Archifau Misol: Awst 2018

Hanes cryno Grŵp Bwyd Canolfan Rhanbarthol Arbenigedd Cymru ar Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Ym mis Medi a mis Tachwedd eleni, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Labordy Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor ar ddigwyddiad RCE Cymru – ‘Mae’n dda i rannu’, a gynhelir ym Mangor a Chaerdydd. Cyn y digwyddiad, mae Jane Powell wedi blogio am ei phrofiad o Ganolfannau Arbenigedd Rhanbarthol (RCE) ac hanes diddorol y Grŵp Bwyd.

Mae’n ddiddorol clywed sut mae’r ymchwil hwn wedi esblygu dros y blynyddoedd ac wedi helpu i lunio Maniffesto Bwyd Cymru ynghyd â Deddf Lles Dyfodol Cenedlaethau (Cymru) 2015. Yr wyf yn gyffrous ynglŷn â’r posibilrwydd y bydd ein pobl ifanc mae pobl yng Nghymru yn helpu i lunio’r system fwyd er gwell.

Dyma Jane Powell yn rhannu ei phrosiect …

Pan ddes i ar draws y syniad o Ganolfan Ranbarthol ar gyfer Arbenigedd addysg gynaliadwy – ac RCE – i Gymru yn 2008, roeddwn yn amheus iawn o’r acronym diweddaraf. Roedd yn swnio mor fiwrocrataidd. Ond wedyn, clywais Julie Bromilow o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn siarad am RCE roedd hi wedi ymweld ag yn Japan, a dechreuodd y posibilrwydd o fod yn rhan o rwydwaith byd-eang er mwyn datrys problem fyd-eang apelio.

Ar y pryd, roeddwn yn Swyddog Gwybodaeth yng Nghanolfan Organig Cymru yn Aberystwyth, yn trefnu i ysgolion ymweld â ffermydd a phrydau ysgol wedi’i gynhyrchu’n lleol ynghyd â’n nyletswyddau golygu arferol. Roedd yn rhoi boddhad, ond roeddwn yn dyheu am fod yn rhan o rywbeth mwy, i gymharu ein gwaith gyda beth roedd eraill yn ei wneud, a gweld pa mor bell gallwn fynd.  Yn fwy na dim, roeddwn yn pendroni am beth yn union roedden i’n ei wneud.  Sut roedd ymweld â ffermydd i fod i newid unrhyw beth? Pam roedd prosiectau prydau ysgol mor bwerus, tra roedd sefyll ar stondin mewn digwyddiad weithiau’n gallu bod mor ddiflas?

Meddyliais efallai byddai’r RCE yn gallu bod yn ffordd o ysgogi pethau. Felly neidiais ar y cyfle i ymuno gyda’r is-grŵp oedd yn edrych ar addysg bwyd, ynghyd â Julie, Dr Jane Claricoates o ysgrifenyddiaeth yr RCE ym Mhrifysgol Abertawe a Dr David Skydomre o Brifysgol Glyndŵr. Ein tasg gyntaf, yn 2011, oedd ‘sgwennu papur pynciol, oedd yn archwilio beth allai ‘addysg drawsnewidiol’ olygu yng nghyd-destun bwyd gan dynnu ar ein profiadau perthnasol yn ogystal â’r llenyddiaeth ymchwil.

acp_5538-1-copy.jpg

Aethom ymlaen i drefnu digwyddiad yng Ngholeg Powys lle roeddem yn defnyddio ymbwyllo a thrafodaeth hamddenol i archwilio sut roedd myfyrwyr, darlithwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol i gyd yn perthyn i’r gadwyn fwyd. Bwriad hyn oedd rhoi syniad o sut gall addysg bwyd fod yn effeithiol, drwy gysylltu gyda gwerthoedd a dealltwriaeth bresennol pobl. Datgelodd y cyfoeth o’r profiad dynol sydd tu ôl i’r ffigyrau a ffeithiau am y system fwyd.

