Archifau Misol: Ionawr 2016

Gwerthuso da = dysgu sut i wneud pethau’n well

Mae Dr Kate Hamilton wedi ysgrifennu blog am y broses werthuso a ddefnyddir o fewn Coed Actif Cymru…

Fel pob prosiect da, rydym yn cymryd y gwaith o werthuso Coed Actif Cymru o ddifrif – nid dim ond oherwydd yr hoffem fod yn ddiwyd ynghylch monitro’r prosiect, ond hefyd oherwydd mai un o’n blaenoriaethau yw cryfhau’r sail dystiolaeth bod coetiroedd yn dda i iechyd a lles.

Ein Prif Her

Un o’r prif heriau wrth wneud hyn yw mesur iechyd a lles mewn ffyrdd sy’n gredadwy, yn gadarn ac yn ystyrlon. Fel y crybwyllwyd [ym mlog 1], mae gennym gyfranogwyr amrywiol iawn sydd ag anghenion, galluoedd a chyflyrau iechyd gwahanol, sy’n mynychu gwahanol fathau o weithgareddau mewn nifer o leoliadau gwahanol, ac yn cyfranogi pan fyddant yn dewis gwneud hynny. Mewn gwirionedd mae hyn yn gwbl groes i’r sefyllfa ddelfrydol ar gyfer ymchwil systemataidd. Ond dyma realiti nifer o ymyriadau bywyd go iawn – a chan fod dysgu o ymyriadau bywyd go iawn yn cynrychioli rhywfaint o fwlch yn y sail dystiolaeth, rydym yn gweithio arno ac yn ceisio dysgu ohono.

Rydym wedi defnyddio nifer o ddulliau gwerthuso gwahanol, gan geisio taro cydbwysedd pragmatig rhwng ein huchelgeisiau ein hunain, disgwyliadau rhanddeiliaid gwahanol, a beth y gellir ei weithredu mewn gwirionedd wrth gyflawni’r prosiect.

Rydym wedi arbrofi gyda chynnwys mesurau iechyd wedi’u dilysu yn ein holiaduron*. Gwnaethpwyd hyn yn dilyn cyngor gan randdeiliaid allweddol yn ystod cam peilot Coed Actif Cymru: awgrymwyd, er bod ein cyflawniadau yn dda iawn, os oeddem am i’r gwaith hwn fod yn argyhoeddiadol – yn enwedig i’n cydweithwyr yn y sector iechyd – roedd angen i ni ddefnyddio mesurau iechyd cydnabyddedig go iawn i asesu ein heffaith. Felly, ar ôl ychydig o ymchwil a phrofion gofalus, dewiswyd detholiad o gwestiynau sy’n cynnwys adnoddau sefydledig megis fersiwn fer o Raddfa Lles Meddyliol Warwick Caeredin (SWEMWBS).

Y gobaith oedd, y byddai hyn yn ffordd syml o wneud ein data gwerthuso yn fwy cadarn. I fod yn onest, rydym yn dal i fod wrthi’n dadansoddi ein canfyddiadau o SWEMWBS, felly ni allaf ddweud p’un a yw wedi gweithio neu beidio – hynny yw, a fydd yn dangos ein bod yn gwella lles cyfranogwyr yn unol â’r mesur hwn. Rydym yn ffodus iawn i gael partneriaethau ymchwil addawol, a thrwy un ohonynt, mae gennym ddau fyfyriwr Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio ar hyn ar gyfer eu prosiect blwyddyn olaf ar hyn o bryd.

IMG_1240

Coed Actif Cymru

Yr hyn rydym wedi ei ddysgu hyd yma

Serch hynny, yn y cyfamser, gallaf rannu rhai pethau rydym wedi eu dysgu o’r profiad.

  1. Yn gyntaf, mae casglu data o holiaduron yn systematig ym mhob rhan o’r prosiect wedi bod yn her – ac nid yw cynnwys mesurau wedi’u dilysu yn gwneud dim i newid hyn. Yr hyn rwy’n credu sydd fwyaf diddorol yw’r gwrthdaro rhwng diwylliannau, rhwng ethos y prosiect – dyngarol, cynhwysol, cymdeithasol, cyfannol, anfeddygol, agored – a’r gweithdrefnau sy’n rhan o gwblhau holiaduron. Mae adborth gan gyfranogwyr ac arweinwyr yn dweud wrthym fod holiaduron yn ymyriadau digroeso i ddynameg ddynol sesiynau Coed Actif, sy’n golygu bod pawb dan sylw yn awyddus i’w cwblhau cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn amlwg yn effeithio’n andwyol ar ansawdd a dibynadwyedd y data y maent yn eu cynhyrchu.
  1. Yn ail, nid yw defnyddio adnoddau wedi’u dilysu yn golygu bod ymatebion i holiaduron yn ddilys. Ar lefel syml, mae angen hyder rhesymol arnoch fod cyfranogwyr wedi deall y cwestiynau a’u pwrpas er mwyn i’w hymatebion fod yn berthnasol – rhywbeth nad yw’n wir bob amser pan rydych yn gofyn cwestiynau i nifer o bobl ar yr un pryd, mewn cyd-destun antherapiwtig, a lle mae cyfranogwyr weithiau yn camddeall eu pwrpas fel math o ymarfer ‘boddhad cwsmeriaid’. Heb yr amser na’r adnoddau dynol i egluro’r cwestiynau a’u pwrpas bob tro i bob unigolyn, gwyddom fod rwtsh weithiau yn llithro i’n data am y rhesymau hyn.

