Archifau Misol: Medi 2016

Mabwysiadwyr cynnar Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Chwe mis i mewn…

Fe wnaeth Hazel Clatworthy a Matthew Gatehouse, Cyngor Sir Fynwy, gyflwyno mewn seminar dysgu ar y cyd ‘nôl ym mis Mawrth, ar y testun Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Bryd hynny, nid oedd y ddeddfwriaeth wedi dod i rym, ac roedd eu profiad yn seiliedig ar eu gwaith fel “mabwysiadwyr cynnar” y Ddeddf. Ar ôl chwe mis, mae cryn dipyn wedi newid…

Rhoi trefn ar eich tŷ eich hun

Yn ôl ym mis Mawrth rhannais adborth o asesiad cyffyrddiad ysgafn Swyddfa Archwilio Cymru o’n gwaith paratoi ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Roedd hyn o gymorth mawr a chanolbwyntiodd yn bennaf ar brosesau a pholisïau mewnol, a ddatblygwyd ymhellach gennym.

Yn ystod y chwe mis diwethaf gwnaed llawer o waith ar hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r Ddeddf a’r hyn y mae’n ei olygu i swyddogion, Aelodau a phartneriaid.  Mae’r Deddf yn amlwg mewn hyfforddiant ymsefydlu i bob aelod newydd o staff, ac rydym wedi cynnal ein hail a’n trydydd seminar ar y pwnc, yn ogystal â hyfforddiant penodol ar gyfer craffu ac roedd siambr y cyngor yn llawn pan drefnwyd sgwrs amser cinio gennym ar y pwnc ar gyfer staff – gyda rhai’n gwylio ar YouTube. Rydym wedi diwygio ein polisi Datblygu Cynaliadwy, wedi curadu ystod gynhwysfawr o adnoddau ar ein mewnrwyd y gall swyddogion ac Aelodau gyfeirio atynt ac wedi rhoi sylw amlycach i’r Ddeddf ar wefan y cyngor i helpu trigolion a busnesau ddeall pa mor ganolog yw hyn i’n gwaith.

youtube-blog-pic

Ar ôl ein sesiwn ym mis Mawrth, cysylltodd llawer o bobl â ni i gael copi o’r Gwerthusiad o Genedlaethau’r Dyfodol a gyflwynwyd gennym chwe mis ynghynt.  Hoffwn allu dweud bod llawer o benderfyniadau wedi newid yn chwyldroadol o ganlyniad i ddefnyddio’r gwerthusiad hwn, a bod y broses gwneud penderfyniadau bellach yn fwy cynaliadwy yn y bôn.  A hoffwn allu dweud bod swyddogion yn defnyddio’r rhain yn awtomatig yn ystod camau cynnar y broses gwneud penderfyniadau, yn hytrach na’r noson cyn y terfyn amser.  Ond a bod yn berffaith onest, alla i ddim dweud hynny…eto!  Fodd bynnag, gallaf ddweud fy mod wedi cael sgyrsiau gyda swyddogion mewn rhannau o’r cyngor nad oeddwn erioed wedi delio â nhw o’r blaen, wrth iddynt ofyn am fy help neu gyngor ar sut i gwblhau’r gwerthusiad.  A gallaf ddweud bod Aelodau wedi bod yn herio swyddogion os ydynt o’r farn nad yw’r gwerthusiad wedi cael ei wneud yn iawn neu ei fod wedi methu rhywbeth – gwrthododd un pwyllgor craffu gynnal cyfarfod pan oedd yr adroddiadau a gyflwynwyd iddynt wedi llithro rhywsut drwy’r system heb werthusiad!  Camau bach ond mae pob un i’r cyfeiriad cywir!

Rydym yn bwrw ati gyda’n polisïau a’n strategaethau eraill fel caffael lle rydym yn datblygu polisi Buddiannau Cymunedol.  Rydym hefyd wedi ymgorffori saith nod llesiant a phum egwyddor datblygu cynaliadwy yn ein proses cynllunio gwasanaethau.

