Archif Awdur: Good Practice Exchange

Ynghylch Good Practice Exchange

Good Practice Exchange at the Wales Audit Office - encouraging public service improvement through shared learning and knowledge exchange. Y Gyfnewidfa Arfer Dda yn Swyddfa Archwilio Cymru – annog gwelliant yng ngwasanaethau cyhoeddus trwy rannu dysgu.

Rhannu’r hyn a ddysgwyd o Adolygiad Annibynnol o Effaith y Gyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da wedi bodoli ers diwedd 2010/dechrau 2011. Gwnaethom amlinellu sut beth fyddai llwyddiant mewn 5 mlynedd, a gwnaethom ymrwymo i werthusiad annibynnol o’r hyn roeddem yn ceisio ei gyflawni yn 2016. Felly ar ôl pum mlynedd, daeth yr angen i gynnal adolygiad annibynnol.

Felly, fel gyda phopeth sy’n ymwneud ag arfer da, hoffwn ni (Bethan Smith ac Ena Lloyd) rannu’r hyn a ddysgwyd…

Yr hyn rydym yn ei wneud (ewch i’r paragraff nesaf os ydych eisoes yn gwybod hyn)

GPX teamRhag ofn nad ydych yn gyfarwydd â’n gwaith, rydym yn hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy gyfnewid gwybodaeth yn well a rhannu’r hyn a ddysgwyd. Yn ystod ein blwyddyn gyntaf roeddem yn dîm o ddau (Chris Bolton ac Ena Lloyd), felly gwnaethom ddechrau gyda rhaglen fach, yn dysgu ac yn adolygu wrth i ni fynd yn ein blaenau.  Yna gwnaethom ymestyn i dîm o 4, gyda Dyfrig Williams a Bethan Smith (a wnaeth gymryd drosodd oddi wrth Tanwen, a oedd yn dalentog iawn) yn ymuno â’r tîm.  Roedd hyn yn golygu y gallwn gyflwyno rhaglen lawn o 20 o ddigwyddiadau’r flwyddyn bellach. Yn ogystal â’n rhaglen o ddigwyddiadau, rydym yn darparu cymorth i amrywiaeth o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus ar ffurf ôl troed digidol (yn darparu cynnwys fideo, blogio, cyfryngau cymdeithasol ac ati yn eu digwyddiadau), ein blog Arfer Da, Twitter, Pinterest a chynnwys fideo.

Gwerthusiad Annibynnol

Cyflawnwyd y gwerthusiad gan yr Athro Merali, o Ganolfan Astudiaethau Systemau Ysgol Fusnes Prifysgol Hull. Roedd yr adolygiad yn cynnwys casglu data o’r canlynol:

  • Cyfweliadau a sgyrsiau lled-strwythuredig i gasglu naratifau o amrywiaeth o randdeiliaid y tu mewn a’r tu allan i Swyddfa Archwilio Cymru
  • Mynychu digwyddiadau Cyfnewidfa Arfer Da
  • Adolygu’r adborth o gyfranogwyr yn ein digwyddiadau
  • Adolygu ymatebion Prif Weithredwyr a wnaeth gymryd rhan yn Arolwg Rhanddeiliaid diweddar Swyddfa Archwilio Cymru am bopeth sy’n ymwneud â’r Gyfnewidfa Arfer Da

Casglwyd safbwyntiau gan unigolion o bob rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â chymysgedd ar hap o gydweithwyr mewnol ac allanol a oedd naill ai wedi mynychu ein digwyddiadau, rhoi cyflwyniad ynddynt neu eu llunio.

Canolbwyntiodd yr adolygiad ar dri maes gwahanol:

  • Canfyddiadau rhanddeiliaid am ein rôl a’n cydberthynas â swyddogaethau archwilio mwy cyffredin
  • Y gwerth rydym yn ei roi drwy ein rôl gwybodaeth a’n cefnogaeth ar gyfer dysgu ac arloesi
  • Y ffordd rydym yn cyflawni canlyniadau, a’r goblygiadau y mae hyn yn ei chael ar gyfer cynaliadwyedd ac arloesedd

Felly beth oedd y negeseuon allweddol?

Canfyddiadau a chydberthnasau mewnol

blog picNodwyd bod cefnogi gwelliant yn un o ddibenion yr archwiliad gan bob aelod o staff Swyddfa Archwilio Cymru a gafodd eu cyfweld. Gwelwyd y Gyfnewidfa Arfer Da yn rhan ar wahân o Swyddfa Archwilio Cymru gyda rôl sy’n ymwneud â’r swyddogaeth archwilio gyffredin, ond yn wahanol iddi.

Roedd y rheini sy’n gweithio mewn swyddogaeth archwilio gyffredin yn teimlo bod gan y Gyfnewidfa Arfer Da bresenoldeb sefydledig yn Swyddfa Archwilio Cymru; “…mae fel petai wedi bod yno drwy’r amser”.

Er bod ein rôl yn cael ei hystyried yn rôl allblyg yn bennaf, mae staff y Gyfnewidfa Arfer Da yn rhagweithiol o ran datblygu cysylltiadau a chydberthnasau â chydweithwyr ym mhob rhan o’r swyddogaeth archwilio.

Canfyddiadau a chydberthnasau allanol

Roedd y ffaith bod y Gyfnewidfa Arfer Da yn gangen o Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan yr holl randdeiliaid a gafodd eu cyfweld, ac roedd cytundeb unfrydol bod “brand” Swyddfa Archwilio Cymru yn gwneud y canlynol;

  • Rhoi awdurdod i’r Gyfnewidfa Arfer Da, gan warantu ei bod yn ddiduedd ac y gellir ymddiried ynddi, a
  • “Rhoi coel” i siaradwyr, gwybodaeth a syniadau sy’n cael eu cyflwyno mewn digwyddiadau Cyfnewidfa Arfer Da.

Mae ein cefnogaeth ar gyfer dysgu ac arloesi yn cael ei ddarparu mewn dwy ffordd; rhaglen digwyddiadau a gweithgarwch cronnol staff y Gyfnewidfa Arfer Da cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiadau. Mae hyn yn meithrin adnoddau a gallu i ganiatáu i unigolion archwilio a manteisio i’r eithaf ar syniadau ar gyfer arloesi a gwelliant.

