Archifau Misol: Chwefror 2019

Adolygiadau thematig Arolygu Cymru o Gefnogaeth i Bobl Ifanc

Cyn ein digwyddiad ‘Pobl ifanc yn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch beth sy’n bwysig iddynt hwy‘, mae Emma Giles, Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru, wedi ein blogio ynglŷn â gwaith ar y cyd rhwng yr arolygiaethau a’r adroddiadau a ymgymerir â nhw ynghylch cefnogaeth i bobl ifanc yng Nghymru.

Mae gweithio ar y cyd yn heriol, ac o fy mhrofiad i, mae bod yn effeithiol yn gofyn i’r holl bartneriaid fod yr un mor ymrwymedig â’i gilydd wrth osod nodau ac mae angen i’r timau weithio at dargedau cyffredin, gyda methodoleg gyfrannol, a bod yn agored i weithio ar draws ffiniau sefydliadol. I mi, mae sawl ffactor i’w hystyried wrth ymgymryd â phrosiect ar y cyd, o gynllunio ac adnoddi’r prosiect i beri’r diwylliant sydd ei angen i ddarparu prosiect ar y cyd llwyddiannus.

Cynllunio’r gwaith

  1. O’r cychwyn cyntaf mae angen proses gadarn, ddiffiniedig, glir wedi’i deall yn drylwyr er mwyn symud o adnabod opsiynau posibl ar gyfer gweithio ar y cyd i ddatblygu cwmpas a dulliau manwl a chynhyrchu allbynnau terfynol. Rhaid i’r holl bartneriaid fod yr un mor gysylltiedig â’i gilydd wrth ddatblygu’r broses ac yn llwyr barod i weithio arni.
  2. I fod yn llwyddiannus, mae gweithio ar y cyd yn gofyn i staff o wahanol bartneriaid gytuno ar gwmpas cyffredin a methodoleg gyfrannol a glynu atynt wrth weithio.  Er hynny, dylai unigolion allu gweithio yn eu maes arbenigedd eu hunain lle bo hynny’n briodol.
  3. Nid oes angen i bob partner gyfrannu yn yr un modd i ddarn o waith ar y cyd. Yn hytrach, dylai’r cam cynllunio adnabod y cyfraniad cymharol a all bob partner ei wneud, a gall hyn gynnwys partneriaid yn ymgymryd â rolau gwahanol. Er enghraifft, gall un partner arwain y gwaith maes, ac un arall fod ynghlwm ag o drwy wirio’r canfyddiadau sy’n datblygu.
  4. Mae angen cydnabod bod cychwyn ar ddarn o waith ar y cyd yn cymryd amser oherwydd ei natur heriol. Er enghraifft, sicrhau cytundeb ar gwmpas ar draws sefydliadau sydd â blaenoriaethau gwahanol, cylchoedd gwaith deddfwriaethol a chyfyngiadau adnoddi.  Felly, mae angen i gynllunio ar gyfer prosiectau o’r fath ddechrau cryn amser cyn unrhyw ddyddiadau gwaith maes sydd wedi’u trefnu.

Adnoddi’r gwaith – pobl ac arian

  1. Ni ddylai gwaith ar y cyd fod yn ychwanegiad i’r brif swydd ond mae angen ei drefnu yn rhaglenni gwaith staff perthnasol.
  2. Mae ymrwymo adnoddau i holl gamau cylch bywyd y prosiect o adnabod opsiynau posibl ar gyfer adolygiad ar y cyd i gynhyrchu’r allbwn terfynol (boed hwnnw’n adroddiad neu gynnyrch arall) yn gofyn cytundeb ymlaen llaw gan uwch staff ar draws y sefydliadau partner.
  3. Mae parhad staff yn hanfodol i sicrhau na chollir momentwm a dealltwriaeth y prosiect trwy drosiant staff. Lle bo rhaid i gyfrifoldebau newid dwylo, mae angen cael trefniadau trosglwyddo effeithiol mewn lle.
  4. Mae grŵp llywio yn debygol o fod yn ddefnyddiol ond rhaid iddo gynnwys staff sydd â’r grym i wneud penderfyniadau.

