Chwalu’r rhwystrau rhwng pobl sy’n darparu gwasanaethau a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau

 

sophie howe

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

“Rhaid mynd i’r afael â’r cwestiwn parthed a oes gennym y Gymru a garem drwy ddeialog ddwyffordd gyda’r cyhoedd” meddai Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; “mae’n rhaid i’r ffordd rydym yn cynnwys pobl symud y tu hwnt i’r dulliau traddodiadol o ymgynghori. Mae dechrau sgwrs gyda phobl yn hanfodol er mwyn trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus.”

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyflawni datblygiad cynaliadwy drwy’r pum ffordd o weithio. Mae hyn yn cynnwys cynllunio ar gyfer y dyfodol hirdymor, atal problemau cyn iddynt godi neu waethygu, integreiddio gwasanaethau ac ar draws y saith nod llesiant cenedlaethol, cydweithio â’r partneriaid cywir ac, yn holl bwysig, cynnwys pobl wrth  iddynt wneud penderfyniadau.

Er mwyn cyflawni’r dyletswyddau hyn, mae ymgysylltu’n briodol o’r dechrau’n deg yn hanfodol i weithredu’r Ddeddf. Rhaid i’r Gymru a garem ‘ni’ fynd y tu hwnt i weision sifil a llywodraeth leol – rhaid iddi gynnwys cymunedau ac unigolion ac ymgysylltu â nhw a gofyn iddynt: ai dyma’r Gymru a garech chi; beth rydych ei eisiau ar gyfer eich teulu a’ch cymuned nawr ac yn y dyfodol. Gall dechrau o safbwynt pobl sy’n byw yng Nghymru ac sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn aml roi datrysiad llawer symlach i broblemau anhydrin rydym ni fel swyddogion yn ymrafael â nhw.

Dywedodd George Bernard Shaw mai’r broblem fwyaf gyda chyfathrebu yw’r camargraff ei fod wedi digwydd. A all hyn fod yn ddisgrifiad o’n diwylliant presennol o ymgynghori yn y sector cyhoeddus? Rydym yn aml yn cael ein cyfarwyddo i ‘ymgynghori’ â’r gymuned a rhanddeiliaid, ond yn aml mae hyn yn bell iawn o gyfranogiad parhaus, go iawn.

Dywedir yn aml nad oes gan gyrff cyhoeddus yr adnoddau i ddilyn yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd nac i gynnwys pobl mewn modd ystyrlon. Ond nid oes rhaid i hyn fod yn ymgysylltiad wyneb yn wyneb dwys (er bod hyn yn effeithiol iawn), gallwn bellach gyfathrebu yn ein bywydau personol mewn nifer o ffyrdd yn defnyddio dulliau digidol cost-effeithiol. Sut y gallwn wneud hyn yn bosibl yn ein bydoedd proffesiynol hefyd?

Nid yw’n syndod bod pobl Cymru wedi sylwi. Yn ôl IPSOS Mori, dim ond 13% o’r cyhoedd oedd yn teimlo fod ganddynt berchnogaeth dros y gwasanaethau roeddent yn eu derbyn. Drwy weithio gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da i dreialu’r feddalwedd ‘SeneseMaker’, er mwyn cynnwys pobl yn y gwaith o bennu blaenoriaethau’r Comisiynydd, dyma lawer o bobl yn adrodd eu stori o deimlo’n ddi-rym, wedi ymddieithrio, ac erbyn hyn â dim diddordeb yn yr hyn a oedd yn digwydd. Roedd pobl yn teimlo yr ymgynghorwyd â nhw’n rhy hwyr, y darparwyd gwybodaeth iddynt a oedd mewn iaith dechnegol, y gofynnwyd y cwestiynau anghywir iddynt ac nad oedd llawer ohonynt yn gwybod pa effaith a gafodd eu mewnbwn.

Efallai bod hyn yn amlygu’r ffaith nad oes gan y person cyffredin ddiddordeb mewn ffiniau gwasanaethau a darpariaeth cyllid, nac yn gwerthfawrogi cael ei labelu’n ‘gleient ddefnyddiwr gwasanaethau’ na bod yn rhan o ‘grŵp gwarchodedig’. Effaith yr iaith rydym yn mynnu ei defnyddio i drafod y cyhoedd rydym yn ei wasanaethau, a’r ffaith ein bod yn mynnu creu proses, yw dad-ddyneiddio gwasanaethau cyhoeddus.  Efallai ein bod bellach yn arbenigwyr ar ofyn y cwestiynau cywir, ticio’r blychau cywir, ond yn aml rydym yn dda am fethu’r pwynt.

Enghraifft ddiweddar yw pan adawodd sawl unigolyn sylwadau ar ymgynghoriad gan gyngor ar gau ysgolion. Yn unol â deddfwriaeth cydraddoldeb, gofynnodd y cyngor i’r rhieni am wybodaeth ddemograffig fanwl. Fodd bynnag, ni ofynnodd yr ymgynghoriad a oedd unrhyw rheini ddim yn gallu gyrru, er gwaetha’r ffaith mai dim ond drwy yrru’n unig y gellid cyrraedd yr ysgol.

Mae’r enghraifft hon yn wers ein bod, drwy gynnwys pobl, mewn gwirionedd yn trafod “pobl”! Pobl sy’n famau, tadau, meibion, merched, cymdogion a ffrindiau.

Dywed Sophie Howe: “Credaf y gallwn fynd tipyn o ffordd i chwalu’r rhwystrau biwrocrataidd a all fodoli weithiau rhwng pobl a gwasanaethau. Siawns drwy gerdded milltir yn eu hesgidiau nhw, gallwn wneud gwasanaethau cyhoeddus ychydig bach yn fwy dynol?”

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn cynnal digwyddiad ‘Sut y gall dulliau ymgysylltu gwahanol helpu i gynnwys y dinesydd yn y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus’ ar 6 Medi yng Nghaerdydd, ac ar 28 Medi yn Llanrwst, Conwy.

Bydd y seminarau hyn yn dechrau ystyried pa mor dda ydym o ran cael y gwir ddarlun gan ein cymunedau, deall y bywydau mae pobl yn eu byw, pa ddulliau y gallwn eu defnyddio i ddeall yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu, yr hyn sy’n eu hysgogi a’r hyn a fyddai’n eu helpu i fyw bywydau hapusach a mwy bodlon.

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s