“.. mae taraniad cyn y digwyddiad… ac ymchwydd ton ar ôl pob digwyddiad lle mae’n adeiladu ar ei hunan – mae gwybodaeth yn rhaedru drwy bobl a oedd yn bresennol yn y gorffennol a’r rhai sy’n bresennol nawr…”

Rydym wedi datblygu rhwydwaith o gydweithredwyr, cyfranwyr a “chleientiaid”, sydd wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant. Dangosodd y dadansoddiad o naratifau rhanddeiliaid bod ein llwyddiant wedi dod o’n gallu i gynhyrchu rhwydweithiau a chyfalaf cymdeithasol, cysylltiedig ac sydd ag enw da, a’u cynnal a’u defnyddio.

“… mae’n ymwneud ag unigolion sydd o fewn y tîm hwnnw – yr awydd, yr egni, y meddylfryd, y brwdfrydedd, yr angerdd am newid a meddwl yn wahanol…ac i fod yn onest nid oes neb byth yn mynd i ddod a dewid ‘mae’r gwaith yma rydych chi’n ei wneud yn anghywir. Maent yn dweud ‘ydych chi wedi gweld bod gwahanol ffyrdd o wneud hyn ac mae llawer o gyfleoedd ar gael, a gallwch chi ddewis pa bynnag un rydych chi eisiau.’ Nid oes unrhyw un erioed wedi dweud ‘mae hynny’n anghywir’…gallwch chi ddadansoddi a meddwl beth bynnag yr hoffech chi. Ac rwy’n hoffi hynny.  Mae’r syniad un ateb i bawb i mi yn drychineb’

Casgliad

Daeth yr adroddiad i’r casgliad canlynol;

  • Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn gweithio’n dda ar ei ffurf bresennol fel uned ddarbodus a hyblyg o Swyddfa Archwilio Cymru
  • Mae brand Swyddfa Archwilio Cymru yn hanfodol i’n hawdurdod a’n manylion ar gyfer bod yn ddiduedd ac y gall pobl ymddiried ynom
  • Mae ein digwyddiadau a’n gweithgareddau yn cael eu derbyn yn dda a’u cydnabod fel catalydd effeithiol ar gyfer newid a gwella
  • Mae ein maint bach a’n ffordd o weithredu gyda rhwydwaith yn ein galluogi i fod yn hyblyg ac ymatebol
  • Mae ein ôl-troed digidol a’n defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn effeithiol ar gyfer bod yn gyfredol â’i ddilynwyr a chydweithredwyr
  • Dros ein hoes o weithgarwch ac ymgysylltu ag etholaethau rhanddeiliaid amrywiol, rydym wedi casglu rhwydwaith gwerthfawr a helaeth yn ymgorffori cyfalaf cymdeithasol, cysylltiedig ac sydd ag enw da

Yn y dyfodol, mae ein galluoedd, sylfaen adnoddau, enw da a sefyllfa o fewn Swyddfa Archwilio Cymru yn golygu bod y Gyfnewidfa Arfer Da yn gymwys i gefnogi sector cyhoeddus Cymru wrth iddo newid i fodelau o ddarparu gwasanaethau sy’n cyfateb â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Y camau nesaf

Fel tîm, rydym yn falch iawn o ganlyniad yr adroddiad. Rydym yn annog bod yn agored a thryloyw ac yn teimlo ei fod yn bwysig rhannu’r canlyniad â chydweithwyr mewnol a’n rhwydweithiau allanol. Mae’r adroddiad wedi ein helpu i ganolbwyntio ar y meysydd sy’n gweithio’n dda, a’r hyn y mae angen i ni weithio’n fwy caled arnynt i’w gwella.

Rydym bob amser yn awyddus i gael adborth gan gydweithwyr, mewnol ac allanol, a thros y misoedd i ddod byddwn yn gweithio ar ein prosesau gwerthuso i wneud yn siŵr ein bod yn ystyried y sylwadau rydym yn eu derbyn ar ôl digwyddiadau yn llawn. Wedi’r cyfan, mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn newid ac yn esblygu ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud yr un peth i ddiwallu’r anghenion newidiol.

Felly cadwch lygad am gam nesaf y Gyfnewidfa Arfer Da. Ac yn bwysicach oll, os ydych wedi dod i unrhyw un o’n seminarau neu weminarau, diolch am eich amser, eich cyfraniad a’ch adborth, da a drwg, oherwydd dyna’r hyn sydd wedi ein llywio.

Trivallis: Newid diwylliant o fewn y rheng flaen

Read this post in English

Yn y trydydd o gyfres o flogiau ar raglen Frontline Futures y Sefydliad Tai Siartredig, siaradodd Dyfrig Williams â Jonathan Tumelty o Trivallis i glywed sut maen nhw’n grymuso ei staff i arwain newidiadau i wasanaethau.

Yn ein digwyddiad diweddar ar wella arweinyddiaeth a pherchenogaeth ddigidol, rhannodd Chris Bolton sleid a ddangosodd dulliau newid busnes sydd wedi cael ei roi ar waith mewn sefydliadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Falle mai drawsnewid digidol yw’r broses newid ddiweddaraf i gael ei rhoi ar waith, ac efallai nad yw’n syndod nad yw rhai aelodau o staff yn neidio am lawenydd. Felly, sut all sefydliadau newid y ffordd maen nhw’n gweithredu?

Siart Richard Pascale o (nifer) o ddulliau newid busnes, ac mae Trawsnewid Digidol wedi'i ychwanegu mewn ysgrifen

Siaradais â Jonathan Tumelty yn Tai 2017 amdano sut mae Trivallis wedi galluogi timau rheng flaen i arwain newidiadau i’w wasanaethau.

Beth wnaeth Trivallis?

Gwelodd Trivallis fod ei dimau yn gweithio mewn seilos gan eu bod nhw wedi’u grwpio fesul rôl. Byddai pob maes cyfrifoldeb yn cael ei lywio gan feysydd eraill, ond roedd y strwythur hwn bron yn annog gwrthdaro, a’r canlyniad oedd cyd-berthnasoedd anodd rhwng meysydd gwahanol o’r busnes. Penderfynodd alinio ei systemau yn ddaearyddol ar sail yr ardaloedd y maen nhw’n gweithio ynddynt, ond roedd hyn yn haws dweud na gwneud gan nad oedd ymdrechion yn y gorffennol wedi bod yn llwyddiannus.

Er bod Trivallis yn gwybod beth oedd ei nod terfynol, penderfynodd roi’r cyfrifoldeb am sut y gallai strwythur daearyddol weithio i’w staff, a hynny drwy gynnal cyfres o gyfarfodydd i lywio’r newid. Dechreuodd fel proses eithaf ysgafn drwy gynnwys rheolwyr. Wedi hynny, cafodd drafodaethau unigol â dylanwadwyr allweddol a oedd yn weithwyr rheng flaen. Rhoddwyd perchenogaeth a rheolaeth o’r broses i staff, a chyfathrebwyd yn glir trwy gydol y broses.