Y diwylliant sy’n tanategu’r gwaith

  1. Rhaid i’r holl bartneriaid fod yr un mor ymrwymedig i gydweithredu a rhaid i unigolion fod yn agored i rannu eu harbenigedd ei hunain a gwrando ar safbwyntiau cydweithwyr ar draws yr holl bartneriaid.
  2. O’r cychwyn cyntaf, rhaid cael sgyrsiau gonest ynghylch arferion ac adnoddau sefydliadol unigol a’r cyfyngiad y gallai’r rhain eu gosod, ynghyd â dull gweithredu clir a chytunedig i ymdrin ag unrhyw gyfyngiadau.

Ond yr allwedd, fel yr ymddengys i mi, yw bod gwaith ar y cyd llwyddiannus yn gofyn am yr hyn a elwir yn ‘sgiliau rheoli prosesau’, ‘megis y gallu i adnabod a datblygu agenda cyfrannol a hybu clymbleidiau’, yn ogystal ag arbenigedd yn y maes pwnc.

Er gwaethaf natur heriol gweithio ar y cyd, mae partneriaid Arolygu Cymru dros y 18 mis diwethaf wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i adolygu’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc.  Mae fy mlog Awst 2017, Partneriaid Arolygu Cymru yn dechrau ar waith ar y cyd ar gefnogaeth i bobl ifanc, yn gosod y cefndir wrth wraidd y cwestiwn pam fu i Arolygu Cymru ymgymryd â’i adolygiad thematig ar y cyd cyntaf ar y pwnc pobl ifanc, a’r cwmpas arfaethedig o’r pedwar darn o waith ar wasanaethau i bobl ifanc a ymgymerir gan bartneriaid Arolygu Cymru.  Ers hynny, mae Estyn wedi cyhoeddi ei adolygiad o waith ieuenctid. Bydd Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) yn cyhoeddi eu hadroddiadau unigol yng ngwanwyn 2019.

Nid wyf am gymryd arnaf fod y daith wedi bod heb ei rhwystrau, ond rydym bellach wedi cyrraedd lle da gyda digwyddiadau GPX wedi’u trefnu ar gyfer mis Mawrth a thrafodaethau’n parhau i adnabod a chyfathrebu negeseuon cyffredin sy’n datblygu o’r pedwar darn o waith.  Er i ni edrych ar wahanol feysydd yn y pwnc cefnogi pobl ifanc, rydym wedi dod o hyd i sawl trywydd cyffredin.  Rydym bellach yn ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o gyfathrebu’r negeseuon cyffredin hynny.  Mae Arolygu Cymru yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiadau GPX fis Mawrth.   Mae’r partneriaid i gyd wedi bod ynghlwm â chwmpasu ar gyfer y digwyddiad hwn, ac rydym yn frwdfrydig iawn tuag at y thema o bobl ifanc yn cael dylanwad dros benderfyniadau ynghylch beth sy’n bwysig iddyn nhw.

Cau’r Mewnwelediad Newid Ymddygiad gyda Clover Rodriguez

bci-image-for-blog-pages

Yn y bennod olaf hon o’r gyfres podlediadau Newid Ymddygiad, mae Chris yn cwrdd â Clover Rodriguez o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod y casgliadau allweddol a negeseuon i’w cofio o’r Gwyliau Newid Ymddygiad.

Mae’r bennod hon yn ddelfrydol os hoffech chi glywed crynodeb fer am wyddoniaeth Newid Ymddygiad, tra hefyd yn clywed yn uniongyrchol gan Chris am gynnal y digwyddiadau a llunio’r rhaglen.

Diana Reynolds ac Anna Sussex

bci-image-for-blog-pages

Ym Mhennod Chwech, mae Diana Reynolds, Rheolwr Newid Datblygiad Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn sôn am raglen helaeth i newid sut mae Gweision Sifil yng Nghymru yn ymddwyn a gwaith mewn perthynas â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. (2.50 -21.40 munud)

Yna bydd Anna Sussex o WEDFAN (Rhwydwaith Mynychwyr Mynych Adrannau Argyfwng Cymru) yn dilyn hyn gydag enghraifft o’i gwaith gydag unigolyn i leihau ei ymweliadau i’r Adran Argyfwng ac i’w gadw allan o’r carchar. (21.40 – 31.40 munud). Gwrandewch isod:

