Archifau Misol: Mawrth 2015

WhatsApp: A fyddai’n gallu eich helpu i wneud eich cymuned yn lle gwell i fyw ynddo?

Wrth i’r byd newid, mae’n rhyfeddol gweld sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn newid hefyd. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, byddai’n anarferol iawn i sefydliad feddu ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol (fel pan grëodd Helen Reynolds dudalen MySpace ar gyfer Neuadd y Sir yn Nhrefynwy). Er bod llawer ohonom yn parhau i geisio deall sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar y ffordd y mae sefydliadau yn rhyngweithio â chymunedau, mae’n rhan hanfodol o’r ffordd ni’n cyfathrebu fel unigolion o ddydd i ddydd.

WhatsApp

Nid yw’n syndod felly, ein bod ni’n gallu dysgu lot o’r bobl yn ein cymunedau.

Wrth i gyllidebau grebachu, gofynnir i wasanaethau cyhoeddus wneud mwy gyda llai. Mae sefydliadau yn dechrau cefnu ar y rôl dadol a chwaraewyd ganddynt yn aml yn y gorffennol gan newid i rôl lle maent yn galluogi pobl i wneud y gorau o’u cyfleoedd. Disgrifiwyd sut mae’r Bromford Deal yn gwneud hynny yn ein Seminar Mabwysiadu Dulliau Ataliol y llynedd. Gallwch ddysgu mwy am y fargen yn y fideo isod.

Rydw i wedi bod yn defnyddio WhatsApp yn bersonol am gyfnod. Roeddwn i’n ceisio meddwl i fy hun am sut y gellir ei ddefnyddio i wella’r ffordd rydym yn gweithio, ond doeddwn i ddim yn gallu dychmygu sut i’w ddefnyddio am y pwrpas yma. Newidiodd hyn gyda’r Storify yma gan Will Barker ar Drafodaeth Twitter #nhssm, ble roedd yn bosibl imi weld ar unwaith sut y gallai sefydliadau ei ddefnyddio i hysbysu pobl yn well am beth maen nhw’n wneud. Mae’n rhyfeddol ystyried, yn achos yr Oxford Mail, bod nifer y bobl sy’n cael eu cyfeirio at y tudalennau drwy WhatsApp chwech neu saith gwaith yn fwy na Twitter.

Trafodaethau WhatsApp DiscussionsDrwy rannu Storify, dechreuais drafodaeth gyda Ben Black, gan bod ei stryd yn defnyddio WhatsApp mewn ffordd ddiddorol iawn. Mae’r llwyfan yn rhoi cyfle i bobl gysylltu â’i gilydd yn well (a dywedodd Ben bod lot o dynnu coes yn digwydd yn ystod y sgwrsio). Mae’n golygu bod ffordd gyflym o wirio pethau, er enghraifft os bydd y trydan yn diffodd gellir darganfod os yw wedi effeithio ar un tŷ yn unig neu’r stryd gyfan. Os bydd un o’r preswylwyr yn mynd i’r dymp, drwy anfon neges gyflym at y grŵp, gall y person hwnnw gynnig mynd â sbwriel pobl eraill ar yr un pryd. Pan wnaeth un o’r bwytai ar y stryd gais am drwydded, defnyddiwyd WhatsApp i anfon adborth o gyfarfod y cyngor.

Defnyddiwyd yr ap i amlygu materion sy’n effeithio ar y stryd, fel tyllau yn y ffordd, neu i weld os yw’n bosib i bobl fenthyca offer neu amser ei gilydd, er enghraifft drwy dorri lawntiau ei gilydd.

Roeddwn i’n ystyried WhatsApp fel dull o gyfathrebu â phobl yn unig, ond mae Ben a’i gymdogion wedi mynd â’r peth un cam (neu bum cam) ymhellach ac maen nhw’n ei ddefnyddio mewn ffordd weithredol er mwyn helpu i wneud eu stryd yn lle gwell i fyw ynddo.

Os bydden i’n gofyn i bobl sut maent yn teimlo am y gwasanaethau cyhoeddus maen nhw’n derbyn, rwy’n siwr y byddai’r mwyafrif yn gofyn “pa wasanaethau cyhoeddus?” Drwy ddefnyddio offer fel WhatsApp a Streetbank, mae pobl bellach yn darparu rhai agweddau o wasanaethau eu hunain. Os meddyliwn am eiliad ynghylch sut y byddai’n bosibl inni weithio’n wahanol a dilyn esiampl stryd Ben, credaf fod lot y gallwn wneud i wella’n gwaith ni.

