Archifau Misol: Gorffennaf 2014

The Listening Service. Busting Jargon, Including People and Improving the Tweets | What’s the PONT

Chris Bolton has blogged about Barod CIC’s Whispering Service that was used at our Reshaping Services Shared Learning Seminar. You can find out more in his blog, and you can hear Anne discuss it’s use at our event at 01:18 in the below video.

Mae Chris Bolton wedi blogio amdano Wasanaeth Sibrwd Barod CIC a gafodd ei ddefnyddio yn ein Seminar Dysgu a Rennir ar Ail-lunio Gwasanaethau. Gallwch ffeindio allan mwy yn ei blog ef, a gallwch glywed Anne yn siarad amdano ddefnydd y gwasanaeth yn y digwyddiad 01:18 i mewn i’r fideo isod.

The Listening Service. Busting Jargon, Including People and Improving the Tweets | What’s the PONT.

Ail-hawlio cyfrifoldeb personol, ail-lunio gwasanaethau a ariennir yn gyhoeddus a dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda’n gilydd (neu newid yr iâr a’r wy)

Ail-lunio gwasanaethau gyda'r Cyhoedd

Blog gwadd gan Barod CIC cyn ein seminar ar Ail-lunio Gwasanaethau gyda’r Cyhoedd #ReshapeServices

  • Mae rhywbeth yn mynd o’i le. Rydym yn codi’r ffôn neu’n mynd i adeilad ac yn disgwyl i wasanaethau cyhoeddus ddatrys pethau i ni.
  • Mae galw ar wasanaethau cyhoeddus am wasanaeth. Maent yn disgwyl cael penderfynu beth (os unrhyw beth) i gynnig a sut i’w ddarparu.

Iawn, mae elfen o or-ddweud yma. Yng Nghymru, mae rhai pobl a gwasanaethau cyhoeddus eisoes yn ail-siapio eu perthynas. Y gwir amdani yw bod y berthynas rhwng holl wasanaethau cyhoeddus ac aelodau o’r cyhoedd angen newid er lles pawb.

Mae angen i ni gymryd mwy o gyfrifoldeb dros ein hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau, ein cymdogion ac ein cymunedau.

  • Mae angen i wasanaethau cyhoeddus gofio mai gweision ydyn nhw, nid meistri. Mae rhai pethau, megis glanhau strydoedd, all ond gael eu darparu’n gyfunol, ac mae angen iddyn nhw ddarparu’r pethau yma. Mae angen iddyn nhw ein cefnogi ni i fyw ein bywydau heb gymryd perchnogaeth o’n bywydau.

Fel yn achos yr iâr a’r wy, mae’r ddau angen newid, ond pwy sydd angen newid gyntaf? Fel arfer rydyn ni’n clywed straeon am wasanaethau cyhoeddus yn newid, yn annog ac yn gyrru perthynas wedi’i newid. Fe ddechreuodd stori Barod y ffordd groes.

Barod

Cydweithfa i weithwyr yw Barod. Roedd disgwyl i ddau ohonom ddibynnu ar wasanaethau cyhoeddus i’n helpu ni i gael gwaith gan fod gennym anabledd dysgu. Fe roddon ni gynnig arni, ond ni weithiodd hynny. Fe gawson ni wasanaethau i’n paratoi ni, ond y gwir amdani yw ein bod ni eisoes yn barod. Doedd dim pwynt i ni ddisgwyl i wasanaethau cyhoeddus newid. Yn hytrach, fe wnaethon ni gymryd cyfrifoldeb dros ein hunain, ac ar y cyd ag eraill oedd yn rhannu ein gweledigaeth, fe wnaethon ni ddechrau busnes ein hunain – Barod.

Doedd dim modd i ni wneud popeth ein hunain. Roedden ni angen cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol mewn gwasanaethau wedi’u hariannu’n gyhoeddus. Roedden ni angen iddyn nhw wrando, darganfod ffordd o ddarparu’r hyn roedden ni’n gwybod ein bod ni  eu hangen, ac yn bwysicaf oll, credu y gallwn ni lwyddo.

