Meddalwedd Gwybodaeth Raffigol a Chydweithio

Yn ein blog diweddaraf o Wobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan 2014, dyma Kevin Williams o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn disgrifio ei Feddalwedd Gwybodaeth Raffigol a’r pwysigrwydd o gydweithio.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port TalbotMae staff ein hisadran TGCh, mewn cydweithrediad â swyddogion cyfatebol Dinas a Sir Abertawe, wedi ennill gwobr o fri yn ddiweddar gan y Gymdeithas Gwybodaeth Ddaearyddol, ac mae hon yn wobr ar gyfer sector cyhoeddus y DU gyfan.

Pan benderfynodd yr isadran TGCh gyfnewid ei Feddalwedd Gwybodaeth Raffigol ddrudfawr am ddewis amgen cost-isel, swyddogaethau medrus ffynhonnell agored, roedd nod y tîm yn syml; cynyddu’r graddau yr oedd GIS ar gael i staff a’n dinasyddion am lai o gost. O ganlyniad i’r manteision yr oedd y prosiect hwn wedi’u sicrhau, roedd awdurdodau cyfagos yn dangos llawer iawn o ddiddordeb gan gynnwys Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Arweiniodd hyn at brosiect rhanbarthol a oedd â’r dasg o nodi meysydd lle byddai cydweithredu trawsffiniol yn fanteisiol o ran nodi a chyflawni arbedion effeithlonrwydd, cynyddu’r defnydd o GIS a gwelliannau i’r gwasanaeth. Ariannwyd y prosiect hwn yn rhannol gan y rhaglen ranbarthol bresennol ac roedd yn gweithredu ac yn cael ei lywodraethu gan Fwrdd Cydwasanaethau TGCh Canol a De-orllewin Cymru.

Daeth canfyddiadau cynnar i’r casgliad bod pob awdurdod lleol yn bwrw iddi â’r un tasgau ond mewn ffyrdd ychydig yn wahanol, ac nid yw GIS yn eithriad i’r rheol hon. Pan ffurfiodd y grŵp gyntaf, daeth yn amlwg bod gan bob awdurdod atebion GIS gwahanol ond roedd gan bawb yr un broblem. Sut oedd ehangu eu systemau heb fod yn gaeth i werthwr masnachol gyda chostau cynyddol?

Ar ôl cwblhau’r prosiect, mae’n amlwg nad yw’r manteision a wireddwyd wedi’u cyfyngu i’r arbedion ar ffioedd trwyddedu a’r broses o ddiddymu cytundebau cynnal a chadw. Serch hynny, mae’r arbedion a amcangyfrifwyd yn hanner miliwn o bunnau dros gyfnod o bum mlynedd ac felly maen nhw’n sylweddol, ond drwy fabwysiadu ateb FfynhonellAgored yn ein hawdurdodau, mae’r defnydd o GIS yn ddiderfyn erbyn hyn. Gall symud cyfyngiadau ariannol rymuso unrhyw un i gael mynediad at ddata mewn dull gofodol, gan sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus yn gynt gan yn y pen draw wella gwasanaethau cwsmeriaid.

Mae cydweithredu ar y prosiect hwn wedi helpu i greu cysylltiadau gwaith newydd ac wedi helpu i chwalu’r ffiniau mwn perthynas â chreu cydwasanaethau rhwng awdurdodau lleol. Y gwaith hwn oedd wedi gwneud argraff ar y pwyllgor gwobrwyo, a arweiniodd at gydnabod arloesedd a gweithio traws-sector. Mae Kevin Williams, a fu’n arwain y prosiect ar gyfer Castell-nedd Port Talbot wedi’i wahodd, erbyn hyn, i ymuno â phanel AGI Cymru, gan gynrychioli GIS FfynhonellAgored.

    1. Good Practice Exchange Awdur cofnod

      Mae hynny’n cwestiwn da, rydym wedi bod yn rhannu rhain drwy’r Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan. Fe wnai cysylltu â nhw ar gyfer rhagor o wybodaeth am y meddalwedd ac ymateb yn syth pan rwy’n cael cyfle.

      Hwyl,

      Dyfrig

      Hoffi

      Ateb
    2. Good Practice Exchange Awdur cofnod

      Sori am yr ymateb araf, newydd cael ebost yn ôl. Mae’r cyngor wedi cadarnhau bod nhw’n defnyddio QGIS fel rhan o’i dull yn y rhanbarth. Mae yna dros 200 o ddefnyddwyr yng Nghastell Nedd-Port Talbot yn unig. Hwyl, Dyfrig

      Hoffi

      Ateb

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s