Sut wnaeth hyn gweithio’n ymarferol?

Daeth staff â phobl at ei gilydd i ddechrau i fapio eu rhwystredigaethau, a oedd yn ei dro yn effeithio ar foddhad cwsmeriaid. Aeth staff ati i grwpio nodiadau gludiog gyda’i gilydd, ac yn ffodus adlewyrchodd yr ymarfer hwn y broses feddwl gychwynnol. Gwnaethant ddatblygu egwyddorion ar gyfer y ffyrdd newydd o weithio gyda staff, gyda’r rheolwyr yn cynnig paramedrau eang iawn yn unig. Sefydlwyd timau peilot i brofi’r cynlluniau a luniwyd gan staff, ac ar ôl hynny aethant ati i chwalu’r rhwystrau yn eu ffordd. Roedd staff yn aros am gyfarwyddiadau gan reolwyr yn ystod y gyfarfodydd cyntaf, ond ar ôl ychydig gwnaethant ddechrau cymryd rheolaeth o’r ymarfer eu hunain. Disgrifiodd Jonathan y broses fel y fideo hwn o ŵyl gerddoriaeth, lle mae un person yn dechrau’r drafodaeth, a fesul tipyn mae mwy a mwy o bobl yn cyfrannu ati. Roedd pobl â diffyg hyder wir eisiau cyfrannu yn y diwedd.

Creodd Trivallis rith-dimau o’r adborth a gafwyd gan staff. Erbyn hyn, mae’r holl wasanaethau rheng flaen wedi’u rhannu yn ôl ardaloedd, a’r cam nesaf yw creu cysylltiadau rhwng pob tîm. Nid yw’r gwasanaethau yn gweithio mewn seilos mwyach, ond yn hytrach maen nhw’n dîmau amlsgiliau sy’n gweithio o amgylch ardal. Yn ôl Jonathan, roedd modd rhoi’r dull lleoledig hwn ar waith heb newid polisïau na gwario mwy o arian – yr unig beth oedd angen ei wneud oedd grymuso a nodi pŵer.

Y seiliau pŵer, gan gynnwys gwobrwyo; gorfodol; arbenigrwydd; gwybodaeth; cyfeiriedig; cyfreithlon

Gan fynd yn ôl i’n Seminar Ddigidol ddiweddar lle y rhoddwyd sylw i arweinyddiaeth a pherchenogaeth ddigidol, cynhaliodd Kelly Doonan weithdy hynod ddiddorol ar ddylanwadu ar newid. Rhannodd Kelly seiliau pŵer French a Raven yn ei gweithdy er mwyn helpu pobl i ddeall lle mae ganddynt bŵer. Mae’n ddiddorol yma gweld sut y rhannodd rheolwyr eu pŵer dilys wrth harneisio pŵer arbenigol staff rheng flaen hefyd o’u profiad cyflawni. Roedd yn dda clywed gan Jonathan sut mae Trivallis wedi gwneud y gwaith yn llwyddiant. Os ydych wedi gwella gwaith eich sefydliad drwy rannu pŵer, hoffem glywed sut mae’r newidiadau rydych wedi’u gwneud wedi arwain at wasanaethau cyhoeddus gwell.

Sut all hyfforddi cefnogi penderfyniadau rheng flaen gwell

Read this blog post in English

Sut gall hyfforddiant (‘coaching’) helpu staff rheng i flaen wneud penderfyniadau gwell? Cwrddodd Dyfrig Williams ag Owain Israel o Gymdeithas Tai Charter i ddysgu sut mae’n helpu staff i gymryd perchnogaeth o gwynion.

Logo Tai Charter: Ei enw wedi'i ysgrifennu y tu mewn i amlinelliad o dŷ, gyda "tai pobl" wedi'i ysgrifennu oddi tanoAr ôl blogio am y rhaglen Frontline Futures, a’r hyn y gellir ei ddysgu ohoni ar gyfer y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn aml, cefais wahoddiad i ddigwyddiad TAI y Sefydliad Tai Siartredig er mwyn dysgu rhagor ynglŷn â’r ffordd y mae’r dulliau hyfforddi wedi arwain at wella gwasanaethau cyhoeddus. Cwrddais ag Owain Israel o Gymdeithas Tai Charter i ddysgu sut mae’n rhoi’r hyn a ddysgwyd ar y cwrs ar waith.

Delio â thai gwag

Cyn siarad ag Owain, doedd gennyf fawr o syniad beth oedd rôl syrfewyr mewn cymdeithasau dai, ond roedd yn ddiddorol dysgu rhagor am y ffordd y maent yn gwella ansawdd tai. Mae gwaith Owain yn canolbwyntio’n arbennig ar dai gwag, lle bydd y syrfëwr yn cynnal arolwg diwedd tenantiaeth i gael golwg ar dŷ cyn iddo ddod yn dŷ gwag. Mae hyn yn rhoi cyfle i denantiaid ddatrys unrhyw faterion cyn i’r gymdeithas tai godi tâl arnynt.

Fel rhan o’r hen broses, byddai’r syrfëwr yn dychwelyd i’r tŷ ar gyfer ôl-archwiliad ar ôl i’r gwaith gael ei wneud. Fodd bynnag, nid ydynt bob amser yn cael gwybod pryd bydd pobl yn gadael. Yn y Gyfnewidfa Arfer Da, rydym yn clywed llawer am y broses y mae staff yn gweithio iddi, heb feddwl am beth yw’r canlyniad i bobl. Mae Owain a’i dîm wedi cwestiynu pob agwedd o’r broses, gan gynnwys a ellir cynnal archwiliad yn hytrach nag arolwg eiddo gwag. Bydd rhai contractwyr dim ond yn gwneud gwaith a nodwyd yn yr arolwg, sy’n golygu nad yw gwaith arall sydd ei angen wedi cael ei wneud. Mae’r broses wedi creu problemau o ran atebolrwydd, gyda thenantiaid o bryd i’w gilydd yn anhapus gyda’r canlyniadau.