Dyfrig

Gwella Gofal Meddygon Teulu drwy Alinio Tystiolaeth, Methodoleg Gwella Ansawdd, TG a Chontractau: Model Newydd ar gyfer Cymru

Yn y blogpost diweddaraf y Gwobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan, mae Dr Alastair Roeves o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dweud wrthym sut maen nhw’n gwneud y fwyaf o’u hadnoddau i wella eu gwaith.

Aneurin Bevan University Health Board / Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin BevanMae Ffibriliad Atrïaidd yn afreoleidd-dra o ganlyniad i weithgarwch afreolaidd, trydanol ac anhrefnus yn atriwm y galon; fel arfer, mae’n gysylltiedig â ffactorau risg, fel gorbwysedd, diabetes a chlefyd ischaemig y galon. Ymddengys o’r dystiolaeth bod ei reoli’n amserol yn fanteisiol i gleifion.

Mae Llwybrau QP yn elfennau clinigol o Gontract Meddygon Teulu, a’i nod yw lleihau derbyniadau diangen i’r ysbyty a derbyniadau cleifion allanol.

Lluniwyd llwybr QP Ffibriliad Atrïaidd er mwyn galluogi Meddygon Teulu yng Ngwent i roi pecynnau gofal ar waith, gan ddefnyddio Methodoleg Gwella Ansawdd, wrth nodi cleifion, wrth roi diagnosis iddynt ac wrth eu rheoli. Roedd wedi’i ategu â chanllaw a ddatblygwyd gan Dîm Ansawdd Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r Llwybr QP yn ddewisol ac fe’i cynigiwyd i bob practis meddyg teulu yng Ngwent. Gwirfoddolodd 9 practis meddyg teulu i weithio fel practis cydweithredol a rhoi’r dull pecyn gofal ar waith mewn perthynas â Gwella Ansawdd. Roedd yn rhaid i bob practis hefyd ddefnyddio modiwl Ffibriliad Atrïaidd ar gyfer Audit+ er mwyn sicrhau y gallai Iechyd Cyhoeddus Cymru ddadansoddi’r data.

Roedd yn ofynnol i bob practis ddangos gwelliant mewn 3 o bob 5 pecyn gofal:

  • Manteisio ar y cyfle i Sgrinio Unigolion dros 65 oed
  • Asesu symptomau
  • Perfformio Sgôr CHADS2 / CHADS2VASc i asesu risg Damwain serebro-fasgwlaidd (CVA)
  • Rheoli cyfradd a churiad
  • Gwirio BP, pwls, adolygu meddyginiaeth, cynnal asesiad risg ar gyfer gwrthgeulo

Daeth pob practis ynghyd dair gwaith gan gytuno i rannu data’r practis rhyngddynt a rhannu dysgu o’r gwelliannau yr oeddent wedi’u rhoi ar waith.

Cafodd y data ei grynhoi bob bythefnos gan feddalwedd Audit+, ac fe’i dadansoddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gyflwyno ar ffurf siartiau llif.

Rhoddwyd data sylfaenol ar gyfer pob pecyn i bractisau yn y cyfarfod cydweithredu cyntaf ddiwedd Tachwedd a rhannwyd data pellach ar welliannau yn yr ail gyfarfod cydweithredu a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2014. Yn y trafodaethau rhwng y practisau, nodwyd y newidiadau yr oeddent wedi’u gwneud er mwyn gwella’r broses o gydymffurfio â’r pecyn. Mae un practis wedi cynyddu canran y boblogaeth darged sy’n cael eu sgrinio o 2% i 10% ac mae tystiolaeth bod pob practis wedi gwella’r broses o gofnodi cyfradd a churiad y pwls.

Dadfentora a Threialon Coffi Ar Hap

UnmentoringLansiwyd Treialon Coffi Ar Hap gennym am y tro cyntaf yn ein Seminar Lles. I’r anghyfarwydd, eu nod yw cael pobl at ei gilydd ar hap i drafod eu gwaith. Mae’r canllaw yma gan David Gurteen yn gyflwyniad defnyddiol iawn. Er mwyn esbonio’r cysyniad i bawb a oedd yn bresennol, aethom ati i chwarae’r fideo yma gan y Groes Goch ar sut maen nhw’n eu defnyddio.