Nid oedden ni’n gallu datblygu’r berthynas yma gyda’r rhan fwyaf o wasanaethau a’u hariennir yn gyhoeddus. Fe roddodd rhai ohonynt restr o beth allent eu cynnig – ond doedd hyn ddim yn cyfateb i’r hyn roedden ni angen. Gydag eraill, byddai’r gost o gael eu cymorth wedi golygu colli rheolaeth dros ein bywydau a chyfeiriad Barod.

Roedd modd i ni gael y berthynas yma gyda dau o wasanaethau wedi’u hariannu’n gyhoeddus. Heb eu cefnogaeth, fe fyddai Barod wedi ei chael hi’n anodd. Ni wnaeth unrhyw un o’r ddau geisio cymryd yr awenau. Ni wnaeth unrhyw un ohonynt geisio gwerthu eu gwasanaethau drwy roi llwyth o esiamplau o arferion da. Fe wnaeth y ddau wrando. Fe wnaeth y ddau weithio gyda ni i ddarganfod atebion. Mae ein dyled ni’n fawr i’r ddau ohonynt. Diolch, Canolfan Cydweithredol Cymru ac Enterprise Mentoring.

Ein negeseuon i eraill:

  • Boed yn iâr neu’n wy, mae’n amser da i fwrw ‘mlaen a gwneud pethau’n wahanol.
  • Mae pobl yn bodoli sydd yn gwneud cynlluniau ac yn cymryd cyfrifoldeb dros eu dyfodol eu hunain, sy’n newyddion calonogol i wasanaethau cyhoeddus.
  • Mae newyddion calonogol i aelodau o’r cyhoedd hefyd, gan fod gwasanaethau cyhoeddus yn bodoli sydd yn fodlon defnyddio eu sgiliau proffesiynol, eu cysylltiadau a’u cyllid er mwyn eich cefnogi chi i gyflawni’r hyn all ymddangos yn amhosib. Efallai y bydd angen i chi ddal i chwilio, ond fe ddewch chi o hyd iddynt.

Swyddfa Archwilio Cymru a Chyd-gynhyrchu

Ail-lunio gwasanaethau gyda'r Cyhoedd

Sut mae gwaith Swyddfa Archwilio Cymru yn cyd-fynd â’r agenda cyd- gynhyrchu yng Nghymru? Ar ddydd Mawrth fe wnes i fynd i Gyfarfod Cyd-gynhyrchu Mawr Ogledd Cymru! i rannu’n gwaith ni.

Cyllid

Pan ddechreuais feddwl am gyd-gynhyrchu ac archwilio, y peth cyntaf meddyliais i amdano oedd perfformiad gwasanaethau cyhoeddus. Ond fe wnes i sylweddoli bod ein gwaith cyllid ni jyst mor bwysig i gyd-gynhyrchu ar ôl i ni gynnal Seminar Dysgu a Rennir gyda Chymdeithas Trysoryddion Cymru dydd Gwener ddiwethaf. Roedd Rhwydwaith Cyfranogi Cymru Gyfan Cyfranogaeth Cymru yn cymryd lle jyst lawr y ffordd, ac er roedd y pynciau’n wahanol, roedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru yn cysylltu’r ddau gyda’i gilydd. Fel mae’r ddogfen yn dweud, “Mae ymgysylltu aneffeithiol â rhanddeiliaid yn golygu efallai na fydd rhai cynghorau’n adlewyrchu anghenion, blaenoriaethau a disgwyliadau eu dinasyddion yn ddigonol.”

Felly gall cyd-gynhyrchu helpu i arbed arian drwy ei dargedu arno feysydd ble byddai’n fwyaf effeithiol. Serch hyn, nodais i yn y digwyddiad bod angen adnoddau er mwyn i gyd-gynhyrchu fod yn wirioneddol lwyddiannus. Clywsom yn ein Seminar Dysgu a Rennir ar Drosglwyddo Tir ac Eiddo bod y defnydd gorau ddim yn cael ei wneud o asedau heb y cymorth cywir.