Felly sut mae Cymdeithas Tai Charter yn mynd i’r afael â hyn? Un o’r pethau rwy’n ei hoffi’n fawr am ei gwaith yw ei bod nhw am wneud llawer o newidiadau bychain, a hefyd ei bod am wneud y newidiadau hynny yn raddol. Maen nhw wedi newid y daflen arolwg sy’n cael ei defnyddio ac maen nhw’n ystyried p’un a yw hi bob amser yn angenrheidiol cynnal arolwg os yw’r tŷ mewn cyflwr rhesymol. Golyga hyn fod gan gontractwyr fwy o ryddid i ymgymryd â gwaith priodol.

Cymryd perchenogaeth o gwynion

Y cam nesaf yn y gwaith o symleiddio’r broses hon yw i syrfewyr gymryd mwy o berchnogaeth o’r cwynion maent yn eu cael. Ar hyn o bryd, mae’r Rheolwr Gwasanaethau Cymorth yn casglu cwynion ac yn treulio diwrnod yr wythnos yn delio â nhw, sydd ddim yn ddefnydd effeithiol o’i amser. Mae rhan o’r ateb yn dechnegol, ac mae Charter yn rhoi’r systemau gwybodaeth cywir i syrfewyr er mwyn iddynt gael gwell mynediad at ddata. Maen nhw bellach yn cynnal sesiynau hyfforddiant ar ddefnyddio’r system er mwyn uwchsgilio pawb.

Ail ran y broses hon yw’r elfen ddynol, lle mae’r cwrs Frontline Futures wedi ychwanegu gwerth gwirioneddol. Mae Owain wedi bod yn hyfforddi staff fel eu bod yn teimlo eu bod yn gallu delio â phroblemau eu hunain heb uwchgyfeirio materion. Mae’r materion hyder hyn yn cyd-fynd â damcaniaeth Jonathan Haidt am yr eliffant, y reidiwr a’r llwybr, y rhannodd Melys â ni yn y blogbost blaenorol. Yn y ddamcaniaeth hon, y system emosiynol sy’n darparu’r grym i wella gwasanaethau, nid y system resymegol.

Mae Owain wedi bod yn cyflwyno’r hyfforddiant hwn drwy gwrdd ag unigolion, lle mae’n nodi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt a pha rwystrau sy’n bodoli. Nid yw Owain wedi disgrifio’r sesiynau hyn fel sesiynau hyfforddiant i’r staff, yr oll ydynt yw cyfarfodydd un i un. Mae’r cyfarfodydd hyn wedi ei helpu i nodi pam bod staff yn amharod i wneud penderfyniadau eu hunain. Mae hefyd wedi defnyddio’r technegau hyfforddi hyn mewn cyfarfodydd tîm, lle bydd staff yn dod i’r cyfarfod gyda phroblem. Yna maent yn myfyrio ar y ffordd y gwnaethant ddelio â’r broblem yn y gorffennol ac yn ystyried sut y gallant ei datrys. Mae syrfewyr bellach yn siarad yn fwy agored am y problemau maent yn eu hwynebu, maent yn fwy ymwybodol o briodolrwydd eu hymatebion a bellach maent yn cymryd perchnogaeth o ymholiadau tebyg ac yn delio â nhw eu hunain.

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da wedi gwneud llawer o waith yn y gorffennol ar rymuso staff, gan gynnwys ystyried ymddiriedaeth staff, sy’n hanfodol i rymuso staff. Rydym hefyd wedi bod yn edrych ar sut mae sefydliadau wedi cymryd risgiau a reolir yn dda er mwyn arloesi, lle rydym wedi dysgu bod dulliau ‘diogel i fethu’ yn aml yn debygol o alluogi staff i ddarparu gwasanaethau gwell. Mae gennyf lyfr ar symud i ffwrdd o’r system gorchymyn a rheoli ar fy rhestr darllen, ac mae siarad ag Owain yn sicr wedi cynyddu fy niddordeb yn y ffordd y gall hyfforddiant helpu staff i symud i ffwrdd o ganolbwyntio’n llwyr ar brosesau i edrych ar sut y gall ymagweddau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau arwain at wasanaethau cyhoeddus gwell.

Gwneud defnydd o ddata agored

Read this blog post in English

Yn ddiweddar fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru rhyddhau ein Dataset Agored cyntaf. Beth ddigwyddodd nesaf? Isod mae Ben Proctor o Sefydliad Data Agored Caerdydd yn trafod sut y gwnaeth ddefnydd o’r data.

Sgrînlun o fap deinamig a grëwyd gan Ben Proctor i ddangos lefelau Treth y Cyngor fesul pen y boblogaeth yng Nghymru

Sgrînlun o fap deinamig a grëwyd gan Ben Proctor i ddangos lefelau Treth y Cyngor fesul pen y boblogaeth yng Nghymru

Www! Data newydd

Roeddwn yn gyffro i gyd pan welais fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddata fel data agored. Mae data agored yn ddata y gall unrhyw un gael mynediad atynt a’u defnyddio a dyma’r math mwyaf defnyddiol o ddata.

Ysgrifennodd Dyfrig Williams o Swyddfa Archwilio Cymru am y broses roeddent wedi mynd drwyddi er mwyn cyhoeddi’r set hon o ddata (crynodeb o ddata archwilio pob awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn ). Mae’r data ar ffurf tabl syml a gallwch ei lawrlwytho fel ffeil CSV (yn y bôn ffeil a fydd yn gweithio mewn unrhyw raglen taenlen) yma.

Ond mae problemau

Lawrlwythais y ffeil a gweld rhai problemau’n fuan. Nid gwallau yw’r rhain yn union, ond maent yn bethau sydd ar goll neu’n anghyson a fydd yn gwneud rhai defnyddiau o’r data ychydig yn anoddach. Ond nid cwyn yw hyn, oherwydd mai un o nodweddion deniadol data agored yw y gallwn ddatrys y problemau hyn. Gallaf wneud hyn oherwydd bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi’r data o dan Drwydded Llywodraeth Agored. Mae hyn yn dweud wrthyf nad oes angen ei chaniatâd arnaf i wneud unrhyw beth gyda’r data ac nad oes terfynau o ran yr hyn y gallaf ei wneud gyda nhw (heblaw bod yn rhaid i mi fod yn glir o ble y daethant).

Gallaf unioni’r problemau

Dyma’r pethau a wneuthum i’m copi i o’r data.

Newidiais fformat “y golofn blwyddyn ariannol” oherwydd bod rhai o’r rhain yn rhifau ac mae rhai’n destun yn ffeil Swyddfa Archwilio Cymru.