Mae’n braf cael dweud bod LocalGovDigital wedi lansio Dadfentora tua’r un pryd, sy’n seiliedig ar yr un egwyddorion. Perffaith – cyfle i brofi’r dull a dysgu am waith rhywun ar yr un pryd.

Cefais i fy mharu gyda Paul Inman o Gyngor Swydd Warwick ac roedd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am eu gwaith a’i gymharu â’r hyn sy’n digwydd yr ochr yma i Glawdd Offa.

Mae Swydd Warwick wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith ar siwrneiau cwsmeriaid a sianelu newid. Gellir gwneud trafodion ar-lein yn llawer rhatach na thrwy gyfarfod yn bersonol – mae trafodion ar-lein yn costio 15c yr un ar gyfartaledd o gymharu ag £8.62 yn y cnawd. Mae’n ddiddorol clywed sut mae newidiadau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth, fel ysgogi pobl i fynd i’r wefan pan maen nhw’n gorfod disgwyl am ymateb ar y ffôn.

Cyngor Swydd Warwick

Yr hyn sy’n braf yw nad yw Swydd Warwick wedi anghofio am bobl yng nghanol hyn i gyd. Mae blog Kate Bentham yn esiampl wych o sut ddylem ni gadw ein ffocws ar bobl wrth wneud newidiadau. O ran eu gwefan, mae Swydd Warwick yn credu mewn esblygiad, nid chwyldro. Mae hyn yn golygu newidiadau bach ar hyd y ffordd, fel gwneud yr ymylon yn llai ar declynnau symudol, yn hytrach na phenawdau cysylltiadau cyhoeddus mawr. Ond mae pob newid yn gwneud gwahaniaeth bychan, ac nid oes raid i bobl ailddysgu defnyddio’r safle.

O ran yr hyn wnes i ei gyfrannu at y parti (ar wahân i fy mhaned o de fy hun), fe wnes i ymhelaethu ychydig ar sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio Yammer ac ar ddigwyddiad Defnydd Effeithiol o TG y Gyfnewidfa Arfer Da, lle buom yn edrych ar adfer wedi’r trychineb yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae ein sgwrs Dadfentora nesaf yn cael ei chynnal ddechrau mis nesaf, felly mae gennym ni ein dau ychydig o amser i adlewyrchu ar ein sgwrs gyntaf a thyrchu’n ddyfnach i bethau. Ond yr hyn sydd wedi bod yn eithriadol ddefnyddiol yw’r cyfle i wneud amser i adlewyrchu ar beth yw ‘gwasanaeth TG da’, a hefyd treulio rhywfaint o amser yn siarad â rhywun am yr heriau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu, ag yntau â gwahanol bersbectif i f’un i.

Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi gweithio’n unigol ar ryw adeg, ac mae’n rhy hawdd ymgolli yn ein syniadau a’n safbwyntiau penodol ein hunain. Mae wedi bod yn rhyfeddol gweld sut gall Dadfentora a Threialon Coffi Ar Hap chwarae eu rhan mewn goresgyn y rhwystrau sy’n atal rhannu gwybodaeth. Rwyf yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am Swydd Warwick wrth symud ymlaen. Mae Mark Jeffs wedi amlinellu sut mae’n rhaid i ni weithio’n wahanol. Mae’n rhaid i’r ysbrydoliaeth ar gyfer hynny ddod o rywle a’r gobaith yw mai Dadfentora a Threialon Coffi Ar Hap fydd y sbardun sy’n helpu pobl i feddwl am bethau mewn golau newydd.

Dyfrig

Sawl gwaith ydych chi wedi bod yn styc y tu ôl i lori bin pan mae rhaid i chi fynd i’r gwaith ar frys?

Gall eich sefydliad chi elwa o optimeiddio llwybrau? Yn y blogbost isod mae Andy Phillips, Archwilydd Perfformiad yn Swyddfa Archwilio Cymru yn edrych ar y manteision posibl. 

Rubbish / SbwrielMae pigo fyny sbwriel yn weithgaredd hanfodol i’r cyngor ac mae yna dystiolaeth weladwy i bawb o effeithlonrwydd y gwasanaeth anddeniadol yma. Er bod y swydd yn ymddangos i fod yn un syml ar yr olwg gyntaf, mewn gwirionedd rhaid cynllunio’n drwyadl ac ystyried yr angen i gadw costau mor isel â phosibl, rhoi rowndiau casglu mewn lle sy’n cwmpasu’r sir gyfan, sy’n rhedeg yn effeithlon ac er boddhad preswylwyr a masnachwyr. A gyda chyn lleied o darfu ag sy’n bosibl.

Dim jyst sbwriel sy’n cael ei gasglu. Mae’r maint o ailgylchu yn cynyddu, jyst fel y mathau o ddeunyddiau a gesglir megis bwyd, deunydd ailgylchu sych a gwastraff gardd. Mae’r faint o rain sydd angen i gynghorau gasglu yn newid yn gyson gyda gweithgarwch economaidd, tymhorau, a chyflwyno strategaethau gwastraff. Yn ymarferol, gall hyn olygu bod angen nifer o wahanol fathau o gerbydau casglu ar gynghorau, ac efallai bydd rhaid i weithredwyr sortio deunydd ailgylchadwy ar ymyl y ffordd. Mae’r criw ar rowndiau casglu yn wynebu her gorfforol sylweddol i lwytho sbwriel a deunydd ailgylchu drwy’r dydd ac ym mhob tywydd, felly rhaid i rowndiau casglu amddiffyn eu diogelwch a’u lles a chydbwyso eu llwythi gwaith yn deg rhwng pob criw.

Mae optimeiddio dyluniad llwybrau casglu gwastraff yn ffordd dda o wneud y llwybrau’n fwy effeithlon. Gall dylunio gofalus o lwybrau lleihau nifer y cerbydau neu asedau eraill sy’n cael eu defnyddio. Gall hyn arwain at lai o filltiroedd, llai o danwydd a llai o ôl-troed carbon. Ond does neb yn gwybod y rowndiau yn well na’r criwiau eu hunain. Dyma pam mae angen iddynt fod yn rhan o unrhyw adolygiad o’u rowndiau oherwydd gall beth sy’n edrych fel llwybr gwych ar fap cael lot o broblemau ymarferol fel mynediad trwy strydoedd cul neu dagfeydd, fel y gwelir wrth gasglu gwastraff pan mae pobl ar y ffordd i’r ysgol.

Mae rheolwyr gwastraff o bob rhan o Gymru yn cwrdd yn Ganolfan Adnoddau’r Cyfryngau yn Llandrindod ar ddydd Mercher 25 Mawrth i weithdy optimeiddio llwybrau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae gan Swyddfa Archwilio Cymru profiad gwych o redeg seminarau dysgu a rennir ar gyfer meysydd eraill drwy ei Chyfnewidfa Arfer Da, ac fe fydd bydd yn cynorthwyo gyda’r gweithdy. Bydd siaradwyr o’r diwydiant gwastraff yn arddangos eu technegau optimeiddio llwybr a meddalwedd, ac fe fydd cynrychiolwyr o gynghorau sydd eisoes wedi rhesymoli eu rowndiau casglu gwastraff yn rhannu eu profiadau ac yn cynnig rhai arferion da. Bydd y sesiynau yn rhyngweithiol ac fe ddylai fod yn ddadl fywiog sy’n arwain at fudd mawr o ran rhannu mynediad cyflym i wybodaeth a phrofiad, a chreu trafodaethau a chydweithrediadau a all barhau ar ôl i’r cyfarfod dod i ben. Bydd y ffocws ar yr arbedion a wnaed, yr heriau a wynebir a’r gwersi a ddysgwyd.

Er bod y gweithdy hwn ar gyfer rheolwyr gwastraff, gall yr un broses o optimeiddio llwybrau cael ei ddefnyddio ar gyfer meysydd eraill, fel cynnal a chadw yn y gaeaf, glanhau strydoedd, gwasanaethau symudol megis llyfrgelloedd, archwiliadau priffyrdd, torri porfa a gwrychoedd, ceisiadau gofal cymdeithasol fel ymweliadau cartref arferol, casglu plant o’r ysgol a’r ganolfan ddydd neu fwyd Pryd ar Glud. Trwy gymryd y wybodaeth a gafwyd o’r gweithdy a’i rhannu o fewn eich sefydliad eich hun, gallwch gynyddu’r manteision o fynychu’r gweithdy yn Llandrindod. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno am 10am, hynny yw os nad ydych chi’n mynd yn styc tu ôl i lori bin…

Meddalwedd Gwybodaeth Raffigol a Chydweithio

Yn ein blog diweddaraf o Wobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan 2014, dyma Kevin Williams o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn disgrifio ei Feddalwedd Gwybodaeth Raffigol a’r pwysigrwydd o gydweithio.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port TalbotMae staff ein hisadran TGCh, mewn cydweithrediad â swyddogion cyfatebol Dinas a Sir Abertawe, wedi ennill gwobr o fri yn ddiweddar gan y Gymdeithas Gwybodaeth Ddaearyddol, ac mae hon yn wobr ar gyfer sector cyhoeddus y DU gyfan.

Pan benderfynodd yr isadran TGCh gyfnewid ei Feddalwedd Gwybodaeth Raffigol ddrudfawr am ddewis amgen cost-isel, swyddogaethau medrus ffynhonnell agored, roedd nod y tîm yn syml; cynyddu’r graddau yr oedd GIS ar gael i staff a’n dinasyddion am lai o gost. O ganlyniad i’r manteision yr oedd y prosiect hwn wedi’u sicrhau, roedd awdurdodau cyfagos yn dangos llawer iawn o ddiddordeb gan gynnwys Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Arweiniodd hyn at brosiect rhanbarthol a oedd â’r dasg o nodi meysydd lle byddai cydweithredu trawsffiniol yn fanteisiol o ran nodi a chyflawni arbedion effeithlonrwydd, cynyddu’r defnydd o GIS a gwelliannau i’r gwasanaeth. Ariannwyd y prosiect hwn yn rhannol gan y rhaglen ranbarthol bresennol ac roedd yn gweithredu ac yn cael ei lywodraethu gan Fwrdd Cydwasanaethau TGCh Canol a De-orllewin Cymru.

Daeth canfyddiadau cynnar i’r casgliad bod pob awdurdod lleol yn bwrw iddi â’r un tasgau ond mewn ffyrdd ychydig yn wahanol, ac nid yw GIS yn eithriad i’r rheol hon. Pan ffurfiodd y grŵp gyntaf, daeth yn amlwg bod gan bob awdurdod atebion GIS gwahanol ond roedd gan bawb yr un broblem. Sut oedd ehangu eu systemau heb fod yn gaeth i werthwr masnachol gyda chostau cynyddol?

Ar ôl cwblhau’r prosiect, mae’n amlwg nad yw’r manteision a wireddwyd wedi’u cyfyngu i’r arbedion ar ffioedd trwyddedu a’r broses o ddiddymu cytundebau cynnal a chadw. Serch hynny, mae’r arbedion a amcangyfrifwyd yn hanner miliwn o bunnau dros gyfnod o bum mlynedd ac felly maen nhw’n sylweddol, ond drwy fabwysiadu ateb FfynhonellAgored yn ein hawdurdodau, mae’r defnydd o GIS yn ddiderfyn erbyn hyn. Gall symud cyfyngiadau ariannol rymuso unrhyw un i gael mynediad at ddata mewn dull gofodol, gan sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus yn gynt gan yn y pen draw wella gwasanaethau cwsmeriaid.

Mae cydweithredu ar y prosiect hwn wedi helpu i greu cysylltiadau gwaith newydd ac wedi helpu i chwalu’r ffiniau mwn perthynas â chreu cydwasanaethau rhwng awdurdodau lleol. Y gwaith hwn oedd wedi gwneud argraff ar y pwyllgor gwobrwyo, a arweiniodd at gydnabod arloesedd a gweithio traws-sector. Mae Kevin Williams, a fu’n arwain y prosiect ar gyfer Castell-nedd Port Talbot wedi’i wahodd, erbyn hyn, i ymuno â phanel AGI Cymru, gan gynrychioli GIS FfynhonellAgored.

Ailffocysu gwaith gyda plant a phobl ifanc

Dyma’r blog diweddaraf o blog diweddaraf o Wobrau Cymunedol Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan ym mis Tachwedd diwethaf.Sut gall eich sefydliad chi ail-edrych ar eich g waith gyda phlant a phobl ifanc? Isod mae Tracy Jelfs o Gyngor Sir Fynwy yn dweud wrthym amdano beth wnaethon nhw yn ein 

Monmouthshire County Council / Cyngor Sir FynwyMae Gwasanaethau Plant Sir Fynwy wedi gweld newidiadau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn wedi arwain at wasanaeth aneffeithlon i blant a phobl ifanc a morâl isel ymysg staff. Ers mis Ebrill 2014, bu’n rhaid cychwyn canolbwyntio o’r newydd ar waith uniongyrchol â phlant a phobl ifanc yng nghyd-destun arfer da.