Cyngor 2025: Y weledigaeth ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru

Ychydig o wythnosau’n ôl, fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru siarad yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ad-drefnu llywodraeth leol. Mae’n werth gwylio’r fideo isod os da chi heb wylio fe o’r blaen, gan mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn cwestiynau pwysig – ble mae’r ddadl yng Nghymru ar ddiben llywodraeth leol? Lle mae’r modelau o ddarparu a chyflawni sy’n sicrhau bod gwasanaethau o’r ansawdd cywir ac yn rhoi’r gwerth sydd angen ar Gymru?

Edrychodd hefyd ar gyd-gynhyrchu yn llywodraeth leol Cymru:

Efallai byddwch yn cofio fy mod i wedi cynnal astudiaeth ar ymgysylltiad cyhoeddus yn llywodraeth leol ychydig o flynyddoedd yn ôl. Doedd yna ddim llawer o enghreifftiau ymarferol o ffyrdd cydweithiol o ymgysylltu. Ers hynny, dydw i ddim wedi gweld llawer o dystiolaeth o symudiad tuag at gyd-gynhyrchu, neu fel y disgrifiwyd yn aml, gweithio gyda nid i.

Y Gymru a Garem

Mae cyd-gynhyrchu hefyd yn thema yn adroddiad canol tymor Bil Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r bil yn her fawr i wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Swyddfa Archwilio Cymru. Yr unig ffordd gallwn sicrhau ein bod ni’n archwilio mewn ffordd sy’n ystyrlon ac yn gymesur yw trwy gyd-gynhyrchu ein hymateb gyda chynghorau. Rydyn ni eisoes wedi dechrau gwneud hyn drwy fwydo adborth o’n Seminarau Dysgu a Rennir ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol i’r gwaith mae Mike Palmer yn arwain arno, ac fe fydd yna mwy o gyfleoedd i chi gadael i ni wybod sut gallwn archwilio’n effeithiol.

Felly beth mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn gwneud i helpu?

Ni’n cynnal seminarau am ddim ar Ail-lunio Gwasanaethau gyda’r Cyhoedd er mwyn helpu gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â hyn. Ni’n wneud beth da ni’n dweud trwy gynnal y digwyddiad ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, Gwasanaeth Gwella 1000 o Fywydau, Canolfan Cydweithredol Cymru ac Arfer Da Cymru.

Sketch notes for the Wales Audit Office and co-production presentation / Nodiadau Braslun ar gyfer cyflwyniad Cydgynhyrchu a Swyddfa Archwilio Cymru

Nodiadau Braslun ar gyfer cyflwyniad Cydgynhyrchu a Swyddfa Archwilio Cymru

Mae’n amlwg bod thema’r digwyddiad wrth ddant bobl, gan fod y digwyddiad yng Nghaerdydd wythnos nesaf yn llawn, ond mae yna rhai llefydd ar ôl ar gyfer y digwyddiad yng Ngogledd Cymru ym mis Medi.

Bydd y seminar yn edrych i rannu profiadau ymarferol o sut gall cydberthnasau gwahanol helpu i ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Byddwn yn defnyddio’r hashnod #ReshapeServices ar y dydd os da chi eisiau dilyn y diwrnod ar Twitter, a byddem wrth ein bodd i glywed o chi am yr hyn sy’n gweithio yn eich ardal chi.

Dyfrig

Mae angen i ni newid y system yn gyntaf

Photo of Simon Pickthall

Simon Pickthall

Blog gwadd gan Simon Pickthall, Vanguard, yn paratoi am ein digwyddiad Ail-lunio Gwasanaethau gyda’r Cyhoedd #ReshapeServices

Mae’r rhan fwyaf o bobl y rheng flaen sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus yn meddwl am gyd-gynhyrchu fel cam cadarnhaol. Fodd bynnag, dro ar ôl tro, rydw i’n cwrdd â phobl sy’n gweithio yn y ffordd yma o dan y radar, neu ymgymryd â gwaith cyffrous ac arloesol er gwaethaf y system y maent yn gweithio ynddi. Yn naturiol, mae hyn yn cyfyngu ar ba mor effeithiol y gallant fod.

