Archifau Misol: Chwefror2018

Tri chwestiwn…

Os gwnaethoch ddarllen ein blog blaneorol, byddwch yn gwybod bod y seminar sydd ar ddod, Oes rhaid i mi aros yn yr ysbyty?, yn ymwneud â chynllunio i ryddhau cleifion a’r gwasanaethau sy’n ymwneud â’r broses honno.  O edrych ar hyn o safbwynt arall, dechreuais feddwl am sut y byddwn yn teimlo pe bawn yn glaf.  Sut byddwn am i’r broses o’m rhyddhau o’r ysbyty gael ei chynllunio?

Rwy’n unigolyn trefnus ac effeithlon *dros ben* yn y gwaith.  Pe bawn yn mynd i mewn i’r ysbyty, rwy’n gwybod y byddwn yn ceisio cynllunio fy nihangfa yn fanwl cyn gynted ag y bo’n bosibl (mae ysbytai’n iawn wrth gwrs, ond byddai’n well gennyf fod gartref!).  Byddwn am wybod yr hyn a oedd yn digwydd i mi, pam ei fod yn digwydd a phryd roedd yn digwydd.  Ac yn sicr byddwn am wybod pa mor gynnar y gallwn fynd adref a’r hyn roedd angen i mi ei wneud er mwyn helpu hynny i ddigwydd.  Gwnaeth hyn fy arwain i feddwl am y tri chwestiwn isod a ddylai, yn fy marn i, helpu unrhyw glaf i sicrhau y gall helpu i gynllunio cael ei ryddhau.

Beth sy’n mynd i ddigwydd tra fy mod yma?

Rwyf am wybod pam fy mod yn yr ysbyty ac ai hwn yw’r lle gorau i mi, y math o ofal y gallwn ei gael a’r hyn y gallaf ei wneud i helpu fy hun.  Pa ofal neu driniaeth sydd ei (h)angen arnaf i wella a phryd bydd y pethau hynny’n digwydd yn ystod fy arhosiad?  A fydd gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal eraill yn ymwneud â’m gofal (e.e. gweithwyr cymdeithasol, therapyddion neu weithwyr cymunedol), ac a fyddaf yn cwrdd â nhw tra fy mod yn yr ysbyty neu ar ôl i mi fynd adref?

Rwyf am ddechrau cynllunio cael fy rhyddhau yn syth, nid ar ôl i mi glywed y gallaf fynd adref.  Mae hynny’n ein harwain at y cwestiwn nesaf…

Pryd rydw i’n mynd adref?

Rwyf eisiau gwybod cyn gynted ag rwy’n cyrraedd (o fewn 24-48 awr) pryd rwy’n debygol o fynd adref.  Mae gennyf swydd, plentyn pedair blwydd oed a bywyd i fynd yn ôl atynt ac mae’n rhaid i mi wneud cynlluniau (sôn am gynllunio eto) ar gyfer yr hyn sy’n digwydd gartref tra fy mod yn yr ysbyty.  Rwy’n deall y gall y dyddiad hwn newid wrth i’m triniaeth fynd rhagddi, ond rwyf am i hyn gael ei adolygu’n rheolaidd ac rwyf am gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Beth sydd ei angen arnaf er mwyn mynd adref?

Mae’r cwestiwn hwn yn llawer mwy na bod yn ‘feddygol iach’ i adael yr ysbyty, gallaf fod yn feddygol iach heb fod yn barod i gael fy rhyddhau.  Mae hyn yn golygu y dylai staff ofyn i mi sut rwy’n ymdopi gartref ar hyn o bryd ac am y mathau o gymorth, ffurfiol neu anffurfiol, a gaf eisoes.  Ond mae cwestiynau eraill y mae angen eu hateb hefyd.  I mi, mae’r cwestiynau hyn yn cynnwys yr hyn y gallaf ei wneud i helpu fy hun, ond hefyd a yw popeth y bydd ei angen arnaf yn barod i mi symud yn ôl adref a gwella.  Os wy’n lwcus, byddai fy atebion yn weddol syml – rwy’n gwybod fy mod yn mynd i rywle diogel a bod pobl gartref i ofalu amdanaf.  I eraill, gall hyn fod yn llawer mwy cymhleth.  Rwy’n meddwl am bethau fel:

  • A yw fy nghartref yn addas i mi fyw ynddo ar hyn o bryd? A yw’n gynnes, yn sych a/neu’n hygyrch?
  • A oes gennyf ddillad i’w gwisgo i fynd adref?
  • Pwy sy’n mynd i fynd â fi adref?
  • A oes gennyf fwyd gartref?
  • A oes unrhyw un yn gwybod fy mod yn mynd adref (teulu/gwasanaethau eraill/cymorth/gofalwyr)?
  • A fyddwch yn dweud wrth fy meddyg teulu i mi gael fy nerbyn i’r ysbyty a pham?
  • A fyddwch yn rhoi gwybodaeth i mi am yr hyn y dylid ei wneud os byddaf yn sâl pan gyrhaeddaf adref?
  • A ddylwn ddisgwyl ymweliad cartref neu a fyddaf yn cael apwyntiad arall neu ragor o gymorth neu apwyntiadau dilynol?
  • A fydd fy meddyginiaeth yn barod pan fyddaf yn gadael?
  • A oes unrhyw ffactorau eraill a all effeithio ar fy rhyddhad?

