Archifau Misol: Medi 2017

A ddylem fod yn symud i ffwrdd o arfarniadau?

Yn ein blog diweddaraf, mae Russell Higgins, Partner Dysgu Adnoddau Dynol Swyddfa Archwilio Cymru, yn ystyried y broses arfarnu ac yn rhannu ei brofiadau o’r sioe dysgu a datblygu CIPD yn ôl ym mis Mai. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer cynyddol o gyflogwyr wedi bod yn symud i ffwrdd o arfarniadau blynyddol ffurfiol ac wedi bod yn cynnal deialog gyda chyflogeion yn lle hynny. Mae arweinwyr ym mhob man yn sylweddoli mai pobl yw ased mwyaf gwerthfawr sefydliad, ac nad yw prosesau rheoli perfformiad traddodiadol yn dylanwadu ar sgiliau a galluoedd cyflogeion. Mae gwaith ymchwil wedi awgrymu bod arfarniad yn aml yn rhywbeth a ofnir yn hytrach na rhywbeth sy’n ysgogi ac yn cefnogi pobl i wneud yn well, am ei fod yn feichus o ran amser ac egni.

A ddylem fod yn symud i ffwrdd o arfarniadau?

Ym mis Mai, mynychais sioe dysgu a datblygu y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, lle mynychais sesiwn ar symud i ffwrdd o arfarniadau i hyfforddi ac adborth parhaus. Mae’r ddau sefydliad wedi symud i ffwrdd o arfarniadau perfformiad blynyddol traddodiadol, i sgyrsiau rheolaidd ac adborth a datblygiad parhaus. Bu siaradwyr o River Island a General Electric yn rhannu eu rhesymau dros symud i ffwrdd o arfarniadau er mwyn gwella cynhyrchiant a pherfformiad sefydliadol. Nod y sesiwn oedd egluro pam bod y sefydliadau wedi symud i ffwrdd o arfarniadau.

Yr hyn a’m trawodd ar y dechrau oedd y nifer dda a oedd yn bresennol yn y sesiwn!

Dywedodd y siaradwr o River Island mai dim ond 7% o’r arfarniadau blynyddol oedd wedi cael eu cwblhau yn ôl y drefn yn y gorffennol ac felly nad oedd y dull traddodiadol o reoli perfformiad yn gweithio. Roedd llawer o’r staff yng nghwmni teuluol River Island, yn teimlo eu bod wedi ymddieithrio o’r holl broses arfarnu, a phan wnaethant ymchwilio i’r drefn rheoli perfformiad, sylweddolwyd mai’r hyn a oedd yn bwysig iddynt oedd bod:

  • Unigolion yn gwybod beth a ddisgwylir ohonynt;
  • Unigolion yn gwybod beth oedd nodau’r adran; ac
  • Unigolion yn gwybod beth oedd blaenoriaethau’r busnes;

Gyda hyn mewn golwg, dyma nhw’n symud i ffwrdd o’r cynllun rheoli perfformiad traddodiadol i un sy’n canolbwyntio ar gael adborth un i un yn gyflym (ar y pryd), yn hytrach nag ar ddiwedd y flwyddyn. O fewn River Island, rhaid i drafodaethau un i un fod yn briodol a does dim angen i’r sgyrsiau fod yn drafodaeth ffurfiol, hirwyntog a chymhleth. Yr hyn a’m trawodd ynglŷn â datblygiad gyrfa yw mai’r unigolyn sydd â pherchnogaeth lawn drosto ac nid y rheolwr, felly mae cyfrifoldeb ac atebolrwydd personol yn allweddol.

Rhannodd General Electric gyda’r gynulleidfa y ffaith ei fod wedi ailfrandio adborth, a’i fod bellach yn cael ei alw’n fewnwelediadau, gan fod y cwmni’n credu bod y gair adborth yn awgrymu rhywbeth negyddol i bobl. Os bydd staff General Electric yn nodi ymddygiad sy’n cael effaith ac sy’n effeithiol, yna maent yn rhannu’r mewnwelediad hwnnw gyda’r person ar unwaith. Gelwir hyn yn adborth 360 gradd parhaus. Hefyd, os bydd staff yn nodi ymddygiadau sy’n cael effaith negyddol, yna gellir rhannu’r mewnwelediad hwn.

Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut mae sefydliadau yn symud i ffwrdd o’r dulliau traddodiadol o reoli perfformiad. Fodd bynnag roedd achos diweddar lle enillodd rheolwr practis meddygol “a or-ddyrchafwyd” achos diswyddo deongliadol yn erbyn ei chyn-gyflogwr, lle dywedodd y tribiwnlys cyflogaeth os bydd cyflogwr yn methu â chynnal gweithdrefnau rheoli perfformiad cywir ar gyfer cyflogeion y maent o’r farn eu bod yn tanberfformio, “bydd problemau a drwgdeimlad yn cael eu cadw ar gyfer y dyfodol”.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi bod yn gweithio ar sicrhau nad yw’r system arfarnu’n faich a’i bod wir yn ychwanegu gwerth.

Wrth i ni edrych ar sut beth fydd rheoli perfformiad yn y dyfodol, yn hytrach nag edrych yn ôl, mae’n bosibl y gall gwell trafodaeth â chyflogeion sy’n edrych tua’r dyfodol fod yn fuddiol er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn flaengar ac yn edrych ar yr hyn a wnaiff ddigwydd yn y dyfodol. I mi, mae angen i ni feddwl am ba gefnogaeth, datblygiad a rheolaeth sydd eu hangen ar gyflogai er mwyn iddo gyrraedd ei wir botensial. Mae pwysigrwydd adborth parhaus yn allweddol, ni ddylid ei adael tan ddiwedd y flwyddyn a dylai gael ei drafod yn barhaus. Dylai cyflogeion gymryd perchnogaeth dros eu cynllun datblygiad personol unigol (CDP).

Sut y gallai Swyddfa Archwilio Cymru symud Data Agored yn eu blaen?

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ystyried sut y gallwn rannu Data Agored. Cyn gadael y Gyfnewidfa Arfer Da, ystyriodd Dyfrig Williams sut y gallai’r sefydliad symud hyn ymlaen.

Rwy’n gadael Swyddfa Archwilio Cymru ar ôl arwain ar waith Swyddfa Archwilio Arloesol ar gaffael data. Gwnaeth rhan o’m gwaith oedd ystyried sut y gwnaethom ddefnydd gwell o Ddata Agored fel sefydliad, o ran defnyddio data sy’n cael eu rhyddhau gan sefydliadau eraill, a sut rydym yn rhyddhau ein Data Agored ein hunain.

Ble i ddechrau gyda Data Agored?

Cynhaliodd y Gyfnewidfa Arfer Da weminar gyflwyniadol ar Ddata Agored, am iddo gael ei godi fel pwnc yr oedd gan lawer o bobl ddiddordeb ynddo, ond heb fawr o syniad o ran sut a ble i ddechrau. Mae hwn yn fan cychwyn da i unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall pam mae hyn yn bwysig.

Pethau allweddol i ni eu gwneud yn y dyfodol

Pan wnaethom gyhoeddi ein Set Ddata Agored gyntaf, gwnaethom roi cyhoeddusrwydd iddi i’r safon uchaf posibl yn unol â’n hadnoddau a’n harbenigedd. Mae 5 Seren Data Agored yn rhoi canllaw inni o ran sut y gallwn wella ein setiau data, ac mae’r wefan yn cynnwys adran costau a buddiannau sy’n amlinellu’r hyn y byddai’n rhaid inni ei wneud.

Roedd ein hymweliad â Llys Archwilio’r Iseldiroedd yn ddefnyddiol iawn oherwydd rhoddodd gyfle inni ystyried sut mae corff archwilio arall yn defnyddio data. Roedd rhywfaint o’r adborth mwyaf defnyddiol gan Roline Kamphuis yn ymwneud â sut maent yn mynd ati’n fwriadol i ddileu manylion personol o ddata i’w gwneud yn haws rhannu rhwng adrannau. Mae angen inni ystyried y data rydym yn eu casglu ac archwilio pa fath o ddata sydd eu hangen arnom a’r hyn sy’n ein hatal rhag eu rhannu. Os mai’r data personol sy’n ein hatal, a oes angen y manylion personol hynny arnom? Gall y sbectrwm data o’r Sefydliad Data Agored fod yn ddefnyddiol iawn wrth ein helpu i ddeall yn well pryd y mae’n briodol rhannu data.