Felly rydym yn raddol yn adeiladu ein gwaith mabwysiadwyr cynnar ac yn gweithredu argymhellion SAC, a chredaf ei fod yn dechrau gwneud gwahaniaeth – mae ymwybyddiaeth o’r Ddeddf yn sicr yn uwch nag y bu, a’r gobaith yw y bydd yr ymwybyddiaeth hon, ynghyd â’r polisïau a’r prosesau sydd ar waith i’w hategu yn golygu y daw Sir Fynwy yn lle mwy cynaliadwy.

Bod yn feddwl agored

Rwyf wedi bod yn ymweld â llawer o bartneriaethau sy’n rhan o Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus newydd ei ffurfio a siarad â nhw ynglŷn â’r hyn y mae’r Ddeddf yn ei olygu i ni, iddyn nhw a’r ffordd y gallwn gydweithio.  Mae lefelau ymwybyddiaeth yn amrywio, ond mae pawb wedi croesawu’r cyfle i ddeall y Ddeddf yn well ac i feddwl am sut y gallant gyfrannu at yr Asesiad a Chynllun Llesiant.

wellbeing-assessment-pic

Ym mis Awst gwnaethom ddechrau ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd mawr o’r enw Ein Sir Fynwy er mwyn helpu i lywio’r Asesiad Llesiant.  Mae gennym ddigonedd o ddata, ond rydym yn ceisio osgoi syrthio i’r rhwyd o ddibynnu ar ystadegau’n unig, ac rydym yn mynd i ddigwyddiadau, marchnadoedd, boreau coffi, ysgolion, grwpiau cymorth a mwy i ddarganfod pa bethau y mae pobl yn eu hoffi am fyw yn Sir Fynwy a’r hyn y credant y byddai’n ei gwneud yn well fyth.  Rydym wedi comisiynu baneri, mapiau mawr, cardiau post a chardiau ffeithiau a thueddiadau’r dyfodol Ein Sir Fynwy, er mwyn sbarduno trafodaeth a dadl, ac mae swyddogion y Cyngor a phartneriaid eraill Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yn gofyn i’r cyngor am adborth er mwyn llywio’r Asesiad Llesiant.

wellbeing-assessment-pic-2jpg

Rydym yn ceisio ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl leisio eu barn, felly yn ogystal ag wyneb yn wyneb, gall pobl hefyd gyfrannu ar-lein a thrwy gyfryngau cymdeithasol.  Gall trigolion leisio eu barn a’u syniadau drwy holiadur ar-lein byr, neu drwy Made Open, llwyfan ymgysylltu digidol ar-lein Sir Fynwy.

madeopen

Mae’r Asesiad Llesiant yn ddarn mawr iawn o waith, a pho fwyaf pellgyrhaeddol yw’n gwaith ymgysylltu, y mwyaf o wybodaeth sydd gennym i’w phrosesu, ond dylai arwain at Asesiad trylwyr a hyddysg a fydd yn paratoi Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer penderfynu ar flaenoriaethau ar gyfer y Cynllun Llesiant yn 2018.

Felly, i grynhoi hyd yma, credaf y byddwn yn cytuno â’r canllawiau ar y Deddf, sy’n nodi nad y diwedd yw datblygu cynaliadwy, ond yn hytrach y broses o wella llesiant neu ffordd o wneud pethau.  Mae croesawu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel ffordd o weithio, yn hytrach na dim ond cydymffurfio â llythyren y ddeddf, yn daith.  A chredaf ein bod wedi hen ddechrau ar y daith honno.

GovCamp Cymru 2016: Newid ymddygiad i wella gwasanaethau cyhoeddus

Sut gall theori newid ymddygiad helpu ni i roi syniadau o anghynhadleddau ar waith mewn sefydliadau? Isod mae Dyfrig Williams yn amlinellu ei syniad am sesiwn yn GovCamp Cymru.