Yn dilyn hyn, er ein bod wedi atynnu ambell aelod newydd ac yn parhau i gyfarfod am flwyddyn neu ddwy, dechreuodd y grŵp wasgaru. Roedd salwch a newid swyddi yn rhan o hyn, ac efallai bod yr RCE yn rhy ymylol i’n swydd ddisgrifiadau amrywiol i gael y sylw roedd yn ei haeddu. Er hyn, daeth yn amlwg bod y cysyniad canolog o gydweithio rhwng addysg uwch ac ymarferwyr yn un gwydn iawn, fel ein cwestiwn am beth sy’n gwneud addysg bwyd yn drawsnewidiol. Newidiodd y Grŵp Bwyd i fod yn ymholiad oedd yn cael ei hystyried gan rwydwaith llac.

Yn 2014, galluogodd cyllid o Raglen Datblygu Wledig Cymreig i Ganolfan Organig Cymru i symud hyn i lefel newydd gyda phrosiect ymchwil gweithredol o’r enw Gwerthoedd Bwyd. Daeth hyn ac ymchwil o seicoleg gymdeithasol a’i wneud yn berthnasol i addysg bwyd, a daeth yn amlwg ei fod yn ddull pwerus gan ddod a mewnwelediad newydd i nifer ohonom oedd yn gweithio yn addysg bwyd. Yn ddiweddarach daeth yn sail i Faniffesto Bwyd Cymru sy’n cynnal y weledigaeth i’r system fwyd Cymreig sydd wedi ei ddal ynghyd ar werthoedd o ofal, tegwch a chydraddoldeb.

Roedd Gwerthoedd Bwyd yn enghraifft wych o ethos yr RCE, er nad oedd yn dechnegol yn rhan ohono. Roedd yn gydweithrediad rhwng addysg uwch, rhwng Dr Sophie Wynne-Jones a’i chydweithwyr i ddechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna, ym Mangor, a’r gymdeithas ehangach, er enghraifft Canolfan Ymchwil Diddordeb Cyhoeddus, Canolfan Organig Cymru a nifer o sefydliadau anllywodraethol yn amrywio o Age Concern yng Ngwynedd i’r Synagog Unedig Diwygiedig yng Nghaerdydd. Galluogodd cyfnewid cyfoethog ac ysbrydoledig rhwng academyddion ac ymarferwyr oedd yn fanteisiol i’r ddwy garfan.

au-chris-presents.jpg

Wrth ddysgu grwpiau a threfnu digwyddiadau cymunedol, fel rwy’n ei wneud, mae’n hawdd llosgi’r gannwyll ddau ben a cholli cymhelliant. Mae’r cyswllt gydag ymchwilwyr yn dod a phersbectif ffres sy’n ein galluogi i fynd yn ddyfnach i’n hymarfer, a chael mwy o foddhad o’r hyn ydym yn ei wneud yn dda. I academyddion, dwi’n dychmygu, eu bod yn cael boddhad bod yn rhan o brosiect sy’n dod a buddion yn syth a dangos yr egwyddorion damcaniaethol ar waith mewn bywyd bob dydd. Ni lwyddodd y grŵp wneud cysylltiadau gyda’r rhwydwaith RCE byd-eang, mi fyddai hynny yn amlwg yn ychwanegu hyd yn oed mwy o werth i’r broses.

Susanne plus two

Mae’r Grŵp Bwyd yn segur ar hyn o bryd, ond mae ei waith yn byw ymlaen, ac mae gymaint mwy gallwn ei wneud. Wrth i ysgolion Cymreig baratoi am ddiwygiad mawr o’r cwricwlwm ac wrth i Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ddechrau cymryd effaith, mae’r cyfleoedd yn anferth. Gall RCE Cymru ar ei newydd wedd gynnig y cyfle ar gyfer rhagor o gydweithio ar addysg bwyd? Darllenwch ein blog a chysylltwch gyda Jane Powell.