Yn realistig, ni allwn fodloni’r meini prawf a’r protocolau llym a ddefnyddiwyd i ddilysu’r cwestiynau. Nid yw hyn yn golygu bod ein canfyddiadau yn ddi-werth – gallwn eu dehongli mewn ffyrdd eraill – ond mae’n golygu nad ydynt yn fwy cadarn na chanfyddiadau sy’n seiliedig ar unrhyw gwestiynau eraill.

  1. Yn drydydd – ac yn bwysicach oll – mae SWEMWBS (a mesurau meintiol, safonedig eraill) yn dweud ychydig iawn wrthym am sut a pham mae pethau’n newid i gyfranogwyr ac, yn benodol, pam mae’n bwysig iddynt. Nid beirniadaeth o’r adnoddau eu hunain yw hyn – nid ydynt wedi’u dylunio i nodi’r pethau hyn: mewn gwirionedd maent wedi’u dylunio’n benodol i ddiystyru’r pethau hyn er mwyn gallu asesu ymyriadau ar sail eu heffaith ar les heb gynnwys yr holl effeithiau dyrys hyn. Ond mae’n gwneud i ni gwestiynu eu gwerth i brosiect fel ein prosiect ni.

Mae lles yn gyflwr cymhleth a goddrychol, ac rydym ni yn un o’r dylanwadau niferus ar ein cyfranogwyr. Felly, ni all unrhyw amrywiadau mawr yn eu ‘sgoriau’ gael eu priodoli i Goed Actif Cymru yn y lle cyntaf. Rydym hefyd yn gwybod o’u hymatebion i gwestiynau naratif bod cyfranogwyr yn cael buddiannau sylweddol na chânt eu nodi gan y mesurau safonedig – er enghraifft, y gallu i gynnal lefel o iechyd er gwaethaf salwch dirywiol, neu ymdopi â chyflyrau episodig yn well. Efallai na fydd y rhain yn ymddangos fel ‘gwelliant’ net ond maent yn bwysig iawn i’r bobl dan sylw.

Yn ogystal â hyn, gwyddom fod y buddiannau y mae cyfranogwyr yn eu profi yn rhai aml-ddimensiwn ac yn aml yn annisgwyl. Er enghraifft, un o ganfyddiadau amlycaf ein gwaith monitro hyd yn hyn yw pwysigrwydd manteision cymdeithasol i’n cyfranogwyr – cwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau, datblygu sgiliau cymdeithasol, a dysgu pethau newydd – hyd yn oed pan nid y rhain oedd eu prif resymau dros ymuno. Mae’r rhain yn fwy na ‘phethau ysgafn’ sy’n deillio o welliant ‘go iawn’ a ‘chaled’ mewn iechyd – mae bod yn gysylltiedig yn gymdeithasol a dysgu yn bwysig iawn ynddynt eu hunain fel cyfranwyr at iechyd da, rhagfynegwyr marwolaeth, ac fel strategaethau ar gyfer lles gydol oes.

fun in the rain

Coed Actif Cymru

Felly, er budd beth a phwy rydym yn gwerthuso?

Mae hyn i gyd i weld yn weddol amlwg – rydym i gyd yn gwybod bod lles yn fwy na rhif. Ond, mae’n peri i mi feddwl pam, os yw hyn mor amlwg, bod prosiectau fel ein prosiect ni yn dal i deimlo pwysau i ddefnyddio’r dulliau hyn.
Pam y cânt eu hystyried i fod yn fwy argyhoeddiadol na mesurau eraill, a pham rydym yn cael clod am eu defnyddio hyd yn oed pan rydym yn dangos nad ydynt yn gweithio? Ymddengys i mi nad tystiolaeth sydd wrth wraidd hyn, ond pwyslais: mae yna fath o werth symbolaidd a gwleidyddol yn gysylltiedig â defnyddio’r adnoddau derbyniedig, hyd yn oed pan na allwn eu defnyddio’n iawn.

Yn bragmatig, efallai y byddai’n well i ni dderbyn hyn – ond fy mhryder i yw bod ceisio defnyddio’r dulliau ‘cywir’ yn gwastraffu adnoddau (amser, ymdrech, arian, sylw) a allai, o bosibl, gael eu defnyddio’n well – i ysgogi llawer mwy o gyfraniad gan lawer mwy o randdeiliaid, drwy ddefnyddio dulliau sy’n rhoi llais i gyfranogwyr ddweud beth sy’n bwysig iddynt, gyda llawer llai o bryder yn gyffredinol a llawer mwy o gyfraniad i effaith y prosiect hwn a ddysgir ohono. Os nad unig nod gwerthuso yw cynyddu effaith a dysgu sut i wneud pethau’n well, ni chredaf y gellir ei ystyried yn ddefnydd da o adnoddau unrhywun.

Felly, beth mae hyn yn ei olygu i ni fel prosiect? Ar hyn o bryd, gallwn barhau i weithio gyda nifer o ddulliau gwahanol, gan ein galluogi i gyflawni ystod eang o ddisgwyliadau yn rhannol o leiaf. Ond yn gynyddol, hoffem helpu i esblygu ffyrdd newydd o werthuso lles, ffyrdd sy’n drylwyr wrth ddilysu beth sy’n bwysig i’r bobl dan sylw yn hytrach na dim ond yr hyn sy’n cyd-fynd â’n mesurau presennol. Mae’n teimlo fel bod yr hinsawdd bresennol yn barod am y fath newid – a thrwy ymgysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da ac eraill, rydym yn falch o ganfod cynghreiriaid ar y daith hon.