the data spectrum

Rhwydweithiau Mewnol

Roedd hefyd yn ddiddorol iawn dysgu am sut mae Llys Archwilio’r Iseldiroedd wedi sefydlu cymunedau ymarfer. Mae gan staff sy’n gweithio gyda data yn Swyddfa Archwilio Cymru gymaint o wybodaeth y gellir manteisio arni, ond mae angen inni hefyd sicrhau y gallwn wneud y mwyaf o’u harbenigedd fel eu bod yn gallu mynd i’r afael â phrosiectau swmpus iawn. Pan fydd gennym dîm cychwynnol yn ei le, dylem ystyried sut y gallwn feithrin arbenigedd a gallu ac adnoddau fel nad yw gwybodaeth yn cael ei chadw mewn silo yn Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd rhywfaint o ddysgu o’r grwpiau a sefydlwyd fel rhan o’r prototeip Archwilio Arloesol er mwyn rhannu arfer da yn ymwneud â’r defnydd o Excel.

Mae hefyd yn bwysig inni feddwl am sut rydym yn storio’r data hwnnw ac a oes unrhyw oblygiadau o ran mor hawdd neu anodd ydyw inni gronni ein data’n fewnol yn Swyddfa Archwilio Cymru. A oes angen inni edrych o’r newydd ar ein proses o gasglu data i weld sut y gallwn wneud y defnydd gorau posibl o’r data er budd rhannau eraill o’r sefydliad? Mae hyn yn gyfle inni ddefnyddio’n hadnoddau yn well a chael mwy o werth o’r data. Mae sut y mae’r data’n cael ei gadw a’i rannu yn bwysig – mae’n angen iddynt fod yn hygyrch er mwyn iddynt allu ychwanegu gwerth ar draws Swyddfa Archwilio Cymru.

Rhaid inni hefyd feddwl am sut y gallwn ychwanegu gwerth yn fewnol drwy wneud data yn agored. A oes adroddiadau sy’n rhaid inni eu cynhyrchu dro ar ôl tro y gallem eu hawtomeiddio a fyddai o fudd i’r staff a’r cyhoedd? A oes potensial inni ryddhau adroddiadau perfformiad mewn ffordd wahanol? Er enghraifft, a allai’r data ar gyfer ein hadroddiad blynyddol gael eu casglu fel dangosfwrdd a’u rhyddhau fel Data Agored? A allai awtomeiddio’r data hyn helpu i symleiddio’r adrodd ac arbed amser staff? Lucy Knight o Gyngor Dyfnaint sy’n rhannu rhai syniadau gwych yn ei Darlith Sefydliad Data Agored.

https://www.youtube.com/watch?v=YlJkoaCZSlM

Rhwydweithiau allanol

Mae bod yn rhan weithredol o rwydweithiau allanol wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant, o ran cymdeithasoli ein syniadau a rhyddhau data sy’n ddefnyddiol i bobl.

Mae Sefydliad Data Agored Caerdydd wedi creu map dynamig i ddangos lefelau Treth Gyngor fesul pen y boblogaeth yng Nghymru a hefyd map hecs o Gyfanswm y Gwariant Gros. Daeth hyn yn sgil mynd ati i rannu ein setiau data â phartïon â diddordeb drwy rwydweithiau y mae’r Gyfnewidfa Arfer Da wedi’u datblygu o’r weminar Data Agored a rhwydweithiau mwy sefydledig fel sianeli Slack Data Agored Cymru. Mae ein presenoldeb mewn cynadleddau anffurfiol a chymorth i ddigwyddiadau fel GovCamp Cymru wedi helpu i ddatblygu’r perthnasoedd hyn hefyd. Mae angen inni feithrin y perthnasoedd hyn a pharhau i weithio’n agored er mwyn i bobl allu adeiladu ar ein setiau data ac ychwanegu gwerth atynt. Yn ei dro, bydd hyn hefyd yn ein helpu i ddatblygu ein harbenigedd ein hunain a darganfod setiau data defnyddiol. Mae digwyddiadau fel Gwersyll Data Agored yn cael eu cynnal yn flynyddol, ac maent yn llawn pobl sy’n gwneud defnydd ymarferol o Ddata Agored y gallwn ddysgu ohonynt. Mae blogio a rhannu ein taith wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth greu’r cysylltiadau hyn.

