Archifau Misol: Awst 2014

Craffu ariannol mewn cyfnod heriol

Craffu

Mae’r naw mis ers Seminar Dysgu a Rennir Goleuni ar Graffu wedi hedfan heibio, ac mae lot wedi digwydd ers hynny. O Ddigwyddiad Her Gwent, a wnaeth cynnwys Peter Watkin Jones (uchafbwynt y gynhadledd craffu i lot o bobl), i ScrutinyCamp, yr anghynhadledd i weithwyr craffu proffesiynol a chynghorwyr.

Rydyn ni hyd yn oed wedi cael canllaw ar graffu ariannol mewn cyfnod heriol gan y Ganolfan Craffu Cyhoeddus, a gefnogwyd gan Grant Thornton. Mae Disgwyliadau Uwch: Craffu ariannol mewn cyfnod heriol yn rhoi cyngor ar sut gall craffu wella’r ffyrdd mae cynghorau yn rheoli eu harian a gosod eu cyllidebau.

Disgwyliadau Uwch

Mae’r canllaw yn ddefnyddiol iawn gan ei fod e’n edrych ar beth allai’r dyfodol edrych fel i gynghorau Cymreig. Mae fe hefyd yn cynnwys adnoddau defnyddiol i wella’r ffyrdd mae mudiadau’n gweithio. Er enghraifft, sut i wella cyfranogiad dinasyddion drwy weithio i’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru.

Gan fod ni’n gweithio i rannu arfer da, cawsom ein taro gan yr astudiaethau achos. Mae ‘na lot o enghreifftiau o waith da o fewn y canllaw. Mae’r rhain yn cynnwys sut wnaeth Cyngor Sir Swydd Buckingham cwestiynu tystion yn effeithiol (gallwch wylio trafodaeth y pwyllgor ar ymateb y cabinet i argymhellion craffu’r cyllideb), a sut wnaeth Cyngor Caerdydd asesu eu hanghenion hyfforddi. Mae’r arolwg o’r asesiad ar gael fel atodiad defnyddiol yn y ddogfen.

Mae’r canllaw hwn yn un o nifer o adnoddau defnyddiol rydyn ni wedi ychwanegu i’n bwrdd Pinterest ers digwyddiad Goleuni ar Graffu. Byddwn yn ychwanegu ato rhain wrth i ni ddod ar draws enghreifftiau pellach. Pa adnoddau craffu da chi’n ffeindio’n ddefnyddiol? Cysylltwch â ni os ydym wedi anghofio am rywbeth, carwn ni rhannu nhw ymhellach.

Dyfrig

Gall ariannu torfol helpu i ail-lunio gwasanaethau?

Ail-lunio gwasanaethau gyda'r CyhoeddFel rhywun sydd ddim yn gwybod ystyr y gair ‘gwyliau’, mae Chris Bolton, Rheolwr y Gyfnewidfa Arfer Da, yn dysgu am waith y Comisiwn Gwarantau yn Nova Scotia.

Mae’r comisiwn wedi bod yn gwneud bach o waith ar ariannu torfol yn ddiweddar, gan fod nhw’n edrych i gynnig eithriadau fel bod busnesau bach a chanolig yn gallu codi arian mewn ffordd newydd. Mae fe hefyd yn golygu bod gan fuddsoddwyr ffordd arall o fuddsoddi ynddynt. Maen nhw wedi bod yn cynnal sesiynau gwybodaeth i’r cyhoedd er mwyn ffeindio allan barn pobl.

Crowdfunding / Ariannu Torfol

Ariannu torfol yw lle mae prosiect yn cael ei ariannu trwy gyfraniadau o nifer fawr o bobl, fel arfer dros y rhyngrwyd. Fel ffan mawr o gerddoriaeth, rydw i ‘di cymryd rhan mewn ychydig o ymarferion ariannu torfol, lle mae cerddorion yn edrych i gynhyrchu gwaith byddai ddim yn gweld golau dydd fel arall. Dim ond un enghraifft yw hynny – mae ‘na gymaint o brosiectau rhyfedd a rhyfeddol, o lyfr coginio da’r thema o facwn i gerflun pwmpiadwy tri metr uchel o ben Lionel Richie.

Ydy e’n bosib i wasanaethau cyhoeddus gymryd rhan mewn ariannu torfol? Mae ariannu torfol wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae yna sawl platfform gwahanol, o IndieGoGo i Kickstarter. Yn y dyfodol agos fe fydd Heliwm yn cael ei lansio hefyd, sydd yn ffocysu ar brosiectau creadigol a digidol yn y Gymraeg. Mae’n ddiddorol gweld bod yna hyd yn oed platfform ar gyfer prosiectau dinesig, sef Spacehive. Mae fe eisoes ‘di cael ei ddefnyddio i lenwi’r bwlch cyllid yng Nghanolfan Gymunedol Glyncoch, lle bydd canolfan gymunedol newydd yn cael ei hadeiladu i gwrdd ag anghenion y gymuned.

Mae Nesta wedi gofyn rhai cwestiynau allweddol yn y blogbost yma – oes ‘na pherygl bydd arian torfol yn cymryd lle arian cyhoeddus? Ydyn e’n bosib i ariannu torfol gweithio ar gyfer gwasanaethau a chynnyrch? Mae’r rhain yn gwestiynau pwysig iawn i’w gofyn. Ond maent hefyd yn edrych ar bwyntiau cadarnhaol, a hoffwn ychwanegu un arall – gallai hwn newid y berthynas rhwng darparwyr a phobl sy’n derbyn gwasanaethau?