Dechreuwyd ar y gwaith hwn drwy wrando ar staff, sef ein prif adnodd, er mwyn deall beth oedd angen er mwyn sicrhau gwelliannau. Sefydlwyd cyfres o adnoddau, hyfforddiant a chymorth ar gyfer y grŵp staff gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys sesiynau hyfforddi a gwefan er mwyn cysylltu’r holl wybodaeth ar gyfer Gwasanaethau Plant, gan alluogi staff i gael gafael ar adnoddau’n rhwydd. Mae staff yn parhau i nodi’r hyn sydd ei angen arnynt ac yna rydym yn darparu’r cymorth a’r adnoddau er mwyn diwallu’r anghenion fel y bo angen. Yn ogystal, mae staff wedi ystyried pa systemau a phrosesau sy’n cyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer plant ac mae’r rhain yn parhau i gael eu datblygu.

O’r gwaith cychwynnol, gwelwyd nad yn y Gwasanaethau Plant yr oedd y rhwystrau ond yng ngwasanaethau ehangach y Cyngor a chymerwyd peth amser i’w datrys. Achosodd hyn oedi gan beryglu’r broses o reoli newid, gan fod staff o’r farn eu bod yn cael eu tanseilio ac nad oedd yr awdurdod yn gwrando arnynt.

Gwnaethpwyd gwaith sylweddol i ddatrys y materion hyn a chael staff i ganolbwyntio o’r newydd ar yr hyn mae plant a phobl ifanc ei angen. Roedd angen i’r gwasanaeth symud oddi wrth weithredu fel pedwar tîm i weithredu fel un gwasanaeth ac i flaenoriaethu anghenion plant a phobl ifanc, gan sicrhau bod arfer gorau yn sail i hyn. Arweiniodd hyn at gael un lleoliad yn hytrach na dau leoliad ar gyfer dau dîm fel yn flaenorol. Mae hyn wedi bod yn drobwynt pwysig ar gyfer y grŵp staff ac mae wedi sicrhau y gellir cynnal sgyrsiau uniongyrchol a datblygu’r timau i greu gwasanaeth gyda phwrpas cyffredin.

Yn ogystal, mae newidiadau wedi’u gwneud i’r broses recriwtio, mae’n sicrhau bod gan y tîm ddarlun cliriach o’r ymgeiswyr ac yn sicrhau ein bod yn recriwtio’r staff cywir ar gyfer y gwasanaeth. Mae morâl yn parhau i wella ac erbyn hyn mae staff mewn sefyllfa i allu ystyried gwahanol ffyrdd o gydweithio â phlant a phobl ifanc ac yn datblygu syniadau ac achosion busnes er mwyn datblygu a gwella eu maes gwasanaeth ymhellach.

Mae’r gwasanaeth wedi sefydlu diben a chyfeiriad clir sy’n galluogi teuluoedd a chymunedau i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ac i gyrraedd eu potensial yn llawn. Mae’r gwasanaeth hefyd yn datblygu diwylliant o berchnogaeth a disgwyliadau mawr o ymarfer gan bob aelod staff beth bynnag fo’u rôl yn y gwasanaeth. Mae datblygiadau pellach wedi’u cynllunio wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo. Mae hyn yn cynnwys achosion busnes mewn nifer o feysydd yn seiliedig ar dystiolaeth a blaenoriaethu anghenion plant a phobl ifanc.

Mae’r gwasanaeth wedi creu amgylchedd sy’n galluogi gweithwyr i allu gwneud penderfyniadau mor agos i’r rheng flaen â phosibl, gan sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth i wneud y penderfyniadau hynny. Mae’n darparu diwylliant hefyd lle mae barn staff yn cael blaenoriaeth wrth ddatblygu gwasanaethau, gan sefydlu disgwyliadau clir o’r grŵp staff yng Ngwasanaethau Plant Sir Fynwy.

Dyma’r blog diweddaraf o gyfres ar Wobrau Cymunedol Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan ym mis Tachwedd 2014.