Un ffordd o ymhelaethu ar y rhwydweithiau hyn yw drwy ddigwyddiadau Hac. Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da wedi cefnogi Diwrnod Hac y GIG yn flaenorol yng Nghaerdydd, ac mae modelau posibl i’w hystyried yn cynnwys Hac Atebolrwydd (digwyddiad dau ddiwrnod i gymuned Technoleg Dinesig y DU allu cysylltu, dysgu o’i gilydd a chael effaith ar broses ddemocrataidd y DU drwy ddefnyddio technoleg a data llywodraeth agored) a hefyd Hac Atebolrwydd Llys Archwilio’r Iseldiroedd. Drwy gysylltu’n agos â phartneriaid fel ODI Caerdydd, gallem ystyried sut y gallai ein data gael eu defnyddio’n well ac mae hyn yn cyd-fynd â chenhadaeth Swyddfa Archwilio Cymru i helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella.

Adnoddau defnyddiol ar gyfer ein taith Data Agored

Sut y gall dulliau ymgysylltu gwahanol helpu i gynnwys y dinesydd yn y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus

Yn ein blog diweddaraf, mae Kevin Davies, Pennaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn trafod pwysigrwydd ymgysylltu â dinasyddion…

Mae gwella ymgysylltu â phobl Cymru yn flaenoriaeth fawr i ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, lle rydym yn cynnal amrywiaeth o brosiectau er mwyn ennyn diddordeb dinasyddion o bob rhan o Gymru er mwyn meithrin ymgysylltiad, dealltwriaeth ac ymddiriedolaeth yn yr hirdymor rhwng y Cynulliad a’r bobl y mae’n eu cynrychioli, ac i geisio annog y cyhoedd i gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad yn uniongyrchol.

Rhai blynyddoedd yn ôl ariannodd y Gronfa Loteri Fawr Pathways through Participation, prosiect ymchwil a oedd yn ystyried pam bod unigolion yn cymryd rhan ac yn parhau i gymryd rhan mewn gwahanol fathau o gyfranogiad. Cafodd y prosiect ei redeg gan Gyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol, mewn partneriaeth â’r Sefydliad dros Ymchwil Gwirfoddoli ac Involve.

Canfu’r prosiect hwn fod y ffactorau canlynol yn chwarae rôl bwysig o ran p’un a yw pobl yn dechrau, yn parhau neu’n rhoi’r gorau i gymryd rhan:

  • Cymhelliant personol, megis helpu eraill, datblygu cydberthnasau, bod â dylanwad, diddordeb mewn pwnc sydd o bwys iddynt;
  • Sbardun, megis ymateb i benderfyniad, neu brofiad bywyd diweddar fel salwch, symud i ardal newydd neu gael plant;
  • Adnoddau, gan gynnwys amser, arian, daearyddiaeth, mynediad i drafnidiaeth, iechyd, sgiliau, profiad, gwybodaeth, a hyder;
  • Cyfleoedd, amgylchedd priodol gydag amodau a chyfleoedd i droi cymhelliant i gymryd rhan yn weithredu.

blog pic welsh

Mae’r ffordd rydym yn cyflwyno ein gweithgareddau a sut rydym yn mesur eu heffeithiolrwydd yn ystyried y ffactorau hyn, i sicrhau, er ein bod yn bodloni’r amcanion tymor byr penodol ar gyfer prosiectau unigol, ein bod hefyd yn deall yr effaith y caiff gwahanol weithgareddau ar ddinasyddion sy’n cymryd rhan, gyda’r nod o annog cyfranogiad democrataidd hirdymor.

Yn ddiweddar dyma ni’n casglu adborth oddi wrth gyfranogwyr dau brosiect. Roedd y cyntaf gyda pherchnogion busnesau bychain ledled Cymru a gymerodd ran mewn cyfweliadau fideo i rannu eu barn ag Aelodau’r Cynulliad ar gyfer ymchwiliad pwyllgor i Ardrethi Busnes yng Nghymru.

Dywedodd yr adborth wrthym y byddai pob cyfranogwr yn cymryd rhan eto petai’n cael y cyfle, a’u bod yn teimlo iddynt gael cyfle i lesio eu barn. Roedd y newidiadau mwyaf o ganlyniad i’w cyfranogiad yn amlwg yn yr ymatebion i’r datganiadau canlynol:

  • ‘Nid oes gan bobl fel fi lais yn y penderfyniadau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu gwneud’: nid oedd dim un o’r cyfranogwyr yn anghytuno â’r datganiad hwn cyn cymryd rhan, o gymharu â 67% a oedd yn anghytuno â’r datganiad ar ôl cymryd rhan.
  • ‘Mae gennyf yr hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth’: roedd hanner y cyfranogwyr yn anghytuno â’r datganiad hwn cyn cymryd rhan, tra roedd 88% yn cytuno â’r datganiad hwn ar ôl cymryd rhan.

