Adrodd ein Stori NI

Yn y blogbost yma mae Dr. Rachel Hughes, Pennaeth Mewnwelediad Chwaraeon Cymru, yn esbonio pam mae hi o’r farn bod adrodd ein Stori NI yn bwysig i les Cymru.

Rwyf wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â rhai pobl ardderchog wrth helpu i lunio’r seminar rhannu dysgu sydd ar y gweill, sef Dyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae yna nifer ohonom yn y grŵp sydd heb weithio gyda’n gilydd o’r blaen. Daethom at ein gilydd i bwrpas a rennir, gan edrych ar bethau trwy wahanol lensiau, ac rydym wedi datblygu seminar sydd, gobeithio, yn greadigol ac yn ymestynnol. Yn ganolog i’r seminar, fel y dywedodd Alan Morris yn ei flog diweddar, y mae deall a datblygu ymddygiadau sy’n datgloi ein hadnoddau mewn ffyrdd llawer mwy creadigol a chynaliadwy.

Trwy EIN gwaith, rydym NI wedi gwrando ac wedi chwilio am yr endid sy’n datblygu. Rydym NI wedi gofyn i ni ein hunain beth ydym NI am ei gyflawni yma? Beth sydd orau i NI, pob un ohonom NI? Beth yw EIN cam nesaf? Rydym NI, yn ymwybodol, wedi ceisio helpu cyfranogwyr i’r seminar i chwilio am y llinynnau anweladwy sy’n ein cysylltu NI i gyd, er mwyn adrodd ein stori NI; stori posibilrwydd.

Clawr llyfr 'The Art of Possibility: transforming professional and personal life' gan Rosamund Stone Zander a Benjamin ZanderOs oes unrhyw rai ohonoch wedi darllen The Art of Possibility: transforming professional and personal life gan Rosamund Stone Zander a Benjamin Zander, yna mae’n debygol eich bod yn deall yr hyn rwy’n ei olygu wrth adrodd ein stori NI. Os nad ydych wedi ei ddarllen, byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn gwneud hynny. Fe’m hysgogwyd gan y llyfr hwn i feddwl am ein sefyllfa fel tîm arwain yn Chwaraeon Cymru – ein hymddygiadau, ein cysylltiadau, ein datblygiad, ein posibiliadau – a sut y mae’r rhain yn datblygu yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Fel arfer, pan ydym yn gweithio mewn sefydliad, rydym yn naturiol yn gweld y byd trwy edrych allan o’r tu mewn. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ein hannog i feddu ar bersbectif tu allan-i mewn hefyd, ac i weld pethau trwy lygaid eraill – cydweithredwyr (posibl), defnyddwyr gwasanaethau, dinasyddion ac, yn bwysicach fyth, dinasyddion y dyfodol – gan edrych ar yr hyn sy’n bosibl. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni symud ein system weithredu; y matrics hwnnw sy’n arwain ein hymddygiad.

Yn Chwaraeon Cymru, rydym yn ceisio gwneud hyn mewn dwy ffordd ryng-gysylltiedig.

Mae’r ffordd gyntaf yn golygu deall a mesur ein heffaith, ac adrodd stori gymhellol (chwaraeon). Rydym yn defnyddio damcaniaeth newid i’n helpu gyda hyn. Trwy gynnal gweithdai dros y misoedd nesaf, rydym yn gobeithio tynnu allan y damcaniaethau newid sy’n cysylltu ein gweithgareddau allweddol â’n canlyniadau allweddol ar gyfer chwaraeon ac ar gyfer lles Cymru.

Trwy wneud hyn, rydym yn cydnabod y gallai fod yna dueddiad i ni fynd i fodd prosesu, a pheidio ag ystyried mai pobl (neu ymddygiadau) yw’r ffynhonnell , er mai’r deilliant yw’r canlyniadau.

Felly, wedi’i ymgorffori yn y gwaith hwn y mae’r cyfle i ni oedi a myfyrio ar yr hyn rydym yn ei wneud, a sut yr ydym yn ei wneud. At hynny, mae yma gyfle i ddatblygu lens newydd i edrych ar bethau trwyddo, lens sy’n cynnwys yr amcanion lles, y ffyrdd o weithio ac, i ni, DNA chwaraeon (y pethau hynny y mae arnom angen eu hystyried er mwyn i rywun wirioni ar chwaraeon – cymhelliant, hyder, cyfle ac adnoddau, ymwybyddiaeth, a’r profiad). Dylai dinasyddion fod yn ganolbwynt i’r lens, a bydd hyn yn ein helpu i feddu ar bersbectif tu allan-i mewn.

Mae’r ail ffordd yn ymwneud â datblygu ein tîm arwain. Gwyddom fod ein hymddygiadau (arwain) yn pennu canlyniadau, ac rydym yn canolbwyntio mwyfwy ar hyn. Yn bwysig iawn, nid fel unigolion, ond fel tîm. Dyma lle y bu ein stori NI yn fwyaf defnyddiol i mi.

Mae ein stori NI yn “cyfeirio at berthynas yn hytrach nag at unigolion, at batrymau, ystumiau a symudiadau cyfathrebu, yn hytrach nag at wrthrychau a hunaniaethau ar wahân. Mae’n tystio i’r pethau rhyngol. Yn debyg i natur ronynnau-a-thonnau golau, mae’r NI yn endid byw ac yn llwybr hir o ddatblygiad.” Ac, yn ei hanfod, dyma beth rydym yn symud tuag ato fel tîm arwain.

Mae’n rhaid i NI ymarfer bod yn NI. NI fel tîm arwain yn Chwaraeon Cymru, ond hefyd NI, pob un ohonom NI yng Nghymru, ar gyfer lles cenedlaethau’r dyfodol.

Trwy adrodd ein stori NI, daw pob un ohonom yn sianel ar gyfer yr endid cynhwysol hwn. Mae’n arwain y ffordd at fath o arweinyddiaeth sy’n seiliedig ar y dewrder i siarad ar ran unigolion, ac am y llinell hir o bosibilrwydd dynol.

Rydym ar ddechrau’r daith hon, taith a fydd yn symud yn gyson! Trwy rannu ein dulliau a’n ffordd o feddwl bresennol, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer trafodaeth, bod yn agored, a dysgu a rhannu pellach, ac yn darparu naratif o’n hamgylch NI.

Dyma rai camau i’n helpu NI i ymarfer :

  1. Adrodd ein stori NI – stori’r llinynnau anweladwy sy’n ein cysylltu ni i gyd, stori posibilrwydd
  2. Gwrando a chwilio am yr endid sy’n datblgu
  3. Gofyn: beth ydym NI am ei gyflawni yma? Beth sydd orau i NI, pob un ohonom NI? Beth yw EIN cam nesaf?

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s