Archifau Misol: Awst 2015

Dysgu o Fethiant mewn amgylchedd cymhleth

Yn ei ail blogbost am weithdy Dysgu o Fethiant, mae Dyfrig Williams yn edrych ar fethiant mewn amgylchedd cymhleth.

Mae cwpl o wythnosau wedi mynd heibio ers y gweithdy Dysgu o Fethiant, ac mae fe hefyd wedi bod yn sbel ers fy ymateb iddo, ble wnes i gyfaddef fy mod i heb ddysgu lot o fy methiant i. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Swyddfa Archwilio Cymru, felly roedd ein trafodaeth amdano rôl archwilio mewn dysgu o fethiant braidd yn anochel.

Methiant systematig

Model Methiant Caws y Swistir gan James Reason

Model Methiant Caws y Swistir gan James Reason. Ffynhonnell: BMJ, 2000 Mar 18:320(7237): 768-770

Roedd cyflwyniad Chris Bolton ar Fodel Methiant Caws y Swistir gan James Reason, sy’n cymharu systemau dynol i haenau o Gaws y Swistir. Dewisodd Reason Caws y Swistir am reswm, gan fod pob haen yn amddiffyniad yn erbyn camgymeriadau a gwallau, ac mae pethau’n mynd o chwith pan mae’r tyllau’n galluogi i’r methiant parhau. Mae ‘na feirniadaeth ddiddorol o’r model yn y sylwadau gan Matt Wyatt o Gymhleth Cymru.

Ar ôl sgwrs dda ar Twitter ar wahanol fathau o gaws fel amddiffyniad (fel gwladgarwr dewisais i gaws Caerffili – ‘Rwy’n crymblo yn wyneb methiant’), edrychais i ar fodel mae Matt wedi datblygu o’r enw’r ‘Llinell Amser o Fethiant Anochel.’

Llinell Amser o Fethiant AnochelMae Model Caws y Swistir yn fodel adlewyrchol (gan eich bod chi’n edrych yn ôl ar y methiant ar ôl iddo gymryd lle), ond mae gen i ddiddordeb mewn model Matt achos bod e’n cynnig cyfleoedd i fyfyrio ar fethiant a’i ganlyniadau ar wahanol gyfnodau. Mae hwn yn cydseinio â’r ymagwedd systematig tuag at fethiant yn fy mlogbost diwethaf ar adlewyrchu ar fethiant yn drylwyr.

Er mwyn gallu unioni’r methiannau yng nghyfnod cynnar y llinell amser, mae’n rhaid i ni fod yn agored a gonest am fethiant, neu bydd materion yn gwaethygu i fod yn broblemau mwy. Os ydym yn gyfforddus â mân achosion o fethiant, rydyn ni hefyd yn allu paratoi’n well ar gyfer pan mae pethau’n mynd yn rili wael. Fel mae Matt yn dweud yn sylw arall, ‘Mae systemau byw cymhleth bob amser yn methu, felly yn hytrach na cheisio dileu methiant, mae’n llawer mwy defnyddiol i’w gwneud yn ddiogel i fethu.’ Mae’n werth darllen blogbost Chris ar ‘Lygod Trojan,’ sef cynlluniau peilot sy’n ddiogel i fethu, cyn gwylio fideo o Dave Snowden sy’n trafod nhw fel rhan o’r Fframwaith Cynefin.

Gallwch weld y dull hwn ar waith drwy waith y Bromford Lab a Phrosiectau Beta Cyngor Dinas Dulyn. O ran Cyngor Dulyn, mae’n werth edrych ar sut mae paentio o flychau goleuadau traffig wedi arwain at lot llai o dagio a graffiti.

Beth mae hwn yn meddwl i archwilwyr a’r cyrff sy’n cael eu harchwilio?

Ar wahân i un awgrym yn y gweithdy i gymryd eich archwilydd allan am ginio i drafod eu hymagwedd tuag at fethiant (ac rydw i’n hollol gytuno â hyn gyda llaw!), mae hyn i gyd yn ymwneud â’r amgylchedd cymhleth mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu a’u harchwilio ynddo.