Fy nysgu allweddol yw, oni bai eich bod yn newid y system y mae pobl yn gweithio ynddi yn gyntaf, bydd cyd-gynhyrchu drwy’r amser yn wynebu brwydr lan y bryn.

Er enghraifft, rydw i wedi cael y fraint i weithio gyda llawer o bobl ysbrydoledig ym maes gofal cymdeithasol. Fel yr arfer, roeddent wedi ymrwymo i weithio gydag unigolion sydd angen cefnogaeth. Fodd bynnag, roeddent yn cael eu cyfyngu ac, mewn rhai achosion, atal, i ddarparu’r cymorth hwn mewn ffordd gyd-gynhyrchiol gan y system y maent yn gweithio ynddi.

Drwy dreulio amser yn dilyn gwaith drwy’r system o safbwynt y bobl sy’n derbyn cymorth, o fewn chwe diwrnod roeddent wedi datgelu’r problemau sylfaenol yn y system. Darganfyddont nifer o asesiadau a gollodd stori’r person, dangosyddion perfformiad yn gyrru ymddygiad camweithredol, a nifer o atgyfeiriadau rhwng gweithwyr proffesiynol sy’n arwain at faint enfawr o fiwrocratiaeth, gan gynnwys rhai gweithwyr proffesiynol a oedd angen cyfeirio at eu hunain!

Fodd bynnag, y mater sylfaenol dysgon nhw, yw bod y system wedi ei thanategu gan y dybiaeth bod angen i ni ddarparu ‘gwasanaethau’ i ddinasyddion. Gan fod gan y rheng flaen dewislen o wasanaethau y gallent eu cynnig, roedd yr unigolion ymroddedig hyn yn asesu’r dinesydd i ffitio i mewn i’r ddewislen hon. Mae’r system hefyd yn trin pob cais am gymorth fel trafodiad sengl, heb fod mewn sefyllfa i ddeall beth sydd wir yn bwysig i’r unigolyn a’u helpu i gyflawni hyn. Mae hyn, yn ei dro, yn arwain at nifer enfawr o ailgyfeiriadau, fel unigolion yn dychwelyd gan nad yw beth sy’n bwysig iddynt wedi cael ei gyflawni. Y rhagdybiaeth y tu ôl i ddyluniad y system yw bod safoni a bwydlenni yn angenrheidiol i reoli’r gyllideb – yn wir, trwy yw cyfyngu gallu’r system i ddelio ag amrywiaeth, a helpu pobl i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt, mae costau yn parhau i godi. Gwaethygir hyn ymhellach drwy ddarparu gwasanaethau i bobl, yn hytrach na gweithio gyda nhw.

Unwaith iddynt sylweddoli hyn, roeddent mewn sefyllfa i herio’r rhagdybiaethau a oedd wedi arwain at gynllun y system gyfredol. Roeddent, felly, yn awyddus iawn i roi cynnig ar rywbeth gwahanol. Dechreuodd y dull gwahanol â chael sgwrs dda gyda’r dinesydd. Yn hytrach na throi i fyny gydag offeryn cofnodi asesiad, fe wnaethant ofyn amrywiadau o “Beth fyddai bywyd da yn edrych fel i chi?”. Mae’r cwestiwn hwn yn creu atebion hollol wahanol. Yn syml, dywedodd dinasyddion pethau fel: “Hoffwn i fynd i siopa”, ac “Hoffwn barhau i wisgo’n smart”. Heb y cyfyngiad o ddewislen o wasanaethau, roedd y gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd proffesiynol yn gallu meddwl yn greadigol am sut i ddatrys y problemau hyn gyda’r unigolyn, nid dim ond ceisio datrys y broblem ar eu cyfer.

