Skip to content

Mis: Mawrth 2016

YMCA Plas: Gweledigaeth well ar gyfer y Rhath

Sut all sefydliadau ddatblygu strategaeth ar gyfer ased cymunedol? Ymwelodd Dyfrig Williams ag YMCA Plas (cyn-Ganolfan Gymunedol Plasnewydd) yn y Rhath i ffeindio allan. Rydw i wedi bod yn ymweld â sefydliadau sydd wedi mynd drwy’r broses trosglwyddo asedau yn barod yn fy mlogbostau ddiweddar ar drosglwyddo asedau. Roedd fy ymweliad olaf bach yn wahanol, achos wnes i fynd i sefydliad sy’n datblygu eu cynllun busnes ar gyfer safle. Fe wnes i ymweld â’r YMCA, sydd wedi cymryd drosto hen adeilad Canolfan Gymunedol Plasnewydd ar sail prydles am 100 mlynedd o… Read more YMCA Plas: Gweledigaeth well ar gyfer y Rhath

Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr: Adeilad gwell, democratiaeth gwell

Cafodd democratiaeth leol ei adfywio ar ôl i Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr symud o’i hen adeilad i’r llyfrgell yn Nhŷ Carnegie. Ymwelodd Dyfrig Williams â’r Cyngor i ffeindio allan mwy am yr adeilad newydd a sut mae’n cael ei ddefnyddio i roi hwb i gelfyddydau’r dref. Roedd Cyngor Tref Pen-y-bont wedi ei leoli yn hen swyddfeydd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr yng Nglanogwr nes iddynt symud yn ddiweddar. Yn 1987 cafodd ei gyn-swyddfeydd ei droi’n unedau henoed a symudodd y Cyngor Tref i hen adeilad Adran Penseiri Cyngor… Read more Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr: Adeilad gwell, democratiaeth gwell

Canolfan Gelf y Miwni: Trosglwyddiad ased a gafodd ei sbarduno gan y gymuned

Fe wnaeth y penderfyniad i gau Canolfan Gelf y Miwni ym Mhontypridd achosi protest mawr, a wnaeth hyn yn ei dro sbarduno’r gymuned i gymryd dros yr adeilad. Aeth Dyfrig Williams i’r ganolfan i ffeindio allan sut mae’r ganolfan wedi datblygu ers i’r ased cael ei drosglwyddo. Ysgrifennodd Chris Bolton blogbost sbel yn ôl am sut all cythruddo eich dinasyddion arwain at weithredu cymunedol. Mae’n darn pryfoclyd am sut all cau ased cymunedol arwain at ymateb cryf o’r cyhoedd, a sut gall gwasanaethau cyhoeddus adeiladu ar gryfder yr ymateb yma. Clywais… Read more Canolfan Gelf y Miwni: Trosglwyddiad ased a gafodd ei sbarduno gan y gymuned

Gwesty Seren: Trosglwyddo asedau yn effeithiol a dull newydd o ofal ysbaid

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n debyg fe fydd llawer o gyrff gwirfoddol a Chynghorau Tref a Chymuned yn mynd ati i drosglwyddo asedau o’r Cyngor Sir. Aeth Dyfrig Williams i Westy Seren i ddysgu am ei brofiad nhw o drosglwyddo ased a sut maen nhw’n darparu gofal ysbaid. Rydym yn cael ein arwyddbostio ato arfer da yn aml, ond nid yw’n aml ein bod ni’n clywed am un prosiect sydd gydag arfer da i’w rhannu mewn sawl gwahanol faes. Aethom i Westy Seren i ddysgu am sut mae ased… Read more Gwesty Seren: Trosglwyddo asedau yn effeithiol a dull newydd o ofal ysbaid