Archifau Misol: Ebrill 2016

Chwaraeon: adnodd pwerus ar gyfer gwella llesiant

Yn y blog hwn, mae Dr Rachel Hughes, Pennaeth Mewnwelediad yn Chwaraeon Cymru, yn esbonio pam fod chwaraeon yn declyn mor bwysig er mwyn gwella lles…

Beth petawn i’n dweud wrthoch chi bod yna adnodd effeithiol iawn ar gyfer ymgysylltu ag unigolion, cymunedau a hyd yn oed gwledydd a’u grymuso i gymryd camau i weithredu ar wella eu llesiant. A fyddai diddordeb gennych chi?

Mae gan yr adnodd hwn y pŵer cyffredin i ddenu, ysgogi ac ysbrydoli. Mae’n dwyn gwirfoddolwyr ynghyd ac yn hyrwyddo ymwneud y gymuned, gan helpu i feithrin cyfalaf cymdeithasol ac atgyfnerthu’r gwead cymdeithasol. Gall gael effaith gadarnhaol ar ymddygiad pobl, eu hunan-barch, eu hyder, a’u gallu i ddangos ymddygiadau cymdeithasol cadarnhaol. Fe’i cysylltir â pherfformiad academaidd gwell a lefelau cyrhaeddiad uwch.

Nid yn unig hynny, gall leihau’r risg o nifer o afiechydon anhrosglwyddadwy mwyaf cyffredin cymdeithas yn sylweddol, cynnig manteision seicolegol a chymdeithasol, a gall helpu i sicrhau bod unigolion yn cynnal ansawdd bywyd a’r gallu i weithredu ymhob oed.

Wel, yr adnodd hwnnw yw chwaraeon.

Nawr, efallai eich bod yn meddwl am chwaraeon mewn ystyr draddodiadol: pêl-droed, pêl-rwyd a rygbi cystadleuol. Efallai nad oedd eich profiad o ‘chwaraeon’ yn un cadarnhaol: diwrnodau oer, gwlyb yn rhedeg o amgylch maes chwarae. Mae ond ar gyfer yr ychydig rai nid y mwyafrif.

Gadewch i mi fynd i’r afael â rhai tybiaethau. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, chwaraeon yw ‘pob math o weithgarwch corfforol sy’n cyfrannu at ffitrwydd corfforol, lles meddyliol, a rhyngweithio cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys chwarae, hamdden, chwaraeon ffurfiol neu gystadleuol, a champau a gemau brodorol’.  Drwy’r gwaith rydym yn ei wneud gyda’n partneriaid, rydym wedi bod yn annog ystod eang o fformatau chwaraeon sy’n esblygu o hyd gan gyflwyno dewis amrywiol o gyfleoedd ar gyfer gweithgarwch. Smörgåsbord os hoffech chi, ac oddi arno gall pob unigolyn ddewis cynnig sy’n briodol, deniadol a phleserus, waeth beth yw ei nodweddion cymdeithasol na’i lefel ffitrwydd presennol.

Fel dosbarthwr arian y Loteri Genedlaethol ymysg chwaraeon lawr gwlad yng Nghymru, rydym wedi gallu cynorthwyo pobl, cymunedau a sefydliadau i gynnig ystod o gyfleoedd chwaraeon sy’n gwella llesiant pobl. Rydym yn credu’n gryf y dylai’r arian hwn fynd at bwy bynnag sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni.

Enghraifft wych o hyn yw ein cynllun grantiau Galw i Weithredu. Y llynedd, fel rhan o waddol cymunedol Gemau’r Gymanwlad, gwnaethom lansio Galw i Weithredu, a oedd â’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru. Ar sail ein hymchwil syfrdanol ninnau a ymchwiliodd i’r bobl hynny nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon, aeth yr alwad allan am ddulliau beiddgar a newydd o weithredu a allai helpu i bontio’r bylchau mewn cyfranogiad a fu’n bla ar genedlaethau blaenorol. Bu deg sefydliad yn llwyddiannus wrth sicrhau £2.35m tuag at broseictau gwerth £3.6m. Efallai nad yw rhai o’r rhain yn dod i’ch meddwl yn syth pan fyddwch yn meddwl am gynnig cyfleoedd chwaraeon; er enghraifft, Girlguiding Cymru, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cartrefi RhCT ac Amser i Newid.

