Archifau Misol: Chwefror 2015

Sut gallwch chi wella’ch cynllunio ar gyfer eich Gweithlu Gofal Cymdeithasol?

Yn 2011/12 nododd arolygiadau Estyn ac AGGCC bod angen i Gyngor Sir Penfro mynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â chadw a recriwtio gweithwyr cymdeithasol. Isod, mae Anne Nicholson yn trafod sut mae’r cyngor wedi mynd ati i wneud hynny.

Pembrokeshire County Council / Cyngor Sir PenfroGwnaethom waith ymchwil sylweddol ar recriwtio a chadw, llwyth gwaith a chymorth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol. Daeth i’r amlwg o’r gwaith ymchwil hwnnw fod gennym nifer uchel o weithwyr cymdeithasol sy’n gwerthfawrogi’r ffaith eu bod yn byw a gweithio yn Sir Benfro ac sydd am barhau i weithio i’r Awdurdod. Wrth gwrs, mae hyn yn rhinwedd, fodd bynnag, adroddodd y rhain nad oedd y manteision o weithio a byw yn y sir yn cyfiawnhau’r ddadl dros “y gyfradd gyffredinol ar gyfer y swydd” a’r angen am lwyth achosion y gellir ei reoli. Mae gennym nifer uchel o ymarferwyr profiadol sydd â sgiliau priodol ac sydd wedi ymrwymo i weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Nododd y pwyllgor Trosolwg a Chraffu y dylid gwneud y broses o recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol yn flaenoriaeth ar gyfer Sir Benfro gan ei gwneud yn eitem barhaus ar eu hagenda, a bydd adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y gwaith hwn yn cael eu cyflwyno.

Dewiswyd y prosiect cynllunio’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol fel un o Gytundebau Canlyniadau Sir Benfro ar gyfer 2013-2016. Yn ogystal â bod yn flaenoriaeth i Gyngor Sir Penfro, dangosodd gysylltiad clir â Thema Strategol Rhaglen Lywodraethu Cymru ar gyfer Trechu Tlodi. Roeddem yn credu y byddai canlyniadau plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n bwy mewn tlodi yn gwella drwy ddarparu gwasanaeth gofal cymdeithasol proffesiynol effeithiol gan weithlu gofal cymdeithasol wedi cymhwyso a hyfforddi’n ddigonol. Dyma sut aethom ati i gyflawni hyn:

  • Datblygu model ar gyfer recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol
  • Datblygu mecanweithiau effeithiol i atgyfeirio plant a theuluoedd i’r prosiect Dechrau’n Deg er mwyn derbyn cymorth arbenigol.

Gyda’i gilydd, mae’r broses o adolygu cyflogau a graddfeydd a’r broses o ddatblygu technolegau er mwyn helpu i recriwtio wedi profi’n ffordd lwyddiannus o arwain gwelliannau yn y maes hwn. Yn sgil ategiad y farchnad a chanlyniadau’r Adolygiad o Gyflogau a Graddfeydd cafwyd cynnydd yng ngraddfeydd y cyflogau cychwynnol a’r cyflogau uwch yn Sir Benfro gan wneud Sir Benfro yn fwy cystadleuol. Mae nifer y swyddi gwag ar gyfer gweithwyr cymdeithasol wedi lleihau 88%; mae nifer y staff asiantaeth sy’n angenrheidiol wedi gostwng 60% ac mae lefel trosiant cyffredinol wedi gostwng.

Rydym wedi gostwng costau drwy symud oddi wrth ddulliau hysbysebu mwy traddodiadol ac, yn aml, mwy costus (sy’n rhan o’n strategaeth gyffredinol ar gyfer recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol) ac wedi recriwtio ymgeiswyr yn llwyddiannus drwy ddulliau hysbysebu newydd e.e. drwy YouTube, Google, Facebook a LinkedIn.

Erbyn hyn, mae gennym weithdrefn gadarn ar waith ar gyfer cyflogi gweithwyr asiantaeth ac mae’n rhaid cael swydd wag mewn tîm cyn y gellir eu cyflogi.