Ychwanegais golofn o godau Gwasanaeth Ystadegol y llywodraeth (GSS). Mae codau GSS yn godau a ddefnyddir er mwyn nodi awdurdodau lleol (a ffiniau eraill). Mae cael cod GSS yn golygu nad oes rhaid i chi boeni a yw’r data’n dweud Cyngor Môn, Cyngor Ynys Môn neu Anglesey Council. A chyda chod GSS, gallwn ychwanegu “polygonau” ar gyfer pob cyngor. Yn y bôn, mae polygonau’n gyfarwyddiadau ar sut mae darlunio amlinell o bob cyngor a gwybodaeth am ble i roi’r darlun ar fap.

Gyda’r newidiadau hyn, roeddwn yn gallu darlunio cyfres o fapiau a oedd yn dangos lefel y Dreth Gyngor y pen ym mhob awdurdod lleol a sut mae hyn wedi newid gyda threigl amser.

A rhoi ffeil well i Swyddfa Archwilio Cymru

Ac rwyf wedi gallu rhoi ffeil KML yn ôl i Swyddfa Archwilio Cymru. Dyma ffeil y mae’n addas ei defnyddio mewn meddalwedd mapio. Mae unrhyw un sydd am weld data Swyddfa Archwilio Cymru ar fap yn gallu agor ffeil KML a dechrau arni.

Gallwch lawrlwytho’r ffeil fapio hon eich hun.

Pam gwnes i hyn?

Rwy’n rhan o’r tîm craidd yn ODI-Caerdydd, felly mae data agored yn beth cyffrous i mi.
Cymerodd ychydig iawn o funudau i mi.
Rwy’n ceisio gwella ar ddefnyddio gwasanaeth Google o’r enw Fusion Tables a dyma gyfle da i ymarfer.
Mae gennyf dipyn o ddiddordeb yn yr hyn y gallai’r data hyn ei ddweud wrthym.

Cyflawni arbedion a chynllunio at y dyfodol

Yn y blog canlynol, mae Jeremy Evans, Rheolwr Llywodraeth Leol yn Swyddfa Blog - JeremyArchwilio Cymru, yn trafod sut y mae cynllunio arbedion yn chwarae rôl hollbwysig o ran cefnogi cydnerthedd ariannol cynghorau, a hynny yn sgil cyhoeddi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cynllunio Arbedion mewn Cynghorau yng Nghymru.

Mae’n hollbwysig cynllunio arbedion yn effeithiol er mwyn gwarchod arian cyhoeddus yn effeithiol a darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon – mewn geiriau eraill, mantoli’r gyllideb a pharhau i ddarparu gwasanaethau o safon i’r cyhoedd ar yr un pryd.

Mae angen i’r cynghorau lunio cynllun ariannol tymor canolig sy’n nodi sut y byddant, ar lefel uchel, yn gweithredu o fewn terfynau’r incwm y byddant yn ei gael, boed gan Lywodraeth Cymru neu o ffynonellau eraill, fel y dreth gyngor. Mae angen i’r cynllun hwn edrych dair i bum mlynedd i’r dyfodol. Fe wnaethom ni ganfod bod pob cyngor wedi paratoi cynllun o’r fath.

Cau’r bwlch

Ar ôl pennu’r diffyg yn eu hincwm – y bwlch rhwng yr hyn sydd ganddynt a’r hyn sydd ei angen arnynt – mae angen i’r cynghorau nodi sut y byddant yn cau’r bwlch hwnnw dros gyfnod y cynllun. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae angen i gynlluniau’r flwyddyn gyfredol fod yn fanwl iawn, ond mae’r cynlluniau ar gyfer y ddwy neu dair blynedd ganlynol yn llai manwl.

Po fwyaf y mae’r cynghorau’n llwyddo i gyflawni eu harbedion, po leiaf yw’r pwysau arnynt i gael hyd i ffrydiau cyllido untro i fantoli’r gyllideb. Mae hefyd yn lleihau’r pwysau ar wasanaethau i barhau i gyflawni’r arbedion sy’n weddill o’r flwyddyn flaenorol a mynd i’r afael, ar yr un pryd, â’r arbedion a bennwyd ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Os nad oes rhaid defnyddio tanwariant, cronfeydd wrth gefn neu incwm arall nas cynlluniwyd i fantoli’r gyllideb, gellir defnyddio’r arian mewn ffordd fwy ystyriol – ac fe all helpu’r cynghorau i ariannu mentrau a fydd yn dod â manteision ariannol yn y dyfodol.

Beth yw nodweddion cynllun arbedion llwyddiannus?

I lwyddo, rhaid i gynlluniau arbedion fod yn benodol, yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, yn realistig ac yn amserol. Fe wnaethom ni ganfod bod tua hanner y cynghorau wedi paratoi cynlluniau o’r fath.

I fod yn dryloyw, mae’n hollbwysig nodi’n glir sut y bydd yr arbedion yn cael eu cyflawni. O wneud hyn, bydd pawb yn deall yr hyn sy’n rhaid digwydd, a bydd modd codi unrhyw bryderon am effaith yr arbedion mewn da bryd.

Mae’n bwysig nodi gwerthoedd cywir yr arbedion a phennu amserlenni realistig ar eu cyfer. O wneud hyn, bydd yn sicrhau bod meincnod clir ar gael er mwyn dwyn gwasanaethau i gyfrif ac asesu eu cynnydd, gan nodi unrhyw broblemau’n gynnar.

Wrth i’r pwysau ariannol barhau, mae gallu’r cynghorau i wneud arbedion canrannol cyffredinol ar draws pob gwasanaeth yn lleihau. Mae angen iddynt gyflawni arbedion drwy wneud newidiadau mwy sylfaenol i’r modd y maent yn darparu gwasanaethau neu’r modd y mae’r cynghorau’n gweithredu. Fe wnaethom ni ganfod ei bod yn cymryd mwy o amser i gyflawni arbedion o’r fath oherwydd eu bod yn fwy cymhleth ac oherwydd y gall fod mwy o risg ynghlwm wrthynt. O ran arbedion trawsnewidiol o’r fath, mae mwy o angen sicrhau bod y cynlluniau’n gywir.

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad

Ar 8 Awst, bydd ein tîm y Gyfnewidfa Arfer Da yn cynnal gweminar ar Feithrin Cydnerthedd Ariannol yn y gwasanaethau cyhoeddus. Nod y weminar hon yw rhannu dulliau gweithredu newydd ar gyfer meithrin cydnerthedd ariannol (gan gynnwys enghreifftiau o arfer da) a nodi’r rhwystrau allweddol a sut i’w goresgyn.

