Rôl craffu o ran o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Amgylchedd

Hub-Image-1

Yn ddiweddar, cynhaliwyd Seminar Arfer Da gennym ar ‘Rôl craffu o ran o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ yng Nghaerdydd a Llanrwst. Mae hon yn seminar wahanol iawn i’n digwyddiadau Arfer Da arferol. Megis dechrau y mae trefniadau gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, felly nid yw astudiaethau achos sy’n adlewyrchu’r pum ffordd o weithio wedi dod i’r amlwg eto. Felly, roedd hynny’n golygu bod yn rhaid i ni lunio seminar yn ôl yr angen. Dewiswyd dull ‘dysgu drwy wneud’, a olygodd fod y cynadleddwyr wedi gweithio’n galed iawn ar y diwrnod.

Roeddem hefyd yn ymwybodol bod angen i’r ffordd roeddem yn mynd i rannu’r negeseuon drwy’r dydd gael ei rhannu mewn ffordd hawdd, felly rydym yn treialu rhannu’r rhain drwy flogio. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o dri blog sy’n seiliedig ar nodweddion trefniadau craffu da – Amgylchedd, Arfer ac Effaith.

Gwnaethom gydnabod, fel tîm arfer da, fod pobl yn hoffi cael gwybodaeth mewn ffyrdd gwahanol. Rydym wedi cynnwys yr allbynnau crai o’r diwrnod os hoffech gael gwybodaeth fanylach.

Ar y diwrnod, gofynnwyd i’r cynadleddwyr nodi’r un peth roeddent yn mynd i’w wneud yn wahanol o ganlyniad i’r tri gweithdy yr aethant iddynt. Yn y blog cyntaf, roeddem am rannu rhai o’r pwyntiau a rannodd y cynadleddwyr ar ôl Gweithdy 1 – Amgylchedd. Os nad aethoch i’r digwyddiad, bydd y blog hwn yn rhoi syniad i chi o’r pwyntiau i’w hystyried a myfyrio arnynt os ydych yn defnyddio’r ffactorau hyn ar hyn o bryd.

Roeddem yn meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol pe baem yn rhoi allbynnau’r diwrnod dan y penawdau canlynol.

Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Rwyf wedi defnyddio’r geiriau ‘Ymgysylltu â’r Cyhoedd’ i grynhoi un maes o’r datganiadau a rannwyd gan y cynadleddwyr ar ddiwedd gweithdy 1 ar thema’r Amgylchedd. Mae’n amlwg i mi fod y cynadleddwyr yn deall yr angen i ymgysylltu, gwrando, ac ymgynghori’n fwy â’r cyhoedd i sicrhau bod ‘pobl go iawn’ yn cael y cyfle i gyfrannu eu barn. Mae proses gyfathrebu ddwyffordd yn allweddol wrth wneud penderfyniadau. Roedd hi’n braf iawn clywed bod hyn wedi cael ei gydnabod ac roedd llawer o’r cynadleddwyr wedi nodi hynny, gan ei gwneud yn fwy hygyrch a chynhwysol i gwestiynau gael eu gofyn ac i leisiau gael eu clywed.

Nododd un cynadleddwr “Rhoi’r bobl o flaen y broses” – ystyried cymorth emosiynol yn ogystal ag ariannol.

Cyfranogiad

Dyma faes arall y soniwyd amdano nifer o droeon yn yr adborth. Rwyf wrth fy modd bod cynadleddwyr wir yn gweld pwysigrwydd gwella’r ffordd maent yn cynnwys y bobl leol a’u cymunedau wrth lywio eu dyfodol – boed hynny drwy eu cynnwys yn uniongyrchol neu eu cynnwys yn gynnar, neu gynnwys partneriaid fel y 3ydd sector yn ogystal â chyrff sector cyhoeddus eraill.

‘Llai o ffocws ar gyllideb a mwy o ffocws ar wneud penderfyniadau sy’n bwysig’ – a ysgrifennwyd gan un cynadleddwr.

Adborth

Roedd ychydig o gynadleddwyr yn teimlo bod adborth yn bwysig. Rhoi mwy o adborth ar y rhesymau dros y penderfyniad, a bod yn glir ynghylch diben yr hyn y ceisir ei gyflawni.

Cymorth

Mae’r adborth hwn yn dweud wrthyf fod cryn dipyn o’r cynadleddwyr yn teimlo bod angen help arnynt i wella’r ddealltwriaeth a’r gwaith craffu o ran llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Soniodd rhai y byddai gweithio mewn partneriaeth rhwng sefydliadau i ymdrin â saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn help mawr iddynt. Byddai’n eu helpu i ‘flaengynllunio’ a pheidio â meddwl am gyllidebau blynyddol.

Sut gallwch wella’r ddealltwriaeth o ddefnyddio’r 5 ffordd o weithio yn eich sefydliad? A ddylid eu defnyddio i lywio’r broses o wneud penderfyniadau ar y cam cynharaf? Dyma ychydig o’r cwestiynau a ddaeth i’r amlwg o’r adran hon o adborth.

Ysgrifennodd un cynadleddwr – ‘Ni ddylai gwaith craffu fod yn gysylltiedig â chyllidebau blynyddol. Ni allwch wneud cynnydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol os ydych yn gweithio mewn cyfnodau cyfyngol o 12 mis.’

Diwylliant

Yn olaf, gwnaed ychydig mwy o bwyntiau am yr angen am newid mewn diwylliant ar bob lefel er mwyn meddwl yn fwy hirdymor am waith craffu effeithiol. Dylai gwaith craffu ymwneud â mwy na chanlyniadau a chyllidebau – dylai ymwneud â meddwl ymlaen llaw i greu newid parhaol, cadarnhaol. Rwy’n hapus iawn i weld bod cynadleddwyr yn ymwybodol bod angen ymdrin â hyn a gobeithio bod ein seminar wedi helpu i atgyfnerthu pa mor bwysig yw eu rôl wrth lywio dyfodol cenedlaethau’r dyfodol.

‘Craffwyr i fod yn ymwybodol o bwysigrwydd eu rôl a’r pŵer sydd gan waith craffu o ran dylanwadu.’

Wrth baratoi a llunio’r seminar hon, gwnaethom gydnabod bod hyn yn newid sylweddol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Ysgrifennodd ein cydweithiwr, Tim Buckle, flog gwych cyn y seminar ‘Craffu er mwyn sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol – mwy o gwestiynau nag atebion?’ Rydym yn eich annog i’w ddarllen pan gewch gyfle.

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s