe wedi bod yn amhosib i’r Cyngor Tref i gymryd cyfrifoldeb llawn am symud swyddfeydd achos byddai fe ddim wedi gallu ymateb yn ddigon cyflym i’r gofynion. Felly cafwyd grŵp annibynnol o 6 chynghorydd ei sefydlu fel grŵp adleoli a wnaeth delio â phob agwedd o drosglwyddo’r ased.

Mae perthynas da rhwng y Cyngor Tref a’r Cyngor Sir wedi bod yn allweddol i lwyddiant y trosglwyddiad yma. Mae’r Cyngor Sir wedi bod yn help mawr yn ystod y broses drwy ddarparu cymorth drwy eu swyddogion cadwraeth, penseiri a syrfewyr. Mae’r berthynas gadarnhaol hefyd yn caniatáu i’r Cyngor Tref i gymryd drosodd yr adeilad dan drwydded yn y lle cyntaf. Mae hyn yn golygu bod yr hyn y byddan nhw wedi’i dalu mewn rhent yn cael ei ddefnyddio i wella’r adeilad yn lle. Ni fyddai’r Cyngor Tref wedi gallu fforddio gwneud y ddau, felly mae hyn yn rhoi hwb mawr i’r broses.

Mae’r cydweithrediad yma hefyd yn golygu bod y Cyngor Tref yn gallu gwneud y mwyaf o gytundebau lefel gwasanaeth y Cyngor Sir am bethau fel gwaith cynnal a chadw. Byddai fe wedi bod yn anodd i’r Cyngor Tref cael yr un gwerth o’i gytundebau oherwydd dyw e ddim gweithio ar yr un raddfa a’r Cyngor Sir. Mae hyn yn golygu bod y Cyngor Tref yn gallu cael bargeinion gwell ac mae’n gallu defnyddio systemau teleffoni a mewnrwyd y Cyngor Bwrdeistref Sirol.

Treftadaeth

Ffoto o gloch Neuadd y Dref a gafodd ei roi i'r Cyngor Tref

Tŷ Carnegie

Mae Cyngor y Dref wedi gwneud ymdrech i ailwampio Tŷ Carnegie yn gydnaws â hanes yr adeilad. Maen nhw wedi mabwysiadu cynlluniau lliw Edwardaidd ac yn gweithio gyda staff Cadwraeth y Cyngor Sir i ddatblygu’r gofod. Maent hefyd wedi derbyn eitemau o’r gymuned, gan gynnwys y gloch o neuadd y dref wreiddiol yn y 18fed ganrif, ac mae yna fwrdd coffa o ysgol leol a gafodd ei roi mewn seremoni ymroddiad. Doedd dim gofod cymunedol ar gyfer digwyddiadau dinesig o’r blaen achos does dim neuadd yn y dref, ond erbyn hyn mae pobl leol yn cysylltu gyda’r cyngor i helpu nhw i warchod a chofio eu hanes.

Mae Cyngor y Dref ei hun wedi tyfu, gan fod ei leoliad yng nghanol y dref yn golygu bod llawer mwy o ymwybyddiaeth o’i waith. Mae’r adleoli wedi bod yn gatalydd i symud y Cyngor Tref ymhellach i mewn i’r parth cyhoeddus, ac yn awr mae aelodau’r cyhoedd yn gwylio cyfarfodydd y Cyngor Tref yn fwy rheolaidd. Mae’r cyfleuster newydd wedi rhoi hwb i gapasiti y sefydliad, ac felly mae’r tîm staff wedi ehangu o 1 person i 4 aelod o staff rhan-amser. Mae’r capasiti hyn yn bwysig mewn cyfnod ble mae’r Cyngor Tref yn cymryd drosodd mwy o wasanaethau anstatudol.

