Archifau Misol: Medi2018

Casnewydd Mwy Diogel – cynllun canolbwyntio ar ardal leol

Cyn i’n digwyddiad ‘Gweithio mewn Partneriaeth: Dal y drych i fyny’ gael ei gynnal, mae Tracy McKim @Lady_McK o Gyngor Dinas Casnewydd yn dweud wrthym am y bartneriaeth rhwng y Cyngor a’r Heddlu yn dilyn argyfwng yn ardal Pillgwenlli, Casnewydd. Dewch i’n digwyddiadau yng Nghaerdydd a Llanrwst i weld gweithdy Tracy, lle y bydd yn trafod yn fanylach y gwaith a wnaed mewn partneriaeth er mwyn gwella’r ardal hon o Gasnewydd, ar y cyd â Heddlu Gwent.

OneNewport logoYn dilyn achosion difrifol o aflonyddu cyhoeddus yn ardal Pillgwenlli yn ystod hydref 2016, arweiniodd y Cyngor a Heddlu Gwent ymateb mewn partneriaeth o’r enw Cynllun Canolbwyntio ar Ardal Pillgwenlli.  Gwnaeth tîm Polisi a Phartneriaeth y Cyngor ddwyn rhanddeiliaid allweddol a oedd yn gweithio ym Mhillgwenlli ynghyd, gan gynnwys Heddlu Gwent, Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor, Gwasanaethau’r Ddinas, Iechyd yr Amgylchedd a gwasanaethau Safonau Masnach ynghyd â phartneriaid gan gynnwys Cartrefi Dinas Casnewydd a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a nifer o ddarparwyr gwasanaeth eraill a rhoi amrywiaeth eang o ymyriadau ar waith gyda’r nod o wneud y canlynol:

  • Gwella llesiant cymuned Pillgwenlli
  • Mynd i’r afael â’r materion trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n peri pryder i’r gymuned
  • Meithrin ymddiriedaeth a hyder y gymuned yn y partneriaid allweddol
  • Hyrwyddo cyfranogiad cymunedol, ymdeimlad o falchder a helpu i rymuso pobl

Map-Pill

Camau gweithredu effeithiol

Mae’r partneriaid sy’n gweithio ym Mhillgwenlli yn canolbwyntio ar y materion allweddol a nodir gan y bobl leol. Mae’r camau a gymerir hyd yma yn cynnwys y canlynol:

  • Rhoddodd y Cyngor Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar waith er mwyn rhoi pwerau newydd i’r heddlu i fynd i’r afael â’r dulliau mwyaf cyffredin o ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn bennaf, yfed yn y stryd, defnyddio sylweddau seicoweithredol a gangiau gwrthgymdeithasol.
  • Cynhaliwyd saith ‘Diwrnod Gweithredu ym Mhillgwenlli’ gyda swyddogion y Cyngor gan weithio ochr yn ochr â’r Heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru er mwyn gorfodi’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, sicrhau bod llety rhent preifat yn ddiogel a bod masnachwyr, safleoedd trwyddedig a chwmnïau tacsis yn ymddwyn yn gyfrifol. Roedd y Diwrnod Gweithredu, a gynhaliwyd ym mis Mehefin, hefyd wedi cynnwys yr Heddlu Bach (o Ysgol Gynradd Pillgwenlli) yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth o gyflymder a hyrwyddo ailgylchu.
  • Mae Ymgyrchoedd Jewel a Gravitas Heddlu Gwent, sy’n targedu cyflenwi cyffuriau, wedi arwain at arestio 61 o bobl yn cael eu harestio a daw nifer o bobl a gollfarnwyd o gyfeiriadau yn ardal Pillgwenlli. Mae beiciau a ddefnyddiwyd gan gludwyr cyffuriau wedi’u hatafaelu a’u dinistrio.
  • Mae drama sydd â neges gwrth-gangiau wedi cael ei pherfformio yn Ysgolion Uwchradd Casnewydd a chafodd groeso cadarnhaol gan ddisgyblion a staff.
  • Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid, Casnewydd Fyw a sefydliadau cymunedol e.e. ‘The Bigger Picture’ wedi darparu amrywiaeth o weithgareddau difyrru ar gyfer pobl ifanc.
  • Mae dim ond un o dri phrosiect Heddlu Bach, sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd, yn cael ei gynnal yn Ysgol Gynradd Pillgwenlli gyda’r nod o feithrin ymddiriedolaeth rhwng yr heddlu a’r gymuned a datblygu dysgu, sgiliau a phrofiad pobl eraill.
  • Mae’r Cyngor a phartneriaid eraill wedi cefnogi’r digwyddiadau glanhau cymunedol rheolaidd a drefnir gan Balchder ym Mhillgwenlli, gan ryddhau staff i wirfoddoli ochr yn ochr â phobl leol.
  • Mae llwybr dargyfeiriol ar waith ar gyfer gweithwyr rhyw er mwyn sicrhau y cynigir y cymorth amlasiantaethol sydd eu hangen arnynt, gan gydnabod y gall pobl fod wedi camfanteisio arnynt, ond gan ddefnyddio pwerau gorfodi hefyd yn erbyn troseddwyr cyson a’r rhai sy’n hel puteiniaid o gerbyd.
  • Mae dull gweithredu cydgysylltiedig o orfodi materion amgylcheddol wedi’i ddatblygu gan y Cyngor e.e. hysbysiadau cau ar gyfer eiddo sy’n peri problemau ym Mhillgwenlli a gorfodi caniatâd cynllunio ar gyfer anheddau anawdurdodedig yn yr ardal.
  • Mae adran Iechyd yr Amgylchedd a’r Gwasanaeth Tân wedi cynnal sawl arolygiad ar y cyd o eiddo dai amlfeddiannaeth ac wedi nodi rhai nad ydynt wedi’u trwyddedu yn ogystal â diffygion diogelwch.
  • Mae Cartrefi Dinas Casnewydd yn bwrw ymlaen â’r gwaith, sy’n werth £10 miliwn, o adfywio eu heiddo ym Mhillgwenlli a fydd yn helpu i ddileu trosedd. Bydd yn agor Canolfan Gymunedol cyn bo hir yn ardal Francis Close er mwyn darparu ar gyfer grwpiau a gwasanaethau lleol, a bydd sefydliad ieuenctid ‘Bigger Picture’ wedi’i leoli yno.


Gwella canfyddiad y cyhoedd

Ar ddechrau prosiect Pillgwenlli ym mis Ionawr 2017, cynhaliwyd arolwg diogelwch cymunedol fel y gallai trigolion nodi’r materion a oedd yn peri’r pryder mwyaf iddynt, a sefydlu llinell sylfaen y gellid mesur cynnydd yn ei herbyn.  Cynhaliwyd arolwg dilynol ym mis Hydref 2017 ac mae’r canlyniadau’n dangos cynnydd calonogol yn erbyn mesurau canfyddiadau allweddol y cyhoedd.

  • Mae nifer y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n anniogel iawn yn cerdded adref ar ôl iddi dywyllu wedi gostwng o 64% i 41% (gwelliant o -36%)
  • Mae nifer y bobl sy’n dweud bod trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwy o broblem eleni nag oedd y llynedd wedi gostwng o 43% i 26% (gwelliant o -40%)
  • Mae nifer y bobl sy’n dweud eu bod yn fodlon/bodlon iawn ar y gwasanaeth a ddarperir gan yr heddlu a’u partneriaid wedi cynyddu o 22% i 36% (gwelliant o +63%)
  • Mae nifer o bobl sy’n dweud bod y gwasanaeth a ddarperir gan yr heddlu wedi gwella o gymharu â’r llynedd wedi cynyddu o 15% i 38% (+153%)

Y camau nesaf

Rydym yn ystyriol o’r angen i sicrhau y caiff y cynnydd cynnar ei gynnal yn yr hirdymor.  Mae pob un o’r partneriaid allweddol wedi nodi eu bod yn bwriadu parhau i ganolbwyntio ar Billgwenlli, o ran adnoddau plismona yn y gymdogaeth, gan gynnal Digwyddiadau Gweithredu rheolaidd ym Mhillgwenlli, gweithgareddau gorfodi a gwella’r gwaith o ymgysylltu â’r gymuned leol.  Caiff rhaglen waith Canolbwyntio ar Ardal Pillgwenlli ei datblygu yn awr drwy ymyriadau Cynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Casnewydd Mwy Diogel. Mae gwaith Canolbwyntio ar Ardal Pillgwenlli yn llunio model ar gyfer y ffordd y bydd angen i ni weithio yn y dyfodol, a hynny yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – gan ganolbwyntio ar nodau llesiant integredig drwy gydweithio a thrwy gynnwys cymunedau a bod yn ystyriol o ddulliau ataliol o weithredu ac effeithiau hirdymor.

Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru

circular economy

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da bob amser yn awyddus i rannau arloesedd a ffyrdd diddorol o weithio, felly pan wnaethom glywed am waith y Grŵp Ymchwil Economi Gylchol, roeddem yn awyddus i rannu.

Mae Dr Gavin Bunting yn Athro Cyswllt ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltu yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â RCE Cymru ac mae Dr Gavin Bunting wedi ysgrifennu blog cyn y digwyddiad ‘Good to Share’ a gaiff ei gynnal ym Mangor a Chaerdydd.

Mae’r grŵp wedi bod ynghlwm wrth ymchwil ddiddorol iawn ar sut y gallwn leihau gwastraff yng Nghymru, a chreu economi gylchol, a allai olygu bod Cymru ar ei hennill o £2 biliwn y flwyddyn. Syniadau fel hyn a fydd yn creu Cymru cenedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau bod datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu gwaith. Darllenwch ei flog isod i ddysgu am sut mae’r Grŵp Ymchwil ac Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru wedi cydweithio, gan gymryd camau breision tuag at gyflawni nodau Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.


Mae’r DU yn cynhyrchu 200 miliwn o dunelli o wastraff bob blwyddyn a chaiff bron i chwarter ohono ei anfon i safleoedd tirlenwi, tra bod llawer o’r adnoddau sydd eu hangen at ddefnydd hanfodol, megis cynhyrchu pŵer, cyfathrebu ac offer meddygol yn mynd yn fwy prin.

Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf ohonom wedi bod mewn sefyllfa lle mae’n rhatach prynu argraffwr, peiriant golchi neu ffôn newydd ac ati na’u hatgyweirio neu eu diweddaru. Beth yw’r rheswm dros hyn?

Un ateb i fynd i’r afael â’r gormodedd o wastraff a’r darfodiad hwn yw trawsnewid yr economi i fod yn gylchol lle y caiff cynhyrchion eu dylunio i sicrhau:

  • Eu bod yn para’n hirach
  • Y gellir eu diweddaru, eu hatgyweirio a’u hailddefnyddio
  • Y gellir adfer ac ailgylchu’r deunyddiau cyfansoddol y maent yn eu cynnwys ar ddiwedd cyfnod y cynnyrch

Mae Sefydliad Ellen MacArthur a WRAP wedi amcangyfrif y gallai manteision economaidd posibl gweithredu economi gylchol yng Nghymru gyrraedd £2bn y flwyddyn, ar gyfer y ddau sector canlynol: nwyddau cymhleth tymor canolig, e.e. ceir, offer electronig a pheiriannau; a nwyddau defnyddwyr a ddefnyddir yn aml, e.e. bwyd a diod, dillad a gofal personol.

Er mwyn symud tuag at economi gylchol, mae angen gweithredu mewn ffordd amlddisgyblaethol sy’n cwmpasu ymchwil ac arloesedd mewn meysydd megis: dylunio cynhyrchion i’w hailwampio a’u hailddefnyddio; datblygu deunyddiau newydd a chael gafael ar adnoddau defnyddiol o ddeunyddiau naturiol; datblygu modelau busnes newydd sy’n cymell y gwneuthurwr i ddylunio cynnyrch hir oes; ac ymchwilio i’r ffordd y gallwn gyfleu’r cyfleoedd a herio canfyddiadau o economi gylchol.

Dim ond drwy gyfuno arbenigedd mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau y gallwn fynd i’r afael â’r newid sydd ei angen yn y system i gyflawni economi gylchol.

Mae cryn dipyn o’r arbenigedd hwn i’w gael mewn prifysgolion yng Nghymru a thrwy gydweithio gallwn fynd i’r afael â heriau economi gylchol. Felly gweithiais gyda chydweithwyr yn y Grŵp Addysg Uwch ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymru, Canolfan Arbenigedd Ranbarthol (RCE) Cymru, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe er mwyn sefydlu’r Grŵp Ymchwil ac Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru’.