O Archwilio Ariannol i Gyfnewid Arfer Da

Mae Michelle Davies wedi bod yn gweithio gyda ni yn y Gyfnewidfa Arfer Da. Rydyn ni wedi dysgu lot oddi wrthi hi ei am ei gwaith ac i’r gwrthwyneb. Yn y blog yma, mae Michelle yn dweud wrthym am ei phrofiadau o weithio gyda ni.

Michelle DaviesYn ddiweddar rwyf wedi cwblhau prosiect Arfer Da lle gwnes i helpu i gyflwyno’r Webinar Wynebu Heriau Ariannol (a gallwch wylio hwn yn llawn ar Vimeo). I’r rhai ohonoch nad ydych yn fy adnabod i, fel arfer rwy’n gweithio yng Nghlwstwr Archwilio Ariannol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio ar y pethau cyffrous – Cyfrifon Llywodraeth Leol ac Iechyd!

Felly, pam oeddwn i’n awyddus i gymryd rhan

Roeddwn yn chwilfrydig ac yn anwybodus ynghylch yr hyn oedd yn digwydd gyda Thîm y Gyfnewidfa Arfer Da, beth maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw yn ei wneud, pa gylchoedd y maent yn symud ynddynt, beth yw eu nodau yn ein sefydliad? Ar ôl gweithio ym maes Archwilio Ariannol yn y Gorllewin am dros 10 mlynedd, roeddwn yn ysu am newid. Roedd mynd allan mwy, a hyd yn oed gweithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd yn newydd.

Dysgais lawer o sgiliau newydd, o wahanol ddulliau i ymchwilio i bynciau nad oedd gen i ond ychydig wybodaeth amdanyn nhw neu ddim o gwbl. Ac o ran y cyfryngau cymdeithasol, wel byddai’n saff dweud fy mod ychydig yn rhydlyd; roedd angen i mi symud gyda’r oes ac roedd yr addewid o gael fy nysgu sut i ‘drydar’ yn apelio. Onid ydych chi jyst wrth eich bodd pan fydd pobl yn dweud “mae’n hawdd?”

I weithio’n wahanol weithiau mae’n rhaid i chi weithio gyda phobl wahanol. Er ei fod ychydig yn frawychus ar y dechrau, byddwch yn dysgu’n fuan am bersonoliaethau a disgwyliadau. Gallwch ddysgu cymaint oddi wrth bobl eraill, mae rhyw fath o hyder mewnol yn dechrau tyfu wrth i chi drafod syniadau gyda chydweithwyr a rhannu eu profiadau a’u cyffro.

Yr hyn a ddysgais i

Ymchwilio
Yn gyntaf roedd rhaid i mi ymchwilio i’r pwnc, drwy syrffio’r we, darllen drwy’r adroddiadau cyfredol perthnasol, unrhyw gynadleddau, seminarau, nodi siaradwyr posibl a chynhyrchu dogfen gwmpasu i’w chyflwyno gyda fy nghanfyddiadau a nodi’r themâu allweddol i’w trafod.

Briffio
Gyda fy neunydd ymchwil, eisteddais a thrafodais fy nghanfyddiadau gydag Ena ac Anthony Barrett i gytuno ar deitl mwy siarp ac i ddynodi siaradwyr a oedd yn gallu trafod arfer da cyfredol, perthnasol a nodwyd o fewn y sector cyhoeddus. Dysgais pa mor bwysig yw ystyried a yw’r teitl yn dweud yr hyn y mae’n ei wneud ar y tun?

Cynhaliais fy sesiwn briffio gyntaf gyda Guy Clifton o Grant Thornton dros y ffôn. Esboniais strwythur, fformat ac amseroedd y webinar gan gymryd oddi arno faterion cadw tŷ ychwanegol i’r tîm GPX eu cadarnhau.

Cyfryngau Cymdeithasol, h.y. amserlenni trydar a thrydar byw
Cefais wers mewn trydar a gofynnwyd i mi drydar yn fyw mewn ychydig o seminarau, gan helpu’r tîm GPX pan oeddent yn brin o staff neu mewn digwyddiad mwy lle roedd nifer o weithdai yn cael eu cynnal yr un pryd. Ond doedd gwers mewn trydar, fe wnes i ddarganfod, ddim bob amser yn mynd i sicrhau fod pethau’n mynd yn esmwyth ar y diwrnod!