Cynhaliwyd ymarfer adborth tebyg yn dilyn digwyddiad i ymgysylltu ag unigolion a oedd â phrofiad byw, a’r rhai sy’n gweithio mewn swydd rheng flaen, fel rhan o ymchwiliad pwyllgor i Iechyd Meddwl Amenedigol. Drwy’r ymarfer adborth hwn, gwnaethom nodi’r canlynol:

  • Nid oedd dim un o’r cyfranogwyr wedi ymgysylltu â’r Cynulliad yn uniongyrchol o’r blaen, a dywedodd pob un ohonynt na fyddent wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad pe na baent wedi cael eu gwahodd i’r digwyddiad;
  • Teimlodd pob un eu bod wedi cael digon o gyfle i fynegi eu barn yn ystod y digwyddiad, a byddai pob un yn cymryd rhan mewn rhywbeth tebyg eto;
  • Roedd gan y cyfranogwyr amrywiaeth gwirioneddol o ddiddordebau gwleidyddol – roedd gan ychydig dros hanner ohonynt lawer iawn / cryn dipyn o ddiddordeb gwleidyddol, tra roedd y gweddill yn honni fod ganddynt rywfaint / ddim llawer o ddiddordeb gwleidyddol;
  • Honnodd 7% fod ganddynt lawer iawn o wybodaeth wleidyddol, 52% eithaf tipyn o wybodaeth a 41% ddim llawer;
  • Pan ofynnwyd a oedd eu lefelau gwybodaeth am wleidyddiaeth Cymru yn well nag yr oedd o’r blaen, roedd y mwyafrif yn cytuno neu’n cytuno’n gryf;
  • Pan ofynnwyd a oedd eu dealltwriaeth o’r gwahaniaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi gwella, roedd y mwyafrif yn cytuno neu’n cytuno’n gryf;

Ein bwriad yw ceisio casglu’r math hwn o wybodaeth ar gyfer yr amrywiaeth o fentrau ymgysylltu rydym yn eu cyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn deall yn well pa mor effeithiol ydynt a gwella’r hyn a gynigwn yn y dyfodol, gan sicrhau bod y rhai sy’n cymryd rhan yn ein gwaith mewn gwell sefyllfa i barhau fel dinasyddion sy’n weithredol yn ddemocrataidd.

 

Chwalu’r rhwystrau rhwng pobl sy’n darparu gwasanaethau a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau

 

sophie howe

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

“Rhaid mynd i’r afael â’r cwestiwn parthed a oes gennym y Gymru a garem drwy ddeialog ddwyffordd gyda’r cyhoedd” meddai Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; “mae’n rhaid i’r ffordd rydym yn cynnwys pobl symud y tu hwnt i’r dulliau traddodiadol o ymgynghori. Mae dechrau sgwrs gyda phobl yn hanfodol er mwyn trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus.”

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyflawni datblygiad cynaliadwy drwy’r pum ffordd o weithio. Mae hyn yn cynnwys cynllunio ar gyfer y dyfodol hirdymor, atal problemau cyn iddynt godi neu waethygu, integreiddio gwasanaethau ac ar draws y saith nod llesiant cenedlaethol, cydweithio â’r partneriaid cywir ac, yn holl bwysig, cynnwys pobl wrth  iddynt wneud penderfyniadau.

Er mwyn cyflawni’r dyletswyddau hyn, mae ymgysylltu’n briodol o’r dechrau’n deg yn hanfodol i weithredu’r Ddeddf. Rhaid i’r Gymru a garem ‘ni’ fynd y tu hwnt i weision sifil a llywodraeth leol – rhaid iddi gynnwys cymunedau ac unigolion ac ymgysylltu â nhw a gofyn iddynt: ai dyma’r Gymru a garech chi; beth rydych ei eisiau ar gyfer eich teulu a’ch cymuned nawr ac yn y dyfodol. Gall dechrau o safbwynt pobl sy’n byw yng Nghymru ac sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn aml roi datrysiad llawer symlach i broblemau anhydrin rydym ni fel swyddogion yn ymrafael â nhw.

