Sut y gall dulliau ymgysylltu gwahanol helpu i gynnwys y dinesydd yn y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus

Yn ein blog diweddaraf, mae Kevin Davies, Pennaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn trafod pwysigrwydd ymgysylltu â dinasyddion…

Mae gwella ymgysylltu â phobl Cymru yn flaenoriaeth fawr i ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, lle rydym yn cynnal amrywiaeth o brosiectau er mwyn ennyn diddordeb dinasyddion o bob rhan o Gymru er mwyn meithrin ymgysylltiad, dealltwriaeth ac ymddiriedolaeth yn yr hirdymor rhwng y Cynulliad a’r bobl y mae’n eu cynrychioli, ac i geisio annog y cyhoedd i gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad yn uniongyrchol.

Rhai blynyddoedd yn ôl ariannodd y Gronfa Loteri Fawr Pathways through Participation, prosiect ymchwil a oedd yn ystyried pam bod unigolion yn cymryd rhan ac yn parhau i gymryd rhan mewn gwahanol fathau o gyfranogiad. Cafodd y prosiect ei redeg gan Gyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol, mewn partneriaeth â’r Sefydliad dros Ymchwil Gwirfoddoli ac Involve.

Canfu’r prosiect hwn fod y ffactorau canlynol yn chwarae rôl bwysig o ran p’un a yw pobl yn dechrau, yn parhau neu’n rhoi’r gorau i gymryd rhan:

  • Cymhelliant personol, megis helpu eraill, datblygu cydberthnasau, bod â dylanwad, diddordeb mewn pwnc sydd o bwys iddynt;
  • Sbardun, megis ymateb i benderfyniad, neu brofiad bywyd diweddar fel salwch, symud i ardal newydd neu gael plant;
  • Adnoddau, gan gynnwys amser, arian, daearyddiaeth, mynediad i drafnidiaeth, iechyd, sgiliau, profiad, gwybodaeth, a hyder;
  • Cyfleoedd, amgylchedd priodol gydag amodau a chyfleoedd i droi cymhelliant i gymryd rhan yn weithredu.

blog pic welsh

Mae’r ffordd rydym yn cyflwyno ein gweithgareddau a sut rydym yn mesur eu heffeithiolrwydd yn ystyried y ffactorau hyn, i sicrhau, er ein bod yn bodloni’r amcanion tymor byr penodol ar gyfer prosiectau unigol, ein bod hefyd yn deall yr effaith y caiff gwahanol weithgareddau ar ddinasyddion sy’n cymryd rhan, gyda’r nod o annog cyfranogiad democrataidd hirdymor.

Yn ddiweddar dyma ni’n casglu adborth oddi wrth gyfranogwyr dau brosiect. Roedd y cyntaf gyda pherchnogion busnesau bychain ledled Cymru a gymerodd ran mewn cyfweliadau fideo i rannu eu barn ag Aelodau’r Cynulliad ar gyfer ymchwiliad pwyllgor i Ardrethi Busnes yng Nghymru.

Dywedodd yr adborth wrthym y byddai pob cyfranogwr yn cymryd rhan eto petai’n cael y cyfle, a’u bod yn teimlo iddynt gael cyfle i lesio eu barn. Roedd y newidiadau mwyaf o ganlyniad i’w cyfranogiad yn amlwg yn yr ymatebion i’r datganiadau canlynol:

  • ‘Nid oes gan bobl fel fi lais yn y penderfyniadau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu gwneud’: nid oedd dim un o’r cyfranogwyr yn anghytuno â’r datganiad hwn cyn cymryd rhan, o gymharu â 67% a oedd yn anghytuno â’r datganiad ar ôl cymryd rhan.
  • ‘Mae gennyf yr hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth’: roedd hanner y cyfranogwyr yn anghytuno â’r datganiad hwn cyn cymryd rhan, tra roedd 88% yn cytuno â’r datganiad hwn ar ôl cymryd rhan.

Cynhaliwyd ymarfer adborth tebyg yn dilyn digwyddiad i ymgysylltu ag unigolion a oedd â phrofiad byw, a’r rhai sy’n gweithio mewn swydd rheng flaen, fel rhan o ymchwiliad pwyllgor i Iechyd Meddwl Amenedigol. Drwy’r ymarfer adborth hwn, gwnaethom nodi’r canlynol:

  • Nid oedd dim un o’r cyfranogwyr wedi ymgysylltu â’r Cynulliad yn uniongyrchol o’r blaen, a dywedodd pob un ohonynt na fyddent wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad pe na baent wedi cael eu gwahodd i’r digwyddiad;
  • Teimlodd pob un eu bod wedi cael digon o gyfle i fynegi eu barn yn ystod y digwyddiad, a byddai pob un yn cymryd rhan mewn rhywbeth tebyg eto;
  • Roedd gan y cyfranogwyr amrywiaeth gwirioneddol o ddiddordebau gwleidyddol – roedd gan ychydig dros hanner ohonynt lawer iawn / cryn dipyn o ddiddordeb gwleidyddol, tra roedd y gweddill yn honni fod ganddynt rywfaint / ddim llawer o ddiddordeb gwleidyddol;
  • Honnodd 7% fod ganddynt lawer iawn o wybodaeth wleidyddol, 52% eithaf tipyn o wybodaeth a 41% ddim llawer;
  • Pan ofynnwyd a oedd eu lefelau gwybodaeth am wleidyddiaeth Cymru yn well nag yr oedd o’r blaen, roedd y mwyafrif yn cytuno neu’n cytuno’n gryf;
  • Pan ofynnwyd a oedd eu dealltwriaeth o’r gwahaniaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi gwella, roedd y mwyafrif yn cytuno neu’n cytuno’n gryf;

Ein bwriad yw ceisio casglu’r math hwn o wybodaeth ar gyfer yr amrywiaeth o fentrau ymgysylltu rydym yn eu cyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn deall yn well pa mor effeithiol ydynt a gwella’r hyn a gynigwn yn y dyfodol, gan sicrhau bod y rhai sy’n cymryd rhan yn ein gwaith mewn gwell sefyllfa i barhau fel dinasyddion sy’n weithredol yn ddemocrataidd.

 

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s