“Y gorau o bresgripsiynu cymdeithasol”

Symptom nid achos yw digartrefedd – dyma ddull wedi’i deilwra i anghenion yr unigolyn.

Cyflwynodd Doctor Karen Sankey yn ddiweddar yn ein seminar ar atal derbyniadau diangen i’r ysbyty. Rhoddodd ei chyflwyniad gipolwg go iawn ar fyd cymhleth iawn pobl nad oes ganddynt le i fyw ar hyn o bryd. Gwahoddodd Karen ni i brofi sut maent wedi cynllunio’r gwasanaeth hwn i gefnogi pobl sy’n byw yn yr amgylchiadau hyn. Dyma ein barn am yr hyn a welsom.

Yn gweithio ochr yn ochr â Karen i greu’r Hwb oedd Dewi Richards, rheolwr iechyd meddwl, a Tanya Jones, a oedd bryd hynny yn gweithio fel gweithiwr allgymorth i’r Wallich.

Cawsom ein syfrdanu a dyma ni’n ceisio rhoi ein hunain yn esgidiau’r bobl y gwnaethom gwrdd â nhw yno. Fe ddechreuon ni gyda chwestiwn anodd iawn: Os nad oedd gennych le i fyw, beth fyddech chi’n ei wneud? Os oeddech yn ardal Wrecsam, efallai mai dyma fyddai’r ateb.

Beth yw’r Hwb Gofal Cymunedol? (CCH/“yr hwb”)

Bob bore Gwener, mae pob math o wasanaethau yn dod at ei gilydd mewn neuadd yn Wrecsam, i gynnig cymorth a chyngor i bobl sy’n ddigartref neu sy’n cysgu allan. Nid oes yna apwyntiadau, mae’n wasanaeth cerdded i mewn. Mae’n cynnig gwasanaethau mor amrywiol â thai, podiatreg, meddyg teulu, yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Gwasanaeth Prawf i gyd o dan un to.

Dull dynol

Datblygwyd y dull cyfannol hwn, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn oherwydd, fel y mae Dr Sankey yn esbonio, dechreuodd hi, Dewi a Tanya o le “heb reolau”. Fe wnaethant greu’r hwb i sicrhau bod holl anghenion rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yn cael eu diwallu. Mae Dr Sankey yn dweud bod pobl sy’n ddigartref neu sy’n cysgu allan yn aml yn byw bywydau anhrefnus iawn. Mae pobl ddigartref yn aml yn cael eu gwthio i’r cyrion ac yn byw ar ymylon cymdeithas. Gall hyn olygu eu bod nhw’n aml yn bell iawn o gael yr un mynediad cyfartal at wasanaethau ag eraill, oherwydd anhrefn eu bywydau. Mae goresgyn hyn wrth wraidd y gwaith sy’n cael ei wneud yn y CCH, ac maent yn bendant yn mynd rhywfaint o’r ffordd i gyflawni hyn.

Dywedodd Dr Sankey wrthym fod unigolyn wedi dod draw i’r hwb i ddweud ei fod yn poeni am hepatitis, felly trefnodd yr hwb sesiwn clinig galw heibio yn dilyn codi’r mater hwn. Maent yn gwrando’n rhagweithiol ar yr unigolion y maent yn gweithio gyda nhw ac yn ymateb yn ystyrlon i’w hanghenion. Mae ganddynt wir ymrwymiad i fwrw ymlaen i ddiwallu anghenion yr unigolyn. Er bod y gwasanaeth hwn yn benodol i bobl ddigartref, nid yw’n anodd dychmygu’r model gwahanol iawn hwn yn cael ei addasu ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Mae hwn yn ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn rhywbeth yr oeddem yn meddwl oedd yn cael effaith wirioneddol ar bobl yn Wrecsam. Trwy gael yr holl wasanaethau mewn un lle, mae’n atal problemau rhag gwaethygu ac yn rhoi gwell cyfle i unigolion i godi’n ôl ar eu traed. Mae’n gwneud synnwyr!

Roedd yna ymdeimlad o fywiogrwydd a phrysurdeb yn yr ystafell yn CCH. Maent wedi creu awyrgylch hyfryd; nid oes neb yn gwisgo bathodyn neu wisg, felly ni allwch ddweud pwy yw’r darparwr gwasanaeth na phwy sy’n derbyn y gwasanaeth. Maent wedi creu man cyfartal, di-strwythur, di-rym a diogel i bobl gael mynediad at wasanaethau gydag urddas a pharch. Mae ganddynt ddull dynol iawn. Mae llawer o’r unigolion sydd wedi derbyn y gwasanaethau yn CCH bellach yn gwirfoddoli ac yn mentora eraill sy’n dod i’r hwb. Mae hyn wir yn dangos yr effaith mae’r hwb yn ei chael. Maent yn trawsnewid bywydau pobl gyda’r dull hwn.

Felly, beth nesaf?

Mae’r hwb yn y broses o gymryd drosodd 3 meddygfa yn Wrecsam gyda bron i 20,000 o gleifion ac maent yn dymuno defnyddio eu model ‘pawb yn yr ystafell’ a ddatblygwyd yn yr Hwb mewn gosodiad Gofal Sylfaenol.

Rwy’n siŵr ar ôl darllen y blog hwn, ei fod wedi gwneud i chi feddwl – felly gwrandewch ar y bobl sydd ynghlwm, y rhai sy’n darparu ac yn derbyn y gwasanaethau. Wnewch chi ddim difaru.

Os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â Karen ar wefan CCC.

Darllenwch erthygl y BBC yma: https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-48556009

Gadael Ymateb