Yr Hwb Celfyddydau

Mae’r Cyngor Tref yn gwneud cais i Gyngor Celfyddydau Cymru am gyllid i weithio ar y llawr gwaelod. Cafodd rhaglen gweithgareddau’r flwyddyn gyntaf ei redeg rhwng Mawrth a Thachwedd 2015. Erbyn diwedd y rhaglen, roedd tua 1700 o bobl wedi mynd i ddigwyddiadau yn y neuadd, gan gynnwys nosweithiau barddoniaeth, cyngherddau a nosweithiau jazz. Roedd rhaglen llynedd yn siawns i brofi a methu, ond eleni bydd y Cyngor Tref yn adeiladu ar beth mae’n ei ddysgu drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau cerddoriaeth glasurol a jazz.

Mae lot o waith yn cael ei wneud ar yr adeilad gan ei fod yn adeilad rhestredig. Mae grant Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cael ei roi ar gyfer y gwaith (gydag arian cyfatebol gan o’r Cynghorau Sir a Thref) gan fod y gwaith cerrig yn dadfeilio, ac mae’r hen nenfwd artiffisial yn cael ei dynnu i lawr i wella’r sŵn yn y neuadd. Mae Cyngor y Dref hefyd wedi prynu system PA, ac mae ganddynt wefan am y tro cyntaf.

Beth mae’r dyfodol yn edrych?

Felly mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i Gyngor y Dref, a bydd unrhyw arian dros ben a wneir gan y mentrau’r Celfyddydau yn cael ei ail-fuddsoddi ar gyfer offer ac yn y rhaglen. Mae’r ddarpariaeth dysgu oedolion a chymunedol yn y dref wedi dod i ben, felly mae’r Cyngor Tref yn edrych i ddatblygu dosbarthiadau annibynnol ar y celfyddydau a diwylliant (fel gwnïo, paentio a serameg) fel bod pobl leol yn cael y cyfle i wneud y fwyaf o’r adeilad.

Dysgais gymaint o fy ymweliad â Thŷ Carnegie, yn enwedig ynghylch y pwysigrwydd o fod yn hyblyg ac i feddwl tu allan i’r bocs. Mae ailwampio’r adeilad yn amlwg yn broses llafurus, ond drwy weithio ar y cyd â’r Cyngor Bwrdeistref Sirol, mae Cyngor y Dref wedi gallu gwneud y gorau o’r cyfleoedd sydd wedi dod atynt i drosglwyddo’r ased. Mewn cyfnod lle mae adnoddau mor brin, mae’n wych gweld sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod nhw’n darparu’r gwasanaethau cyhoeddus gorau posibl i bobl eu hardal.

Canolfan Gelf y Miwni: Trosglwyddiad ased a gafodd ei sbarduno gan y gymuned

Fe wnaeth y penderfyniad i gau Canolfan Gelf y Miwni ym Mhontypridd achosi protest mawr, a wnaeth hyn yn ei dro sbarduno’r gymuned i gymryd dros yr adeilad. Aeth Dyfrig Williams i’r ganolfan i ffeindio allan sut mae’r ganolfan wedi datblygu ers i’r ased cael ei drosglwyddo.

Ysgrifennodd Chris Bolton blogbost sbel yn ôl am sut all cythruddo eich dinasyddion arwain at weithredu cymunedol. Mae’n darn pryfoclyd am sut all cau ased cymunedol arwain at ymateb cryf o’r cyhoedd, a sut gall gwasanaethau cyhoeddus adeiladu ar gryfder yr ymateb yma.

Clywais am sut mae hynny wedi digwydd yng Nghanolfan Gelf y Miwni, lle wnaeth ymgyrch ar lawr gwlad i achub a datblygu’r ganolfan deillio o’r penderfyniad i gau’r adeilad gan y cyngor.

Cefndir

Llun o Ganolfan Celfyddydau'r Miwni

Canolfan Celfyddydau’r Miwni

Roedd protestiadau anferth pan wnaeth gwasanaethau diwylliannol y cyngor penderfynu roi’r gorau i Ganolfan y Miwni. Aeth 150 o bobl i ddigwyddiad ymgynghori ar ddyfodol yr adeilad mewn cwpl o oriau. Roedd nifer o grwpiau yn awyddus i wneud yn siŵr bod y ganolfan yn aros ar agor, a mynegodd nifer o gwmnïau ddiddordeb mewn prynu’r adeilad ar gyfer eu busnes. Daeth Artis Cymuned, Cyngor Tref Pontypridd, Cylch Cymreig ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo gyda’i gilydd fel Gweithgor y Miwni a wnaethant ffurfio Ganolfan Gelf y Miwni Cyf. yn gyflym. Maent yn adeiladu ar eu cryfderau i ddatblygu’r cais, sy’n hynod o debyg i’r dull Datblygu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau ar wefan Nurture Development a wnaeth Chris cyfeirio ato yn ei flog.

