Sgwrs gyda Cletwr

Yn ddiweddar galwasom i weld Karen yn Cletwr ar ôl clywed pethau gwych gan aderyn bach ynglŷn â’r gwaith y mae’n nhw’n ei wneud gyda chymuned Tre’r Ddôl yng Ngheredigion. Rydym yn y camau cynnar iawn o gynllunio digwyddiad sy’n arddangos sut mae’r gwasanaethau yn cael eu darparu yng nghymunedau gwledig ac roeddem am rannu’r blog ymddiddanol hwn cyn y digwyddiad.

Rydym yn glustiau i gyd i brosiectau arloesol a gwahanol ffyrdd o ddarparu gwasanaethau, waeth beth yw’r sefydliad na’r sector. Cysylltwch os oes gennych rywbeth yr hoffech ei rannu ynglŷn â’r ffordd yr ydych chi’n gwneud pethau’n wahanol. 

Gallwch gofrestru ar gyfer ein digwyddiad Cymunedau Gwledig nawr

cletwr image.png

Beth yw Cletwr?

Rydym yn sefydliad nad yw er elw a sefydlwyd i ddod â’r gymuned ynghyd i ddiogelu cyfleusterau a gwasanaethau hanfodol yn yr ardal wledig hon. Yn gyntaf oll: Mae Cletwr yn berchen i’r gymuned ac yn cael ei rhedeg ganddi. Rydym ni’n hoffi meddwl am Cletwr fel siop bentref “â thyrbo”!

Rwy’n gwrando ar y gymuned – os yw pobl yn gofyn i mi gyflenwi rhywbeth, os ydyn nhw am ei brynu, rydw i am ei gyflenwi. Os yw’n mynd yn hen, yna rwy’n gwybod nad dyna sydd ei eisiau arnynt ac ni fyddwn yn prynu dim mwy i mewn. Mae’n bwysig i ni fod yn ymatebol i’r hyn y mae ein cymuned ei eisiau.

Beth oedd eich ysbrydoliaeth wrth greu Cletwr?

Y peth cyntaf – nid fi â’i creodd – y gymuned wnaeth hynny. Roedd ein hadeilad yn siop a gorsaf betrol, ac roedd wedi cau ers 2009. Roedd hyn yn golygu nad oedd unrhyw wasanaethau o gwbl yn y pentref.

Gofynnodd perchnogion y safle a oeddem yn dymuno agor siop – bu iddynt roi’r safle i ni heb orfod talu rhent am gyfnod i’w roi dan brawf. Cefnogodd Huw a Sue Cletwr i’r pen draw ac ni allwn ddiolch iddynt ddigon.

Beth oedd y rhan fwyaf heriol o sefydlu Cletwr?

Ymdrin â disgwyliadau pobl. Mae gan bawb ddisgwyliadau gwahanol felly mae rheoli hyn yn gallu bod yn heriol i ni.

Beth sy’n eich gwneud chi’n falch ynglŷn â Cletwr?

I mi, y cynwysoldeb – mae’n gynnes ac mae teimlad o berthyn yma. Pan gerddwch i mewn, mae’n awyrgylch hyfryd. Rydym fel teulu bach – mae cymaint o bobl yn dweud hynny. Rydym ni wrth ein bodd bod Cletwr wedi dod â’r gymuned ynghyd.

Pa effaith y mae Cletwr wedi’i chael ar y gymuned?

Mae wirioneddol wedi dod â phawb ynghyd. Yn flaenorol, naill ai nid oedd pobl yn adnabod eu cymdogion hyd yn oed, neu eu bod yn adnabod eu cymdogion ond ddim yn ymwybodol o ba sgiliau sydd ganddynt. Pan maent yn dod i Cletwr, maent yn rhannu sgiliau a syniadau, meithrin perthnasoedd ac o ganlyniad, mae’r gymuned wedi tyfu.

Er enghraifft, mae ein grŵp gwau a sgwrs wedi galluogi pobl yn y gymuned i addysgu y naill a’r llall ac mae wedi dod â phawb ynghyd. Mae wedi creu cymuned!

Mae’r effaith y mae Cletwr wedi’i chael ar bethau megis unigedd wedi bod yn wirioneddol wych. Rydym wedi gweld effaith pethau fel grwpiau gwau, siediau dynion, pob mathau o grwpiau ar gynwysoldeb cymdeithasol. Mae’n wych ei weld.

Rydym wedi rhoi toiledau i 3 ysgol yn yr ardal, gan ddefnyddio’r cynllun ‘Toilet Twinning’. Rydych chi’n gwneud cyfraniad tuag at y prosiect a chaiff eich toiled ei baru â thoiled mewn gwlad yn y trydydd byd, a gall pobl wneud cyfraniadau ariannol i gynnal eu toiled. Casglom oddeutu £2000 mewn 12 mis!

Cynllun arall yr ydym wedi’i ddechrau yw llyfrgell gonestrwydd llyfrau Cymraeg. Mae gennym lyfrgell yn cynnwys oddeutu 500 llyfr. Mae un o’n gwirfoddolwyr yn gwarchod y llyfrgell ble gall pobl fenthyca’r llyfr am fis am ddim. Dyma yw un o’r ffyrdd yr ydym yn annog pobl i ymgysylltu â diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.