Mae’r seminar hon wedi’i hanelu at aelodau a swyddogion yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys:

  • Penaethiaid Gwasanaethau
  • Rheolwyr Gwasanaeth/Gweithredol sy’n gyfrifol am gyflawni gweithredol ar raddfa fawr
  • Deiliaid cyllideb
  • Swyddogion Adran 151 a Rheolwyr Cyllid
  • Aelodau’r Cabinet â chyfrifoldebau am y gyllideb a chynllunio fel rhan o’u portffolio.

Bydd y gweminar yn cael ei recordio ac ar gael ar YouTube tua 1-2 wythnos ar ôl y gweminar fyw ar 8 Awst. Mae hyn yn galluogi inni ychwanegu is-deitlau yn Gymraeg a Saesneg.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gweminar ar ein gwefan neu drwy gysylltu ag aelod o dîm y Gyfnewidfa Arfer Da ar e-bost: arfer.da@archwilio.cymru

Pam mae Safonau Agored yn arwain at wasanaethau cyhoeddus gwell

Read this blog post in English

Sut y gall defnyddio Safonau Agored sicrhau y caiff systemau Technoleg Gwybodaeth a gwasanaethau cyhoeddus eu hintegreiddio’n well? Mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar yr hyn a ddysgodd drwy gymryd rhan yng ngweminar y Gyfnewidfa Arfer Da ar Safonau Agored.

Mae digidol wedi bod yn un o themâu allweddol ein gwaith ers sbel. Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ar y thema, o’n seminar ar Dechnoleg Gwybodaeth fel rhan o’n gwaith ar asedau yn 2013, i’n gweminar diweddaraf ar Safonau Agored.

Hwn yw’r digwyddiad â’r thema fwyaf technolegol a gynhaliwyd gennym ers ein gweminar ar Gyfrifiadura Cwmwl, ond mae’n bwnc roeddem yn awyddus iawn i roi sylw i gan fod Safonau Agored yn bwysig iawn i integreiddio gwasanaethau cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae gwasanaethau hyfforddi ac ymgynghori ledled Prydain yn anfon deunydd marchnata sy’n gwerthu pob math o gynnyrch a gwasanaethau â’r rhagddodiad “digidol”. Mae Safonau Agored yn allweddol i’w gwneud yn bosibl i lawer o’r gwasanaethau sy’n cael eu gwerthu i integreiddio â’i gilydd a gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ystod ein gweminar, disgrifiais Safonau Agored fel safonau a ddatblygir drwy broses gydweithrediadol ar gyfer data, fformatau dogfennau a rhyngweithredadwyedd meddalwedd. Ond fel y nododd Evan Jones, nid oes unrhyw ddiffiniad cyffredinol y cytunwyd arno o Safonau Agored – sy’n eironig! Felly, am y rheswm hwnnw yn unig, mae’n werth cael gwybod am y weminar!

Felly, beth oedd fy mhwyntiau dysgu allweddol?

“Gwnewch y gwaith caled i wneud pethau’n hawdd”

Rhoddodd Terence Eden o Wasanaeth Digidol Llywodraeth y DU i ni feddwl amdano yn ystod y weminar. Dilynwyd y perl hwn gan un arall, sef “Dyw e ddim amdano chi, mae fe amdano’r defnyddwyr.” Y cwestiwn cyntaf a ofynnwyd gan un o’r cynadleddwyr oedd a fyddai’n anodd rhoi’r Safonau Agored ar waith gyda’u technoleg bresennol. Fe wnaeth ymateb Terence gwneud i mi feddwl fod Safonau Agored yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn hytrach na bod yn nod ynddynt eu hunain. Dylem fod yn meddwl am sut y gallwn ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i’r defnyddiwr terfynol, ac nid yw defnyddio safonau perchenogol sy’n rhwystro integreiddio yn helpu i gyflawni’r nod hwnnw. Fel y dywedodd Terence, “Gall Safonau Agored achub bywydau!”

Rydym wedi meddwl llawer yn y Gyfnewidfa Arfer Da am yr amgylcheddau cymhleth ac anodd lle y darperir gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein Rheolwr Chris Bolton wedi ysgrifennu’r eitem wych hon ar y problemau sy’n gysylltiedig â mabwysiadu un dull i ddatrys pob problem mewn sefyllfa lle y ceir llawer o newidynnau. Y broblem sy’n gysylltiedig â pharhau i ddilyn y llwybr perchenogol yw ein bod yn ychwanegu haenau o gymhlethdod at amgylchedd sydd eisoes yn gymhleth. Mae’n lleihau’r opsiynau ar gyfer gwasanaethau ac yn golygu bod yn rhaid i’r atebion eu hunain fod yn fwyfwy cymhleth, a all greu rhagor o broblemau a lleihau dibynadwyedd. Mae’n werth darllen sut y trefnodd Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol yn Seland Newydd fod eu systemau gwybodaeth yn rhai agored yn ddiofyn, a arweiniodd at system Technoleg Gwybodaeth fwy dibynadwy a chadarn oherwydd y cyfluniad mwy trefnus heb ganiatadau a chyfyngiadau di-ben-draw.

Nid yw Safonau Agored ar gyfer arbenigwyr ym maes Technoleg Gwybodaeth yn unig

Nid oedd y trafodaethau yn ystod y weminar yn ymwneud â systemau Technoleg Gwybodaeth yn cydweithio’n dda yn unig. Nodais uchod fod Safonau Agored yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus gwell ac, felly, ni ddylai gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ohonynt fod yn gyfyngedig i adrannau Technoleg Gwybodaeth. Maent yn helpu i integreiddio systemau a galluogi cydweithredu. Gellir defnyddio’r data a gasglwyd i gynllunio ar gyfer yr hirdymor, felly mae’n amlwg sut y gallant fod o fudd mawr i alluogi sefydliadau i weithio drwy rai o’r ffyrdd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Os ydym am gasglu data i wneud gwaith cynllunio effeithiol a chydweithio er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, yna mae’n bwysig bod cynrychiolwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, o Aelodau Etholedig i Reolwyr Prosiectau Cyfalaf, yn ymwybodol o Safonau Agored.

