Gweminarau: Beth ddysgais i o Harvard a Kanye West

Sut gallen ni wella ein gweminarau? Gwyliodd Dyfrig Williams webinar Adolygiad Busnes Harvard ar ddylanwad yn y gwaith i weld beth y gallai dysgu.

Sa i’n meddwl o ni’n gwybod beth oedden ni’n dechrau pan gynhalion ni ein gweminar cyntaf. Dechreuodd e fel sesiwn gyflym i ddilyn ein seminar Technoleg Gwybodaeth, ond rydyn ni nawr yn defnyddio nhw i gyrraedd cymunedau o ddiddordeb fyddai wedi bod yn anodd cyrchu trwy ddigwyddiadau traddodiadol.

Ar 12 Mai, byddwn yn cynnal gweminar gyda IdeasUK ar Syniadau Staff: Ymgysylltu sy’n cefnogi gwella. Mae’r mudiad wedi’i leoli yn y Deyrnas Unedig, ond mae gweminar yn cwrdd â’i anghenion achos bod ganddynt aelodaeth byd-eang.

Mae embargo yr etholiad wedi rhoi bach o amser i ni hunan-fyfyrio am ein gweminarau, felly rydyn ni wedi edrych ar beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd ddim.

Rydw i wedi blogio am beth rydw i wedi dysgu o gynnal gweminar yn barod, ond yn yr ysbryd o welliant parhaus, fe wnes i gwylio gweminar Adolygiad Busnes Harvard ar ‘Dylanwad yn y Gwaith: Beth Sy’n Gallu Mynd yn y Ffordd a Beth i’w Wneud Amdani‘ er mwyn gweld beth gallai i ddysgu am y pwnc a beth gallwn i cymryd o’i dull.

Beth dysgais am ddylanwad yn y gwaith

Fe wnaeth sesiwn Rhagfarn Anymwybodol Paul Hessey yn ein digwyddiad cydraddoldeb mewnol rhoi man cychwyn da i ni o ran sut gall argraff gyntaf effeithio ar sut rydyn ni’n gweld rhywun. Yn y gweinar eglurodd Dr. Heidi Grant Halvorson pam bod camsyniadau mor gyffredin. Roedd e’n ddiddorol gweld cynlleied o wybodaeth sydd ar gael i’r siaradwr a gwrandäwr er mwyn ffurfio barn am rywun. Fel mae’r tabl isod yn dangos, dim ond ymddygiad y siaradwr a beth maen nhw’n dweud sydd ar gael i’r dau ohonynt.

Available Information / Gwybodaeth sydd ar gael

Rydw i wedi bod yn aelod o’r tîm Arfer Da am bron i dau mlynedd nawr, felly mae’r angen i cael gwybod ‘beth mae da yn edrych fel’ wedi’i ymgorffori ynddo fi. Felly beth allwn ni wneud i roi gwell argraff gyntaf? Mae ymddiriedaeth yn rhan allweddol o hyn. Dyma sut gallwn ni gyfleu cynhesrwydd a hyder yn well:

  • Cynnal cyswllt llygaid
  • Gwenu pan mae pobl yn gwenu atom
  • Nodio i gyfleu ein bod ni’n gwrando
  • Gwrando’n go iawn
  • Cadarnhau pan mae galw i ni wneud hynny

Os hoffech chi gael gwybod mwy am hyn a lot mwy, mae’n werth gwylio recordiad y gweminar neu ddarllen y crynodeb ohono.

Beth dysgais am gweminarau

Pan maen dod i gyflwyniadau mewn digwyddiadau, ni’n gweithio ar y ddamcaniaeth bod llai yn fwy. Does dim byd gwaeth na chyflwynwyr sy’n darllen yn syth o’u Powerpoint am awr, yn enwedig pan mae cymaint o destun neu ddata mae’n wneud e’n amhosibl i’w darllen. Ni wnaeth Dr. Halvorson gorlwytho ni gyda data, ond defnyddiodd hi lot o sleidiau, ac fe wnaeth hyn cadw y webinar yn ddiddorol mewn modd gweledol er doedd dim webcam.

Defnyddiodd Dr. Halvorson delweddau a diagramau i egluro pwyntiau ac ystyr ymhellach. Roedd e’n diddorol i weld hi’n cyfeirio i’r diwylliant pop. Defnyddiodd hi sleid am yr achlysur pan wnaeth Kanye West mynd ar y llwyfan wrth i Taylor Swift derbyn gwobr MTV er mwyn dangos sut gall pobl ddod ar draws wahanol i sut mae nhw’n bwriadu.

Kanye West / Taylor Swift
O ran ein gweminar ar syniadau staff, dydw i ddim yn gallu addo digonedd o gyfeiriadau i’r byd pop, ond gallaf addo byddwn yn gwella ochr gweledol ein gweminar. Mae yna banelwyr o fudiadau amrywiol, o’r Weinyddiaeth Amddiffyn i’r Gymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan, felly os ydych chi eisiau dysgu mwy am ddefnyddio cynlluniau syniadau i gynnwys staff yn natblygiad eich mudiad, mae’n werth tiwnio mewn.

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s