Hyder i wneud y gwaith
Ymmmm, beth ddylwn i ei wneud nawr, beth ddylwn i ei wneud nesaf, ydw i’n gwneud hyn yn iawn, fy holl bryderon a rhan o’r gromlin ddysgu. Byddai Ena yn gwenu arnaf ac yn dweud, be’ wyt ti’n feddwl, dyweda wrtha i be’ wyt ti’n deimlo, be’ fyddai dy ddewis greddfol? Nawr ewch a gwnewch e’!

Ymddygiadau
Mae’r tîm GPX yn defnyddio ffordd wahanol o weithio, mae angen iddynt fod yn gallu amrywiaeth fawr o bethau o fewn y tîm. Byddwch yn dysgu gweithio tuag yn ôl. Mae’r tîm yn gwybod yr hyn y maen nhw am ei gyflawni, felly sut maen nhw yn cyrraedd yno, mae eu ffocws ar effaith.

Y da, y drwg a’r hyll

Fe wna’ i’r hyll yn gyntaf – wrth helpu ar seminar allanol yn benodol i drydar yn fyw, fe gysylltais â’r WiFi, iawn. Eisteddais ym mlaen y gynulleidfa yn gwrando ar Huw Vaughan Thomas yn cyflwyno ei araith agoriadol – rydw i wedi fy nghysylltu, ond hei – dim gwe! Beth bynnag roeddwn i yn ei drio doedd o jyst ddim yn gweithio! Ar ddiwedd yr araith agoriadol llwyddais i dynnu sylw Dyfrig, ac yn wyrthiol fe gysylltodd fy mheiriant, yn lwcus iawn! I ddal i fyny fe ddechreuais gopïo a gludo o amserlen trydar – ond wnâi e ddim gweithio! Cymerodd tua 15 o ymdrechion gyda’r tymheredd yn codi cyn i mi sylweddoli fod yna ormod o nodau! Iawn – doedd yna ddim stopio arna’ i nawr … ond byddai pob llun a gymerwn o’r siaradwyr i’w lanlwytho gyda’u negeseuon allweddol yn ymddangos wyneb i waered! Dim lluniau felly!

Y drwg – wel mewn gwirionedd does gen i ddim unrhyw brofiadau gwael, hyd yn hyn maent i gyd wedi bod yn dda neu’n hyll, ac mae hyd yn oed y profiad hyll yn ddoniol nawr. Rydych yn dysgu o’ch profiadau ac rydw i wedi gwneud hynny, ac fe aeth y trydar byw yn y webinar yr wythnos ddiwethaf yn iawn – diolch byth!

Y da – Rydw i wedi mwynhau fy mhrofiadau yn fawr iawn, rwyf wedi dysgu set newydd o sgiliau ac ennill hyder mewnol ac angerdd nad oedd yno o’r blaen. Rwyf wedi bod yn ffodus i gyfarfod llawer o bobl o bob lliw a llun, gydag amrywiaeth o sgiliau a phersonoliaethau, rhai ohonynt yn drawiadol, rhai yn gwneud i chi deimlo’n ostyngedig, rhai yn ysbrydoledig, a rhai yn awyddus ac yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth unrhyw un arall sydd am gymryd rhan

Ewch ati! – Wnewch chi ddim difaru ac os oes gennych unrhyw bryderon galla’ i’ch helpu i’w goresgyn. Mae rhannu gwybodaeth fel hyn yn bwysig i ddyfodol ein sefydliad a’n gwasanaethau cyhoeddus.

Gweithio Gyda’u Gilydd: Pwyllgor Materion Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru

Enillydd gwobr Arweinyddiaeth Newid Eithriadol yn Gynhadledd Flynyddol Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan oedd y Pwyllgor Materion Cenedlaethol. Isod mae Christian Hadfield yn esbonio mwy am ei waith.

Logo Pwyllgor Materion Cenedlaethol

Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wedi gwneud ymrwymiad i sicrhau bod pobl Cymru yn parhau i gael Gwasanaeth Tân ac Achub o’r radd flaenaf, gwasanaeth y gellir ymfalchïo ynddo, a gwasanaeth sy’n seiliedig ar welliant parhaus ac sy’n darparu gwasanaeth gwerth am arian. Mae’r pwysau economaidd presennol yn gosod heriau newydd i bob sefydliad a bwriad y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru yw ymateb yn uniongyrchol i’r heriau hyn. Er mwyn gwneud hyn, sefydlwyd Pwyllgor Materion Cenedlaethol, sydd newydd nodi ail flwyddyn o lwyddiannau.

