Archifau Misol: Rhagfyr 2015

Manteision gweithio gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da

Mae Sophie Knott yn siarad am ei phrofiad o weithio gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da ar weminar arfaethedig.

Yma yn Swyddfa Archwilio Cymru cawn ein hannog i gydweithio ar draws gwahanol feysydd o fewn y sefydliad i rannu gwybodaeth a chynnig gwell gwasanaeth i gleientiaid a’r cyhoedd. Fodd bynnag, weithiau mae pwysau amser ac adnoddau’n golygu ein bod yn esgeuluso agweddau megis defnyddio tîm y Gyfnewidfa Arfer Da yn ystod ein gwaith archwilio arferol.

Yn ogystal â rhannu canllawiau arfer da ac astudiaethau achos ar-lein drwy eu gwefan a’u blog, mae tîm y Gyfnewidfa Arfer Da yn cynnal seminarau a gweminarau dysgu ar y cyd. Roeddwn yn gwybod am y digwyddiadau hyn, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli bod y tîm yn cynnal mwy nag un o’r rhain bob mis ar gyfartaledd, ac ar ystod eang o bynciau allweddol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Gyfnewidfa yn cydnabod nad oes un dull sy’n gweddu i bawb pan ddaw i rannu gwybodaeth, felly gall gweminarau a seminarau fod yn ddefnyddiol fel ffyrdd gwahanol o rannu gwybodaeth.

Fy mhrofiad

Sophie Knott o Swyddfa Archwilio Cymru

Sophie Knott o Swyddfa Archwilio Cymru

Yn ddiweddar, cefais gyfle i weithio gyda’r Gyfnewidfa ar weminar arfaethedig ar ddatblygu gweithlu’r gwasanaethau cyhoeddus. Deilliodd y weminar o ganlyniad i’n hastudiaeth genedlaethol Rheoli ymadawiadau cynnar yng ngwahanol gyrff cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2015. Er mai’r bwriad gwreiddiol oedd cysylltu’n uniongyrchol â themâu allweddol yr adroddiad, ymgymerais â mwy o waith ymchwil i weld beth oedd cynadleddau a seminarau eraill yn ei drafod, ac erthyglau newyddion a blogiau eraill, ac esblygodd cynnwys y weminar o hynny.

Wedi hynny, rwy wedi helpu i ddewis siaradwyr posibl ar gyfer y weminar, a’r cwestiynau allweddol y byddwn yn eu gofyn; ac wedi cynnal trafodaethau ynglŷn â’r weminar gyda’r Archwilydd Cyffredinol, a arweiniodd at gais ganddo i fod yn un o’r siaradwyr! Rwyf hefyd wedi datblygu deunydd i friffio siaradwyr ac wedi creu nodyn cadw dyddiad ar gyfer cyfranogwyr i’w e-bostio a’i osod ar ein gwefan.

Mae tasgau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys hyfforddiant Twitter fel y gallaf drefnu trydariadau i’w cyhoeddi ar y dydd; dwyn ynghyd sleidiau ar gyfer y cyflwyniad gweminar; heb sôn am fynychu’r weminar ei hun i gydgysylltu’r gwaith o ofyn cwestiynau a anfonir gan y cyfranogwyr ar y dydd i’r siaradwyr, a thrydaru’n fyw o’r digwyddiad. Mae’r ymgysylltu hwn ar y dydd yn bwysig iawn ac yn galluogi cyfranogwyr i rannu eu safbwyntiau’n uniongyrchol â’r panel a chyfranogwyr eraill, ond caiff y weminar hefyd ei recordio fel bydd pobl yn gallu gwrando arni ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.

Manteision i bawb

Mae wedi bod yn ddiddorol iawn cymryd rhan mewn rhywbeth ychydig yn wahanol a dysgu rhai sgiliau newydd ar yr un pryd. Rhoddodd gyfle i mi siarad â phobl na fyddwn wedi siarad â nhw fel arfer, fel Prif Weithredwr awdurdod lleol. Mae hefyd o bosib wedi cynyddu effaith a darllenwyr un o’n hadroddiadau cenedlaethol, ar ôl i mi gynnwys manylion amdano ar nodyn cadw dyddiad y weminar. Byddwn yn argymell bod pob aelod o staff yn ystyried cyfleoedd ar gyfer gweminar neu seminar o fewn eu gwaith eu hunain, hyd yn oes nad ydynt wedi mynd ymhellach na’r cam cynllunio. Rwy’n siŵr y byddai tîm y Gyfnewidfa’n falch o glywed gennych!

Mae’r weminar ‘Datblygu gweithlu i ateb heriau diwygio gwasanaethau cyhoeddus’ yn cael ei chynnal ddydd Iau 14 Ionawr rhwng 10:30 a 11:45. Gallwch gofrestru yma neu gall staff Swyddfa Archwilio Cymru wrando ar y dydd yn Ystafell 14 yn swyddfa Caerdydd neu Ystafell 1 yn swyddfa Ewlo.

Bara Brith Camp: Pam mae ymddiriedaeth yn bwysig i wasanaethau cyhoeddus

Mynychodd Dyfrig Williams Brith Bara Camp i rannu dysgu o’n seminar ar Ymddiriedaeth. Dyma drosolwg o’i trafodaeth.

Yn ein seminar Ymddiriedaeth Staff, diffiniodd yr Athro Searle ymddiriedaeth fel “y parodrwydd i fod yn agored i weithredoedd parti arall, yn seiliedig ar ddisgwyliadau cadarnhaol y byddant yn gweithredu’n fuddiol, neu o leiaf beidio achosi niwed, heb ystyried unrhyw fonitro neu fecanwaith rheoli.” Ffeindiais i’r agweddau yma o ymddiriedaeth yn arbennig o ddefnyddiol:

  • Gallu – ydyn nhw’n dangos eu bod nhw’n gallu gwneud eu gwaith?
  • Haelioni – oes ganddynt gymhellion diniwed a phryder am eraill sydd tu hwnt i’w hanghenion eu hunain?
  • Gonestrwydd – ydyn nhw’n egwyddorol? Ydyn nhw’n deg ac yn onest?
  • Rhagweladwy – ydych chi’n gwybod beth maen nhw’n debygol o wneud?

Bara Brith Camp

Pam fod gan Swyddfa Archwilio Cymru diddordeb mewn ymddiriedaeth?

Mae ymddiriedaeth yn bwysig iawn yn ein bywydau personol, ac yr un mor bwysig wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Yn ôl adroddiad CIPD, mae 37% o foddhad swydd yn dod o ymddiriedaeth, ac mewn sefydliadau sydd gydag ymddiriedaeth uchel, mae staff yn debygol o roi mwy o ymdrech a chydweithio, recriwtio a pherfformio’n well.

Mae’n glir felly pam mae gan Swyddfa Archwilio Cymru cymaint o ddiddordeb yn y pwnc. Hefyd, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi siarad dro ar ôl tro am yr angen i gymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n effeithiol i wella gwasanaethau cyhoeddus, ac fel ysgrifennais i yn fy mlogbost diwethaf ar Ddadfentora gyda Kelly Doonan o Gyngor Sir Ddyfnaint, ni all hynny ddigwydd heb ymddiriedaeth.

Mae ymddygiad negyddol bwriadol fel lladrad a thwyll yn cymryd lle pan mae pobl yn gweithredu ar eu diffyg ymddiriedaeth. Mae hefyd rhaid i wasanaethau cyhoeddus ymddiried yn ei gilydd i ddarparu gwasanaethau sy’n cwrdd ag amcanion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd angen i sefydliadau gydweithio i ddarparu gwasanaethau effeithiol, a bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn datblygu ein harchwilio yn unol â hynny.

Trafododd yr Athro Searle sut rydyn ni’n aml yn ymddiried mewn pobl sy’n debyg i ni. Gall hyn fod yn rhwystr i gydweithio gan fod y sector gwirfoddol, llywodraeth leol a’r GIG i gyd yn gyrff gwahanol iawn. Mae yna sawl astudiaeth ar sut mae meddylfrydau amrywiol yn arwain at benderfyniadau gwell, ac mae angen i ni osgoi “group think”, lle mae pobl yn amharod i fynd yn groes i’r graen.

Ymddiriedaeth mewn sefydliadau mawr

Yn aml mae gan sefydliadau mawr lefelau is o ymddiriedaeth a rhaid gweithio’n galetach i adeiladu a chadw ymddiriedaeth. Fel arfer mae ganddynt fwy o lefelau, sy’n gallu gwanhau effaith camau cadarnhaol y bobl sydd ar frig y mudiad a’r polisïau ehangach.

Mae angen i reolwyr i benderfynu ar y lefelau monitro sydd angen, gan fod lefelau uchel yn gwneud i weithwyr teimlo dyw eu cyflogwyr ddim yn ymddiried ynddynt. Mae’n werth edrych ar sut mae Phillipa Jones yn annog staff Bromford Tai i dorri rheolau os mae o fudd i gwsmeriaid ac yn unol â gwerthoedd y sefydliad.

Gwneud y gorau o adnoddau

Awgrymodd Athro Searle i fudiadau creu cronfa ymddiriedaeth sy’n gallu cael ei ddefnyddio ar adegau anodd. Gall diffyg ymddiriedaeth fod yn ddrud os mae amser pobl yn cael ei ffocysu ar weithgareddau sydd ddim yn gynhyrchiol, fel dyletswyddau monitro ychwanegol i reolwyr, ac ymddygiad gwaith gwrthgynhyrchiol gan staff.

Mae gweithlu sy’n barod i ymddiried yn ei arweinwyr yn fantais mewn oes o lymder – gall sefydliadau wneud y gorau o’u hadnoddau er mwyn arloesi a datblygu eu gwasanaethau a chadw cwsmeriaid.

Beth rydym yn ei wneud?

Fel y Dadfentora rydw i wedi gwneud gyda LocalGovDigital, rydym yn cynnal Treialon Coffi Ar Hap gyda phobl sy’n dod i’n seminarau. Maen nhw’n rhoi cyfle i rannu profiadau, cefnogi ein gilydd ac i adeiladu ymddiriedaeth rhwng pobl o wahanol sefydliadau. Dyw hyn ddim yn gam mawr – mae galwad ffôn 30 munud dim ond yn rhan fach o’r wythnos gwaith, ond mae’n gallu cael effaith mawr. Mae Chris Bolton wedi blogio am Lygod Trojan, sydd yn brosiectau peilot bach sy’n ddiogel i’w fethu. Does dim rhaid i bob gweithrediad fod ar raddfa fawr, mae yna bethau bach y gallwn ni i gyd trio yn ein gwaith a all wneud gwahaniaeth mawr. Ac os ydych chi’n rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o ddatblygu ymddiriedaeth yn eich sefydliad, byddai fe’n grêt i glywed o chi.

Coed Actif Cymru

Awdur y blog hwn yw Dr Kate Hamilton, a gyflwynodd yn seminar Dyfodol Parciau a’u Heffaith Gadarnhaol ar Les yn ddiweddar. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau i esbonio effaith yr hyn y mae Coed Actif Cymru yn ei wneud, a pham a sut y maent yn gwneud hynny. Bydd Kate hefyd yn blogio am heriau monitro a gwerthuso lles, a deall effaith hynny.

Beth yw Coed Actif Cymru?

Mae Coed Actif Cymru yn brosiect sy’n helpu pobl i wella eu hiechyd a’u lles drwy eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn coetiroedd. Caiff ei redeg gan dîm bach, rhan-amser ohonom yn Coed Lleol, sef cangen Cymru o’r Gymdeithas Coedwigoedd Bychain, mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a sector cyhoeddus a nifer o ddarparwyr gweithgareddau annibynnol mewn pum ardal yng Nghymru.

Beth rydym yn ei wneud?

Yn syml, mae Coed Actif Cymru yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn sesiynau gweithgareddau grŵp dan arweiniad mewn coetiroedd. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o gerdded a sesiynau campfa coetir i fyw yn y gwyllt, gwaith coed gwyrdd, tasgau cadwraeth, celf a chrefft ac ymwybyddiaeth ofalgar. Un egwyddor drefniadol allweddol yw bod y cyfranogwyr yn teilwra’r hyn a gynigir iddynt, gan ddweud wrthym beth yw eu hoff a’u cas bethau, rhoi cynnig ar bethau newydd o bryd i’w gilydd a datblygu rhaglenni sy’n adlewyrchu eu galluoedd, eu diddordebau a’u hamcanion.

Caiff rhai cyfranogwyr eu hatgyfeirio gan sefydliadau fel Mind, Cymdeithas Alzheimer, Cymorth Canser Macmillan neu’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, a gan ambell feddyg teulu ystyriol hefyd. Bydd eraill yn ymuno am eu bod wedi gweld ein posteri yn yr ardal, wedi clywed amdanom yn y cyfryngau lleol neu gymdeithasol, neu ar lafar gwlad.

Rydym yn gwbl gynhwysol

Mae croeso i bawb: ein harwyddair yw ‘gwella iechyd yn y coetir’, felly rydym yn cymryd yn ganiataol bod unrhyw un sy’n ymateb i hynny yn teimlo y gallant gael budd o’r hyn a gynigiwn. Golyga hyn fod amrywiaeth hynod o eang o gyfranogwyr yn ymuno â ni.

Pam coetiroedd?

Yn gryno, mae coetiroedd yn dda i bobl – yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol. Yn ogystal â’n profiad ein hunain, ceir sail dystiolaeth helaeth sy’n dangos hyn, gan ystyried coedwigoedd yn benodol, a gofal gwyrdd a dod i gysylltiad â natur yn gyffredinol.

Felly, rydym yn ffyddiog bod yr hyn a gynigiwn yn dda i iechyd a lles pobl: mae’n ‘gwella pobl’. Ar yr un pryd, nid triniaeth na therapi mohono mewn ystyr gonfensiynol. Hynny yw, nid ydym yn feddygon nac yn therapyddion, nid ydym yn rhoi diagnosis o gyflyrau iechyd pobl nac yn llunio cyrsiau o driniaeth sy’n benodol i anghenion unigolion. Yn lle hynny, y cyfranogwyr eu hunain sy’n dewis faint o ymdrech gorfforol i’w rhoi wrth ymuno, os o gwbl: y cyfan a wnawn ni yw sicrhau eu bod yn ddigon heini i gymryd rhan a’u bod yn fodlon dweud wrthym yr hyn sydd angen i ni ei wybod ynglŷn â’u gallu a’u cyfyngiadau, ac yna cyflwyno gweithgareddau iddynt yn raddol a thrwy broses o ailadrodd, gan eu haddasu a’u hymestyn mewn ymateb i’w hadborth.

Pam mae’r dull gweithredu hwn yn gweithio?

Mae’n gweithio oherwydd mae’r hyn a gynigir yn sensitif i anghenion a galluoedd pobl. Caiff pob sesiwn ei hwyluso gan arweinwyr gweithgareddau medrus a phrofiadol, ac un o’r prif sgiliau a ddangosir ganddynt ymhob sesiwn yw’r gallu i addasu ar gyfer gwahanol anghenion a diddordebau a meddwl ar eu traed pan fydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd, gan sicrhau bod pawb yn ddiogel, yn hapus ac ar amser.

Mae hefyd yn gweithio am ei fod yn ddull cyfannol sy’n integreiddio ymarfer corff, bod ym myd natur a chymryd rhan mewn gweithgareddau pwrpasol, mewn un profiad diogel gyda chymorth. Mae’n diwallu anghenion y cyfranogwyr mewn sawl ffordd wahanol, ac yn cynnig llawer o ffyrdd iddynt o wella eu lles. Os ydych yn gyfarwydd â’r 5 Awgrym Llesol, er enghraifft, sylwch fod pob un ohonynt yn bresennol. Mae hefyd yn galluogi pobl i feithrin perthynas gadarnhaol â byd natur, a’u hannog i ddefnyddio’r strategaeth hon drwy gydol eu hoes er mwyn gofalu amdanynt eu hunain.

Yn bwysicaf oll, efallai, mae’r cyfranogwyr yn cael eu trin fel unigolion cyflawn: ni chânt eu diffinio na’u labelu ar sail eu cyflwr ac, ar wahân i ddweud wrthym yr hyn sydd angen i ni ei wybod er mwyn eu cadw’n ddiogel, nhw sy’n dewis p’un a fyddai’n ddefnyddiol iddynt siarad â ni – neu unrhyw un arall – amdano ai peidio. Mae’n ymddangos bod hynny’n unig yn wahanol iawn i brofiadau eraill y cyfranogwyr ym maes gofal iechyd, ac mae’n fy nharo fel rhan allweddol o’r hyn sy’n ei wneud mor effeithiol.

Cadwraeth yng Nghoed Geufron

Cadwraeth yng Nghoed Geufron

Yr adborth

I mi, un o’r pethau mwyaf diddorol yw bod llawer iawn o gyfranogwyr yn sôn am effeithiau cadarnhaol ar agweddau ar eu lles sydd ymhell y tu hwnt i’w disgwyliadau ar y dechrau. Yn arbennig, bydd llawer o gyfranogwyr yn ymuno gan feddwl bod angen iddynt wella eu ffitrwydd ychydig, ond ni fyddant yn ystyried bod angen iddynt wella eu hiechyd meddwl neu gymdeithasol. Er hynny, ar ôl mynychu am gyfnod, byddant yn aml yn dweud wrthym eu bod wir yn gwerthfawrogi’r effeithiau annisgwyl fel lleddfu straen, ymlacio, magu hyder, a mwynhau cwmni pobl eraill.

Ceir tystiolaeth hefyd o gyfranogwyr yn nodi buddion o ran eu lles, hyd yn oed pan na allant ddweud, gan edrych yn wrthrychol, bod eu cyflwr iechyd wedi gwella, neu pan na ellir ei wella. I’r bobl hynny, nid yw’r prosiect yn cynnig datrys eu problemau iechyd ynddynt eu hunain, ond yn hytrach mae’n cynnig cyfleoedd newydd a strategaethau cadarnhaol a chynaliadwy ar gyfer ymdopi â’r cyfnodau anodd anochel neu’r dirywiad hirdymor sy’n gysylltiedig â’u diagnosis. Ac o ran hynny, mae’n ymddangos bod y dull cyfannol, unigolyn cyflawn, yn cael ei groesawu’n fawr.

Credaf fod yr arsylwadau hyn yn dangos cryfderau, nid gwendidau, ein dull gweithredu – ond gallant wneud pethau’n eithaf heriol pan fyddwn yn cymharu ein heffeithiau â mathau eraill o ymyriadau iechyd a cheisio perswadio’r meddygon proffesiynol i’w gymryd o ddifrif (bydd mwy am hynny yn y blog nesaf!). Ond mae’n werth atgoffa ein hunain bod un o’r diffiniadau mwyaf cyffredin o iechyd yn gwerthfawrogi mai

‘Cyflwr o les corfforol, meddyliol a chymdeithasol cyflawn ac nid dim ond absenoldeb clefyd neu eiddilwch yw iechyd’ Sefydliad Iechyd y Byd 1946

Felly, nid ffasiwn newydd neu ddewis amgen yw edrych y tu hwnt i driniaethau uniongyrchol ar gyfer salwch er mwyn dod o hyd i ffyrdd o wella iechyd. Dyna mae Coed Actif yn ei wneud, ac rydym yn barod ac yn awyddus i gydweithio â phwy bynnag sydd â diddordeb mewn dysgu ohono.