Yn ogystal â’r ffrydiau ariannu mawr fel Galw i Weithredu, rydym yn buddsoddi’n rheolaidd mewn chwaraeon cymunedol drwy ein Cist Gymunedol a’n Grantiau Datblygu.

Mae’r Gist Gymunedol yn enghraifft wych o broses gwneud penderfyniadau ddatganoledig. Caiff penderfyniadau ynglŷn â’r hyn yr ariennir yn lleol eu gwneud gan banel sy’n cynnwys cynrychiolaeth o’r gymuned leol. Gall y paneli hyn ddyrannu grantiau o hyd at £1,500. Mae panel Cist Gymunedol ym mhob un o’r 22 o awdurdodau lleol.

Mae Grantiau Datblygu, sydd fwyaf perthnasol i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus mwy na thebyg, yn werth hyd at £25,000 ac ar gael i gefnogi, er enghraifft, mentrau newydd, addysg hyfforddwyr, prynu offer newydd, neu i ddatblygu cyfleusterau hyfforddi.

Beth rydym wedi’i weld yn gynyddol drwy ein buddsoddiad mewn chwaraeon cymunedol yw’r modd y gall chwaraeon ennyn diddordeb pobl a thrawsnewid bywydau pobl.

Pêl droed y stryd yn newid bywydau cyfranogwyr. Rhoddodd Chwaraeon Cymru grant o ychydig dros £9,000 i Bêl-droed Stryd Cymru,  partneriaeth prosiect cynhwysiant cymdeithasol rhwng Gwalia a phartneriaid eraill y sector statudol a’r sector gwirfoddol, i ddatblygu grŵp craidd o hyfforddwyr i gynnig cyfleoedd chwarae ychwanegol ar gyfer pobl ddigartref a phobl wedi’u heithrio yn gymdeithasol.

“Drwy gymryd rhan mewn gwasanaethau cymunedol fel hyn, mae’r hyfforddwyr wedi cael effaith gadarnhaol ar les corfforol defnyddwyr y gwasanaethau a’u gallu i wneud dewisiadau iachach o ran ffordd o fyw. Mae’r cyfranogwyr hefyd wedi datblygu llwybrau cynnydd i rai chwaraewyr, i gymryd rhan mewn chwaraeon prif ffrwd a chael effaith gadarnhaol mewn cymunedau fel hyfforddwyr, arweinwyr chwaraeon a swyddogion cymorth cyntaf. Mae hefyd wedi helpu i wella eu CV, eu sgiliau, eu profiad a’u cymwysterau ac mae ganddyn nhw hanes a chyfeiriadau y gall darpar gyflogwyr yn y dyfodol edrych arnyn nhw, gan eu symud yn nes at gyflogadwyedd a chynhwysiant cymdeithasol.” Keri Harris, Arweinydd Prosiect. Yn rhyfeddol, dywedodd 76% o’r bobl ddigartref a gymerodd ran yn y prosiect bod eu sefyllfa o ran tŷ wedi gwella.

Street Football Wales 2 (content)

Bel-Droed Stryd Cymru

Gyda mwy a mwy o ferched yn eu dilyn, mae Diva Sport yn profi bod posib dod o hyd i fformiwla lwyddiannus wrth fynd i’r afael â’r hen, hen broblem honno sy’n ymwneud â llai o ferched yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Rhoddodd Chwaraeon Cymru grant cychwyn i ddwy fam sengl a oedd yn benderfynol o gadw’n heini yng nghanol holl gyfrifoldebau eraill eu bywydau. Mae Diva Sport, eu menter ffitrwydd sydd â’i ffocws ar ferched ac sy’n croesawu teuluoedd, bellach yn gweld cannoedd o ferched sydd eisiau ymuno â dosbarthiadau ffitrwydd bob mis.

“Roedden ni eisiau cynnig rhywbeth i bob siâp, maint ac oedran, i ferched sy’n cymryd rhan yn rheolaidd mewn chwaraeon ac i’r rhai sydd heb wneud unrhyw beth ers gadael yr ysgol.” Ychwanegodd y partner busnes, Claire Williams, sydd wedi colli bron i 5 stôn mewn pwysau ac sydd wedi dod oddi ar gyffuriau atal iselder drwy gymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau hamdden: “Roedden ni’n deall yr holl bryderon y gallai’r merched fod yn eu teimlo wrth feddwl am ymuno â dosbarthiadau ffitrwydd; roedden ni’n eu teimlo nhw hefyd. Felly fe wnaethon ni wrando ar yr hyn roedd y merched ei eisiau ac rydyn ni wedi gadael iddyn nhw ddylanwadu ar y ddarpariaeth ers ein lansiad.” Mae Diva Sport wedi dod yn bartner i lawer o sefydliadau amrywiol, gan chwilio am ddulliau o weithredu ar y cyd er mwyn cyrraedd grwpiau amrywiol o ferched. Un ffocws sydd gan y ddwy o ran gweithredu eu busnes – cadw pethau’n hwyliog. A thybed beth yw ffynhonnell y fformiwla lwyddiannus hon? Dim ond gwrando ar eu cwsmeriaid a’u deall.

“Drwy gynnal y sesiynau’n lleol mae’n golygu ‘mod i’n gallu cymryd rhan, mwynhau’r manteision iechyd a chyfarfod pobl eraill.”  Cyfranogwr Ffit Hamdden Wledig.  Gyda 60% o’i dirlun yn dirlun gwledig ac, mewn rhai achosion, yn ynysig, does dim syndod bod rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy feddwl y tu allan i’r bocs wrth ddarparu mynediad hawdd at gyfleoedd chwaraeon i bawb. A dyma pam, ochr yn ochr â stadiymau a champfeydd chwaraeon modern a adeiladwyd yn bwrpasol, y mae neuaddau eglwys, ystafelloedd ysgol a chanolfannau cymunedol wedi dod yn rhan hanfodol o seilwaith chwaraeon yr ardal.

Gyda chymorth Chwaraeon Cymru, dechreuodd y rhaglen, Ffit Hamdden Wledig, gyda chymhorthfa’n esbonio pwysigrwydd bod yn egnïol fel rhan o ffordd o fyw iach. “Drwy fynd allan a siarad gyda phobl yn y cymunedau, fe welsom ni bod llawer o rwystrau’n atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. “O fethu teithio oherwydd oedran, anabledd neu ddiffyg darpariaeth deithio, i fod eisiau cymryd rhan gyda siaradwyr Cymraeg eraill… Fe roesom ni gynllun ar waith i fynd i’r afael â’r rhain.” Tim Ballam, Swyddog Hamdden Wledig. Mae Ffit Hamdden Wledig wedi estyn allan at drigolion yr ardaloedd gwledig ac yn fwy na dim ond o ran lleoliad a hwylustod. I lawer, mae’n ganolog i’w cymunedau, gan gynnig ffordd o fyw fwy egnïol a chymdeithasol.

Ffit - main image

Ffit Hamdden Wledig

Mae mwy o enghreifftiau gwych o’r ffordd rydym wedi helpu i wneud gwahaniaeth i gymunedau ledled Cymru, a gellir dod o hyd iddynt yma.

Mae gennym hanes hir o hyrwyddo gwaith ymchwil ac o’i gynnal. Mae’n un o swyddogaethau craidd ein sefydliad. Mae ein tystiolaeth a’n mewnwelediad yn llywio’r hyn a wnawn a’r hyn rydym yn ei ariannu.

Mae prif gorff y dystiolaeth a’r mewnwelediadau yn deillio o ddau arolwg poblogaeth ar raddfa fawr rydym yn eu cynnal: Arolwg ar Oedolion Egnïol (a gyfunwyd yn ddiweddar â’r Arolwg Cenedlaethol) a’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol.

Mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol, a gynhelir bob dwy flynedd, yn cynnig mewnwelediad a gwybodaeth wedi’i datgrynhoi heb ei hail am gyfranogiad a darpariaeth Ymarfer Corff a chwaraeon ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Yn 2015, mynegodd 116,000 o bobl ifanc eu barn, gan olygu bod yr arolwg yn un o’r rhai mwyaf o’i fath yn y byd. Rydym yn falch iawn o’r ffaith hon, ac mae’n dangos bod Cymru wir yn arwain y ffordd! Yn ychwanegol at hyn, darparodd 1,094 o athrawon wybodaeth am ddarpariaeth Addysg Gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion, a’u barn ar ddatblygiad proffesiynol parhaus a phwysigrwydd llythrennedd corfforol o fewn eu hysgolion.

Cafodd cyfanswm o 985 o ysgolion yng Nghymru (58% o’r holl ysgolion cynradd ac 86% o’r holl ysgolion uwchradd, gan gynnwys pedair ysgol arbennig) adroddiad pwrpasol ar eu data i’w ddefnyddio ganddynt ac i lywio’r hyn sydd gan eu hysgol i’w gynnig.

Rydym yn falch bod yn arolwg hwn hefyd yn cael ei gydnabod gan Estyn fel un sy’n darparu tystiolaeth werthfawr i helpu arolygwyr lunio barn ynglŷn â llesiant disgyblion ac i helpu ysgolion gyda hunanwerthuso. Mae’r arolwg yn darparu tystiolaeth ar: agweddau tuag at gadw’n iach ac yn ddiogel; cyfranogiad mewn dysgu a’i fwynhau; cynnwys y gymuned a’r gymuned yn cymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau; sgiliau bywyd a chymdeithasol.

Yn bwysig ddigon, mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol mewn sefyllfa dda i helpu ysgolion i gyflwyno a monitro’r cwricwlwm newydd. Mae’n helpu, yn arbennig, i sicrhau y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn unigolyn iach a hyderus.

Gan ategu’r Arolwg Chwaraeon Ysgol, rydym wedi bod yn monitro ac yn dadansoddi patrymau cymryd rhan mewn chwaraeon dros gyfnod o 20 mlynedd a mwy drwy ein Harolwg ar Oedolion Egnïol. Fel rheol, mae hyn yn rhoi gwybodaeth i ni am ymddygiadau tua 12,000 o oedolion yng Nghymru. Gyda’i gilydd, cawn gipolwg heb ei ail ar gymryd rhan mewn chwaraeon ymhlith y boblogaeth gyfan.

Gan gydnabod bod yr hyn sydd gan chwaraeon i’w gynnig i gymdeithas yn unigryw, rydym yn falch bod data o’n harolygon yn un o’r dangosyddion cenedlaethol a ddefnyddir i fesur llesiant Cymru.

Nid arolygon yn unig rydym yn eu cynnal, rydym hefyd yn ymgymryd ag ymchwil i ddeall yn well pam nad yw pobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon, ac i gyfuno tystiolaeth ar feysydd polisi. Mae darnau diweddar o waith rydym wedi ymgymryd â nhw yn cynnwys:

  • Deall cyfranogiad a diffyg cyfranogiad mewn chwaraeon ymhlith grwpiau Duon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru;
  • Chwaraeon ac Iechyd: papur tystiolaeth;
  • Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) mewn Chwaraeon: Deall Cyfranogiad LHD mewn Chwaraeon yng Nghymru
  • Cyfranogiad Chwaraeon Ymhlith Ieuenctid 14-21 Oed: Sut mae annog pobl ifanc i ddal ati i gymryd rhan mewn chwaraeon?

Gellir dod o hyd i’r rhain, ynghyd â phethau eraill rydym wedi’u cyhoeddi yma.

Ac mae mwy…! Rydym hefyd wedi cynhyrchu adnodd segmentu y gellir ei ddefnyddio i ddeall eich ardal yn well o ran (diffyg) ymddygiadau chwaraeon pobl. Gall y segmentu helpu i sbarduno penderfyniadau tactegol a strategol drwy’r canlynol: dadansoddi dalgylchoedd; ychwanegu mewnwelediad at ddaearyddiaeth; gwybod pwy i’w dargedu a beth i’w gynnig; a naws a neges cyfathrebu.