Trosglwyddo asedau i’r sector gwirfoddol

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn ceisio sicrhau nad yw’r digwyddiadau a gynhaliwyd gennym yn golygu mai dyna ddiwedd y daith i bwnc rydym yn gweithio arno. Rydym yn ceisio rhannu syniadau, adnoddau a safbwyntiau er mwyn dechrau trafodaethau ac annog pobl i ddod o hyd i gyfleoedd i wella’u gwaith.

Nid oedd rhaid inni aros yn hir cyn i’r arfer da cyntaf gael ei rannu ar Twitter yn ystod ein seminar Gwneud Defnydd Gwell o Asedau Cyhoeddus, wrth i Wasanaeth Cyngor a Chymorth Cymunedau’n Gyntaf gysylltu â ni i’n hysbysu am waith diddorol yng Nghaerdydd i helpu sefydliad cymunedol i ddod yn gyfrifol am reoli ased.

Roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy am hyn oherwydd roedd yn cyd-fynd yn dda â gweithdy Richard Davies a oedd yn ystyried y cymorth sydd ei angen ar sefydliadau gwirfoddol a chymunedol er mwyn sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus.

Siaradais â Gareth Kiddie, a oedd yn gweithio fel ymgynghorydd wrth drosglwyddo ased ym Mhentre-baen, a Michelle Powell o ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái) a gefnogodd y broses.
Yn y seminar siaradodd Richard am yr heriau niferus y mae sefydliadau cymunedol yn eu hwynebu, lle mae capasiti yn broblem allweddol. Mae sefydliadau cymunedol yn dibynnu ar wirfoddolwyr, felly nid yw’n syndod bod Gareth wedi dweud bod y broses Dendro Gystadleuol yn rhwystr i drosglwyddo ased, yn hytrach na galluogwr. Yn hytrach awgrymodd Gareth y dylid cefnogi sefydliadau yn gynnar yn y proses er mwyn sicrhau eu bod yn cael mynediad i’r wybodaeth a’r arbenigedd cywir a chyfle go iawn i lwyddo.

Amlygodd Gareth hefyd y broblem capasiti mewn cyd-destun arall, sef y ffaith bod TUPE hefyd yn fater i sefydliadau cymunedol. Nid yw sefydliadau gwirfoddol bach fel arfer mewn sefyllfa i gynnig yr un termau â’r sector cyhoeddus i’w staff. Eto, drwy weithio gyda’r sefydliad cymunedol ar gam cynnar, llwyddwyd i’w helpu i oresgyn y problemau sydd ynghlwm wrth hyn.

Richard Davies o GAVO

Richard Davies o GAVO

Yn ystod fy ngalwad ffôn gyda Michelle, soniodd am bwysigrwydd bod yn hyblyg yn ystod y broses. Roedd yr adeilad ar fin cau, ond o ganlyniad i ddatganiad o ddiddordeb i’r cyngor, rhoddwyd trwydded i’r sefydliad ddefnyddio’r lle. Rhoddodd y drwydded hon gyfle i ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái) weithio ochr yn ochr â’r sefydliad. Roedd hyn yn golygu ei bod yn bosibl i’r sefydliad ddatblygu cyfres o weithgareddau, a arweiniodd at roi cynllun busnes at ei gilydd a rhagweld costau’n well.

Soniodd Michelle hefyd am ba mor hanfodol oedd cyfathrebu parhaus rhwng y cyngor a’r sefydliad cymunedol er mwyn sicrhau bod y ddau sefydliad yn gwybod lle maent yn sefyll. Mae cyfathrebu wedi gwella ers i’r cyngor penodi swyddog sydd wedi’i neilltuo i roi cymorth, a dylai hyn symleiddio’r proses yn y dyfodol. Mae hefyd yn wych bod Llawlyfr Camu Fyny ar gyfer datblygu a rheoli gwasanaethau ac asedau wedi cael ei lunio. Credaf fod yr iaith a ddefnyddir yn y pecyn cymorth yn wych – mae’n hawdd ei deall ac mae’r pecyn yn hawdd ei ddefnyddio, ac mae hyn o gymorth mawr gan fod y broses ei hun yn gallu bod yn gymhleth.

Bydd sefydliadau’r sector cyhoeddus o dan bwysau ariannol am gryn amser, felly mae’n debygol y caiff rhagor o asedau eu trosglwyddo i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn dysgu gwersi o ddulliau gweithredu ein gilydd er mwyn i ni sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r asedau hyn ar gyfer cymunedau ledled Cymru.

Dyfrig