Esbonio’r Jargon gyda Barod

bci-image-for-blog-pages

Ym Mhennod Pump, cawsom ein herio gan Barod i “Esbonio’r Jargon Abertawe”. Cynhaliwyd hyn gan Barod yn ystod Gŵyl Newid Ymddygiad Abertawe. Y nod oedd newid ymddygiad o ran sut mae pobl yn cyfathrebu, trwy eu cael i gymryd rhan mewn gêm ble byddech yn cael eich taro allan am ddefnyddio jargon. Mae pedwar rhan i’r podlediad yma:

  • Rhan 1: Alan o Barod yn esbonio sut y datblygwyd Esbonio’r Jargon;
  • Rhan 2: Alan a Simon o Barod yn trafod enghraifft o Esbonio’r Jargon i Chris o’r Gyfnewidfa Arfer Da (dydy Chris ddim yn gwneud yn dda iawn);
  • Rhan 3: Anne o Barod yn trafod esblygiad Esbonio’r Jargon a’r effaith ar ymddygiad y bobl y bu’n siarad â nhw,
  • Rhan 4: Ena o’r Gyfnewidfa Arfer Da yn trafod sut mae’r profiad o Esbonio’r Jargon wedi newid ei hymddygiad.

 

Yr Athro Dave Snowden ac Andy Middleton

bci-image-for-blog-pages

Ym Mhennod Pedwar, mae’r Athro Dave Snowden yn esbonio ei ymagwedd ‘Hwb nid Hergwd’ i newid ymddygiad. Gan ddefnyddio naratif i nodi ble mae pobl ar hyn o bryd, eu hanianawd i newid a hybiau bach a fydd yn eu helpu i symud. (2.45 – 8.15 munud). Mae Andy Middleton yn trafod yr Isafswm Cymhwysedd Dichonadwy mewn ardaloedd allweddol fel gofyniad ar gyfer rhai sy’n gwneud penderfyniadau wrth geisio gweithredu newid ymddygiad yn rhan o’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. (8.20 – 21.10 munud). Mae’r Athro Dave Snowden yn esbonio ei Ddull Anghytuno Defodol.  Defnyddir hyn i ddatblygu datrysiadau cadarn yn gyflym a fydd yn gwrthsefyll archwiliad yn y byd go iawn. (21.15 – 27 munud). Gwrandewch isod:

Rachel Lilley a Matt Stowe

bci-image-for-blog-pages

Ym Mhennod Tri, mae Rachel Lilley o Brifysgol Aberystwyth yn sôn am newid sut mae pobl yn meddwl am ddefnydd ynni yn y cartref gydag Ymlaen Ceredigion. (1.43 – 9.20 munud). Yna bydd Matt Stowe o Gartrefi Conwy yn esbonio’r gwelliannau amgylcheddol yn Ystâd Dai Parc Peulwys, a sut llwyddont i newid ymddygiadau a helpu sicrhau dyfarniad Baner Werdd Cadw Cymru’n Daclus. (10.30 – 25.30 munud). Gwrandewch isod:

 

Manylion National Energy Action Cymru o weithio gydag Ymlaen Ceredigion mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth yn cynnwys dolen i adroddiad gan Rachel Lilley.

Cynllun Rheoli Parc Peulwys 2015-2020, a gynhyrchwyd gan Gartrefi Conwy.Adroddiad gan BBC Wales ar sicrhau dyfarniad Baner Werdd Cadw Cymru’n Daclus ym Mharc Peulwys.

 

Chris Subbe ac Olwen Williams

bci-image-for-blog-pages

Ym Mhennod Dau, byddwn yn siarad gyda Chris Subbe, sy’n esbonio’r ‘Wee Wheel’, a gyflwynwyd i leihau anafiadau arennau acíwt ar gyfer cleifion ysbyty (1.45 – 7.30 munud). Yna mae Olwen Williams yn sôn am yr ymagwedd ‘Profi dim Siarad’ i wella sgrinio iechyd rhywiol (8.00 – 21.30 munud). Gwrandewch isod:

 

Fideo’n esbonio’r ‘Wee Wheel’: