Oes ganddo’ch y bobl iawn ar eich bwrdd?

GovernanceRydyn ni wedi cael cwpl o fisoedd prysur yn nhîm y Gyfnewidfa Arfer Da. Dydyn ni ddim wedi cael y cyfle i ymlacio wrth i Nadolig agosáu, gan fod ni wedi cynnal digwyddiadau ar faterion i ymddiriedolwyr ac ar lywodraethu. Rydyn ni nawr yn casglu’r holl allbynnau at ei gilydd ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n eu hanfon at fynychwyr a’u rhannu drwy gyfryngau cymdeithasol.

Fel tîm rydyn ni’n ceisio sicrhau bod ein digwyddiadau yn cyrraedd cymaint o wahanol sectorau â phosib, gan ein bod ni’n credu bod yna lot y gall pobl dysgu o’i gilydd. Fe wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol pwyntio allan yn sesiwn agoriadol y seminar i Ymddiriedolwyr bod materion llywodraethu ddim yn cael eu cyfyngu i fudiadau mawr neu fach.

GovernanceRoedd e’n ddiddorol iawn i weld materion cyffredin yn cael eu codi yn y seminar Ymddiriedolwyr, lle’r oedd pobl yn bennaf o grwpiau elusennol a chymunedol, a’r digwyddiad Llywodraethu, lle’r oedd y rhan fwyaf o bobl yn aelodau bwrdd neu staff o’r sector cyhoeddus.

Fe wnes i hwyluso sesiwn Grant Thornton ar ‘Ymagweddau at lywodraethu o bell‘ yn y digwyddiad ar lywodraethu. Yn y drafodaeth ar ôl y cyflwyniad clywsom o gwpl o bobl ynglŷn â sicrhau bod ganddynt y bobl gywir ar y bwrdd.

Mae yna lot o adnoddau ar ein Bwrdd Pinterest i Ymddiriedolwyr sy’n ymwneud â hyn. Yn 2013 fe wnaeth Norma Jarboe cyflwyniad ar Fyrddau Cytbwys, ac yn dilyn y gweithdy hynny fe wnaethon ni recordio podlediad byr gyda Ray Singh o Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a wnaeth trafod byrddau sy’n seiliedig ar eu sgiliau.

Yn nigwyddiad eleni, fe wnaeth Anna Bezodis o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac Alex Swallow o Ymddiriedolwyr Elusennau Ifanc cynnal gweithdy ar gael y bobl iawn ar eich bwrdd a chynllunio olyniaeth. Mae yna bwyntiau grêt yn y cyflwyniad am nodi’r sgiliau sydd ar gael ar eich bwrdd. Rhannodd Vicky Holberry o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam templed defnyddiol ar gyfer archwiliad sgiliau, sy’n gallu cael ei ddefnyddio i nodi bylchau sgiliau eich bwrdd.

Y neges glir yw gallwn gyflawni lot trwy rannu a chydweithio. Rydyn ni’n rhannu’r rhestr o gynrychiolwyr gyda phawb a fynychodd y seminar fel bod pobl yn gallu rhannu arfer da a phynciau ble hoffan nhw ddysgu mwy. Gobeithio bydd y dysgu trawsfudiad a thraws-sector yn parhau, ac wrth gwrs fe wnawn ni rhannu unrhyw arfer da sy’n amlygu ei hun ar hyd y ffordd.

Dyfrig

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s