Cymdeithas Pentref Loftus

Mae Alison a Bron o Grŵp Pobl wedi ysgrifennu blog i ni cyn ein digwyddiad Creu Cymunedau Cryf ar Gymdeithas Pentref Loftus – cymuned a gafodd ei chreu’n fwriadol y maen nhw wedi bod yn rhan ohoni o’r dechrau. Dewch i ymuno â ni yn y digwyddiad er mwyn dysgu mwy am y llwyddiannau a’r heriau y mae’r gymuned hon, a Pobl, wedi’u profi yn ystod eu taith gyda’i gilydd.

Dechreuodd taith Cymdeithas Pentref Loftus yn 2014 pan aeth Charter Housing (Grŵp Pobl bellach) ati i geisio dod o hyd i 19 o aelwydydd a oedd yn awyddus i symud i Bentref Gardd Loftus o dan gynllun rhanberchnogaeth, a dod yn gydweithredwyr ar yr un pryd.

Roedd hi’n ffordd anarferol, o’r brig i lawr, o sefydlu cymuned fwriadol.

Yn gyffredinol, mae prosiectau cyd-drigo yn dechrau gyda grŵp o bobl sydd am rannu lle ac amser gyda’i gilydd am resymau amrywiol ond, yn yr achos hwn, roedd gennym y cartrefi, ond nid y bobl!

Roeddem wedi gwneud ymchwil i’r farchnad ac wedi nodi grŵp o bobl oedd â diddordeb yn y syniad yn ôl yn 2012/13.  Felly, aethom ati i gysylltu â’r bobl hynny ac, yn ddiddorol ddigon, dilynodd un o’r bobl hynny y daith hyd at y diwedd a, 6 blynedd yn ddiweddarach, mae’n aelod o bwyllgor rheoli’r Gydweithrediaeth.

Roedd llawer o bobl yn hoffi’r syniad o fyw ym Mhentref Gardd Loftus.  Mae’n ddatblygiad tai newydd hynod o brydferth, felly roedd yn atyniadol iawn.

Hefyd, roedd y rhan fwyaf o bobl yn hoffi’r syniad o fyw mewn stryd lle maent yn adnabod eu cymdogion i gyd cyn iddynt symud i mewn, yn ogystal â stryd ddiogel ag ymdeimlad o gymuned lle gallent fwynhau byw mewn amgylchedd deniadol i’r llygad…. felly, yn fuan iawn, mabwysiadodd Cymdeithas Pentref Loftus y gwerthoedd ‘Byw’n Fwy Gwyrdd, Glân a Darbodus’.  Fodd bynnag, roedd yr holl faterion cyfreithiol/ariannol cysylltiedig yn faen tramgwydd i rai.

Roedd dod o hyd i fodel ariannol a chyfreithiol yn gur pen i Pobl fel sefydliad ac i’n darpar gydweithredwyr hefyd. Gwnaethom ystyried modelau cyfreithiol ac ariannol gwahanol cyn llunio ein model ein hun a oedd yn teimlo’n iawn i ni a’r cydweithredwyr.  Ar ôl gwneud hynny, treuliodd y cydweithredwyr fisoedd yn drafftio cytundeb rheoli, yn ogystal â misoedd o sesiynau hyfforddi ar sut i gydweithio’n effeithiol.   Yn ôl y cytundeb rheoli, mae’r Gydweithrediaeth yn gyfrifol am gasglu rhenti, ailwerthu a phrynu canran uwch yn ogystal â delio â chamau cynnar unrhyw gwynion gan gymdogion (dim un hyd yn hyn).

Gwnaethom golli pobl, denu pobl ac, yn y diwedd, roedd gennym 19 o aelwydydd o faint, oedrannau a chefndiroedd gwahanol.  I rai, dyma oedd eu cartref cyntaf. Os oeddech yn aelod o’r Gydweithrediaeth, gallech brynu â chyfran o 30% yn unig, a oedd yn golygu ei fod yn opsiwn mwy fforddiadwy na’r rhan fwyaf o gynlluniau rhanberchnogaeth.  Roedd eraill yn dechrau arni o’r newydd ar ôl i’w hamgylchiadau newid, ac roedd eraill yn chwilio am gartref ar gyfer ymddeol.

Er mwyn cadw morâl wrth aros i’r adeiladwyr ‘frysio a gorffen y gwaith’, roedd ein cydweithredwyr wedi mwynhau tasgau difyr fel dewis eu cegin a’u hystafell ymolchi, teils a lloriau, trafod beth roeddent am ei wneud â’r ardd a’r adeilad (garej) cymunedol, a dod i adnabod ei gilydd yn gyffredinol.

Gwnaethom ddefnyddio system gwneud cais er mwyn sicrhau ein bod yn dod o hyd i bobl a oedd am fod yn rhan o gymuned a helpu ei gilydd, yn hytrach na dim ond byw mewn tŷ braf. Roedd yn rhaid i ddarpar gydweithredwyr lenwi adran a oedd yn gofyn iddynt nodi faint o amser y gallent ei gynnig bob wythnos neu bob mis.

Ddwy flynedd yn ôl, dechreuodd pobl symud i mewn i’r stryd yn raddol, gyda llawer o gyffro.  Roedd llawer iawn o gyfeillgarwch gyda phobl yn rhoi ‘help llaw’ i’w gilydd gyda’r broses drafferthus o symud i mewn.

Bellach mae gan y Gydweithrediaeth ardd gymunedol brydferth, dau le cymunedol, swyddfa a garej i storio a chadw offer yr ardd.  Maen nhw wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol (sy’n aml yn cynnwys y gymuned ehangach), gan gynnwys Carolau o gwmpas y Goeden Nadolig, Calan Gaeaf, dathliadau’r Pasg, digwyddiad Stryd Chwarae pan gafodd y ffordd ei chau er mwyn i’r plant gael chwarae.  Mae costau fel gwasanaethu bwyleri a thaliadau ynni yn is am eu bod yn bargeinio ar y cyd, ac mae ganddyn nhw ôl troed carbon is na strydoedd eraill am eu bod yn rhannu offer peiriannol.

Maen nhw newydd gynnal eu trydydd cyfarfod cyffredinol blynyddol.  Dydi popeth ddim wedi bod yn fêl i gyd a bydd hynny’n parhau.  Maen nhw’n cwyno am ei gilydd weithiau, yn cwyno am Pobl ac, yn gyffredinol, yn ceisio osgoi gwneud y pethau diflas.

Ond maen nhw’n gymuned ac maen nhw’n sicr yn gwerthfawrogi pŵer hynny, ac ni fydden nhw am newid hynny.

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s