Logo GovCamp Cymru / GovCamp Cymru's Logo

Eleni fydd fy nhrydydd GovCamp Cymru, ac am yr ail flwyddyn yn olynol mae’n cael ei chynnal yn Adeilad y Pierhead Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Os nad ydych chi wedi clywed amdano’r digwyddiad o’r blaen, mae GovCamp Cymru yn anghynhadledd, ble mae mynychwyr yn ffurfio’r agenda drwy bitsio syniadau ar gyfer sesiynau ar ddechrau’r dydd. Dydw i ddim wedi pitsio eto mewn unrhyw anghynhadledd, ond rwy’n meddwl bod yr amser wedi dod!

Newid ymddygiad

Eleni mae Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru wedi bod yn gweithio ar Wyliau Newid Ymddygiad ledled Cymru, gyda’r digwyddiad yn Abertawe yn cymryd lle yn yr wythnos cyn GovCamp Cymru. Rydw i wedi clywed am ddulliau arbennig o newid ymddygiad yn ystod y misoedd diwethaf, o’r app Chimp Shop sy’n helpu pobl i dorri lawr ar eu hyfed i’r WiFi sy’n annog pobl i symud mas o’r haul.

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut all ddamcaniaeth Newid Ymddygiad helpu newid i gymryd lle o ganlyniad i anghynhadledd. Yn bersonol, rydw i wedi ffeindio bod anghynadleddau yn ddigwyddiadau arbennig sy’n helpu pobl i ddatblygu eu meddylfryd ac i gael cysylltiadau newydd. Mae lot o anghynhadleddau yn haeddiannol falch eu bod nhw’n denu pobl angerddol sy’n barod i fynd i ddigwyddiad yn amser eu hunain er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Ond beth sy’n digwydd pan ni’n mynd nôl i’r swyddfa i geisio perswadio pawb arall i brynu i mewn i’r syniadau gwych rydym wedi cael neu clywed dros y penwythnos? Sut ydyn ni’n perswadio ein cydweithwyr i wneud yr arloesi yn realiti?

Ychydig o theori i roi man cychwyn

Dyma beth hoffwn i edrych arno yn fy sesiwn i. Sut ydyn ni’n dod â’n gydweithwyr gyda ni ar y siwrne o wella gwasanaethau cyhoeddus? Fel man dechrau, mae Chris Bolton wedi ysgrifennu blogbost da ar sut i gael pobl eraill i dderbyn eich syniadau. Dyma grynodeb sylfaenol iawn (a braidd yn greulon, sori Chris!), ble gall pobl:

  • Esgus dydyn nhw ddim yn rebel
  • Cael arweinwyr ar eu hochr nhw
  • Aros nes yr adeg ddelfrydol
  • Neu ddod o hyd i sefydliad sy’n eich derbyn chi

Mae gan Helen Bevan gyflwyniad gwych sydd wedi’i anelu’n uniongyrchol at wneuthurwyr newid sy’n awgrymu bod pobl yn:

  1. Dechrau gyda’u hunain
  2. Gweithio allan beth allai helpu pobl eraill i newid
  3. Adeiladu cynghreiriau
  4. Osgoi fod yn ferthyr

Felly os yw’r rhain yn llefydd da i ddechrau (dewch i fy sesiwn os ydych chi’n anghytuno!), sut allwn ni alluogi ymddygiad cadarnhaol a gwella gwasanaethau o ganlyniad i anghynhadleddau? Byddai’n grêt i glywed am enghreifftiau o sut mae pobl wedi cael eu cydweithwyr i brynu i mewn i newidiadau er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Trwy ddod a’n profiadau a’n gwybodaeth at ei gilydd, rwy’n siŵr gallwn weithredu newidiadau’n well a gwella ein gwaith.

Sut mae Datblygu a Dysgu modern yn edrych?

Pa mor berthnasol yw dysgu a datblygu o fewn y gweithle heddiw ac a yw’n cael dylanwad cadarnhaol? Yn ddiweddar cwblhaodd Russell Higgins astudiaeth i asesu effaith dysgu a datblygu o fewn y gweithle gan ganolbwyntio’n benodol ar werthuso. Ar gyfer yr astudiaeth defnyddiodd Russell Swyddfa Archwilio Cymru fel sefydliad astudiaeth achos.

