Craffu er mwyn sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol – mwy o gwestiynau nag atebion?

Ym mis Ionawr, rydym yn cynnal seminar a fydd yn anelu at herio’r ffordd y mae angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ailystyried sut y maent yn sicrhau bod aelodau a swyddogion yn atebol mewn perthynas â chenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn cydnabod bod hyn yn newid mawr i wasanaethau cyhoeddus a chawsom sgwrs gyda’n cydweithiwr Tim Buckle sy’n gysylltiedig â’r ddwy ochr i’r geiniog – gan weithio ar adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o drefniadau craffu awdurdodau lleol yn ystod 2017-18 a helpu i lunio’r seminar hon.

Cafwyd sawl sgwrs am y term ‘craffu’, a gwnaethom benderfynu y byddai’n ddefnyddiol egluro sut mae hyn yn cyd-fynd â’r seminar ym mis Ionawr.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn herio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i weithio mewn ffordd wahanol. Felly beth y mae hyn yn ei olygu mewn perthynas â chraffu? Dyna y byddwn yn ei drafod ac yn ei ystyried yn y seminar ym mis Ionawr 2018. Ond cyn i ni ddechrau sôn am hynny, rwyf am drafod cwestiwn arall yn y blog hwn, sef beth yr ydym yn ei olygu wrth gyfeirio at ‘graffu’?

Fy ymateb cychwynnol i’r cwestiwn hwn yw…wel, mwy o gwestiynau! Mae’n dibynnu pwy sy’n ateb? Mae’n dibynnu pwy sy’n craffu? Mae’n dibynnu pwy yw testun y gwaith craffu? A ydym yn golygu trosolwg a chraffu llywodraeth leol gan fod gan hynny rolau penodol a nodwyd mewn deddfwriaeth? A ydym yn golygu’r broses neu’r swyddogaeth neu graffu yn ehangach ar draws y 44 o gyrff cyhoeddus y mae’r Ddeddf yn berthnasol iddynt? Ond wedyn wrth geisio gweithio mewn ffordd wahanol, gofynnaf gwestiwn arall – a oes ots, mewn gwirionedd, nad oes gennym ddiffiniad cryno? Efallai ddim, ar yr amod bod pob un ohonom yn sôn yn fras am yr un math o weithgaredd, yna gallwn ddal i drafod beth allai weithio, beth nad yw’n gweithio a beth y gallai fod angen iddo newid, gan gynnwys o bosibl ymddygiad craffwyr a thestun y gwaith craffu. Efallai mai un o’r pethau y mae angen i bob un ohonom ddygymod ag ef yw’r ffaith bod yn rhaid i ni dderbyn, mewn byd cymhleth a chyfnewidiol sy’n newid yn gyson, nad yw’n bosibl diffinio a chategoreiddio pob dim?

Defnyddir y term craffu yn helaeth ym maes llywodraeth leol gan fod gan gynghorau yng Nghymru o leiaf un ‘pwyllgor trosolwg a chraffu’. Ond mae’r broses ‘graffu’ hefyd yn mynd rhagddi mewn cynghorau o fewn llawer o wahanol fforymau a phrosesau – mae swyddogion yn ‘craffu’ ar wybodaeth am berfformiad, felly hefyd Aelodau’r Cabinet. Mewn unrhyw gorff cyhoeddus, bydd rhywfaint o ‘graffu’ ar berfformiad, cyllidebau a pholisïau. Er mwyn cadw pethau’n syml, rydym yn sôn mewn gwirionedd am sicrhau bod gwneuthurwyr penderfyniadau yn atebol, herio perfformiad, polisïau a dulliau gweithio, adolygu canlyniadau ac yn y blaen…. Fwy na thebyg bod llawer o eiriau eraill y gallem eu defnyddio i ddisgrifio’r hyn yr ydym yn ei olygu gan y broses ‘graffu’.

Os dilynwn y rhesymeg hon, mae hyn hefyd yn golygu bod dynodiadau syml y ‘craffwyr’ a’r ‘testun craffu’ hefyd yn rhy syml. Mae rhai grwpiau amlwg a fydd fwy na thebyg yn ystyried eu bod yn rhan o’r ‘pwyllgor craffu’ – aelodau’r pwyllgor craffu a swyddogion craffu ym maes llywodraeth leol, aelodau anweithredol y bwrdd ac ati, ond mae’n bosibl y bydd aelodau’r cabinet ac aelodau gweithredol y bwrdd hefyd yn craffu ar y ffordd y mae eu sefydliadau wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Yn hanfodol, mae’n bosibl y byddant hefyd am sicrhau bod sefydliadau partner yn atebol ar y cyd ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus – nid yw atebolrwydd bob amser yn fertigol, gall fod yn llorweddol hefyd….

Felly, beth mae hyn yn ei olygu i’r rheini sy’n dod i’r digwyddiad ym mis Ionawr 2018? Mae’n golygu ein bod am iddynt ddod â’u gwybodaeth a’u profiadau o graffu gyda nhw – p’un a ydynt yn ‘graffwr’ neu’n ‘destun craffu’, neu’n rhywun sydd wedi arsylwi ar waith craffu yn mynd rhagddo – a’n bod am iddynt rannu hyn gyda phobl o sefydliadau a sectorau eraill.  Mae’n golygu ein bod yn gobeithio y bydd y cyfranogwyr yn dysgu gan ei gilydd ac y gallant ddod o hyd i atebion i rwystrau cyffredin (a mwy anghyffredin) i graffu effeithiol er mwyn helpu i wella llesiant cenedlaethau’r dyfodol a dod o hyd i atebion a fydd yn gweithio yn eu sefydliadau. Er mwyn helpu i wneud hyn, yn y digwyddiad, caiff cyfranogwyr eu herio i feddwl mewn ffordd wahanol am graffu, am yr hyn y mae craffu effeithiol yn ei olygu a pham bod hynny’n bwysig ar gyfer llesiant cenedlaethau’r dyfodol?

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus herio eu hunain i ailystyried yr hyn y maent yn ei wneud a sut y maent yn gwneud hynny. Nid yw’r her hon wedi’i chyfyngu i faes polisi, tîm neu swyddogaeth unigol a chydnabyddir na ddaw’r newid yn weithredol dros nos. Gallai craffu, ar bob ffurf, o bosibl chwarae rhan allweddol wrth ysgogi’r newid hwnnw drwy sicrhau y caiff y cwestiynau cywir eu gofyn, ar yr adeg gywir.

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s