Gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol mewn gwlad â chyfoeth o adnoddau ond prinder arian

Mae’r Athro Tony Bovaird yn Gyfarwyddwr Governance International, sefydliad nid er elw sy’n gweithio ledled Ewrop ar bolisïau cyhoeddus seiliedig ar ganlyniadau a chyd-gynhyrchu gan ddinasyddion, ac mae’n Athro Emeritws ar Reoli a Llywodraethu Cyhoeddus ym Mhrifysgol Birmingham.  Yn ei gyfraniad at y Seminarau Dyfodol Llywodraethu ym mis Gorffennaf, rhannodd Tony ei gred gref fod angen i gyrff cyhoeddus sylweddoli sefyllfa wan cydweithredu ym meysydd comisiynu a chyflawni o fewn gwasanaeth cyhoeddus, y diffyg ymrwymiad i ganlyniadau clir a’r amrywiaeth mawr o ran ymgysylltu â’r cyhoedd wrth gyd-gomisiynu, cyd-gynllunio, cyd-gyflawni a chyd-asesu – a sut y gall Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol helpu gyda’r rhain i gyd. Yn y blog hwn mae’n canolbwyntio ar un agwedd ar gyd-gynhyrchu – sut y gall Cymru wneud gwell defnydd o’i hadnoddau hynod werthfawr, hyd yn oed mewn cyfnod pan fo cyllidebau yn gyfyngedig iawn.

Ffotograff o Tony Bovaird o Governance InternationalRoedd Gweithdai Llywodraethu, a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a’r Gyfnewidfa Arfer Da ym mis Gorffennaf, yn gyfle i fyfyrio ar y materion allweddol a fydd yn pennu sut y gellir rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith yn effeithiol yng Nghymru. Un mater allweddol a godwyd ar wahanol adegau yn ystod y trafodaethau oedd y ffaith bod adnoddau wedi dod yn llawer mwy prin yn sgil y dirwasgiad economaidd llym ar ôl 2008 a chyllidebau cyni cyllidol parhaus llywodraeth y DU ers 2010.

Pobl

Fodd bynnag, dadleuais ar ddiwedd y ddau weithdy fod yr obsesiwn hwn â chyllidebau yn gyfeiliornus. Yn wir, mae cyllid yn brin mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae mwy i’r stori na hyn – dim ond un adnodd yw’r arian yn ein cyllidebau.

Yn arbennig, mae gan Gymru ddigonedd o adnoddau allweddol megis pobl alluog, adeiladau a chyfarpar gwerthfawr, neu’r TGCh ddiweddaraf. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.

Gadewch i ni edrych ar yr adnodd gwych sydd gan Gymru o ran pobl. Yr ystadegyn y sonnir amdano fwyaf yw’r gyfradd ddiweithdra ond NID yw’r adnodd a wastraffir mewn gwirionedd yn cael sylw bob mis – nifer y bobl ffit, gweithgar a pharod nad ydynt wedi’u cofrestru fel aelodau o’r gweithlu. Yn 2016, mae hyn yn cyfateb i ychydig yn llai na miliwn o bobl yng Nghymru; mae oddeutu hanner y rheini rhwng 16 a 64 oed, a’r hanner arall dros 65 oed.

Y grŵp y sonnir amdano fwyaf ymhlith y garfan hon o oedolion yng Nghymru nad ydynt yn ‘economaidd weithgar’ yw’r grŵp dros 65 oed. Fodd bynnag, nid ydym yn sôn am y ffaith mai hwn yw’r grŵp mwyaf o bobl brofiadol, addysgedig ac, ar y cyfan, heini ac iach sydd wedi bod ar gael i Gymru erioed, fel ‘byddin wrth gefn o bobl heb eu gwerthfawrogi’n ddigonol’ i wneud pethau sy’n ddefnyddiol yn gymdeithasol ac yn economaidd er mwyn gwella eu llesiant eu hunain a llesiant eu cyd-ddinasyddion. Nac ydym, ddim o gwbl – yn hytrach, tueddwn i sôn amdanynt fel ‘genau tranc’, yn bygwth llyncu ein holl adnoddau sector cyhoeddus, wrth iddynt dyfu’n hŷn a mynd yn llai iach ac yn fwy anghenus. A ydym yn ceisio eu helpu i sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posibl a helpu eraill i wella eu hansawdd bywyd hwythau? Wedi’r cyfan, dengys ymchwil fod pobl sy’n weithgar, p’un a ydynt yn ceisio gwella eu llesiant eu hunain neu wella llesiant pobl eraill, yn tueddu i fod ag ansawdd bywyd mwy cadarnhaol. Y diffyg dull gweithredu cydgysylltiedig o ateb yr her hon yw’r gwastraff adnoddau mwyaf, o bosibl, yn ein cymdeithas, sydd â chyfoeth o adnoddau ond prinder syniadau.