Roedd fy ngwaith ymchwil yn cwmpasu amrywiaeth o amcanion a oedd yn cynnwys pa mor effeithiol ac effeithlon oedd anghenion dysgu a datblygu yn cael eu nodi a’u cyflawni yn y gweithle, sut i fesur a meintoli perthnasedd dysgu a datblygu a sut y gall sefydliadau elwa o’i fesur effeithiol.

Nodi dysgu

Yr hyn a’m trawodd ar y dechrau’n deg oedd, gyda chyllidebau’n mynd yn dynnach ac yn dynnach, ei bod yn hanfodol bod sefydliadau sector cyhoeddus a sector preifat yn cyflawni atebion dysgu a datblygu cost-effeithiol. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i weithwyr dysgu a datblygu proffesiynol wneud yn siŵr bod y dysgu wedi’i nodi’n glir a’i fod yn canolbwyntio ar flaenoriaethau’r sefydliad, a fydd, yn ei dro, yn sicrhau adenillion cadarnhaol ar fuddsoddiad a disgwyliadau. Dylai’r atebion dysgu a datblygu hefyd anelu at wella sgiliau unigolion a’u hannog i wneud pethau’n wahanol.

Gellir nodi anghenion dysgu a datblygu mewn amryw o ffyrdd – o safbwynt sefydliadol (proses o’r brig i’r bôn lle bydd y sefydliad yn meddwl am nodau a gweledigaeth) a thrwy’r broses arfarnu, lle mae’r rheolwr llinell yn allweddol wrth nodi’r ateb dysgu a datblygu priodol. Mae gan y rheolwr llinell felly rôl allweddol wrth nodi dysgu a datblygu.

Rôl rheolwyr llinell

Caiff rheolwyr llinell gyfle i nodi anghenion dysgu a datblygu y bobl maent yn eu rheoli a gallant ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu arweiniad a hyfforddiant.  Mae canfyddiadau ymchwil yn awgrymu bod y cyfle hwn yn aml yn cael ei golli gan nad oes gan reolwyr bob amser y sgiliau, yr hyder na/neu’r cymhelliant i nodi anghenion dysgu a datblygu a mynd i’r afael â nhw. Yn wir, nododd gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan Penny Hackett fod rhai rheolwyr llinell yn ystyried pob problem perfformiad fel problem hyfforddiant a’u bod yn disgwyl i hyfforddwyr ddarparu’r atebion. Os nad yw rheolwyr llinell yn meddu ar wybodaeth am nodi dysgu a datblygu yn glir, yna mae’n debygol na fydd y dysgu a nodir yn cyd-fynd â strategaeth busnes y sefydliad. Yn dilyn fy ngwaith ymchwil, credaf ei bod yn bwysig bod rheolwyr llinell yn cael cyswllt rheolaidd ag aelodau o staff drwy gydol y flwyddyn i drafod gofynion dysgu a datblygu unigol a’u hadolygu. Dylai rheolwyr llinell feddu ar sgiliau a gwybodaeth ddigonol i sicrhau pan nodir dysgu a datblygu y caiff ei gyflwyno yn y modd mwyaf priodol ac nid drwy’r ystafell ddosbarth draddodiadol yn unig.