Does dim lle gwell i ddechrau o ran adeiladu ar gryfderau’r gymuned na’r bwrdd ei hun. Roedd cymryd rheolaeth o adeilad fel y Miwni yn gyfrifoldeb enfawr, ond roedd aelodau’r bwrdd mewn sefyllfa dda i wneud hynny ac i roi prosesau llywodraethu cadarn mewn lle. Mae Jon Huish yn gyn-gynghorydd ac mae ganddo ddealltwriaeth grêt o brosesau’r cyngor a’r sector cyhoeddus. Mae Alun Taylor o Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn arbenigo mewn llywodraethu. Mae Rob Hughes, Cadeirydd y Cylch Cymreig, yn rhedeg gŵyl yn Ynysybwl, ac mae Gethin Williams, Prif Weithredwr y Cyngor Tref hefyd yn Gyfreithiwr. Mae gan Wendy York, Prif Weithredwr Artis Cymuned, a oedd yn gyfrifol am lawer o’r gwaith sylfaenol, lot o brofiad o’r celfyddydau a rhwydweithiau cryf yn y sector gwirfoddol.

Wynebodd y cyngor beirniadaeth o’r gymuned dros ei benderfyniad, ac roedd y trosglwyddiad o asedau blaenorol wedi bod ar raddfa lot llai. Roeddent yn glir bod nhw eisiau helpu’r broses a wnaethant greu cronfa grant i alluogi hyn. Fe wnaethon nhw gymryd risg wrth ddewis i drosglwyddo’r ased i’r gymuned, pan fyddai datblygiad sector preifat wedi cael manteision masnachol clir. Mae hyn yn enghraifft o wneud penderfyniadau sy’n canolbwyntio ar yr hirdymor, a bydd rhaid i wasanaethau cyhoeddus datblygu’r math yma o feddylfryd wrth iddynt gyflawni ei gwaith o dan Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol.

Y gymuned

Achos bod ganddynt fwrdd cryf, byddai’n hawdd gwneud beth mae llawer o sefydliadau eraill wedi ei wneud dros y blynyddoedd a defnyddio eu gweledigaethau eu hunain fel cynllun am y Miwni. Ond mae achos busnes y Ganolfan yn seiliedig ar weledigaeth y 150 o bobl a daeth i’r digwyddiad ymgynghori. Mae ei gwreiddiau yn y gymuned, ac mae’r Miwni yn edrych i fod y canolbwynt ar gyfer adfywio’r ardal ehangach a lle’r celfyddydau o fewn hynny.

Ffoto o Gaffi Think Food Life yn y Miwni

Caffi Think Food Life yn y Miwni

Mae caffi’r Miwni yn fenter gymdeithasol o’r enw Think Food Life, sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles pobl drwy cynnig bwyd maethlon. Y caffi yw’r un cyntaf ym Mhontypridd sy’n gwerthu bwyd ar gyfer anghenion deietegol penodol, ac mae’n anelu i gael 80% o’i bwyd o ffynonellau lleol. Roedd diddordeb gan Mind Merthyr a’r Cymoedd i sefydlu rhandir i dyfu llysiau ar gyfer y Miwni, a chafodd y syniad ei gryfhau wrth i grŵp Prosiect Cyn-filwyr y Miwni. Fe wnaethon nhw cynnig gweithio ar dir yn y Miwni, ac mae yna gefnogaeth posibl o’r gymdeithas rhandiroedd. Mae’r Miwni wedi derbyn cyllid o Grant Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog achos roedd y ganolfan recriwtio arfer bod drws nesaf. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i gyn-filwyr i gymryd rhan yng ngwaith y Miwni trwy wirfoddoli neu trwy weithio’n uniongyrchol yn y celfyddydau.