O ran cynhyrchion a nwyddau, rydym yn ceisio cefnogi’r economi leol gymaint ag y gallwn. Rydym yn ceisio creu “Dyddiau Sadwrn Lleol” lle gall pobl ddod yma ar fore Sadwrn a phrynu pethau lleol gan bobl leol. Mae nifer o bobl yn hoff o wybod eu bod yn cefnogi pobl leol. Mae gennym bobl leol sy’n tyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain, ac os ydynt wedi tyfu gormodedd yna rydym ni’n eu prynu ganddynt. Rydym yn cael cynnyrch fel ffa cochion, riwbob, ciwcymbr – byddant ond yn cael eu compostio fel arall!

Y pleser mwyaf i mi yw gweld faint o effaith mae Cletwr yn ei chael ar eraill yn lleol. Er enghraifft, mae ein cyflenwr mefus wedi gorfod ychwanegu twnnel newydd oherwydd faint yr ydym yn eu prynu; rydym yn prynu cymaint ganddi. Mae gan un arall o’n cyflenwyr 1000 o ieir – cawsom sgyrsiau a dywedodd wrthym nad oedd yn gallu cynnal y galw. Mae ei wyau buarth mor boblogaidd yn Cletwr nes y bydd rhaid iddi brynu mwy o ieir yn yr haf!

Mae gennym fwy na 70 o gyflenwyr i’n siop bentref fach – mae ymdrin â’r anfonebau a thaliadau yn werth y gwaith, pan rydych yn gweld beth yw’r canlyniadau, a’ch bod yn gwybod bod yr arian yn mynd yn ôl i’r ardal.

Mae’n fwy anodd, ond rwy’n llawer fwy bodlon yn fy swydd. Yn ogystal, pan gawsom lawer o eira, roedd y silffoedd i gyd yn yr archfarchnadoedd yn wag…ond bu i’n danfoniadau ni i gyd gyrraedd. Ni wnaethom fethu un danfoniad.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer dyfodol Cletwr?

Cawsom ein hadolygiadau strategol gyda’r bwrdd yr wythnos ddiwethaf. Cytunasom ein bod yn gwneud cymaint gyda’n gilydd, nawr mae angen i ni atgyfnerthu ac edrych ar beth ydym yn ei wneud yn dda, a pharhau gyda’r gwaith yr ydym yn ei wneud, datblygu ein staff a’n gwirfoddolwyr.

Rydym yn gwneud cymaint eisoes – mae’n bryd i ni anelu a chanolbwyntio, a sicrhau bod popeth yr ydym yn ei wneud yn parhau.

Byddwn wastad yn ymateb i anghenion y gymuned – os ydych am wneud rhywbeth, os ydych eisiau rhoi cynnig ar rywbeth, mi wnawn ni ei wneud! Rydym wedi gwneud digwyddiadau cerddoriaeth, er enghraifft pan gaeasom y maes parcio a chael bandiau yn chwarae y tu allan – roedd hwnnw’n brosiect mawr, ac nid oeddem wedi disgwyl y byddai cyn brysured! Ond mantais hynny yw bellach mae gennym nosweithiau cerdd bob mis o ganlyniad. Dyma sut ydym yn ymateb i’r gymuned.

Yn ddiweddar bu i ni gynnal cyrsiau TG – cyrsiau gliniaduron sylfaenol oedd y rhain, a oedd am ddim i’n gwirfoddolwyr, ac i’r rheiny a oedd yn byw o fewn 10 milltir, cynigiom y cwrs am hanner y pris. Bu i’r cyrsiau werthu allan, ac mae’r adborth yr ydym wedi’i gael yn rhagorol. Dywedodd un gwirfoddolwr a fynychodd, “Rwy’n teimlo’n ddiogel yma, rwy’n gyfforddus ”. Dywedodd wrthym y byddai wedi teimlo’n bryderus ynglŷn â mynd i rywle arall. Yma yw ei man diogel. Roedd cael yr hyfforddwr yn dod yma yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Yn aml y pethau bach nad ydych yn meddwl amdanynt sy’n cael yr effaith fwyaf.

Petai un gair o gyngor cyngor y byddech chi’n ei roi i rywun sy’n awyddus dechrau prosiect cyffelyb, beth fyddai’r cyngor hwnnw?

Gwrandewch ar eich cymuned.

Mae’n anodd iawn archebu rhywbeth nad ydych chi’n ei hoffi ond rydw i’n gwneud hynny – rwy’n defnyddio pawb yma – byddaf yn gofyn i’m mab hyd yn oed! Felly, byddwn i’n dweud, gwrandewch ar eich cymuned. Rydym yn ceisio bodloni pawb hyd eithaf ein gallu, waeth beth a ddaw.

Peidiwch ag ofni gwneud camgymeriadau, ond sicrhewch eich bod yn dysgu ohonynt. Mae hynny’n hanfodol.

Diolch i Karen Evans o Cletwr.

Gadael Ymateb