Y model 70:20:10

Model gweledol o 70:20:10, fel y ddisgrifir ym mlogbost RussellNododd fy ngwaith ymchwil fod dysgu a datblygu yn rhannu’n ddau h.y. y dulliau traddodiadol a’r dysgu yn y gweithle modern. Mae dulliau traddodiadol yn tueddu i ganolbwyntio ar hyfforddiant ystafell ddosbarth traddodiadol neu e-ddysgu, tra bod yr ymarferwr dysgu yn y gweithle modern yn fwy tebygol o weithio gyda rheolwyr llinell i ddatblygu’r ffordd fwyaf priodol o ddysgu, gan ddefnyddio’r model 70:20:10 – mae 70% o’r dysgu yn digwydd yn y gweithle (dysgu mewn swydd), 20% ar ffurfiau eraill (fel mentora a hyfforddi) a 10% drwy’r dull ystafell ddosbarth traddodiadol. Mae hyn yn newid enfawr i’r ffordd y mae staff yn dysgu a datblygu, ac yn newid mawr i’r swyddogaeth dysgu a datblygu fel eu bod yn meddwl am bethau mewn ffordd wahanol. Mae dysgu yn y gweithle modern hefyd yn rhoi pwyslais ar gael pobl i fod yn atebol am eu dysgu eu hunain, yn hytrach na chael rhywun arall i’w wneud ar eu rhan.

Cynrychiolaeth weledol o'r Model Kirkpatrick fel pyramid, fel y disgrifir ym mlogbost RussellMae hyn felly yn her o ran gwerthuso effaith y dysgu o fewn eich sefydliad. Wrth feddwl am fodel Kirkpatrick o werthuso (mae nifer o wahanol fodelau ar gael, ond dyma’r un mwyaf cyffredin a ddefnyddir gan swyddogaethau dysgu a datblygu) sy’n canolbwyntio ar bedwar maes allweddol – ymateb, dysgu, ymddygiad a chanlyniadau. Nododd fy ngwaith ymchwil mai ychydig iawn o sefydliadau sydd wir yn chwilio am bob un o’r pedair elfen, yn enwedig lefel pedwar, sef canlyniadau – a arweiniodd y dysgu at adenillion ar fuddsoddiad?

Nodais hefyd fod sefydliadau’n tueddu i ddefnyddio ffurflen werthuso generig, ond yn aml dylai’r rhain gael eu teilwra fel eu bod yn gweddu’r amcan dysgu a datblygu penodol. Er mwyn bod o ddefnydd i’r sefydliad, rhaid i’r gwerthusiad fynd y tu hwnt i ddwy lefel gyntaf model Kirkpatrick (ymateb a dysgu) ac er mwyn gwneud hyn, mae rôl y rheolwr llinell yn hanfodol – a ydynt wedi gweld newid mewn ymddygiad, a welwyd adenillion ar fuddsoddiad ar y gweithgaredd?

I gloi, credaf y bydd angen i swyddogaethau dysgu a datblygu’r dyfodol gadw mewn cysylltiad agos â phob adran i sicrhau eu bod yn darparu ymyriadau dysgu a datblygu sy’n cyd-fynd yn llwyr â gofynion busnes ac amcanion strategol sefydliadol. Mae yna hefyd gyd-ddibyniaeth rhwng y rheolwr llinell a’r swyddogaeth dysgu a datblygu. Mae angen iddynt gydweithio i sicrhau y dilynir pob agwedd ar fodel gwerthuso Kirkpatrick.

Gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol mewn gwlad â chyfoeth o adnoddau ond prinder arian

Mae’r Athro Tony Bovaird yn Gyfarwyddwr Governance International, sefydliad nid er elw sy’n gweithio ledled Ewrop ar bolisïau cyhoeddus seiliedig ar ganlyniadau a chyd-gynhyrchu gan ddinasyddion, ac mae’n Athro Emeritws ar Reoli a Llywodraethu Cyhoeddus ym Mhrifysgol Birmingham.  Yn ei gyfraniad at y Seminarau Dyfodol Llywodraethu ym mis Gorffennaf, rhannodd Tony ei gred gref fod angen i gyrff cyhoeddus sylweddoli sefyllfa wan cydweithredu ym meysydd comisiynu a chyflawni o fewn gwasanaeth cyhoeddus, y diffyg ymrwymiad i ganlyniadau clir a’r amrywiaeth mawr o ran ymgysylltu â’r cyhoedd wrth gyd-gomisiynu, cyd-gynllunio, cyd-gyflawni a chyd-asesu – a sut y gall Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol helpu gyda’r rhain i gyd. Yn y blog hwn mae’n canolbwyntio ar un agwedd ar gyd-gynhyrchu – sut y gall Cymru wneud gwell defnydd o’i hadnoddau hynod werthfawr, hyd yn oed mewn cyfnod pan fo cyllidebau yn gyfyngedig iawn.

Ffotograff o Tony Bovaird o Governance InternationalRoedd Gweithdai Llywodraethu, a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a’r Gyfnewidfa Arfer Da ym mis Gorffennaf, yn gyfle i fyfyrio ar y materion allweddol a fydd yn pennu sut y gellir rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith yn effeithiol yng Nghymru. Un mater allweddol a godwyd ar wahanol adegau yn ystod y trafodaethau oedd y ffaith bod adnoddau wedi dod yn llawer mwy prin yn sgil y dirwasgiad economaidd llym ar ôl 2008 a chyllidebau cyni cyllidol parhaus llywodraeth y DU ers 2010.

Pobl

Fodd bynnag, dadleuais ar ddiwedd y ddau weithdy fod yr obsesiwn hwn â chyllidebau yn gyfeiliornus. Yn wir, mae cyllid yn brin mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae mwy i’r stori na hyn – dim ond un adnodd yw’r arian yn ein cyllidebau.

Yn arbennig, mae gan Gymru ddigonedd o adnoddau allweddol megis pobl alluog, adeiladau a chyfarpar gwerthfawr, neu’r TGCh ddiweddaraf. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.

Gadewch i ni edrych ar yr adnodd gwych sydd gan Gymru o ran pobl. Yr ystadegyn y sonnir amdano fwyaf yw’r gyfradd ddiweithdra ond NID yw’r adnodd a wastraffir mewn gwirionedd yn cael sylw bob mis – nifer y bobl ffit, gweithgar a pharod nad ydynt wedi’u cofrestru fel aelodau o’r gweithlu. Yn 2016, mae hyn yn cyfateb i ychydig yn llai na miliwn o bobl yng Nghymru; mae oddeutu hanner y rheini rhwng 16 a 64 oed, a’r hanner arall dros 65 oed.

Y grŵp y sonnir amdano fwyaf ymhlith y garfan hon o oedolion yng Nghymru nad ydynt yn ‘economaidd weithgar’ yw’r grŵp dros 65 oed. Fodd bynnag, nid ydym yn sôn am y ffaith mai hwn yw’r grŵp mwyaf o bobl brofiadol, addysgedig ac, ar y cyfan, heini ac iach sydd wedi bod ar gael i Gymru erioed, fel ‘byddin wrth gefn o bobl heb eu gwerthfawrogi’n ddigonol’ i wneud pethau sy’n ddefnyddiol yn gymdeithasol ac yn economaidd er mwyn gwella eu llesiant eu hunain a llesiant eu cyd-ddinasyddion. Nac ydym, ddim o gwbl – yn hytrach, tueddwn i sôn amdanynt fel ‘genau tranc’, yn bygwth llyncu ein holl adnoddau sector cyhoeddus, wrth iddynt dyfu’n hŷn a mynd yn llai iach ac yn fwy anghenus. A ydym yn ceisio eu helpu i sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posibl a helpu eraill i wella eu hansawdd bywyd hwythau? Wedi’r cyfan, dengys ymchwil fod pobl sy’n weithgar, p’un a ydynt yn ceisio gwella eu llesiant eu hunain neu wella llesiant pobl eraill, yn tueddu i fod ag ansawdd bywyd mwy cadarnhaol. Y diffyg dull gweithredu cydgysylltiedig o ateb yr her hon yw’r gwastraff adnoddau mwyaf, o bosibl, yn ein cymdeithas, sydd â chyfoeth o adnoddau ond prinder syniadau.

Adeiladau

Nid ein pobl yw’r unig adnodd rydym yn ei danddefnyddio. Mae traean ein tai wedi’u tanfeddiannu (a dim ond un preswylydd sydd gan gyfran uchel o’r cartrefi hyn, a’r preswylydd hwnnw’n aml yn unig ac yn ynysig, ac yn eithaf aml yn dioddef o iselder).