Gweithiodd Jane Powell i Ganolfan Organig Cymru o 2000 hyd at 2015 ac erbyn hyn mae hi’n ymgynghorydd addysg lawrydd ac ysgrifen wraig. Jane yw’r cydlynydd yng Nghymru ar gyfer LEAF Education, ac aelod o Grŵp Addysg Biosffer Dyfi, a golygydd Maniffesto Bwyd Cymru. Mae hi’n byw yn ardal Aberystwyth ac yn rhan o brosiectau bwyd lleol gan gynnwys gardd yn y Brifysgol. Ei gwefan yw www.foodsociety.wales.

Uchelgais Ddigidol

NeilYn dilyn digwyddiad a gynhaliwyd gennym y llynedd, gwnaethom ddechrau sgwrs Twitter ar-lein gyda Neil Prior @PriorNeil, Cynghorydd Sir Annibynnol ac Aelod o’r Cabinet dros Drawsnewid a TG yng Nghyngor Sir Penfro. I’r rheini ohonoch nad ydych yn ei adnabod – dyma flog gwych am ei flwyddyn gyntaf fel Cynghorydd Sir.

Nid oedd Neil yn gallu dod i’n digwyddiad #WAODigital18, ond roedd am rannu ei stori am y newid mewn hyder digidol yng Nghyngor Sir Penfro, a sut mae hyn yn creu llawer o newidiadau diwylliannol bach i’r ffordd y maent yn gweithio…

Uchelgais Ddigidol

Nid oes angen i chi fod yn ddaroganwr i wybod bod y byd rydym yn byw ynddo wedi newid yn sylweddol, diolch i’r dechnoleg diben cyffredinol, sef, y rhyngrwyd. Mae’r ffeithlun Internet Minute yn dangos y ffordd y mae ‘digidol’ wedi dod yn rhan hanfodol o’n bywydau, gan lywio’r ffordd rydym yn cyfathrebu, siopa, gwylio teledu, gwrando ar gerddoriaeth, caru a rhannu manylion ein bywydau ‘r byd. Fel Cynghorydd ac aelod o’r Cabinet newydd, a gyda phortffolio newydd o weithio ym maes trawsnewid a TG yng Nghyngor Sir Penfro, fy nod yw ymchwilio i’r ffyrdd y gall technoleg ddigidol ein helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Mae fy argraffydd wedi torri, allwch chi ei drwsio?

Barn draddodiadol cynghorau am adrannau TGCh yw eu bod yno i gadw’r goleuadau ymlaen. Maent yn rheoli ac yn cynnal a chadw llinell etifeddol gritigol systemau TG busnesau a oedd wedi’u caffael gan yr adran gyllid fwy na thebyg, maent yn trwsio eich peiriant pan fydd yn torri, maent yn darparu’r rhwydweithiau, y seilweithiau a’r cymwysiadau sy’n galluogi staff y cyngor i fynd i’r gwaith a gweithio. Ond anaml iawn y caiff eich adran TGCh ei hystyried yn arweinwyr strategol yn eich cyngor.  Ac eto, mae’r byd wedi newid.

Ar ôl etifeddu rhaglen drawsnewid nad oedd yn weladwy iawn yn fewnol ac a oedd yn ei chael hi’n anodd datblygu, dechreuais drwy ystyried yr adran TGCh yn fanwl. Gyda Phennaeth Gwasanaeth a oedd yn croesawu’r cymorth gwleidyddol, aethom ati i ail-ysgrifennu’r strategaeth dechnoleg er mwyn ei symleiddio a phennu ein ‘cyrchfan teithio’ ein hun, gan symud o ‘wasanaeth dibynadwy sy’n gwneud y gorau posibl’ i ‘ddatrys problemau busnes drwy weithio mewn partneriaeth’.