Adeiladau

Nid ein pobl yw’r unig adnodd rydym yn ei danddefnyddio. Mae traean ein tai wedi’u tanfeddiannu (a dim ond un preswylydd sydd gan gyfran uchel o’r cartrefi hyn, a’r preswylydd hwnnw’n aml yn unig ac yn ynysig, ac yn eithaf aml yn dioddef o iselder).

Mae mwy nag 20% o’n siopau yn wag, mae’r lloriau uwchben siopau yn wag yn aml iawn, ac, yn aml, dim ond yn rhannol y mae ein hadeiladau cyhoeddus yn cael eu defnyddio.  Mae ein canolfannau hamdden yn wag yn y bore i raddau helaeth, mae ein canolfannau cymunedol yn aml yn wag yn y prynhawn ac mae’r rhan fwyaf o’n hysgolion yn wag gyda’r nos, ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau. Mae ein ceir yn tueddu i fod yn wag drwy’r dydd (wedi’u parcio yn y gwaith) ac mae ein trafnidiaeth gyhoeddus fel arfer yn wag gyda’r nos, ar y cyfan.

Onid yw hyn yn anochel? Onid yw’r asedau hyn, ar y cyfan, yn eiddo i rywun nad yw’n gweld unrhyw reswm dros sicrhau eu bod ar gael i’r bobl hynny a fyddai’n cael y budd mwyaf o’u defnyddio? Wel, edrychwn yn gyntaf ar y sector cyhoeddus – a oes unrhyw esgus, mewn gwirionedd, dros danddefnyddio asedau cyhoeddus tra bod eraill yn gwneud eu gorau glas i ddod o hyd i leoliadau ar gyfer digwyddiadau, ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd, cyfeiriadau ar gyfer rhedeg eu sefydliadau gwirfoddol ohonynt, cyfleusterau ar gyfer gwaith argraffu ar raddfa fach, ac ati? Edrychwn nesaf ar y trydydd sector – a ellir cyfiawnhau rhoi grantiau neu gontractau cyhoeddus i sefydliad nad yw’n fodlon rhannu’r cyfleusterau (a gwirfoddolwyr) nad yw’n eu defnyddio ddigon â sefydliadau eraill sy’n gwneud gweithgareddau tebyg? Ac yn y sector preifat, pam na rown ostyngiadau treth i gwmnïau sy’n gallu dangos cofnod o rannu staff a chyfleusterau â sefydliadau’r sector cyhoeddus neu’r trydydd sector?

Asedau

Fodd bynnag, dim ond rhan fach o’r hyn y gellid ei wneud yw dulliau gweithredu o’r fath. Yn bwysicach na rhannu o’r fath rhwng sefydliadau yw’r potensial ar gyfer paru galluoedd dinasyddion â defnyddwyr posibl yn y gymuned. Dyma’r ‘ap’ delfrydol. Ar hyn o bryd, dim ond yr hyn sydd ei angen ar ddinasyddion gan y sector cyhoeddus a gofnodir gennym – nid y galluoedd sydd ganddynt a’r cryfderau ac adnoddau y maent yn fodlon eu rhannu. Dyma’r her fwyaf sy’n wynebu cyrff cyhoeddus wrth iddynt fynd i’r afael â gwella llesiant yng Nghymru. Wrth gwrs, bydd angen i gyrff cyhoeddus gydgysylltu’r gwaith o gydgynhyrchu â dinasyddion, a bydd angen rhywfaint o wario i gyflawni hyn, ond y gobaith yw y caiff mwy o lawer o adnoddau eu rhyddhau nag a ddefnyddir.

I grynhoi, mae llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru yn dibynnu’n fawr ar wneud y gorau o’n hadnoddau presennol a sicrhau eu bod yn datblygu ac yn ehangu yn y dyfodol. Mae gwlad â chyfoeth o adnoddau lle y caiff y rhan fwyaf ohonynt eu tanddefnyddio, a lle mae pobl fedrus yn gwastraffu llawer iawn o amser yn ceisio gwneud y gorau o gyllidebau a grantiau bach (sydd hefyd yn lleihau), yn arwydd bod blaenoriaethau’r llywodraeth yn anghywir. Dylid rhoi blaenoriaeth ar fyrder i ailfeddwl yn sylfaenol sut i baru ein hadnoddau toreithiog ag anghenion dinasyddion Cymru.

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s