Mae’r Pwyllgor Materion Cenedlaethol yn dîm arweinyddiaeth deinamig sy’n cynnwys Penaethiaid a Dirprwy Benaethiaid y Gwasanaeth Tân ac Is-Gadeiryddion y tri Awdurdod Tân ac Achub, a’u nod yw adeiladu ar y cyfleoedd i gydweithredu a manteisio i’r eithaf arnynt er mwyn sicrhau gwell gwasanaethau cynaliadwy, arbedion a manteision economaidd yn ogystal â chadw cymunedau Cymru yn ddiogel ar yr un pryd.

Mae meysydd allweddol ar gyfer cydweithredu wedi’u nodi fel cyfleoedd posibl i ymateb i’r heriau hyn. Mae arweinwyr prosiectau wedi’u henwebu i ganolbwyntio ar y meysydd allweddol hyn ac i gyflwyno adborth i’r Pwyllgor Materion Cenedlaethol ar wireddu’r cyfleoedd newydd. Bydd y blynyddoedd nesaf yn rhoi’r arweinyddiaeth ar brawf ac yn ein hannog i ystyried ffyrdd newydd o weithio, gan fanteisio ar ein cryfderau creadigol a’r gallu i addasu fel Gwasanaeth, fel rydym wedi llwyddo i’w wneud yn ystod y ddwy flynedd ers cyflwyno tîm y Pwyllgor Materion Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Materion Cenedlaethol wedi cydnabod y bydd y meysydd allweddol ar gyfer cydweithredu yn effeithio ar bawb, ac maen nhw’n archwilio pob agwedd ar ein gwaith er mwyn sicrhau bod Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn cyflawni agenda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau gwasanaethau cyhoeddus gwell, mwy effeithlon, sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion.

Gydag arweinyddiaeth arloesol gref, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru yn goresgyn yr heriau sy’n cael eu hwynebu gan hefyd barhau i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf. Mae’r cryfderau arloesol a’r gallu i addasu i amgylchiadau sy’n newid yn sicrhau dyfodol y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ac yn ei lywio.

O’r cychwyn cyntaf, mae’r Pwyllgor Materion Cenedlaethol wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod gan bawb y wybodaeth ddiweddaraf am ffrydiau gwaith y Pwyllgor, gydag adroddiadau cynnydd, gwybodaeth reolaidd a briffiau drwy dudalen ar y we a thrwy sianeli cyfathrebu da, gan gynnwys defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Mae arweinyddiaeth gadarnhaol y Pwyllgor Materion Cenedlaethol wedi arwain at dimau brwdfrydig yn gweithio’n galetach nag erioed i gyflawni nodau pob maes cydweithredol, a meithrin cysylltiadau gwaith cryfach rhwng y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru gan ymateb yn uniongyrchol i’r gofynion a’r heriau economaidd cyfredol.

Ein siwrnai ni gyda Yammer – sut rydym wedi gweithredu rhwydwaith cymdeithasol ar gyfer menter yn Swyddfa Archwilio Cymru

Rydyn ni wedi cael sawl trafodaeth ar-lein ac all-lein yn ddiweddar am sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio rhwydweithio cymdeithasol i wella cyfathrebu mewnol. Mae Mark Stuart Hamilton wedi ysgrifennu blogbost i ni am sut rydym yn ei ddefnyddio a sut rydym wedi ei roi ar waith.

The Wales Audit Office Intranet, with a Yammer feed on the right hand side / Intranet Swyddfa Archwilio Cymru, gyda ffrwd Yammer ar y dde

Mewnrwyd Swyddfa Archwilio Cymru, gyda’r ffrwd Yammer ar y dde

Rydym wedi cyflwyno Yammer yn Swyddfa Archwilio Cymru yn ddiweddar – at ddefnydd mewnol. Fel y cyfryngau cymdeithasol eraill, mae Yammer yn llwyfan ble mae pobl yn gallu anfon negeseuon i’w gilydd, cynnal sgyrsiau a rhannu gwybodaeth yn well.

Y gwahaniaeth rhwng Yammer a llawer o rwydweithiau cymdeithasol eraill yw bod Yammer wedi’i gynllunio’n benodol gyda ffocws ar fusnes.

Roeddem wedi bod yn ystyried lansio llwyfan cyfryngau cymdeithasol mewnol ers peth amser, ond roedd yn anodd dod o hyd i amser priodol. Ar ôl ailgynllunio ein mewnrwyd, edrychwyd ar y syniad eto.

Roedd gan ein hen fewnrwyd system o’r enw post-its ac roedd pobl yn gallu anfon negeseuon byr i’r dudalen flaen. Canolbwyntiodd y trafodaethau gwreiddiol ar ehangu’r system honno (fel targedu post-its at grwpiau penodol o bobl). Ond, yn fuan iawn, gwelsom fod angen ateb arall.

Ystyriwyd sawl opsiwn ac, ar ôl adolygu gofalus, cytunwyd y byddem yn dewis Yammer.

Mae gan Yammer fersiwn menter y telir amdano a fersiwn am ddim. Mae’r fersiwn menter yn cynnig mwy o adnoddau gweinyddol, ond roedd y fersiwn am ddim yn ddigon da i ni at bwrpas profi. Felly, sefydlwyd y fersiwn am ddim gennym, ynghyd â grŵp peilot bychan.

Ar y dechrau, roedd y peilot yma’n cynnwys pobl a oedd wedi gofyn am system fel Yammer yn bennaf, oherwydd byddent hwy’n fwy parod i ddechrau trafodaethau newydd a rhoi bywyd yn y system. Roeddem eisiau gweld cymaint o gynnwys â phosib ar Yammer cyn y lansiad, fel bod pobl yn meddwl am Yammer fel rhywbeth y mae eraill yn ei ddefnyddio’n ddyddiol – nid rhywbeth i ddefnyddio llawer arno am y diwrnod neu ddau cyntaf ac wedyn anghofio amdano. Yn unol â’r athroniaeth hon, cafodd y peilot ei ehangu dros amser, fel bod mwy a grwpiau a chynnwys yn cael eu creu.

Wedi dweud hynny, roeddem dal eisiau creu heip ar gyfer y prif lansiad a chyffroi pobl – i annog cymaint o staff â phosib i ymuno unwaith y byddai wedi’i lansio’n swyddogol. Mae gennym ddwy sgrin deledu yn y swyddfa yng Nghaerdydd sy’n dangos newyddion corfforaethol ar sioe sleidiau. Newidiwyd un o’r sleidiau hyn i ddarllen “Stop! Yammertime” a gosodwyd posteri gydag MC Hammer a’r un arwyddair arnynt o amgylch yr adeilad.

Ar y dechrau, ni chafodd unrhyw wybodaeth arall am Yammer ei darparu. Roeddem eisiau creu trafodaeth a rhyw deimlad o ddirgelwch. Gydag amser, datgelwyd mwy a mwy o wybodaeth, ond y bwriad drwy’r adeg oedd gwneud pobl yn gyson ymwybodol o Yammer, yn hytrach na’i gyflwyno’n gwbl annisgwyl.

Trefnwyd sesiynau hyfforddi i bobl eu mynychu ar sut mae defnyddio Yammer a chael y gorau ohono. Roedd rhai staff yn amheus o Yammer i ddechrau ac rydym wedi gweithio’n galed i ddangos sut gall Yammer fod yn fuddiol i fusnes, i rwydweithio ac ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol gyda chydweithwyr. Er hynny, mae’n werth nodi bod marchnata Yammer fel “Facebook i fusnesau” yn debygol o greu adwaith mwy anffafriol gan bobl nad ydynt yn defnyddio Facebook (neu gyfrwng cymdeithasol arall) neu ddim yn ei hoffi.

Ychydig wythnosau ar ôl hysbysebu Yammer i ennyn diddordeb, ac ar ôl cynnal y ‘sesiynau blasu’, lansiwyd ein mewnrwyd ar ei newydd wedd yn swyddogol. Roeddem eisiau integreiddio Yammer yn rhan o’r hafan er mwyn cadarnhau rôl y fewnrwyd ymhellach fel y prif lwyfan cyfathrebu. Bellach mae’r hafan yn cynnwys sgyrsiau Yammer yn y bar ochr.