Pŵer caffael

Yn gysylltiedig â’r pwynt uchod sy’n nodi bod Safonau Agored yn bwysig y tu hwnt i faes Technoleg Gwybodaeth, mae’n rhywbeth y dylai staff mewn rolau caffael ei ystyried. Maen nwh’n lleihau cymhlethdod er mwyn galluogi integreiddio, a hefyd maent hefyd yn agor cyfleoedd caffael y tu hwnt i werthwyr mawr i fusnesau bach a chanolig. Mae’n amlwg bod hyn yn gysylltiedig â rhai o’r Canlyniadau Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â Chymru Lewyrchus a Chymru gydnerth (yn economaidd).

Fel y nododd Evan Jones yn ystod y weminar, mae Safonau Agored hefyd yn eich helpu i ystyried systemau o safbwynt mwy hirdymor, achos y byddan nhw’n rhyngweithredadwy â chi yn y dyfodol. Cafwyd trafodaeth dda hefyd ynghylch annog gwerthwyr i weithio gyda Safonau Agored yn ystod y weminar, ac fel y dywedodd Jess Hoare, mae’n bwysig cofio mai ni, fel gwasanaethau cyhoeddus, sy’n caffael gwasanaethau. Efallai ei bod yn hawdd anghofio yn y sefyllfaoedd hyn mai gyda ni, fel caffaelwyr, y mae’r pŵer yn ystod trafodaethau. Anogodd Evan bob un ohonom i drafod â gwerthwyr – os na allant storio data mewn Safon Agored, dylech amau eu cymhellion.

Y camau nesaf

Caiff adnoddau o’r gwaith hwn ar Safonau Agored eu bwydo i mewn i’n gwaith Digidol er mwyn sicrhau y bydd ei effaith yn parhau a hefyd roi i bobl sydd â diddordeb yn yr agenda rywbeth i gnoi cil drosto. Rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn rannu’r gwaith hwn yn fewnol hefyd. Rwyf wedi bwydo’r hyn a ddysgais o’r weminar i brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, ac rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn rannu’r hyn a ddysgwyd ag archwilwyr, gan fod gan Safonau Agored rôl allweddol i’w chwarae o ran sicrhau y gall systemau a sefydliadau gydweithio’n effeithiol i sicrhau gwerth am arian. Mae meddwl byrdymor yma yn cael effaith fawr yn y tymor hwy.

Rydym hefyd wedi trefnu gweminar ar gaffael fel rhan o raglen eleni, sy’n rhoi cyfle i ni edrych unwaith eto ar rai o’r materion a godir yma. Rydym wedi dod ar draws rhai enghreifftiau o arfer diddorol yn ystod ein gwaith cwmpasu cychwynnol ar gaffael, yn enwedig sut mae CivTech wedi mabwysiadu dull gwahanol o ysgogi arloesedd yn yr Alban. Hoffem glywed gennych os oes gennych enghreifftiau eraill o arfer y gallwn dynnu sylw atynt. Oherwydd wedi’r cwbl, dim ond os bydd yn dysgu o’r materion allweddol rydych yn eu hwynebu fel gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn eu hadlewyrchu y bydd ein gwaith yn llwyddiannus.

A yw cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y broses benderfynu yn arwain at benderfyniadau gwell?

Read this blog post in English

Cynhaliodd y Gyfnewidfa Arfer Da seminar beilot ar sut i reoli risg mewn perthynas â newid sefydliadol, trawsnewid gwasanaethau ac arloesedd. Yn y blog hwn, mae Chris Bolton yn ystyried beth mae pobl yn ei ddefnyddio i’w helpu i wneud penderfyniadau ynghylch risg.

Dyma’r trydydd o gyfres o flogiau yn dilyn sesiwn beilot a gynhaliwyd ar gymryd risgiau a reolir yn dda. Ceir esboniad o’r sesiwn yn y blog cyntaf, ‘Cyd-destun yw popeth‘.

Pam cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y broses benderfynu?

Ar hyn o bryd, mae llawer o weithgarwch yn mynd rhagddo ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ‘gynnwys’ dinasyddion a defnyddwyr gwasanaeth. Mae pethau fel Pum Ffordd o Weithio Deddf Genedlaethau’r Dyfodol (cynnwys) ac Egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus (cyd-gynhyrchu) oll yn chwarae eu rhan wrth annog yr ymddygiad hwn.

Wrth i’r holl weithgarwch hwn fynd rhagddo, mae’n rhesymol gofyn y cwestiynau ‘a yw cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn gwneud gwahaniaeth iddynt? ac ‘a yw’n arwain at unrhyw fanteision?’

Sut ydych chi’n gofyn cwestiwn anodd fel hwnnw?

Pan ddywedwyd ein bod yn profi’r dechnoleg ac yn gwthio ein dealltwriaeth hyd yr eithaf, dyma sut …

Gwnaethom osgoi gofyn y cwestiwn yn uniongyrchol drwy edrych ar y data o safbwynt ychydig yn wahanol. Echdynnwyd data o ddau driongl gwahanol, sydd wedi’u dangos isod (Graffigau 1 a 2), a oedd yn rhoi sylw i ddefnyddwyr gwasanaeth mewn rhyw ffordd:

  • Manteision i ddefnyddwyr gwasanaeth
  • Pwy all gyfrannu’r wybodaeth fwyaf at y penderfyniad?

Triongl lle symudodd pobl pwynt i nodi os mai'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, defnyddwyr gwasanaeth neu weithwyr sy'n elwa os mae pethau'n gweithio allan

Triongl lle symudodd pobl pwynt i nodi os mai'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, defnyddwyr gwasanaeth neu weithwyr sy'n elwa os mae pethau'n gweithio allan

Gwthio ein dealltwriaeth, creu plot X/Y

Nesaf, crëwyd plot X/Y a oedd yn edrych ar y manteision i ddefnyddwyr gwasanaeth a faint o wybodaeth maent yn ei chyfrannu at y penderfyniad.

Roeddem yn meddwl, os yw’n fuddiol cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y broses benderfynu, y dylem weld perthynas ar blot X/Y. Byddai hyn i’w weld gliriaf drwy blotio llinell syth drwy’r dotiau. Y syniad sylfaenol a ddilynwyd oedd:

  • Os bydd llinell yn ymddangos sy’n mynd o’r chwith i’r dde a thuag i fyny, ceir perthynas gadarnhaol, ac mae cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y broses benderfynu yn arwain at fwy o fanteision iddynt. Po fwyaf y cânt eu cynnwys, po fwyaf fydd y manteision.
  • Os bydd llinell yn ymddangos sy’n mynd o’r chwith i’r dde a thuag i lawr, mae’r gwrthwyneb yn wir. Mae cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y broses benderfynu yn arwain at lai o fanteision iddynt.
  • Byddai llinell wastad yn awgrymu nad oes perthynas rhwng y ddau.