Nid oedd hyn yn anodd iawn i’w wneud. Drwy hwyluso gweithdy gyda staff a defnyddwyr TG allweddol, roeddem yn gallu asesu ein sefyllfa a beth oedd ein nodau. Roedd meincnodi’r Gymdeithas er Rheoli Technoleg Gwybodaeth (SOCITM) ac edrych ar yr hyn roedd cynghorau eraill yn y DU yn ei wneud, megis Enfield gydag Amelia ac Aylesbury Vale gydag Alexa, yn golygu bod gen i stori gymhellol am ein huchelgeisiau drwy’r broses wleidyddol, gan dynnu sylw at yr angen am fuddsoddiad, nid toriadau, ym maes TGCh. Y canlyniad? Buddsoddiad o £600,000 a diogelwch rhag toriadau cyllidebol am y pedair blynedd nesaf.

Pobl Ddigidol Hyblyg

Mae ein strategaeth yn syml iawn. Mae a wnelo â bod yn fwy hyblyg yn y ffordd rydym yn gweithio, sy’n golygu ein bod yn gwneud defnydd doethach o’n gofod swyddfa, gan leihau gwariant ar frics a morter er mwyn gallu gwario ein harian ar bobl a gwasanaethau. Mae digidol yn canolbwyntio ar yr angen i ehangu ein cynnig digidol i gwsmeriaid ac annog hyder digidol ymhlith staff, gan eu hannog i fabwysiadu dull mwy modern o weithredu. Yn olaf, hoffwn i ni ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ein hadran TGCh fel y gall fod yn gatalydd ar gyfer newid yn yr Awdurdod ac y caiff ei hadnabod fel arloeswr technoleg sy’n gallu gweithio ar draws y sefydliad i sefydlu prosesau trawsnewid digidol cadarn. Bydd ein sefydliad yn llawn pobl hyblyg a digidol.

Blog pic1

Nid ‘peth’ yw digidol

Nid ‘peth’ yw digidol, mae’n ffordd o wneud pethau. Felly, i ni yma yn Sir Benfro, yr effaith fwyaf a gafodd y strategaeth dechnoleg rydym wedi’i mabwysiadu yn ddiweddar, oedd rhoi prosiect ‘gweithio doethach’ uchelgeisiol ar waith. Yn y prosiect hwn, mae tîm trawsadrannol yn ad-drefnu Neuadd y Sir i greu parthau gwaith doethach a fydd yn golygu y byddwn yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r gofod sydd ar gael er mwyn sefydlu amgylchedd gwaith mwy modern. Mae hwn wedi bod yn ddarn enfawr o waith gan dîm bach sy’n llawn egni ac yn ymrwymedig i sicrhau ei fod yn llwyddo. Ar hyd y ffordd, rydym wedi ymgysylltu a chyfathrebu â staff a dwyn perswâd arnynt, ac er ei bod yn deg dweud nad yw rhai yn hapus, nid wyf yn credu y gallai unrhyw un ddadlau â’r rhesymau dros wneud hyn. Gyda dyddiad cwblhau arfaethedig erbyn diwedd yr haf, effaith wirioneddol ein huchelgais digidol yw y byddwn wedi sicrhau’r newid diwylliannol mwyaf ar gyfer ein Hawdurdod ers degawdau.

SWAP pic

Meddylfryd heriol

Rydym wedi cyflawni llawer dros y chwe mis diwethaf, ond nid ydym yn rhoi’r gorau iddi nawr. Rydym yn gwneud pethau da eraill, megis cynyddu ein defnydd o negeseuon testun er mwyn cyfathrebu â phreswylwyr, ehangu cynnig ‘Fy Nghyfrif’ ar gyfer hunanwasanaeth digidol, gweithio gydag adrannau sydd bellach yn cysylltu â’r adran TGCh i ofyn am gymorth, ac mae mwy o’n huwch swyddogion a chynghorwyr ar Twitter (cliciwch yma i weld rhestr nad yw’n gynhwysfawr). Yn fy marn i, dyma hyder digidol ar waith ac mae’n creu llawer o newidiadau diwylliannol bach i’r ffordd rydym yn gweithio. Ond mae fy meddylfryd heriol yn dweud wrthyf fod gennym lawer i’w wneud o hyd a megis dechrau mae ein stori uchelgais digidol.