Nod arfaethedig y grŵp yw cysylltu’r arbenigedd a’r profiadau ategol er mwyn hwyluso arloesedd ac ymchwil ar economi gylchol yng Nghymru, drwy gyflawni’r amcanion canlynol:

  • Darparu fforwm i rannu arfer da ac i hwyluso’r broses o gyfnewid gwybodaeth rhwng academia, busnes a llunwyr polisïau.
  • Cydweithio er mwyn cynyddu’r gallu ac adnoddau ymchwil economi gylchol mewn sefydliadau yng Nghymru.
  • Ymgysylltu â diwydiant er mwyn datblygu ymchwil a arweinir gan ddiwydiant.
  • Darparu tystiolaeth i lywio polisïau a rhaglenni’r Llywodraeth.
  • Datblygu fforwm ar-lein i hwyluso’r broses o gyfnewid arfer da, cyfleoedd ariannu, newyddion a digwyddiadau.
  • Arddangos allbynnau economi gylchol y rhwydwaith yn rhyngwladol, gan gefnogi’r broses o ddatblygu partneriaethau rhyngwladol.
  • Cydweithio ar y broses o ddatblygu cwricwlwm a darparu hyfforddiant ar ei gyfer.
  • Cydweithio â rhwydwaith byd-eang y Ganolfan Arbenigedd Ranbarthol (RCE) (a gydnabyddir gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig) er mwyn rhannu dysgu ac arfer da ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.

Cadeiriais gyfarfod cyntaf y grŵp ar 8 Mehefin, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r prifysgolion canlynol: Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru, Abertawe a’r Drindod Dewi Sant. Eglurodd Dr Andy Rees, Pennaeth Gwastraff, Llywodraeth Cymru, y sefyllfa gan ddarparu rhai ystadegau defnyddiol a oedd yn amlinellu offerynnau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer arloesedd economi gylchol.

Bu’n gyfarfod cynhyrchiol, lle y gwnaethom drafod syniadau ar sut y gallwn gydweithio ar ymchwil, addysgu, cyfnewid gwybodaeth a llywio polisïau’r llywodraeth. O ran ymchwil, y farn gyffredinol oedd na ddylwn ganolbwyntio ar geisiadau am gyllid ar gyfer ymchwil a oedd yn ymwneud â’n economi gylchol yn unig – gan fod modd i’r economi gylchol ychwanegu newydd-deb at amrywiaeth eang o feysydd ymchwil. Nodwyd hefyd fod angen i ni edrych ar sut y gallwn wella’r ffordd y caiff yr economi gylchol ei chyfleu i fyd diwydiant a’r cyhoedd er mwyn annog arloesedd a newid. Yn benodol, cytunwyd ei bod yn bwysig sôn am yr elfen o gystadleurwydd wrth gyfathrebu â diwydiant, ynghyd â chanolbwyntio ar y sectorau sy’n bwysig i economi Cymru. Gallai’r Safon Brydeinig ar gyfer Economi Gylchol, BS-8001, fod yn ffordd ddefnyddiol o ymgysylltu â chwmnïau a gall rhwydweithiau academia-diwydiant sydd eisioes yn bodoli megis ASTUTE ddarparu llwybr sefydledig ar gyfer cyfnewid gwybodaeth.

Nod craidd y grŵp yw annog cydweithredu, a hwylusir i gychwyn drwy ddarparu cyfeirlyfr o arbenigedd, fel y gall aelodau nodi cydweithredwyr posibl ar gyfer ymchwil yn hawdd. Yn ogystal, byddwn hefyd yn sefydlu bwletin e-bost rheolaidd a fforwm lle y gall aelodau drafod meysydd o ddiddordeb. Mae angen cymorth ysgrifenyddiaeth da i gadw grŵp fel hyn i weithio, ac mae Ann Stevenson o Brifysgol Caerdydd wedi bod mor garedig â chynnig i ddarparu hyn.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn cynnal cyfarfod arall o’r grŵp yn yr hydref ac yn cynnal sesiynau yng Nghynhadledd RCE Cymru ar 8 Tachwedd 2018, yng Nghaerdydd, lle y byddwn yn cynnal trafodaethau ysbrydoledig a chynhyrchiol gobeithio.

dr gavin
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r Grŵp, neu os