Yn wreiddiol, roedd bwriad i’r fewnrwyd newydd gynnwys eicon hysbysiadau Yammer, yn dangos nifer y negeseuon Yammer heb eu darllen oedd wedi’u derbyn. Er hynny, wrth ryddhau, ni chafodd yr elfen hon ei chynnwys am resymau technegol. Bydd yn cael ei hychwanegu’n nes ymlaen*.

Hefyd, newidiwyd ein hen system ‘sylwadau’ newyddion am sgwrs Yammer wedi’i hymgorffori ‘ar wahân’. Mae sylwadau Yammer yn darparu dolen awtomatig i’r erthygl sy’n cael ei darllen, diolch i’r protocol Graff Agored.

Cyn i ni lansio Yammer, ein gobaith oedd y byddai’n dod yn iwtopia rhannu gwybodaeth. Byddai popeth bron yn cael ei anfon at grwpiau penodol wedi’u targedu a byddai’r grwpiau hynny’n cael eu gwneud yn gyhoeddus. Byddai hynny’n golygu bod pobl mewn gwahanol feysydd yn gallu cyfrannu at bethau na fyddent yn gwybod amdanynt fel arall.

Yn ymarferol, mae’n anodd dweud faint o wybodaeth sydd wedi’i rhannu, oherwydd fel rheol nid yw pobl sy’n dysgu rhywbeth yn gadael sylw i ddweud eu bod wedi dysgu rhywbeth. Hefyd, nid oeddem wedi rhagweld pa mor bwysig fyddai grwpiau preifat. Mae rhai aelodau o staff yn teimlo’n fwy cyfforddus wrth beidio ag anfon eu negeseuon i’r sefydliad cyfan.

Byddwn yn gwneud ychydig o waith yn fuan i werthuso sut mae’n cael ei ddefnyddio gan staff ac i ddadansoddi’r defnydd, y cyfraddau gweithgarwch a’r gwerth i fusnes.

Ar y cyfan, rydym yn credu bod Yammer yn llwyddiant – yn seiliedig ar yr holl ryngweithio sy’n digwydd – ac rydym yn disgwyl i hynny barhau yn y dyfodol. Yn gyffredinol, mae wedi cael croeso cadarnhaol ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y math o drafodaethau sy’n digwydd.

*Ar gyfer y rhai chwilfrydig yn eich plith, mae’r eicon negeseuon heb eu darllen yn dwyllodrus o anodd ei greu. Yn gryno, mae angen creu ap Yammer, gan ddefnyddio API Yammer i wneud i’r ap ddynwared defnyddiwr drwy gael a storio ei docyn cludwr, ac wedyn cyfrif ei negeseuon heb eu darllen. Mae’r problemau’n gysylltiedig â pherfformiad a’r nod yw eu datrys drwy symud codau penodol ar ochr y cleient.

Gall pethau bach gwneud gwahaniaeth mawr: Bagiau atal gwylanod

Rydym yn aml yn clywed am newidiadau mawr sydd wedi cael eu rhoi ar waith sydd wedi newid gwasanaethau mewn ffordd ddramatig. Ond weithiau gall newidiadau bach gael effaith fawr. Yn y Gynhadledd Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan clywsom am fagiau atal gwylanod Dinbych y Pysgod a’r gwahaniaeth maen nhw wedi gwneud. Dyma Tracy Wornham i esbonio mwy.

Original photo of Tenby by Dave Smith http://bit.ly/1y7cLGH (Creative Commons License) Llun wreiddiol o Ddinbych y Pysgod gan Dave Smith (Trwydded Creatrive Commons)

Llun wreiddiol o Ddinbych y Pysgod gan Dave Smith (Trwydded Creatrive Commons)

Roedd nifer o bryderon yn cael eu codi am sbwriel yn llenwi strydoedd cyrchfannau gwyliau wedi i wylanod ac anifeiliaid eraill ymosod ar fagiau bin du a adawyd allan ar gyfer eu casglu. Yn ogystal â’r ffaith eu bod yn edrych yn flêr ac yn annymunol, mae’n achosi problemau i wasanaethau casglu gwastraff a’r gwasanaethau glanhau strydoedd hefyd. Cysylltodd Cyngor Tref Dinbych-y-Pysgod â Chyngor Sir Penfro yn rhan gyntaf 2014 er mwyn gweld beth y gellid ei wneud i wella’r sefyllfa. Yn dilyn cyfarfod, cytunwyd i dreialu bagiau atal gwylanod amldro.

