Archifau Misol: Tachwedd 2017

Sgiliau Gwledig

Gan weithio gyda’n gilydd ers 2009, mae Gwalia (Pobl – @poblgroup) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (@Croesobannaub) wedi datblygu cyfres o brosiectau awyr agored sydd wedi cyfoethogi bywydau pobl sy’n byw mewn tai â chymorth a chleientiaid allgymorth.

Un o’r mentrau cyntaf oedd Hyrwyddwyr Cymunedol Bannau Brycheiniog a oedd, gyda chyllid CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru @NatResWales), yn cefnogi pobl ifanc mewn hyfforddiant gweithgareddau awyr agored. Cyflawnodd yr holl gyfranogwyr Wobr Efydd y Cynllun Mordwyo Cenedlaethol (@nass_office) ac aethant ymlaen i drefnu gweithgareddau o’u dewis nhw’n annibynnol a chymryd rhan ynddynt.

Rhoddodd gweithgareddau’r prosiect gymaint o ysbrydoliaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau Brecon Foyer (Gwalia) fel y gwnaethant sefydlu pwyllgor lleol a grŵp. Nodau’r grŵp oedd cynnig gweithgareddau a chyfleoedd dysgu cynhwysol a hygyrch drwy arfer gwrthwahaniaethol, gwella’r ddelwedd o bobl ifanc a chynyddu ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio arnynt. Ers hyn, mae’r grŵp wedi llwyddo i sicrhau arian ar gyfer prosiectau, gan gynnwys taith addysgol i Auschwitz yn dilyn prosiect ar hanes Iddewig; taith gweithgareddau awyr agored breswyl i Ddyfnaint; ymweliadau â Llundain a Rhufain a phrosiect byw’n iach.

Mae rhagor o brosiectau ar y cyd wedi cynnwys Datblygu Geogelcio 2010-12, Sgiliau Gwledig 2012- 2014, Llwybrau Parc 2014, Diwrnod Iechyd Meddwl a Lles 2015 ac, yn ddiweddaraf, sicrhau cyllid Arian i Bawb sydd wedi golygu y gellir bwrw ymlaen â rhaglen hyfforddiant Sgiliau Gwledig 2016/17. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda’r holl gyfranogwyr yn llwyddo i gyflawni achrediad Agored Cymru (@AgoredCymru) mewn Sgiliau Awyr Agored, Torri dail tafol, mieri, gwrychoedd a Sgiliau Coetir Ymarferol.

Bu’r cyfuniad o hyfforddiant a’r cynnydd yn hyder y cyfranogwyr yn ysbrydoledig, gan arwain at y canlyniadau canlynol: mae 1 unigolyn wedi dod o hyd i gyflogaeth amser llawn;

mae 4 unigolyn wedi cymryd rhan yn rhaglen Get into the Brecon Beacons Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog/Ymddiriedolaeth y Tywysog (@PrincesTrustWales) a oedd yn cynnwys rhaglen “Get  Into” pythefnos o hyd ac Archwilio Menter, mae 2 unigolyn wedi cael eu recriwtio’n llwyddiannus i raglen waith 3 mis Get Into the Brecon Beacons partneriaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog/Ymddiriedolaeth y Tywysog fel Ceidwaid dan Hyfforddiant – gweler darllediad ITV Cymru o’r hyfforddeion yma.

Ymunodd Matt Baker â thîm Countryfile y BBC (@BBCCountryfile) â’r grŵp ar ddiwrnod gweithgaredd geogelcio er mwyn darganfod sut y gall yr amgylchedd naturiol ac ychydig o dechnoleg newydd sbarduno ffyrdd newydd o fod yn actif a gwella lles meddyliol.

Dilynodd Inside Housing (@insidehousing) o’r sylw ar y teledu a lluniodd yr erthygl hon sy’n cyfeirio at sut y gall Cymorth Tai gyfoethogi bywydau y tu hwnt i gymorth tenantiaeth yn unig.

Mae brwdfrydedd, cyfranogiad a chynnydd pawb a fu’n rhan o’r prosiectau hyn yn dangos y potensial sydd gan y gwaith hwn i wneud gwahaniaeth sylweddol i’r ffyrdd mae grwpiau sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol yn ystyried yr amgylchedd awyr agored, yn cael mynediad ato ac yn cael budd economaidd-gymdeithasol ohono.

Yn gryno, mae’r prosiectau lleol hyn wedi’u datblygu gan y ddau bartner er mwyn rhoi’r cymorth gorau posibl i bobl ifanc dan anfantais sy’n byw mewn ardaloedd trefol a gwledig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn cynyddu eu mynediad at gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Rural Skills

Defnyddio dulliau cyflwyno amgen er mwyn cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus

Wrth ymchwilio i’r digwyddiad modelau cyflenwi amgen eleni, roedd un thema gyffredin yn parhau i godi: pwysigrwydd tai saff a diogel a’r sefydliadau sy’n darparu’r gwasanaeth hwn. 