Yng Nghymru, mae’r amgylchedd yma ar fin newid yn sylfaenol pan mae Deddf Lles Genedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gyflwyno. Bydd rhaid i fudiadau meddwl ychydig yn wahanol am eu gwaith, achos bydd rhaid iddynt wella lles pobl heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Bydd y ddeddf hefyd yn her i ni yn Swyddfa Archwilio Cymru – mae’n anodd mesur llwyddiant pan ddydych chi ddim yn gwybod beth fydd y dyfodol yn edrych fel. Mae blogbost wych ar flog Swyddfa Archwilio Cymru ble mae Ann Webster, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Seland Newydd yn amlinellu’r heriau ni’n wynebu.

Rydyn ni eisoes wedi rhannu rhai camau gall mudiadau cymryd i adrodd yn ôl yn effeithiol, gan gynnwys adrodd integredig, mewn seminar wnaethon ni rhedeg gyda’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy. Ond o ran y digwyddiad yma, wnes i gael fy nharo gan rai camau syml gall mudiadau cymryd i ddangos gwelliant. Rhoddodd Jonathan Flowers enghraifft wych o sut wnaeth Rheolwr Cynllun Rhwydwaith Cymdogaeth gofyn am ddau achos y mis o sut y mae’r gwasanaeth wedi gwella bywydau pobl. Mae’r naratif yn dangos bod y gwasanaeth yn symud i’r cyfeiriad iawn ac mae’n gallu cael ei ddefnyddio i werthuso’r prosiectau.

Ble nawr?

O ran ein gwerthusiad, rydyn ni wedi bod yn casglu enghreifftiau o sut mae’n gwaith ni wedi arwain at fudiadau’n mabwysiadu arfer da. Dyw’r rhain ddim yn aml yn fesurau ynddo’u hunain, ond maen nhw’n astudiaethau achos cymhleth o sut mae gwasanaethau wedi newid.

Ac o ran ein gwaith, mae’n bwysig bod ni’n parhau i drafod methiant, fel bod e’n cael ei normaleiddio a gall pobl fod yn fwy onest amdano. Ac os gallwn ni wneud hynny, byddwn ni mewn lle gwell i helpu mudiadau i gymryd camau pellach i wella eu gwasanaethau.

Datganiad o annibyniaeth

Rydym wedi cynnal seminarau dysgu a rennir gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ddiweddar ar annibyniaeth barhaus pobl hŷn. Isod mae Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn amlinellu beth mae hi’n meddwl ynglŷn ag annibyniaeth.

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn CymruRoedd yn bleser cael mynychu’r Seminarau Dysgu ar y Cyd yng Nghaerdydd ac yn Llanrwst ym mis Gorffennaf 2015. Dyma ddwy seminar ragorol a drefnwyd gan dîm y Gyfnewidfa Arfer Da. Roedd yn bleser gweld cymaint o ddarparwyr gwasanaeth o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn ogystal â’r bobl hŷn eu hunain, yn bresennol. Dangosodd y presenoldeb gwych, yr amrywiaeth eang o faterion a drafodwyd a’r syniadau a’r arferion da a gafodd eu cyfnewid bod hwn yn fater o bwys i lawer o bobl a bod cynnal annibyniaeth pobl hŷn yn bwysig i ddarparwyr, cymunedau ac unigolion fel ei gilydd.

Roedd fy ffocws i ar y camsyniadau a’r amryfusedd sy’n bodoli mewn perthynas â phobl hŷn wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus:

  • Mae anghenion a buddiannau pobl hŷn wedi’u cyfyngu i iechyd a gofal cymdeithasol: Mae pob maes polisi a phortffolio’n berthnasol i bobl hŷn ac mae sicrhau bod gwasanaethau tai, trafnidiaeth, addysg a hamdden, er enghraifft, yn cydweithio er mwyn helpu i gynnal annibyniaeth pobl hŷn yn flaenoriaeth allweddol i mi. Mae’n rhywbeth rwyf yn gweithio arno gyda llywodraethau ar bob lefel. Hefyd, dylid cynllunio gwasanaethau gyda phobl hŷn yn hytrach nag ar eu cyfer. Mae gan bobl hŷn gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ac fel defnyddwyr gwasanaeth rheolaidd, maent yn ‘arbenigwyr trwy brofiad’ ar sut ddylid darparu gwasanaethau.
  • Mae pobl hŷn angen strategaethau, cynlluniau a pholisïau ar raddfa fawr: Yn fy nhrafodaethau gyda phobl hŷn ledled Cymru, dydw i byth yn clywed am strategaethau a chynlluniau. Yr hyn mae pobl hŷn ei angen er mwyn helpu i gynnal eu hannibyniaeth yw’r pethau bychain sy’n gwneud byd o wahaniaeth yn aml. Mae addasiadau i gartrefi pobl a buddsoddiadau cost-effeithiol arloesol mewn gwasanaethau cymunedol ‘allweddol’, fel toiledau, llyfrgelloedd a bysus cyhoeddus, yn gwbl hanfodol yn y cyswllt hwn. Nid yw pobl hŷn yn gofyn am lawer a gall y buddsoddiadau bychain hyn wneud byd o wahaniaeth o ran cadw pobl hŷn yn egnïol ac yn rhan o’u cymunedau.
  • Pobl hŷn yw’r unig rai sy’n derbyn ac yn elwa o wasanaethau cyhoeddus: Mae pobl hŷn yn werth mwy nag £1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Byddai gwasanaethau cyhoeddus Cymru’n dod i stop heb gyfraniad enfawr pobl hŷn, drwy wirfoddoli a gofal di-dâl, er enghraifft. Mae pobl hŷn yn asedau amhrisiadwy a dylem fod yn buddsoddi ynddynt er mwyn cynyddu eu cyfraniad at yr economi ac at gymunedau ledled Cymru. Cyfeirir yn aml at bobl hŷn ac at effaith poblogaeth sy’n heneiddio mewn ffordd negyddol ac israddol. Mae’n rhaid i’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector gydweithio a newid eu man cychwyn: nid yw dibyniaeth a breguster yn rhan anochel o heneiddio a gydag ychydig o help, gall pobl hŷn gyfrannu llawer mwy. Mae poblogaeth sy’n heneiddio’n cynnig llawer iawn o gyfleoedd os allwn ni newid yr iaith a gweithredu ar sail asedau.

Yn ystod y seminarau, roedd yn hyfryd clywed nid yn unig am y cynlluniau cyffrous ac arloesol sydd ar droed ledled Cymru i gefnogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth – o lyfrgelloedd dros dro ym Mro Morgannwg i glybiau garddio yn Wrecsam, integreiddio gwasanaethau yng nghefn gwlad Ceredigion a dosbarthiadau cynhwysiant digidol mewn llefydd eraill – ond hefyd clywed gan y bobl hŷn eu hunain am eu barn a’u profiadau, a’r gwahaniaeth y gall y gwasanaethau hyn ei wneud i’w bywydau. Fel arfer, roedd yn gwbl ysbrydoledig.

Roeddwn yn falch hefyd o glywed bod y Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru wedi ysbrydoli pobl hŷn hefyd. Mae gan y pum thema blaenoriaeth yn y Rhaglen ran allweddol i’w chwarae i gyd mewn cefnogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth. Gyda mwy na 450 yn aelodau o’r rhwydwaith erbyn hyn ac yn gweithio ar amcanion Heneiddio’n Dda mewn cymunedau ledled Cymru, mae’r Rhaglen yn ennill momentwm.

Yn dilyn y seminarau, ac adroddiad dilynol Swyddfa Archwilio Cymru, rwyf yn awyddus i gynnal y momentwm a byddaf yn parhau â’r cydweithredu rhagorol ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a thîm y Gyfnewidfa Arfer Da, er mwyn sicrhau bod pwysigrwydd cynnal annibyniaeth pobl hŷn yn cael ei gydnabod gan bawb ac o fudd i bawb.

Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau gydweithio tuag at yr un canlyniadau. Mae dull ataliol ac integreiddio gwasanaethau’n hanfodol er mwyn galluogi pobl hŷn i godi allan a byw bywydau llawn ystyr, pwrpas a gwerth. Bydd y dull hwn o weithredu’n gwella gwytnwch unigolion a chymunedau fel ei gilydd, gan leihau’r ddibyniaeth ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn sicrhau bod Cymru’n lle da i dyfu’n hŷn ynddo – nid dim ond i rai, ond i bawb.

Methu â dysgu o fethiant

Sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud defnydd gwell o wybodaeth sy’n dod o fethiant? Isod mae Dyfrig Williams yn blogio ar ddysgu o fethiant.

Wythnos diwethaf fe wnes i fynd i’r gweithdy ar Ddysgu o Fethiant yng Nghaerdydd. Cyn i mi fynd ymhellach, mae rhaid i fi wneud e’n glir fy mod i’n cysidro fy ngwaith fy hunain isod, nid gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da.

Mae’n deg i ddweud bod y digwyddiad yn agoriad llygad, achos wnaeth e roi’r cyfle i ni gyd edrych ar agweddau o’n gwaith sydd ddim yn cael eu trafod yn draddodiadol. Ond pam ddim?

Yn ei phapur ar ‘Strategaethau ar gyfer dysgu o fethiant,’ mae Amy C. Edmondson yn rhannu’r Sbectrwm Methiant, sy’n dangos mai’n anaml iawn mae methiant yn dod o weithredoedd gan unigolyn. Felly pam ydyn ni’n dal i feddwl bod diwylliant gwaith effeithiol a chynhyrchiol yn un sy’n anwybyddu methiant ar bob cyfrif?

“Order, order!”

Yn yr ymarfer grŵp roedd pob bwrdd yn cynllunio amgylchedd sy’n galluogi arloesi, ac roedd pob un yn amgylchedd lle’r oedd methiant yn cael ei dderbyn. Mae hyn yn gwneud synnwyr, achos dydyn ni ddim yn hybu arloesi drwy glampio lawr ar achosion o fethiant, ni’n clampio lawr ar syniadau am ffyrdd newydd o weithio.

Fe wnes i gael y dasg o adrodd nôl ar beth roedd ein bwrdd ni’n meddwl, ac roedd sylwadau ni i gyd o amgylch y pwynt bod amgylchedd sy’n galluogi arloesi yn un sy’n gymhleth ac yn llawn llanast. Beth roeddwn i’n ceisio cyfleu oedd bod hyn yn ymagwedd draddodiadol, a dyma sut rydw i wedi bod yn dueddol o ystyried arloesi. Mae arloesi wedi bod yn isgynnyrch o fy ngwaith i, yn hytrach na’r canlyniad neu’r ffocws. Dyw e ddim wedi bod yn rhywbeth sy’n cael ei nodi yn fy ngwerthusiadau swydd, a dyw e ddim yn mesur llwyddiant yn fy ngwaith i.

Mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach achos mae’r amgylchedd ni’n gweithio ynddo yn gymhleth hefyd. Does yna ddim un ymateb sy’n gweithio i bawb sy’n derbyn a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Efallai na fydd rhywbeth sy’n gweithio mewn un gymuned yn gweithio mewn un arall.

Wedi dweud hyn i gyd, mae yna rhai dulliau arloesi sy’n llawer mwy trylwyr. Roedd e’n ddiddorol i edrych ar waith y Bromford Lab, sy’n gweithio i strwythur i brofi syniadau arloesi. Un o’u hegwyddorion sylfaenol yw ‘i fethu’n gyflym,’ sy’n golygu bod nhw’n cael gafael ar lot o wybodaeth o’u profion.

Mae’r dull yma yn sicrhau bod e’n lot haws i fesur llwyddiant sy’n dod o arloesedd. Rwy’n siŵr bod yna lot o arloesi yn cymryd lle yn Bromford tu hwnt i’r labordy hefyd, ond mae mynd â syniadau a materion i mewn iddo yn rhoi’r cyfle i werthuso nhw mewn ffordd ffurfiol. Mae’n fwyaf amlwg yn ei defnydd o Trello, lle mae gwerthuso yn rhan hollbwysig o’r broses profi.

Gwneud lle i werthuso

Y prif bwynt dysgu i mi’n bersonol oedd i gwneud yr amser i werthuso effaith. Rydw i wedi tueddu i drin gwerthuso fel rhywbeth sy’n cael ei wneud pan rwy’n cael y cyfle, yn hytrach na’i wneud yn rhan o fy ngwaith. Ac os dydych chi ddim yn cymryd y cyfle i edrych ar pam mae rhywbeth wedi methu, yna does yna ddim lot o gyfle i ddysgu ohono.

Felly rwy’n mynd i ddechrau’r broses o werthuso’n fwy trwyadl. Mae’r dyddiadau yn fy nyddiadur – byddai’n cymryd amser allan o fy ngwaith i werthuso. Fe wnâi gadael fy nesg i, fel fy mod i’n gallu dianc o’r gwrthdyniadau arferol fel e-bost a’r peil mawr o bapurau, er mwyn mynd i’r meddylfryd iawn ar gyfer y gwaith. Dymunwch lwc i fi!

Banc Doethineb

Beth yw’r Banc Doethineb a sut all wefan helpu pobl Torfaen i ddatblygu perthynas well gyda’u gilydd a gwasanaethau cyhoeddus? Isod mae Matt Basham o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn dweud mwy wrthym.

Banc Doethineb Torfaen

Mae pobl yn gwybod pethau defnyddiol.

Mae hynny’n wir ac yn syml.

Mae gan bawb lyfrgell o gynghorion, awgrymiadau a gwybodaeth – beth am i ni eu galw’n “Ddoethineb” – maent yn eu cludo o gwmpas y lle gyda hwy, yn eu pen. Wrth i ni ddechrau edrych ar ein cymunedau lleol yn eu cyfanrwydd, ac wedyn lluosogi’r adnoddau gwybodaeth yma gyda’r holl bobl sy’n byw yno, rydyn ni’n delio â rhywbeth arwyddocaol a gwerthfawr iawn. Fel rhywun sy’n gweithio i awdurdod lleol, fe ddylwn i fod â llyfrgell enfawr o ddoethineb ar flaenau ’mysedd, sy’n bodoli yn y trigolion, y cymunedau a’r busnesau lleol. Pe bawn i’n gallu datgloi’r adnoddau yma, byddwn yn gallu cael gwybodaeth a chyngor a allai sicrhau manteision enfawr i gymdeithas. Fe allwn i gynnig cefnogaeth i bobl fregus, cyngor i’r anghenus, deallusrwydd i fusnesau lleol, a help i’r rhai sydd ei angen fwyaf, o ffynhonnell maent yn ymddiried ynddi ac yn ei pharchu.

Er hynny, mae cymdeithas yn newid. Mae bywyd modern yn rhy brysur a does gennym ni ddim amser bob tro i sgwrsio gyda’r bobl o’n cwmpas ni. Dydyn ni ddim yn cyfarfod ein cymdogion mor rheolaidd ag yr oeddem yn arfer ei wneud. Dydyn ni ddim yn taro ar ffrindiau yn y neuadd bentref, yn y ganolfan gymunedol neu yn y dafarn leol hyd yn oed. Yn rhy aml, dydyn ni ddim yn gwybod beth yw enw ein cymdogion ni hyd yn oed.

Mewn oes gyda chymaint o gysylltu, byddai rhywun yn disgwyl ei bod yn haws rhannu gwybodaeth ddefnyddiol a lleol ar-lein o leiaf. Ond nid yw hynny’n wir yn ôl pob tebyg. Mae nifer o rwystrau arwyddocaol yn atal gwybodaeth rhag symud yn ôl ac ymlaen rhwng trigolion, sefydliadau a busnesau:

  • Mae maint enfawr a natur fyd-eang y rhyngrwyd yn ei gwneud yn fwy anodd cael hyd i wybodaeth berthnasol sy’n adleisio ein profiad ni ein hunain. Rydym yn cael ein mygu gan ormod o wybodaeth.
  • Mae cyfranwyr posib yn ofni cyfrannu rhag cael eu cyhuddo o seibr fwlio neu drolio. Faint o fideos defnyddiol, llawn gwybodaeth, ydych chi wedi’u gweld ar YouTube sydd wedi cael eu cyfarch gan watwar, sarhad a sen?
  • Mae’r brandiau cyfryngau cymdeithasol sydd wedi’u sefydlu’n wamal, yn bell oddi wrth bobl ac mae ganddynt obsesiwn â selebs

Rhannu Gwybodaeth ar y Banc DoethinebY sefyllfa hon sydd wedi arwain at sefydlu’r Banc Doethineb. Y nod yw sefydlu amgylchedd lleol i greu adnoddau gan y gymuned ar gyfer y gymuned.

Mae strategaeth ddiogelwch fanwl yn gosod y pŵer adrodd yn ôl yn nwylo’r defnyddiwr. Mae unrhyw gynnwys y ceir cwyn amdano, gan gynnwys ymateb fforwm unigol, yn cael ei wahardd dros dro ar unwaith, i aros cymedroli. Mae hyn yn golygu bod modd cael gwared ar seibr fwlis a thrôls yn lleol. Does dim rhaid aros am ymateb polisi gan weithrediaeth y we ymhell i ffwrdd yn Nyffryn Silicon. Mae posib gweithredu’n lleol ar unwaith.

Mae brand newydd ar y we, a chynllun arloesol i’r safle, yn annog cyfranogiad cymunedol. Nod y Banc Doethineb yw cael ei gydnabod fel cyrchfan ar gyfer gwybodaeth o safon.

Gydag amser, rydym eisiau i’r safle weithio fel banc, gyda phobl yn gosod gwybodaeth sydd ganddynt i’w rhannu ynddo, ac yn tynnu gwybodaeth allan pan maent angen cyngor. Mae’r adnoddau gwybodaeth hyn nid yn unig yn ddefnyddiol, ond yn eithriadol werthfawr hefyd. Maent yn helpu i gadw pobl yn hapus, yn iach ac yn ddiogel. Maent yn helpu pobl i ddod o hyd i waith, ac ymdopi â straen neu sefyllfaoedd anodd. Maent yn helpu busnesau lleol i fasnachu a ffynnu. Felly sut mae creu a chynnal cysylltiadau cymdeithasol defnyddiol yn y byd modern? Rydyn ni wedi gweld potensial y rhyngrwyd ar gyfer cysylltu a dod â phobl at ei gilydd ond, hyd yma, does neb wedi datblygu rhywbeth sy’n gweithio mewn cyd-destun lleol, i ddarparu gwybodaeth o safon.

A dyma pam y mae arnom ni angen y Banc Doethineb, i greu amgylchedd ar-lein lleol ble gall pobl rannu eu gwybodaeth. Er mwyn i drigolion a busnesau lleol weithio gyda’r Banc Doethineb a chyfrannu ato, mae’n rhaid i ni greu amgylchedd sy’n addas i’w hanghenion.

Rydyn ni wedi gweithio’n galed i wneud y safle mor ddiogel â phosib, gan ddatblygu strategaeth ddiogelwch fanwl iawn.

Rydyn ni wedi sicrhau bod y Banc Doethineb yn gweithio’n effeithlon, ac wedi datblygu safle clir a hawdd ei ddefnyddio.

Yn fwy na dim, mae’r safle’n groesawus ac rydym wedi sicrhau bod cymunedau’n gallu gosod ffilmiau a thudalennau gwe ynddo, er mwyn rhannu eu gwybodaeth. Rydym yn credu bod gan ein trigolion a’n busnesau wybodaeth bwysig i’w rhannu ac rydym yn rhoi adnoddau iddyn nhw i gyflawni hyn.

Yn ogystal â gosod ffilmiau a thudalennau ar y wefan, mae’r Banc Doethineb yn creu rhwydweithiau ar-lein newydd hefyd, yn seiliedig ar ddiddordebau cyffredin yn hytrach na chyfeillgarwch ymlaen llaw. Rydym yn rhoi adnoddau cyfathrebu amrywiol i’r defnyddwyr fel eu bod yn gallu rhyngweithio, cymryd rhan a chefnogi ei gilydd.

Yn y pen draw, bydd ansawdd a phŵer y Banc Doethineb yn dibynnu ar sut mae ein cymunedau’n cymryd rhan a faint maent yn dewis cyfrannu.

Fel sefydliad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn credu’n gryf y bydd ein trigolion yn ymateb yn gadarnhaol ac yn creu adnodd arbennig ac unigryw er lles pawb.

Ewch i www.wisdombank.org.uk i edrych ar botensial y dull newydd hwn o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.