Sut y gallwn gydgynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus?

Pam nad ydym yn cydgynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus? Yn y darn hwn, mae Dyfrig Williams yn ystyried sut y gall gwasanaethau cyhoeddus symud o fodel cyfranogi seiliedig ar ddiffyg i fodel seiliedig ar asedau.

Erbyn i’r blog hwn fynd yn fyw byddaf wedi gadael Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n drueni oherwydd seminar y Gyfnewidfa Arfer Da Sut y gall dulliau ymgysylltu gwahanol helpu i gynnwys y dinesydd yn y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yw’r union beth i mi. Treuliais dair blynedd yn gweithio yn Cyfranogaeth Cymru, ac yn ystod y cyfnod hwnnw daeth cydgynhyrchu i’r amlwg yng Nghymru fel ffordd o sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn fwy ymatebol, atebol ac effeithiol. Os ydych yn ansicr am y cysyniad, mae’r darn hwn gan Noreen Blanluet yn drosolwg gwych. Yna ymunais â Swyddfa Archwilio Cymru a threulio pedair blynedd yn gweithio yma, lle mae cydgynhyrchu wedi parhau i fod yn bwnc llosg. Felly rydym bellach wedi treulio’r rhan fwyaf o’r degawd diwethaf yn trafod sut y gallwn gydgynhyrchu gwasanaethau â dinasyddion. Felly pam nad yw’n digwydd mewn gwirionedd?

Canolbwyntio ar broses

Yn y Gyfnewidfa Arfer Da, rydym yn cael trafodaethau cyson am sut y mae angen inni ganolbwyntio ar ganlyniadau. Rydym wedi gweld cymaint o sefydliadau sydd wedi ymgolli yn y broses fel nad ydynt yn cwestiynu a yw gwasanaethau’n cyflawni eu nodau yn y pen draw mwyach. Rwy’n credu ein bod i gyd wedi clywed pobl yn dweud ‘Dyma’r ffordd rydym wedi gwneud pethau erioed’.

Y broblem yw bod ymgynghori wedi dod yn broses gynnwys ragosodedig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n haws inni fel sefydliadau nodi ein materion ac yna cael dinasyddion i roi sêl bendith ar y syniadau. Y broblem yw bod hyn yn arwain at wasanaethau sy’n diwallu anghenion sefydliadau yn lle adeiladu ar asedau dinasyddion. Mae’r tabl hwn gan Nurture Development yn dangos sut y mae dull seiliedig ar ddiffygion fel ymgynghori traddodiadol yn y sector cyhoeddus yn cymharu â dull seiliedig ar asedau fel cydgynhyrchu.

blog table

Mae Cyfrifianellau Cyllideb yn enghreifftiau da o ddulliau seiliedig ar ddiffyg, lle mae pobl yn cael yr opsiwn o ddyrannu arian tuag at wasanaethau a ddylai gael blaenoriaeth yn eu barn hwy. Gall hyn helpu pobl i ddeall yr anhawster mae sefydliadau’n wynebu wrth ddyrannu cyllid tuag at systemau penodol, ond nid ymgynghori go iawn yw hyn. Nid oes ganddynt lais gwirioneddol wrth lunio sut beth yw’r gwasanaethau hyn na sut mae’r sefydliad wedi’i gyflunio, ac felly’n anaml iawn y mae’n arwain at newid gwirioneddol. Mae’n gosod pobl a gwasanaethau yn erbyn ei gilydd, ac mae mor rymusol â gofyn i bobl pa fraich yr hoffent gael ei thorri i ffwrdd.

Atal

Mae cyfranogiad ac atal wrth wraidd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r rhain yn cyd-fynd â’i gilydd yn daclus. Mae cipolwg cyflym ar dabl Nature Development yn dangos nad yw dull ataliol yn bosibl gyda model adweithiol sy’n seiliedig ar ddiffygion. Rhaid i ni gynnwys dinasyddion yn gynharach yn y broses er mwyn iddynt allu helpu i lunio a darparu gwasanaethau, yn hytrach na disgwyl iddynt roi sylwadau ar gynlluniau gwasanaethau cyhoeddus. Os ydym am i bobl gydgynhyrchu gwasanaethau, rhaid inni rannu grym â hwy yn wirioneddol – rydym yn annhebygol o gael y màs critigol sydd ei angen os byddwn yn dal gafael ar awenau grym yn rhy dynn ein hunain. Pam ddylai pobl gydgynhyrchu gwasanaeth a gafodd ei ddarparu’n ffurfiol gan y sector cyhoeddus? Rhaid i ni ofyn ‘Beth sydd ynddo i mi?’ a meddwl am sut y gall cydgynhyrchu ychwanegu gwerth gwirioneddol o safbwynt dinasyddion neu gymuned.

Mae’n ddiddorol tu hwnt gweld yr hyn a all ddigwydd pan fyddwn wirioneddol yn rhannu grym. Yn Better Reykjavik, dywedwyd yn glir wrth wleidyddion na fyddai eu cyffredinedd yn cael eu derbyn mwyach, ac fe gymerodd dros 40% o’r etholwyr ran yn y fenter. Mae’n werth gwylio’r fideo hynod ysbrydoledig isod. A oes agweddau ar y dull hwn y gallwn eu haddasu i ddiwallu ein hanghenion?

Mae angen inni gyd ddechrau meddwl am sut y gallwn i gyd rannu grym fel gwasanaethau cyhoeddus a sut beth yw cydgynhyrchu gwirioneddol. Os gallwn wneud hynny, rydym yn llawer mwy tebygol o ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu gofynion deddfwriaeth Cymru. Ond yn bwysicaf oll, mae’n golygu ein bod yn darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus sy’n gwell

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s