Dywedodd George Bernard Shaw mai’r broblem fwyaf gyda chyfathrebu yw’r camargraff ei fod wedi digwydd. A all hyn fod yn ddisgrifiad o’n diwylliant presennol o ymgynghori yn y sector cyhoeddus? Rydym yn aml yn cael ein cyfarwyddo i ‘ymgynghori’ â’r gymuned a rhanddeiliaid, ond yn aml mae hyn yn bell iawn o gyfranogiad parhaus, go iawn.

Dywedir yn aml nad oes gan gyrff cyhoeddus yr adnoddau i ddilyn yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd nac i gynnwys pobl mewn modd ystyrlon. Ond nid oes rhaid i hyn fod yn ymgysylltiad wyneb yn wyneb dwys (er bod hyn yn effeithiol iawn), gallwn bellach gyfathrebu yn ein bywydau personol mewn nifer o ffyrdd yn defnyddio dulliau digidol cost-effeithiol. Sut y gallwn wneud hyn yn bosibl yn ein bydoedd proffesiynol hefyd?

Nid yw’n syndod bod pobl Cymru wedi sylwi. Yn ôl IPSOS Mori, dim ond 13% o’r cyhoedd oedd yn teimlo fod ganddynt berchnogaeth dros y gwasanaethau roeddent yn eu derbyn. Drwy weithio gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da i dreialu’r feddalwedd ‘SeneseMaker’, er mwyn cynnwys pobl yn y gwaith o bennu blaenoriaethau’r Comisiynydd, dyma lawer o bobl yn adrodd eu stori o deimlo’n ddi-rym, wedi ymddieithrio, ac erbyn hyn â dim diddordeb yn yr hyn a oedd yn digwydd. Roedd pobl yn teimlo yr ymgynghorwyd â nhw’n rhy hwyr, y darparwyd gwybodaeth iddynt a oedd mewn iaith dechnegol, y gofynnwyd y cwestiynau anghywir iddynt ac nad oedd llawer ohonynt yn gwybod pa effaith a gafodd eu mewnbwn.

Efallai bod hyn yn amlygu’r ffaith nad oes gan y person cyffredin ddiddordeb mewn ffiniau gwasanaethau a darpariaeth cyllid, nac yn gwerthfawrogi cael ei labelu’n ‘gleient ddefnyddiwr gwasanaethau’ na bod yn rhan o ‘grŵp gwarchodedig’. Effaith yr iaith rydym yn mynnu ei defnyddio i drafod y cyhoedd rydym yn ei wasanaethau, a’r ffaith ein bod yn mynnu creu proses, yw dad-ddyneiddio gwasanaethau cyhoeddus.  Efallai ein bod bellach yn arbenigwyr ar ofyn y cwestiynau cywir, ticio’r blychau cywir, ond yn aml rydym yn dda am fethu’r pwynt.

Enghraifft ddiweddar yw pan adawodd sawl unigolyn sylwadau ar ymgynghoriad gan gyngor ar gau ysgolion. Yn unol â deddfwriaeth cydraddoldeb, gofynnodd y cyngor i’r rhieni am wybodaeth ddemograffig fanwl. Fodd bynnag, ni ofynnodd yr ymgynghoriad a oedd unrhyw rheini ddim yn gallu gyrru, er gwaetha’r ffaith mai dim ond drwy yrru’n unig y gellid cyrraedd yr ysgol.

Mae’r enghraifft hon yn wers ein bod, drwy gynnwys pobl, mewn gwirionedd yn trafod “pobl”! Pobl sy’n famau, tadau, meibion, merched, cymdogion a ffrindiau.

Dywed Sophie Howe: “Credaf y gallwn fynd tipyn o ffordd i chwalu’r rhwystrau biwrocrataidd a all fodoli weithiau rhwng pobl a gwasanaethau. Siawns drwy gerdded milltir yn eu hesgidiau nhw, gallwn wneud gwasanaethau cyhoeddus ychydig bach yn fwy dynol?”

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn cynnal digwyddiad ‘Sut y gall dulliau ymgysylltu gwahanol helpu i gynnwys y dinesydd yn y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus’ ar 6 Medi yng Nghaerdydd, ac ar 28 Medi yn Llanrwst, Conwy.

Bydd y seminarau hyn yn dechrau ystyried pa mor dda ydym o ran cael y gwir ddarlun gan ein cymunedau, deall y bywydau mae pobl yn eu byw, pa ddulliau y gallwn eu defnyddio i ddeall yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu, yr hyn sy’n eu hysgogi a’r hyn a fyddai’n eu helpu i fyw bywydau hapusach a mwy bodlon.