Os byddwch yn glaf yn yr ysbyty, neu os byddwch yn gofalu am rywun ac mae’n mynd i mewn i’r ysbyty, cofiwch y cwestiynau hyn.  Mae’r ddeialog hon rhwng cleifion a staff yn gallu lleihau oedi drwy dynnu sylw at broblemau posibl yn gynnar yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau y cewch chi, neu eich anwyliaid, eich/eu rhyddhau mewn modd diogel ac amserol.

Oes rhaid i mi aros yn yr ysbyty

Bydd ein seminarau ar gynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn cael eu cynnal ar 14 a 22 Mawrth.  Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da wedi cydweithio y tro hwn gyda thîm Iechyd Swyddfa Archwilio Cymru.  Gwnaeth Sara gwrdd ag Anne i drafod pam bod y seminar hon yn digwydd nawr.

Os mai dim ond 1,000 o ddiwrnodau oedd gennych ar ôl i fyw,

sawl un ohonyn nhw fyddech chi’n dewis eu treulio yn yr ysbyty? (#last1000days)

 

Mae cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion yn broses barhaus er mwyn nodi’r gwasanaethau a’r cymorth y gall fod eu hangen ar rywun wrth adael yr ysbyty (neu symud rhwng ysbytai).  Yn ddiweddar cwblhaodd Swyddfa Archwilio Cymru adolygiadau o drefniadau cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion yn y byrddau iechyd.  Dangosodd yr adolygiadau, er bod gan y byrddau iechyd y fframweithiau ar waith i gefnogi cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion, fod nifer o resymau a oedd yn atal y broses o ryddhau cleifion rhag bod mor effeithiol ag y gallai fod.

Mae’r rhan fwyaf o achosion o ryddhau cleifion yn gymharol syml, ond ar gyfer tua 20% o gleifion mae’r broses o’u rhydau yn llawer mwy cymhleth, am sawl rheswm gwahanol.  Mae nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi bod yn cynyddu’n raddol yn ystod 2017, ac mae nifer y cleifion a oedd wedi gorfod aros 13 wythnos neu fwy yn cynyddu.  Mae’r oedi hwn cyn rhyddhau cleifion yn arwain at ganlyniadau gwaeth i bobl am eu bod yn colli eu hannibyniaeth a’u symudedd.

Am bob 10 diwrnod o orffwys mewn gwely yn yr ysbyty, mae gwerth 10 mlynedd o heneiddio yn digwydd i gyhyrau pobl dros 80 mlwydd oed, ac mae atgyflyru’n cymryd dwywaith yr amser o’i gymharu â’r datgyflyru hwn. Mae un wythnos o orffwys yn y gwely yn cyfateb i golli 10% o gryfder, ac i hen berson sy’n cyrraedd trothwy ei gryfder wrth ddringo’r grisiau gartref, neu godi o’r gwely neu oddi ar y toiled, gall colli 10% o gryfder olygu’r gwahaniaeth rhwng dibyniaeth ac annibyniaeth. [Yr Athro Brian Dolan, mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan hon.]

Un o’r themâu cyffredin yn yr adolygiadau oedd y cyfle i wneud gwaith mwy integredig trwy gydol y broses o ryddhau cleifion, gan gynnwys cysylltiadau cryfach â gwasanaethau yn y gymuned, er mwyn sicrhau bod y cleifion yn cael y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.

Roeddem o’r farn bod y thema hon, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn mynd i’r afael â rhan allweddol o gynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion – gan roi’r cleifion wrth wraidd popeth.  Nid pwy sy’n darparu gwasanaeth sy’n bwysig i’r cleifion, ond cael help i gyflawni’r canlyniadau unigol gorau posibl.

Yn y bôn, y ffordd orau o fesur amser claf fel y mesurydd allweddol o berfformiad ac ansawdd yw drwy edrych ar hyn o safbwynt y person. Taith yw hi ac nid digwyddiad. [last1000days]

Felly yn y seminar hon, fe welwch brosiectau sy’n gweithio ar draws y sectorau, yn darparu cysylltiadau â gwasanaethau yn y gymuned, yn arddangos partneriaethau gwirioneddol integredig ac enghreifftiau o gydweithio drwy gydol y prosesau cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion, ac yn bwysicaf oll, yn cadw’r unigolyn yn ganolog i bopeth.  Maent yn dod o hyd i atebion ar gyfer amrywiaeth o resymau sy’n achosi’r oedi mewn achosion cymhleth o ryddhau cleifion, pa un a ydynt yn ymwneud â throsglwyddo gofal, diogelwch, digartrefedd, iechyd meddwl, tai, asesiadau, neu bob un o’r uchod.

Bwriad y prosiectau hyn yw rhoi rhywbeth i chi feddwl amdano, a syniadau efallai y gallwch eu haddasu i’ch amgylchedd eich hun, neu i ysgogi syniadau newydd.  Ceisiwch weld beth allwch chi ei gyflwyno wedyn yn eich sefydliad neu amgylchedd gwaith a fydd yn helpu eich cleifion i gael canlyniadau gwell.

 

Hoffem nodi hefyd bod ein hymchwil cefndir wedi tynnu sylw at yr holl waith sy’n digwydd hefyd i atal achosion o dderbyn cleifion yn y lle cyntaf.  Mewn gwirionedd, gan fod cymaint ohonynt, penderfynom fod angen seminar gyfan ar hyn yn unig, felly caiff hynny ei drefnu ym mis Chwefror 2019.