Mae creu system sy’n helpu dinasyddion mynegi beth mae bywyd da yn edrych fel iddynt, a chyd-gynhyrchu dulliau i’w helpu i gyflawni eu bywyd da, yn gwaredu’r anghydbwysedd grym rhwng dinasyddion a’r wladwriaeth. Yn ogystal, mae’n arbed arian.

Isod ceir rhai o’r canlyniadau a gyflawnwyd drwy weithio yn y ffordd hon ym maes gofal cymdeithasol:

  • Gostyngiad o 28% mewn lleoliadau preswyl a gofal nyrsio, ynghyd â gostyngiad mewn oriau gofal yn y cartref – pecynnau gofal ar gyfartaledd wedi gostwng o 12 awr i 9.7 awr yr wythnos.
  • Gostyngiad o 46% mewn cysylltiadau â Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Gyllideb gofal yn y gymuned wedi tanwario (osgoi cost o £1.5 miliwn yn 2013-2014).
  • Gostyngiad o 30% mewn asesiadau.

Mae dogni drwy safoni bwydlen yn gyrru costau, ac yn atal unigolion ymroddedig rhag cofleidio cyd-gynhyrchu. Y neges yw bod angen i ni helpu’r gweithwyr rheng flaen yn y sector cyhoeddus wrth adeiladu perthnasau, nid rhoi bwydlenni iddynt. Mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Locality a Vanguard, yn dangos y gall dros £16 biliwn o arbedion cael eu gwneud ar draws y sector cyhoeddus os rydym yn symud i’r egwyddorion gwahanol hyn. Mae’r adroddiad ar gael yma: “Saving money by doing the right thing: why local by default must replace diseconomies of scale”.

Gellir gwneud hwn, drwy ymyrryd yn y systemau’r sector cyhoeddus yn uniongyrchol. Unwaith y bydd yr egwyddorion presennol tu ôl i ddyluniad a rheoli gwaith yn cael eu deall, gellir eu herio a’u newid. Allan o hyn, gall system newydd gael ei greu gan alluogi cyd-gynhyrchu i ffynnu a lleihau costau.

Fel hynny, y man cychwyn yw treulio amser yn deall sut a pham y mae’r system bresennol yn gwneud cyd-gynhyrchu mor anodd, yn hytrach na dim ond bolltio cyd-gynhyrchu ymlaen a gobeithio am y gorau.

Newid Meddwl – Newid Bywydau

Gweithiodd Simon Pickthall yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am flynyddoedd lawer cyn ffurfio Vanguard Consulting Cymru. Mae wedi bod yn ffodus i weithio gyda llawer o arweinwyr yng Nghymru i’w helpu i ddeall eu sefydliadau gan ddefnyddio’r Dull Vanguard – a’u gwella o ganlyniad. Cafodd Simon digon o fraint i weithio ar yr Adolygiad Munro ar Amddiffyn Plant, ac mae wedi ymrwymo i helpu’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector sicrhau cyfiawnder cymdeithasol. simon.pickthall@vanguardwales.co.uk

Chwilio am enghreifftiau ymarferol o ‘gyd-gynhyrchu’

Yn gynyddol, soniwn am ddylunio a darparu gwasanaethau drwy ‘cyd-gynhyrchu’. Ond beth yw ystyr hyn yn ymarferol? Buom yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i ddatblygu digwyddiad rhoi enghreifftiau clir o arferion da yn ‘cyd-gynhyrchu’.

Mae cyd-gynhyrchu yn ymwneud â newid y berthynas rhwng y rhai sy’n darparu a’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau. Mae’n ymwneud ag ail-lunio sut ydych chi’n dylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau, ond yn gwneud hyn ochr yn ochr â’r cyhoedd.