Yn y Gyfnewidfa Arfer Da rydym yn cydnabod bod rhaid i wasanaethau cyhoeddus newid y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu darparu a gan bwy. Rydyn ni eisoes wedi gweld hynny yn ein seminar dysgu a rennir ar Ail-lunio Gwasanaethau yng Nghaerdydd, lle wnaethon ni arddangos gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu darparu gan ymddiriedolaethau, y sector gwirfoddol a chynghorau cymuned. Yn yr un seminar dywedodd Tony Bovaird wrthym fod chwe miliwn o bobl yn gweithio i wasanaethau cyhoeddus, a bod yna chwe deg miliwn o ddinasyddion yn y Deyrnas Unedig. Serch hyn, mae cydbwysedd y grym yn dal i ffafrio’r lleiafrif. Gallai ariannu torfol helpu i newid y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweld pobl, fel bod nhw ddim yn cael eu gweld fel derbynwyr diolchgar, ond yn hytrach fel pobl sydd â rhan allweddol i chwarae mewn gwasanaethau cyhoeddus?

Felly os oes angen i chi ail-lunio gwasanaeth a da chi eisiau cael syniadau am ddulliau gwahanol, byddwn yn cynnal seminar arall yn Llanrwst ar 18 Medi. Ar hyn o bryd mae gennym naw lle ar ôl. O’n cyflwyniadau diweddar i rwydwaith Gweithio Gyda Nid I, ni’n gwybod bod ‘na lot o bobl yn yr ardal sy’n teimlo’n gryf bod angen rhoi cyd-gynhyrchu ar waith. Ni’n edrych ‘mlaen i ddysgu mwy am sut mae’r berthynas rhwng y rhai sy’n cyflwyno ac yn derbyn gwasanaethau yn cael ei newid yng Ngogledd Cymru.

Dyfrig

GovCamp Cymru

GovCamp Cymru

Y blwyddyn yma bydd y Gyfnewidfa Arfer Da yn cefnogi GovCamp Cymru, sydd yn anghynhadledd i bobl sy’n gweithio mewn, neu gyda gwasanaethau cyhoeddus Cymreig. Nod y digwyddiad yw i dod â phobl at ei gilydd a gwella darpariaeth a datblygiad gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn gweithio i rannu gwybodaeth ac arfer da yng ngwasanaeth cyhoeddus, felly mae hyn yn ddigwyddiad delfrydol i ni gefnogi.

Gan bod ni di cefnogi Diwrnod Hacio’r GIG yng Nghaerdydd, ni ‘di gweld beth sy’n digwydd ein hunain pan mae gan bobl sydd ‘da angerdd am eu gwaith yr amser a’r cyfle i’w wella. Cafodd lot o syniadau gwych eu datblygu yn ystod y penwythnos, gan gynnwys y defnydd o iPads i ganfod symudiad y llygaid, a gwella’r dysgu sy’n deillio o archwiliadau gwella ansawdd.

Mae ‘na anghynhadleddau ysbrydoledig wedi cael eu cynnal yn barod eleni, gyda lot o adnoddau defnyddiol yn dod o LocalGovCamp. Mae’r digwyddiad yma mewn sefyllfa da i adeiladu ar ychydig o’r dysgu ohono, achos cafodd LocalGovCamp ei noddi gan y Satori Lab, sy’n rhedeg GovCamp Cymru. Mae’r erthygl hon yn y Guardian am LocalGovCamp gan Sarah Lay yn werth darllen – a wneith yr un themâu allweddol amlygu eu hunain yng Nghymru?

Ffoto a gyhoeddwyd o dan drwydded Creative Commons gan Delweddau BlackBerry Swyddogol (https://www.flickr.com/photos/blackberryimages/8032817785/)

Ffoto a gyhoeddwyd o dan drwydded Creative Commons gan Delweddau BlackBerry Swyddogol

Ar dudalen Esbonio GovCamp Cymru, mae ‘na ychydig o wybodaeth am sut gallai pobl cynnig sesiynau. Fe wnai dechrau meddwl am faterion rydw i wedi dod ar draws yn fy ngwaith i. Tybed os fydd unrhyw un yn cyflwyno sesiynau ar gydweithio (fel wnaeth Glen Ockso blogio amdano i We Love Local Government) neu awgrymiadau digidol ar gyfer cynghorwyr (gan Dave McKenna o Abertawe) fel yn LocalGovCamp?

Mae ‘na hefyd ychydig o blogiau grêt yn myfyrio ar natur y digwyddiad, gyda dadl ddefnyddiol ynghylch sut mae’r digwyddiad yn diwallu anghenion y sector. Mae Phil Jewitt wedi ysgrifennu blogbost ar ’ba mor ganolog mae’r cyd-destun digidol i LocalGovCamp, ac mae Kate Bentham wedi pendroni amdano os ddylai hi ‘di mynd. Mae’n wych i weld ymagwedd mor agored, tryloyw a pharchus tuag at adborth a dysgu.

Gyda’r oes ‘ma o lymder a sawl “graph of doom”, ni’n cael ein hatgoffa’n gyson bod gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu heriau anferth. Os oes rhaid i wasanaethau cyhoeddus newid i gwrdd â’u hanghenion, yna ni allwn ddisgwyl i ddigwyddiadau cynorthwyol i aros yr un fath chwaith. Mae’r digwyddiad yma’n digwydd ar adeg bwysig, ac rydym yn edrych ymlaen i weithio ‘da chi gyd i wella gwasanaethau cyhoeddus yn GovCamp Cymru.

Dyfrig