Beth Wnaethom Ni

Dewiswyd sawl eiddo domestig o fewn ardal fach yn Ninbych-y-Pysgod (sy’n cynnwys chwe stryd) i’w treialu lle’r oedd y problemau gyda bagiau gwastraff du ar eu gwaethaf. Gwnaethom yn siŵr hefyd fod y treial yn cynnwys cymysgedd o aelwydydd gwahanol e.e. tai a fflatiau. Yr un timau casglu gwastraff a glanhau strydoedd a oedd yn gofalu am yr ardal a ddewiswyd hefyd, felly roedd modd cael adborth cyson ganddynt.

Cyflwynodd Cyngor Tref Dinbych-y-Pysgod lythyr i bob aelwyd yn eu gwahodd i gymryd rhan yn y cynllun. Ymatebodd 73 o dai yn gofyn am fagiau. Cychwynnodd y treial ar 2 Mehefin a daeth i ben ar 1 Awst.

Beth Wnaethom ei Gyflawni

Er mwyn mesur pa mor effeithiol oedd y treial, cyflwynwyd holiadur byr un dudalen i bob aelwyd a fu’n cymryd rhan – roedd cyfradd yr ymateb tua 40%. Dim ond un unigolyn oedd ddim am weld y cynllun yn parhau. Ar y cyfan, roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn.

Cawsom farn y gweithwyr casglu gwastraff a gwasanaethau glanhau hefyd, ac unwaith eto roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn.

Mae’r gwaith hwn yn gysylltiedig â dau o’r dangosyddion perfformiad cenedlaethol hefyd, sef:

STS005a Y Dangosydd Glendid

STS005b Canran y priffyrdd a’r tir perthnasol a arolygir sydd â safonau glendid uchel neu dderbyniol. Mae’r dangosydd hwn yn rhan o’n Cerdyn Sgorio Rheolaeth Perfformiad Corfforaethol a chaiff ei fonitro bob chwarter. Cyflwynir y perfformiad data hwn i’n Bwrdd Rheolaeth Corfforaethol a’n Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cabinet a’r Amgylchedd bob chwarter.

Mae’r gwaith hwn hefyd yn cysylltu’n uniongyrchol â’r gwaith o gyflawni un o Brif Ganlyniadau Cyngor Sir Penfro “Gall pobl Sir Benfro fanteisio ar amgylchedd deniadol, cynaliadwy ac amrywiol”.

Y Camau Nesaf

Bydd Cyngor Tref Dinbych-y-Pysgod yn trafod y treial mewn cyfarfod yn y dyfodol. Unwaith y gwyddom y canlyniad, gellir gwneud penderfyniad ynglŷn â chyflwyno’r cynllun yn ehangach.

Cydweithredu a Gweithio ar Draws Ffiniau: Canolfan Gofal Iechyd a Lles Bae Colwyn

Pan wnaethon ni clywed am Ganolfan Gofal Iechyd a Lles Bae Colwyn yng Ngwobrau Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan, roedden ni’n gwybod yn syth ein bod ni eisiau rhannu beth maen nhw wedi gwneud. Bydd John Hardy yn cynnal gweithdy ar eu gwaith yn ein seminar Tai a Chwaraeon: Gwella lles a darparu gwell gwerth am arian cyhoeddus ar 3 Mawrth yng Nghaerdydd a 26 Mawrth yn Llanrwst, a gallwch glywed mwy am eu gwaith isod.

Colwyn Bay Health Care and Wellbeing Precinct / Canolfan Gofal Iechyd a Lles Bae ColwynMae’r prosiect, a oedd yn bartneriaeth yn wreiddiol, rhwng Gwasanaethau Therapi a thrwy’r rheiny Ymddiriedolaeth GIG Siroedd Conwy a Dinbych, Age Concern a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a bellach rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi denu cymorth eang gan nifer o asiantaethau yn y maes iechyd a lles cymdeithasol ac fe’i hystyrir yn fenter arloesol sy’n defnyddio gweithgarwch corfforol i atal a rheoli cyflyrau cronig gan felly leihau’r baich ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol statudol.