Bydd prosiect Addas am Oes hefyd yn edrych i gysylltu gwaith iechyd a ffitrwydd i waith y caffi, sy’n dangos sut mae’r Miwni yn edrych i fynd y tu hwnt i’r celfyddydau ac i fod yn ganolbwynt i’r gymuned gyfan. Mae’r Miwni hefyd yn edrych ar ddod â sefydliadau at ei gilydd ar lefel strategol i alluogi pobl i wneud mwy drostynt eu hunain trwy weithio gyda YMCA Pontypridd a datblygiad y Courthouse, a fydd yn cefnogi’r proses dechreuol a thwf mentrau cymdeithasol.

Angerdd

Mae hyn i gyd yn dangos beth sy’n bosib pan mae prosiectau yn seiliedig ar angerdd a thalent y gymuned. Mae’r adeilad ei hun yn wirioneddol drawiadol, yn union fel egni ac ymdrech y bwrdd a’r gymuned wrth iddynt ffocysu ar wneud y prosiect yn llwyddiant. Os ydych chi eisiau trosglwyddo ased i’r gymuned, mae’n werth gofyn sut allwch chi weithio gyda’r gymuned i adeiladu ar eu cryfderau?

Gwesty Seren: Trosglwyddo asedau yn effeithiol a dull newydd o ofal ysbaid

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n debyg fe fydd llawer o gyrff gwirfoddol a Chynghorau Tref a Chymuned yn mynd ati i drosglwyddo asedau o’r Cyngor Sir. Aeth Dyfrig Williams i Westy Seren i ddysgu am ei brofiad nhw o drosglwyddo ased a sut maen nhw’n darparu gofal ysbaid.

Rydym yn cael ein arwyddbostio ato arfer da yn aml, ond nid yw’n aml ein bod ni’n clywed am un prosiect sydd gydag arfer da i’w rhannu mewn sawl gwahanol faes.

Aethom i Westy Seren i ddysgu am sut mae ased wedi cael ei drosglwyddo i’r cymuned yn lwyddiannus. Ond roedd gen i ddiddordeb ehangach yn y gwaith gan fy mod i wedi clywed am y gwaith arloesol maent yn wneud wrth ddarparu gofal ysbaid.

Gwaith yr elusen

Llun o Westy Seren

Gwesty Seren

Cwmni ag elusen yw Seren sydd â phencadlys ym Mlaenau Ffestiniog. Prif waith yr elusen yw cynnig gofal i bobl sydd ag anawsterau dysgu. Sefydlwyd yr elusen 20 mlynedd yn ôl o dan Ofal yn y Gymuned. Bwriad yr elusen oedd cael pobl ag anawsterau dysgu allan o sefydliadau ac i fyw yn y gymuned. Mae pobl sydd yno yn creu crefft a chelf ac yn rhedeg siop a gardd farchnad. Mae hwn yn rhoi annibyniaeth i’r bobl sy’n gweithio achos nad yw pobl jyst yn dibynnu ar ffioedd o Gyngor Gwynedd neu unigolion preifat, ac mae fe hefyd yn rhoi cyfle i bobl cael blas ar waith. Mae’r meddylfryd yma wedi parhau wrth roi profiad o waith i bobl yng Ngwesty Seren.

Penderfynodd Seren gwneud mwy na chreu gwasanaeth ysbaid wrth ffurfio’r Gwesty. Roedden nhw eisiau gwell ansawdd na thŷ, felly creuwyd gwesty 3 seren sy’n ffocysu ar anabledd a phobl sydd ag anawsterau dysgu. Mae’r toiledau ac ystafelloedd wedi’u datblygu i fod yn hygyrch i bawb.

Mae’r gwesty hefyd yn galluogi teuluoedd i aros yno. Dangosodd ei ymchwil bod lot o deuluoedd wedi derbyn gofal ysbaid gwael yn y gorffennol, ac felly nid oedden nhw’n hapus i adael eu plant yng ngofal trydydd person. Mae’r gwesty yn galluogi nhw i aros gyda’u plant os maent yn dymuno, ond hefyd i gael yr ysbaid sydd angen. Mae’r gwasanaeth unigryw yma yn meddwl bod y gwesty yn darparu llefydd i bobl sy’n derbyn gwasanaethau o gynghorau cyfagos fel Conwy a Cheredigion. Mae teuluoedd yn dod o Loegr i aros yn y gwesty hefyd.