Weithiau, bydd gwasanaethau cyhoeddus yn saethu ymlaen â datblygu gwasanaethau newydd a gorffen gyda rhestr o’r gwasanaethau ffurfiol y maent yn gwthio’r cyhoedd mewn iddynt. Mae aelodau o’r cyhoedd yn teimlo’n rhwystredig bod eu hawdurdod lleol yn cynnig gwasanaethau sy’n cael eu gweld fel gwastraffus a ddim yn cynnig pethau syml y maent wir angen. Mae llawer o wasanaethau cyhoeddus dal yn cael eu darparu o safbwynt y darparwyr gwasanaethau unigol. Mae hyn yn arwain ar ddinasyddion yn profi dulliau lluosog a thameidiog gall arwain at:

  • Ymyriadau anghyson ac sy’n gwrthdaro;
  • Canlyniadau gwael ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth; a
  • Gwastraff ar adnoddau gwerthfawr a gwerth gwael am arian.

I unrhyw un sydd â diddordeb mewn enghreifftiau eraill ymarferol o arfer da o gyd-gynhyrchu, gallech ddechrau gyda’r ddau gasgliad defnyddiol o astudiaethau achos yma:

Chwiliom ni am enghreifftiau penodol o sefydliadau sy’n gweithio’n agos â’r cyhoedd i ddatblygu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn gwirionedd. Er bod y digwyddiad yng Nghaerdydd yn llawn (gyda’r llefydd ar gael o hyd yng Ngogledd Cymru), byddwch yn gallu dod o hyd i’r holl gyflwyniadau arfer da hyn ar ein gwefan ar ôl y digwyddiad.

Yr Athro Tony Bovaird, Prifysgol Birmingham, yw ein prif siaradwr, a fydd yn edrych ar enghreifftiau ymarferol o gyd-gynhyrchu canlyniadau cyhoeddus sydd o bwys gwirioneddol:

Saesneg yn unig

Yna gwelsom bedwar gweithdy grêt:

  • Bydd Kerrine Phillips, Caerdydd Cyngor Trydydd Sector, yn sôn am y portffolio o brosiectau Cyd-gynhyrchu Newid Iachus;
  • Bydd Simon Pickthall, Vanguard, yn siarad am enghreifftiau ymarferol o ail-lunio gwasanaethau yn radical ar lefel ardal leol;
  • Bydd Sally Church, Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen a Jon Argent, GLL, yn rhoi enghraifft ymarferol o’r rôl gall mentrau cymdeithasol  chwarae wrth ail-lunio gwasanaethau â’r cyhoedd; a
  • Bydd Alan Armstrong, Barod CIC, yn rhedeg gweithdy ymarferol yn edrych ar bŵer, rheolaeth a gwybodaeth glir wrth weithio gyda’r cyhoedd.

Bydd Barod hefyd yn dangos enghraifft ymarferol iawn o sut i weithio gyda’r cyhoedd ar newid gwasanaethau – y Gwasanaeth Sibrwd. Mae Barod yn arbenigo mewn gwneud gwybodaeth yn haws i ddeall, a gwneud cyfarfodydd a digwyddiadau yn fwy cynhwysol. Mae’r gwasanaeth sibrwd yn gyfieithiad ar y pryd o’ “siarad cynhadledd” mewn i eiriau clir, bob dydd. Sut ydych chi ‘gyd-gynhyrchu’ gwasanaethau â’r cyhoedd pan ydych yn gweithio o fewn iaith a phrosesau efallai nad yw rhai’n deall?

Am y ddwy wythnos nesaf, byddwn yn rhannu blogiau ychydig o’r siaradwyr hyn, yn rhannu eu profiadau eu hunain. Byddwn hefyd yn rhannu nifer o ddolenni at wefannau defnyddiol, astudiaethau achos ac adnoddau eraill ar Twitter ar #ReshapeServices. Gallwch hefyd ddilyn  yr hashtag yma i gymryd rhan yn y sgwrs yn ystod ein seminar Ail-lunio Gwasanaethau gyda’r Cyhoedd.