Mae’r term ‘Canolfan Iechyd’ yn cyfeirio at y broses o ddatblygu man lle gall gweithwyr proffesiynol yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydweithio â gweithwyr cymdeithasol yn y maes hamdden i ddatblygu atebion arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn gwella iechyd dinasyddion Conwy drwy weithgarwch corfforol; boed er mwyn atal afiechyd, ymarfer drwy bresgripsiwn, rheoli clefydau cronig neu adsefydlu ar ôl afiechyd acíwt neu gronig. Mae’r cydweithredu hwn yn cefnogi amrywiaeth eang o ddinasyddion i symud yn ddi-dor o therapi a gefnogir yn feddygol i weithgarwch corfforol yn y gymuned. Fel rhan o esblygiad parhaus y cydsyniad hwn, a chan adeiladu ar waith blaenorol, mae Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg a Gwasanaeth Datblygu’r Gymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cydweithio mewn partneriaeth ar hyn o bryd i ddatblygu rhaglen o weithgareddau, gwybodaeth, cyngor a chymorth lles cymunedol er mwyn galluogi dinasyddion i atal afiechyd a hybu hunanofal a pherchnogaeth unigol o ymyriadau cymorth yn seiliedig ar y sgwrs am yr hyn sy’n bwysig. Wrth symud ymlaen, bydd y dull hwn hefyd yn cael ei gyflawni mewn cydweithrediad â’r trydydd sector a’r sector gofal annibynnol.

Pa effaith y mae wedi’i chael?

Mae grwpiau ac unigolion sydd wedi elwa, a’r rhai a fydd yn gweld mwy o fanteision o ran iechyd o ganlyniad i’r rhaglen Canolfan Iechyd yn cynnwys y rhai sy’n byw â chyflyrau hirdymor a’r rhai sy’n dilyn rhaglen adsefydlu cardiaidd. Mae rhaglenni’r Ganolfan Iechyd yn helpu i fynd i’r afael ag iselder ac unigrwydd ac yn helpu i roi hwb i hyder y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglenni hefyd a chefnogi pobl i barhau’n egnïol a byw yn eu cartrefi eu hunain. Yn y tymor hir, rydym yn gobeithio y bydd y dull hunanofal hwn yn lleihau’r baich hefyd mewn perthynas â’r gofal heb ei drefnu sy’n ofynnol gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Dyma ddwy enghraifft o raglenni sydd wedi’u datblygu ac sy’n cael eu cyflwyno yn y Ganolfan Iechyd:

Thearpi Dŵr/Moddolrwydd Dŵr Cynnes

Mae’r astudiaeth beilot ar gyfer Therapi Dŵr/Moddolrwydd Dŵr Cynnes a gynhaliwyd ar y cyd gan staff hamdden, Gwasanaethau Therapi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gosod y safon ar gyfer y ffordd y dylid cynllunio’r prosiectau hyn a’u rhoi ar waith yn y dyfodol.

Yn dilyn yr astudiaeth, datblygwyd llwybr yn benodol ar gyfer cleientiaid â phoen cronig yn y cyhyrau / cymalau ac mae’n rhoi llawer mwy o fynediad i gleientiaid drwy ddefnyddio cyfleusterau nofio’r awdurdod lleol.

Dementia Cynnar

Mae gan y prosiect dementia cynnar gysylltiad agos â’r Unedau ar gyfer yr Henoed Eiddil eu Meddwl ym Mryn Hesketh a Bodnant. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi datblygu dosbarth ymarfer corff yn benodol ar gyfer cleientiaid sydd wedi cael diagnosis o Ddementia Cynnar.

Mae’r fenter Canolfan Iechyd yn seiliedig ar ymrwymiad i gryfhau gofal sy’n seiliedig ar y gymuned a pherthynas mwy cyfartal rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol. Mae’n gymorth hefyd i newid y berthynas rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a’r cyhoedd, wedi’i nodweddu â phrosesau o wneud penderfyniadau ar y cyd ar gyfer gofal a chymorth gyda dinasyddion er mwyn hyrwyddo ymyriadau priodol yn ogystal â sicrhau gwell canlyniadau iechyd a lles. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd ag egwyddorion cyd-gynhyrchu.