Mae llwyddiant y Gwesty yn meddwl ei bod yn gweithio gyda thri chwmni sy’n arbenigo mewn gwyliau ar gyfer pobl sydd ag anawsterau dysgu ac, yn ddiweddar, penderfynodd dau gwmni arall sydd yn arbenigo mewn gwyliau ar gyfer pobol ag anableddau corfforol ddechrau ddefnyddio’ cyfleusterau. Mae’r bobl sydd wedi aros yn aml yn dod yn ôl ac yn wneud archebion bloc.

Hanes yr adeilad

Ffotograff o ystafell yng Ngwesty Seren

Ystafell yng Ngwesty Seren

Cafodd yr adeilad ei hun ei adeiladu’n wreiddiol gan yr Arglwydd Newborough yn 1728 fel ty haf. Parhaodd fel tŷ haf nes jyst ar ol y rhyfel byd cyntaf, pryd wnaeth teulu cymryd milwyr i fewn a oedd wedi cael damwain neu sioc yn y rhyfel i cael seibiant neu ysbaid.

Yn y 1930s cafodd yr adeilad ei roi i ddau fynach Assisi. Fe wnaethon nhw wahodd pobl ddigartref i mewn, gyda’r mynach ieuengaf yn trafaelu i Lundain i wahodd pobl i aros ym Mryn Llywelyn, fel y cafodd ei alw ar y pryd. Yna cafodd yr adeilad ei werthu i Gyngor Meirionnydd, ble roedd yn nhŷ preswyl i blant, cyn cael ei droi’n gartref preswyl i henoed. Yn 2010 penderfynodd y Cyngor ei gau.

Fe wnaeth Seren cais i Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Loteri Fawr. Cyflwynwyd cais llawn, cyn cychwyn y gwaith yn 2013. Cwblhawyd y gwaith yn Ebrill 2014.

Trosglwyddo’r adeilad

Fel arfer mae trosglwyddo asedau o’r sector cyhoeddus yn digwydd am ddim, ond yn yr achos yma penderfynodd y cyngor gwerthu am bris llai na’r farchnad. Bu rhaid i’r cyngor mynd trwy bwyllgorau a chodi ymwybyddiaeth trwy’r wasg, felly nid oedd yn broses cyflym.

Roedd y costau rhwng prynu a phob dim yn tua £1,000,000, ac roedd gwneud ceisiadau ar gyfer grantiau ac ati yn broses llafurus. Gan fod angen swm sylweddol, aeth yr elusen ati i fenthyg o’r Banc Elusennau.

Roeddent yn ymwybodol byddai cwestiynau yn cael ei ofyn am gymorth gwladwriaethol, felly aeth yr elusen at gwmni cyfreithiol yng Nghaerdydd sy’n arbenigo yn hyn. Ysgrifennwyd adroddiad ar finimeiddio’r risg ac fe wnaeth y ddogfen dangos y rhesymeg am pam nad oedd yn torri’r rheolau. Roedd yr adroddiad yma yn cymorth mawr wrth ddelio a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Swyddogion Ewrop amdano’r gwesty.

Prif negeseuon

Felly’r prif neges o Westy Seren yw nad ydy’n broses cyflym sy’n digwydd mewn chwinciad. Ond serch hynny mae’n glîr trwy edrych ar y sylwadau ar ei dudalen TripAdvisor bod y gwaith caled wedi bod yn werth chweil. Ac os edrychwch chi ar y geirda yma o ofalwr neu’r erthygl yma mewn cylchlythyr, mae’n glîr bod y gwesty yn cynnig gofal ysbaid sy’n cael effaith mawr ar bywydau pobl, sydd wedi cyfranu at adfywio ardal Blaenau Ffestiniog gan greu 10 o swyddi llawn amser, ac wedi cyfrannu at y diwydiant twristiaeth.