Mae mwy nag 20% o’n siopau yn wag, mae’r lloriau uwchben siopau yn wag yn aml iawn, ac, yn aml, dim ond yn rhannol y mae ein hadeiladau cyhoeddus yn cael eu defnyddio.  Mae ein canolfannau hamdden yn wag yn y bore i raddau helaeth, mae ein canolfannau cymunedol yn aml yn wag yn y prynhawn ac mae’r rhan fwyaf o’n hysgolion yn wag gyda’r nos, ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau. Mae ein ceir yn tueddu i fod yn wag drwy’r dydd (wedi’u parcio yn y gwaith) ac mae ein trafnidiaeth gyhoeddus fel arfer yn wag gyda’r nos, ar y cyfan.

Onid yw hyn yn anochel? Onid yw’r asedau hyn, ar y cyfan, yn eiddo i rywun nad yw’n gweld unrhyw reswm dros sicrhau eu bod ar gael i’r bobl hynny a fyddai’n cael y budd mwyaf o’u defnyddio? Wel, edrychwn yn gyntaf ar y sector cyhoeddus – a oes unrhyw esgus, mewn gwirionedd, dros danddefnyddio asedau cyhoeddus tra bod eraill yn gwneud eu gorau glas i ddod o hyd i leoliadau ar gyfer digwyddiadau, ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd, cyfeiriadau ar gyfer rhedeg eu sefydliadau gwirfoddol ohonynt, cyfleusterau ar gyfer gwaith argraffu ar raddfa fach, ac ati? Edrychwn nesaf ar y trydydd sector – a ellir cyfiawnhau rhoi grantiau neu gontractau cyhoeddus i sefydliad nad yw’n fodlon rhannu’r cyfleusterau (a gwirfoddolwyr) nad yw’n eu defnyddio ddigon â sefydliadau eraill sy’n gwneud gweithgareddau tebyg? Ac yn y sector preifat, pam na rown ostyngiadau treth i gwmnïau sy’n gallu dangos cofnod o rannu staff a chyfleusterau â sefydliadau’r sector cyhoeddus neu’r trydydd sector?

Asedau

Fodd bynnag, dim ond rhan fach o’r hyn y gellid ei wneud yw dulliau gweithredu o’r fath. Yn bwysicach na rhannu o’r fath rhwng sefydliadau yw’r potensial ar gyfer paru galluoedd dinasyddion â defnyddwyr posibl yn y gymuned. Dyma’r ‘ap’ delfrydol. Ar hyn o bryd, dim ond yr hyn sydd ei angen ar ddinasyddion gan y sector cyhoeddus a gofnodir gennym – nid y galluoedd sydd ganddynt a’r cryfderau ac adnoddau y maent yn fodlon eu rhannu. Dyma’r her fwyaf sy’n wynebu cyrff cyhoeddus wrth iddynt fynd i’r afael â gwella llesiant yng Nghymru. Wrth gwrs, bydd angen i gyrff cyhoeddus gydgysylltu’r gwaith o gydgynhyrchu â dinasyddion, a bydd angen rhywfaint o wario i gyflawni hyn, ond y gobaith yw y caiff mwy o lawer o adnoddau eu rhyddhau nag a ddefnyddir.

I grynhoi, mae llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru yn dibynnu’n fawr ar wneud y gorau o’n hadnoddau presennol a sicrhau eu bod yn datblygu ac yn ehangu yn y dyfodol. Mae gwlad â chyfoeth o adnoddau lle y caiff y rhan fwyaf ohonynt eu tanddefnyddio, a lle mae pobl fedrus yn gwastraffu llawer iawn o amser yn ceisio gwneud y gorau o gyllidebau a grantiau bach (sydd hefyd yn lleihau), yn arwydd bod blaenoriaethau’r llywodraeth yn anghywir. Dylid rhoi blaenoriaeth ar fyrder i ailfeddwl yn sylfaenol sut i baru ein hadnoddau toreithiog ag anghenion dinasyddion Cymru.