 

Mae hierarchaeth anghenion Maslow, a ysgrifennwyd ym 1943, yn nodi bod lloches yn angen dynol ffisiolegol sylfaenol, yn ogystal ag aer, dŵr a bwyd.  Nid oes dim byd llawer pwysicach na hynny.  Felly, efallai nad yw’n syndod i ni ganfod bod tai’n rhan ganolog wrth edrych ar fodelau cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus amgen.

Ond mae’n fwy na bod darparu cartref cynnes, saff a diogel yn hanfodol bwysig i sefydlogrwydd a llesiant rhywun.  Mae’r sefydliadau amrywiol ledled Cymru sy’n cyflenwi gwasanaethau tai yn arwain y ffordd ar rai prosiectau arloesol, ataliol a chydweithredol sy’n cael effaith fawr mewn amrywiaeth o feysydd gwasanaeth.  Maent yn cyflenwi gwasanaethau a oedd, o bosibl, yn arfer cael eu cyflenwi gan gorff cyhoeddus arall neu sy’n atal galw ar gorff cyhoeddus un neu fwy o gyrff cyhoeddus; ac maent yn partneru â chyrff cyhoeddus, y trydydd sector, dinasyddion a’i gilydd er mwyn cyflenwi’r gwasanaethau hyn.  O ran Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, er nad yw’n cael ei ddeddfu ganddi, mae’r sector tai’n arwain y ffordd o ran sut y dylai gael ei rhoi ar waith.

Mae sefydliadau tai mewn sefyllfa dda i ddeall anghenion eu tenantiaid, maent ‘ar garreg y drws’, ac yn bwrw ymlaen ag ystod eang o brosiectau er mwyn cefnogi eu tenantiaid.  Gwnaeth Trish Hoddinott (Melin Homes), sy’n cyflwyno gweithdy yn ein digwyddiad am raglen ysgolion, ei grynhoi i mi pan ddywedodd, “Y rhain yw ein tenantiaid yn y dyfodol ac rydym am iddynt fod yn iach, yn hapus ac yn economaidd hyfyw.”  Y math hwn o feddylfryd ataliol, hirdymor fydd yn helpu i gyflenwi’r Gymru a Garem a chyflenwi saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen 2016-2021’ a gafodd ei chyhoeddi’n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, yn nodi cartrefi diogel fel blaenoriaeth ar gyfer Cymru Ddiogel sy’n Ffynnu.  Mae hefyd yn sôn am wella a diwygio gwasanaethau cyhoeddus ac wynebu materion drwy ffyrdd newydd o weithio, rhaglenni cydgysylltiedig a gweithio ar draws ffiniau traddodiadol.

Gyda’r seminar hon, byddwn yn dangos rhai o’r prosiectau y daethom ar eu traws yn ystod ein hymchwil ar gyfer y digwyddiad hwn.  Mae’r prosiectau hyn yn mynd i’r afael â materion gyda phobl ifanc, pobl hŷn, trais domestig, iechyd meddwl, tai â chymorth, ac mewn cymunedau gwledig.  Maent yn helpu pobl i aros yn eu cartrefi ac yn sicrhau canlyniadau gwell iddynt.  Maent yn cynnwys partneriaethau, mentrau cydweithredol a phrosiectau amlasiantaethol o’r holl sectorau.  Maent yn enghreifftio atal drwy ymyrryd.  Maent yn croesi ffiniau traddodiadol.  Fel y nododd Matt Dicks (Sefydliad Tai Siartredig), un o’n haelodau panel, “Gallai prosiectau bach a newidiadau rheng flaen i’r ffordd rydym yn cynllunio gwasanaethau sbarduno a datblygu newidiadau ar lefel strategol uwch”.

Mae pob sefydliad sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn wynebu llawer o heriau.  Beth yw’r ffordd orau i ni gydweithio er mwyn cyflenwi’r gwasanaeth gorau posibl i bob dinesydd?  Pwy sydd ei angen i sbarduno partneriaethau?  Pwy sydd ei angen o gwmpas y bwrdd?  Pwy sydd yn y sefyllfa orau i gyflenwi’r gwasanaeth hwnnw?  Meddwl yn wahanol am y ffordd mae gwasanaethau’n cael eu cyflenwi yw nod modelau cyflenwi amgen.

Cynhelir ein digwyddiad Modelau Cyflenwi Amgen yng Nghaerdydd ar 22 Tachwedd ac yn Llanrwst ar 7 Rhagfyr.  Cliciwch ar y ddolen er mwyn cofrestru.