Sut olwg oedd ar y plotiau X/Y

Graff sy'n plotio budd defnyddwyr y gwasanaeth yn erbyn faint mae gwybodaeth defnyddwyr gwasanaethau yn llywio penderfyniadauGraffig 3.

  • Mae’r llinell yn mynd tuag i fyny, sy’n awgrymu perthynas gadarnhaol.
  • Po fwyaf o wybodaeth defnyddwyr gwasanaeth a ddefnyddir i gyfrannu at benderfyniad, po fwyaf fydd y manteision iddynt.
  • *gweler y cafeatau ar y diwedd

 

Graff sy'n plotio budd defnyddwyr y gwasanaeth yn erbyn faint mae gwybodaeth defnyddwyr gwasanaethau yn llywio penderfyniadau. Mae'r llinell esgynnol yn dangos dull diogel i fethu, ac mae'r llinell ddisgynnol yn dangos dull nad yw methiant yn opsiwn

 

 

Graffig 4. Fframweithiau Gwahanol

  • Mae hwn yn dangos y canlyniadau pan fydd y data yn cael eu rhannu ar draws y ddau ddull o reoli risg a gyflwynwyd:
    • Mae’n ddiogel i fethu (glas golau)
    • Nid yw methu yn opsiwn (gwyrdd tywyll)
  • Ceir gwahaniaeth amlwg rhwng y llinellau syth drwy’r dotiau.
  • Mae’r llinell las golau (mae’n ddiogel i fethu) yn awgrymu perthynas gadarnhaol.
  • Mae’r llinell wyrdd tywyll (nid yw methu yn opsiwn) yn awgrymu bod cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn fwy yn arwain at lai o fanteision iddynt.

A yw’r senario yn gwneud gwahaniaeth?

Dull arall o archwilio’r data oedd edrych ar y senarios a ddefnyddiwyd. A yw’r senario yn dylanwadu ar farn pobl ar gynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y broses benderfynu? Y tri senario a ystyriwyd oedd:

  1. Rhannu data. Cynnig i rannu data ar ddefnyddwyr gwasanaeth rhwng sefydliadau gwahanol.
  2. Cwynion defnyddwyr gwasanaeth. Gwella’r dull o ymdrin â chwynion mewn sefydliad unigol (a ffurfiwyd ar ôl cyfuno sefydliadau gwahanol).
  3. Mynd i’r afael â gordewdra. Problem ar gyfer cymdeithas gyfan sy’n cynnwys sawl sefydliad.

Graff sy'n plotio budd defnyddwyr y gwasanaeth yn erbyn faint mae gwybodaeth defnyddwyr yn llywio penderfyniadau. Y llinell fwyaf esgynnol yw mynd i'r afael â gordewdra, gyda'r llinellau mwy gwastad yn edrych ar rannu data a mynd i'r afael â gordewdra

Graffig 5. Dylanwad senario

  • Mae’r llinell goch ar gyfer y data ar fynd i’r afael â gordewdra yn wahanol iawn i’r llinellau ar gyfer rhannu data a chwynion defnyddwyr gwasanaeth.
  • Mae cyfeiriad y llinell goch tuag i fyny yn awgrymu y bydd cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y broses benderfynu yn arwain at fwy o fanteision cadarnhaol iddynt.
  • Gan fod angen canolbwyntio’n fwy ar drefniant o fewn neu rhwng sefydliadau yn achos y senarios ar rannu data a chwynion defnyddwyr gwasanaeth, yn hytrach na gweithio’n agos gyda defnyddwyr gwasanaeth yn achos y senario ar fynd i’r afael â gordewdra, mae hyn yn esboniad posibl dros y gwahaniaeth rhwng y llinellau.

Felly, a yw cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y broses benderfynu yn arwain at benderfyniadau gwell?

Mae ein dadansoddiad yma yn awgrymu, mewn rhai sefyllfaoedd, nad yw defnyddio gwybodaeth defnyddwyr gwasanaeth yn arwain at fwy o fanteision iddynt.

Roedd hyn yn dibynnu ar y cyd-destun a roddwyd i’r bobl a gymerodd rhan yn yr arbrawf a sut roeddent yn meddwl ar y pryd.

Gwelwyd perthynas gadarnhaol pan oeddent yn meddwl am sefyllfa ‘diogel i fethu’, a pherthynas negyddol mewn cyd-destun ‘nid yw methu yn opsiwn’.

Gallai hyn awgrymu nad oes cymaint o bwyslais ar gynnwys defnyddwyr gwasanaeth wrth weithredu mewn amgylchedd ‘Nid yw methu yn opsiwn’ o gymharu â dull diogel i fethu, gan awgrymu bod cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn dod yn llai ystyrlon ac yn fwy symbolaidd mewn amgylchiadau ‘Nid yw methu yn opsiwn’.

Dangosodd y senarios a gyflwynwyd wahaniaeth sylweddol yn y ffordd y gwnaeth pobl ymateb. Mewn senario lle roedd angen rhyngweithio â defnyddwyr gwasanaeth (mynd i’r afael â gordewdra), gwelwyd perthynas fwy cadarnhaol na’r berthynas a welwyd mewn senarios a ganolbwyntiodd yn fwy ar brosesau a gweithio rhwng a chyda sefydliadau (rhannu data a chwynion defnyddwyr gwasanaeth).

*Cafeatau. Cofiwch fod cafeatau enfawr o ran y data hyn a’r gwaith dadansoddi cyfyngedig a gynhaliwyd, er enghraifft:

  • Pa ddylanwad y byddai grŵp mwy o faint a mwy amrywiol o bobl yn ei gael ar y canlyniadau?
  • Pa ddylanwad y byddai barn defnyddwyr gwasanaeth yn ei gael ar y canlyniadau?

Yn olaf. Fel y soniwyd yn gynharach, mae hyn yn arbrawf i ni ac yn enghraifft o ‘weithio mewn modd gweledol ac agored.’ Hoffem wneud llawer mwy gyda’r data hyn. Rydym yn sicr nad yw pethau’n iawn gennym, a byddem yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau ac adborth ar yr hyn rydym wedi rhoi cynnig arno. Os hoffai unrhyw un edrych ar y set ddata a helpu i wella ein dealltwriaeth, cysylltwch â ni. Byddem yn falch iawn o siarad â chi.

Mae’r blog hwn yn gysylltiedig â blogiau eraill i’w darllen:

%d bloggers like this: