Archifau Misol: Gorffennaf 2015

Trosglwyddo Asedau: Popeth y mae arnoch angen ei wybod

Beth oedd y pwyntiau dysgu allweddol o’r digwyddiad Trosglwyddo Asedau WCVA? Yn y blogbost yma mae Gweithgor Asedau Cenedlaethol yn edrych nôl dros y diwrnod.

Trosglwyddo AsedauRoedd y digwyddiad Trosglwyddo Asedau a drefnwyd gan WCVA yn ddiwrnod o ddysgu i bawb ohonym sy’n rhan o drosglwyddo asedau cymunedol – grwpiau cymunedol, cynghorau lleol ac aelodau o NAWG (Gweithgor Asedau Cenedlaethol). I ni sy’n rhan o NAWG, roedd y digwyddiad yn gyfle i siarad yn uniongyrchol â grwpiau sy’n cymryd rhan mewn trosglwyddiadau asedau cymunedol.

Codi’n stondin

Gan rannu ein stondin â chydweithwyr o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am yr ymgynghoriad Amddiffyn Asedau Cymunedol, daethom â llond gwlad o lyfrynnau Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghymru – Canllawiau Arferion Gorau. Erbyn i Lyn Cadwallader, Cadeirydd Un Llais Cymru, argymell y canllawiau, roedd pob copi Saesneg wedi mynd (yn ffodus, mae’r we yn ffynhonnell ddi-ben-draw!)

Hefyd, roedd ein cydweithwyr o Lywodraeth Cymru yn cynnig copïau o’u hymgynghoriad ar Amddiffyn Asedau Cymunedol (dyddiad cau 11 Medi 2015) – dywedwch eich dweud.

Areithiau Agoriadol

Amlinellodd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, gefnogaeth Llywodraeth Cymru dros drosglwyddo asedau cymunedol a derbyniodd hi gwestiynau gan y rhai a oedd yn bresennol. Gofynnodd un ynghylch cyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb i grwpiau cymunedol sydd eisiau mabwysiadu asedau cymunedol – cwestiwn heb ateb hawdd.

Ar ôl araith y Gweinidog, cafwyd anerchiadau gan ddau siaradwr o’r sector menter gymdeithasol; trafododd Louise Barr o Monwel ehangiad y cwmni fel cynhyrchwyr arwyddion mwyaf Cymru. Amlinellodd yr ail siaradwr, Dinah Pye o Amgueddfa Cwm Cynon, hanes eu trafodaethau â chyngor Rhondda Cynon Taf er mwyn ailagor eu hamgueddfa dreftadaeth. Amlinellodd yr heriau sy’n codi o ddechrau fel carfan bwyso, a’r heriau o drawsffurfio’n Ymddiriedolwyr ar gyfer y cyfleuster; hynny yw yr heriau o feddu ar y sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol a gwybod y pwysigrwydd o gael cyngor arbenigol ynghylch cytundebau a chyfraith cyflogaeth ar yr amser cywir.

Gweithdai

Roeddem mor awyddus i ddysgu o’r digwyddiad ag yr oeddem i siarad â phobl ac aethom i weithdai gwahanol er mwyn clywed trafodaethau ar y materion amrywiol dan sylw. Roedd y rhain yn cynnwys gweithdy DTA Cymru ar sefydlu hyfywedd y fenter gymunedol/ y gwasanaeth cymunedol – dysgu sut y gallai ased ddod yn ddyled os nad oedd yn hyfyw.

Darparodd Empower weithdy diddorol ar ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd oddi mewn i dîm – gan bwysleisio’r angen i osod targedau clir ar gyfer canlyniadau; eglurder am pam yr oedd y targedau hynny’n angenrheidiol (faint o arian y byddai’r tîm ei angen pob mis i aros yn hyfyw); a’r angen i bawb sy’n rhan o’r tîm gymryd cyfrifoldeb dros yr atebion. Hefyd, roedd sawl enghraifft ddifrifol o reoli gwael a cholli gafael ar gostau, sy’n gadael elusennau ar fin distryw ariannol.

Roedd llawer o bwyslais ar yr angen i baratoi cymaint ag sy’n bosibl – roedd cynlluniau busnes, cyfraith cyflogaeth a TUPE (Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981) yn themâu cyson.

Siaradodd cynrychiolwyr Unity Trust Bank (banc cymdeithasol ac ethegol) a chynrychiolwyr rhaglen ariannu’r WCVA am sut a phryd i wneud cais am yr arian sydd ar gael i grwpiau cymunedol a grwpiau menter gymdeithasol ar gyfer trosglwyddo’r asedau cymunedol yn y lle cyntaf ac unrhyw fuddsoddiad cyfalaf a allai fod yn angenrheidiol ar ôl hynny. Y neges i’w chofio oedd y ffaith y gall cyllid trwy fenthyciadau helpu i denu ariannu trwy grantiau eraill, gan fod y banc yn hapus i fod yn rhan o gyllideb gyfatebol gyda phartneriaid ariannu eraill. Ni ddylai ymgeiswyr ofni ystyried ystod o ddewisiadau ariannu a dylent baratoi i feddwl yn wreiddiol. Mae digon o gyngor a chymorth ar gael, felly eu neges oedd: byddwch yn ddewr!

Siaradodd Geldards am y materion cyfreithiol a all godi pan fydd grwpiau ac unigolion yn ceisio mynd ati i drosglwyddo asedau. Aethant ati i dywys y gynulleidfa ar hyd camau posibl y daith o’r syniad bach cyntaf i gorfforaeth lawn fel cymdeithas menter gymdeithasol neu elusennol, gan ganolbwyntio ar sut y gellir rheoli’r risg o atebolrwydd personol dros asedau.

Logos sefydliadau a gyfrannodd i'r digwyddiad

Sefydliadau a gyfrannodd i’r digwyddiad

Myfyrio ar y diwrnod

Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl gael gwybodaeth a chyngor proffesiynol hanfodol. Gallwch gael yr wybodaeth a’r cyngor trwy gysylltu â’r WCVA ar: 0800 2888 329.

Er bod NAWG yn canolbwyntio ar sector cyhoeddus Cymru, gyda’r sylw ar drosglwyddo asedau cymunedol, roedd yn ddefnyddiol dysgu am brofiadau cynrychiolwyr o lygad y ffynnon. Bydd hyn yn siŵr o lywio ein gwaith yn y maes hwn ac o safbwynt ymarferol, yn ein helpu i ddatblygu ein gwefan www.assetscymru.org.uk a’n canllawiau ar gyfer y dyfodol. Siaradwch â ni trwy anfon e-bost i assetscymru@wales.gsi.gov.uk.

Reykjavik Gwell a chymuned gryfach: Y manteision o dorfoli ac e-ddemocratiaeth

Pam roedd pawb eisiau dweud eu dweud yng Ngwlad yr Iâ mewn cyfnod o ymddiriedaeth isel? Fe wnaeth Dyfrig Williams cymryd rhan mewn sgwrs gwe gyda Kevin Davies a Dean George o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a Gunnar Grímsson o’r Sefydliad Dinasyddion i ddysgu mwy am Reykjavik Gwell.

Roedd 2008 yn adeg anodd yng Ngwlad yr Iâ. Aeth tri phrif fanc sector preifat y wlad i’r wal, a dechreuodd hyn argyfwng ariannol a wnaeth hyd yn oed effeithio ar awdurdodau lleol yng Nghymru.

Pa mor llwyddiannus oedd y gwefan?

Lansiwyd gwefan Reykjavik Gwell cyn yr etholiadau trefol, ac fe ddaeth y wefan yn hwb ar gyfer cyfranogiad ar-lein.Reykjavik Gwell

  • Fe wnaeth dros 70,000 o bobl cymryd rhan allan o boblogaeth o 120,000
  • Mae 12,000 o ddefnyddwyr cofrestredig wedi cyflwyno dros 3,300 o syniadau a 5,500 o bwyntiau o blaid ac yn erbyn
  • Mae 257 o syniadau wedi cael eu hadolygu’n ffurfiol, ac mae 165 ohonynt wedi cael eu derbyn yn ffurfiol ers 2011

Gan fod Reykjavik Gwell yn wefan allanol nid-er-elw, doedd y wefan ddim yn cael ei weld fel rhan o’r strwythurau gwleidyddol a wnaeth achosi’r argyfwng. Roedd e felly yn haws i gynnwys pobl yn y broses.

Aelodau etholedig

Yn y cyfnod cyn yr etholiadau, fe wnaeth y person a oedd yn mynd i fod yn Faer, Jón Gnarr, crybwyll y wefan ar bob cyfle. Roedd y ffaith bod ffigwr amlwg eisiau manteisio ar y platfform yn hollbwysig, achos wnaeth e hysbysebu’r safle i ddinasyddion a dangos bod e eisiau gwneud y fwyaf o fewnbwn pobl.

Sut mae’n gweithio?

Mae’r wefan yn galluogi pobl i gael llais uniongyrchol yn y broses ddemocrataidd. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl gynnig, trafod a graddio ffyrdd gall eu cymuned gwella. Mae rhaid i’r cyngor trafod y 10-15 syniad sy’n cael y radd uchaf ar y wefan.

Mae pawb sydd wedi cyflwyno sylwadau ar bwnc neu sydd wedi graddio sylw yn cael adborth ar ganlyniad y drafodaeth. Fel mae’r Aelod Seneddol Birgitta Jonsdottir yn dweud yn y fideo uchod, “un o’r ffyrdd gorau i gael pobl i gymryd rhan fel dinasyddion yw i gael nhw i weld canlyniadau.”

Wrth i aelodau etholedig datblygu eu defnydd o’r system, mae ansawdd eu hymatebion i’r cyhoedd wedi gwella. Cafodd unrhyw atebion gwan eu gwrthod gan y gymuned ar-lein, ac fe wnaeth y terfyn cyfyng ar gyfer ymatebion sicrhau bod nhw’n glir ac yn gryno.

Ar-lein neu all-lein?

Gofynnais Gunnar ynghylch pryderon allgau digidol, ac fe wnaeth hyn troi i mewn i sgwrs amdano eithrio ar sail ehangach. Fe wnaeth Gunnar y pwynt bod “Pob math o gyfarfod yn eithrio pobl. Mae cyfarfod yn Reykjavik yn eithrio pobl achos dyw pobl tu allan i’r ardal ddim yn cymryd rhan. Os na fyddwn yn defnyddio’r sianel nawr, ni fyddwn ni mewn sefyllfa dda i’w ddefnyddio pan fydd pawb yn ei ddefnyddio yn neng mlynedd.” Wedi dweud hyn maen nhw hefyd yn edrych i gynnwys pobl mewn gwaith all-lein, achos fel dywedodd un cyfranogwr, “Dydych chi ddim yn gallu ysgwyd llaw trwy ffacs.”

Beth sy’n digwydd yng Nghymru?

Dydyn ni ddim wedi gweld datblygiadau i’r un raddfa â Reykjavik Gwell, ond mae’n ddiddorol gweld sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn defnyddio Loomio fel rhan o ymchwiliad ar gamddefnyddio alcohol a sylweddau. Maen nhw wedi defnyddio’r dull rhwng cyfarfodydd er mwyn dod â phobl at ei gilydd i edrych ar faterion yn fanwl. Roedd hyn yn golygu bod nhw’n gallu cael gafael ar lot o wybodaeth gyfoethog gan gyfranogwyr, a chanolbwyntio ar y pynciau mwyaf dybryd yng nghyfarfodydd dilynol gydag Aelodau’r Cynulliad.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Thîm Iechyd Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal gweminar ar sut all profiad defnyddwyr gwella cyfeiriad strategol a gwasanaethau. Bydd ffigyrau allweddol o wasanaethau cyhoeddus Cymreig yn dod at ei gilydd i rannu eu dulliau a dysgu o’i gilydd.

Fe fydd yna gyfleoedd i bostio cwestiynau drwy gydol y sesiwn, a byddwn yn rhannu’r gweminar ar ôl iddo gael ei chynnal. Os ydych chi’n brysur ar 15 Gorffennaf, gallwch chi nodi eich cwestiynau isod. Un o’r pethau mwyaf pwysig rydw i wedi dysgu o fy ngwaith i yw bod ni’n cael canlyniadau lot yn well os ydyn ni’n cyfuno ein harbenigedd.