Felly pam bod hyn oll yn bwysig? Rwy’n siŵr eich bod chi, fel ni, wedi’ch cyffroi gan y posibiliadau y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn eu cynnig i ni yng Nghymru. Mae’n gyfle i chwarae ein rhan i greu cenedl gynaliadwy. Cymru sydd â diben cyffredin i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaus i bob un ohonom. Cymru lle rydym yn gweithio’n wahanol fel  ein bod i gyd yn gwneud penderfyniadau gwell, yn trawsnewid gwasanaethau, yn mynd i’r afael â phroblemau craidd, ac yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian cyhoeddus prin.

Yn fy ffordd fach iawn fy hun, roeddwn eisiau rhannu gyda chi’r mewnwelediad gwerthfawr a all helpu i lywio eich penderfyniadau a’ch cynlluniau llesiant. Roeddwn hefyd eisiau rhannu’r pŵer sydd gan chwaraeon i wneud gwahaniaeth i lesiant pobl a chymunedau yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol.

Felly, beth y gallwch ei wneud? Dyma fy nhri awgrym:

  • Ymgyfarwyddo â thystiolaeth a mewnwelediad Chwaraeon Cymru
  • Dilyn Chwaraeon Cymru ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau am ein gwaith a gwaith ein partneriaid: Twitter; Facebook; YouTube; Instagram
  • Cysylltu â thîm datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol. Bydd yn gallu rhoi cyngor a syniadau i chi ar gyfer datblygu llesiant drwy chwaraeon

 

@rachelgwenllian 

National Theatre Wales: Byw’r breuddwyd …. a’u gwerthoedd

Mae gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus ym mhob sector yn awyddus i wella’u cymunedau. Ond beth allwn ni ei ddysgu o sut mae National Theatre Wales yn ychwanegu gwerth at y gymuned gelfyddydol? Ymwelodd Dyfrig Williams â Devinda De Silva i ffeindio allan.

Ers i mi ddechrau gweithio yn y sector gwirfoddol, mae fe wedi bod yn amlwg i mi does dim prinder o bobl sydd â gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus. Pan wnes i hwyluso rhwydweithiau traws-sector Cyfranogaeth Cymru, roedd yn gwbl glir nad yw’r gwerthoedd yma yn cael eu cyfyngu i’r sector gwirfoddol, a chafodd y safbwynt yma ei atgyfnerthu pan wnes i fynd i GovCampCymru, anghynhadledd lle mae pobl yn cynnal sesiynau trafod ar sut all technoleg, meddylfryd newydd a gwasanaethau cyhoeddus wella cymdeithas.

Fe wnes i gyfarfod Kevin Davies o Gynulliad Cymru yn GovCampCymru, ac mae fe bellach wedi rhannu arferion craffu da gyda ni. Dywedodd e i mi sut mae National Theatre Wales (a ddatblygodd y Prosiect Democratiaeth Mawr) yn ymgorffori eu gwerthoedd yn eu llywodraethu a disgrifiadau swydd eu staff.

Roedd ymweld â swyddfeydd y theatr yn ddigon i berswadio mi bod ymagwedd y sefydliad tuag at y gymuned yn ychydig yn wahanol. Yn hytrach na theatr fawr, mae ganddynt swyddfa fach yn Arcêd y Castell – reit yng nghanol y ddinas.

Llywodraethu ac allgymorth

Nid yw llywodraethu yn bwnc sexy iawn, ond mae’r theatr wedi llwyddo i wneud y pwnc yn eithaf cyffrous trwy eu gwaith gyda’u Panel TEAM. Mae’r panel yn 10 o bobl o wahanol gymunedau sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol i’r Theatr ac sy’n lleisio’u barn ar sut mae’r sefydliad yn cael ei redeg ar bob lefel.

Mae’r model yn chwe blwydd oed nawr. Yn y flwyddyn gyntaf fe wnaethon nhw gwaith allgymorth dwys a 13 sioe mewn 13 lleoliad gwahanol. Yn dilyn hynny roedd pobl yn yr ardaloedd yma yn cymryd rhan mewn sioeau. A thrwy edrych ar theatr yn yr ystyr ehangaf, fe wnaethant lwyddo i gael pobl na fyddai’n mynd i weld sioe fel arfer i gymryd rhan. Er enghraifft dyw’r theatr ddim yn ddiddordeb mawr i gymuned Somali Caerdydd, ond drwy noddi tîm pêl-droed bach, maen nhw wedi gallu rhedeg gweithdai bach gyda phobl ac i gael eu hadborth ar gynyrchiadau.

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach ac mae’r panel yn llunio cyfeiriad strategol y sefydliad. Mae dau aelod y Panel TEAM yn mynd i bob cyfarfod bwrdd ac mae un yn eistedd yn barhaol ar y bwrdd, sy’n golygu bod penderfyniadau strategol y sefydliad yn cynnwys pobl o’r gymuned. Mae’r panel hefyd yn bwydo mewn i Gynllun Strategol y sefydliad.

Fel sefydliad bach, mae aelodau’r Panel TEAM yn rhoi hwb mawr i allu’r sefydliad. Er mai dim ond 18 o bobl sy’n cael eu cyflogi, mae’r sefydliad yn ymddiried yn y 10 aelod panel i fynd i ddigwyddiadau ar ei ran a’i gynrychioli. Mae hyn wedi helpu aelodau o’r panel i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd eu hunain, ac mae rhai wedi cael swyddi gyda sefydliadau celfyddydol eraill, wedi dechrau cwrs coleg neu ddechrau eu cwmnïau eu hunain. Mae’n rhwydwaith hunan-gefnogol, lle mae aelodau’r panel yn cefnogi ei gilydd yn eu prosiectau.

Recriwtio staff

Mae’r Panel TEAM hefyd yn ymwneud â recriwtio staff, gan fod aelodau o’r panel yn eistedd ar bob panel cyfweliad ar gyfer staff newydd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod diwylliant a gwerthodd y mudiad yn un sy’n ffocysu ar y gymuned. Mae ymagwedd National Theatre Wales yn debyg i beth mae Richard Branson wedi dweud am recriwtio am werthoedd yn hytrach na sgiliau.

Rwyf eisoes wedi sôn sut y mae gwaith allgymorth y theatr yn rhan o’i lywodraethu, ond mae allgymorth ac ymgysylltu hefyd yn rhan graidd o swydd pob aelod o staff. Mae disgwyl i’r holl staff, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Celfyddydol a’r timau Cyfathrebu a Chyllid yn y swyddfa, i weithio gyda’r gymuned. Er enghraifft, maen nhw’n cynnal cymorthfeydd gyda grwpiau cymunedol a gweithwyr llawrydd yn eu harbenigedd. Maent yn cynnig cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn, ac mae partneriaid y sefydliad hefyd yn cael eu hannog i ffocysu eu gwaith ar y gymuned pan fyddant yn gweithio gyda National Theatre Wales.

Gweithio agored, a derbyn adborth mewn modd agored

Ac os nad ydych yn meddwl bod hyn i gyd yn ddigon i ddangos natur agored National Theatre Wales, maen nhw hefyd yn annog pobl i roi eu hadborth drwy gyfryngau cymdeithasol yn yr ymarfer olaf cyn y digwyddiad. Mae’r gynulleidfa yn cael ei gwahodd yn arbennig o’r gymuned leol cyn i sioeau fel Candylion mynd yn gyhoeddus, ac mae’r adborth yn rhoi syniadau i’r theatr am sut i wella’r sioe a sut i greu cyffro o’i gwmpas.

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dechrau gweithio yn yr agored. Mae’r Bromford Lab yn ei ddefnyddio fel cyfle i glywed syniadau, lleihau dyblygu a rhannu dysgu o fethiant. Mae Dangosfwrdd Leeds Data Mill hefyd yn dangos gwybodaeth am eu gwaith mewn amser real. Byddem ni wrth ein bodd i glywed o unrhyw wasanaethau cyhoeddus Cymreig sy’n gweithio’n agored, ac fel National Theatre Wales, yn byw eich gwerthoedd.