Archifau Misol: Ebrill 2014

Atal: Beth yw Gwirionedd Symud eich Adnoddau?

Bromford's preventative approach

Dull ataliol Bromford

Mae’r term ‘atal’ yn cael ei ddefnyddio’n fwyfwy rhydd mewn gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd. Ond beth yw gwirionedd symud y ffocws gwasanaethau i ffwrdd o ymateb a thuag at atal? Buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru (Rhaglen Gwasanaethau Effeithiol ar gyfer Grwpiau Agored i Niwed Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus) i gasglu rhai enghreifftiau ymarferol o sut y mae sefydliadau wedi mynd i’r afael â’r agenda ‘atal’ hwn mewn ffurf seminar. Rydym hefyd am gael y bobl sy’n gweithio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i mewn i ystafell a gofyn iddynt beth oedd eu profiadau nhw.

Hoffwn i rannu rhai o brofiadau cadarnhaol y cynrychiolydd o ymdrechu tuag at atal a hefyd yr hyn y maent yn cael trafferth â nhw o ddydd-i-ddydd.

Yn gyntaf, ceir rhai enghreifftiau da o wasanaethau cyhoeddus yn edrych y tu hwnt i’w meysydd penodol o arbenigedd. Mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn enghraifft glir, pan fyddant wedi cymryd golwg gyfannol ar les pobl o fewn eu cartrefi. Clywsom hefyd gan Ganolfan Trin Alcohol Caerdydd, lle mae sectorau amrywiol (megis Undeb y Myfyrwyr, yr adran drwyddedu Cyngor a chyrff iechyd) i gyd yn elwa o un prosiect. Hefyd roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn trafod eu gwaith i gysylltu Meddygfeydd i asedau cymunedol ar gyfer iechyd a lles, er enghraifft trwy sicrhau bod gweithiwr iechyd cymunedol yn seiliedig mewn meddygfeydd teulu.

Mae yna hefyd rai cyfleoedd gwych o fewn rôl y sector gwirfoddol. Pwysleisiodd y cynrychiolwyr y rôl y gallant ei chwarae wrth gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb oddi wrth y sector cyhoeddus ar gyfer atal, a’r adnoddau ychwanegol y maent yn eu darparu ar gyfer gwaith ataliol arbenigol. Trafododd cynrychiolydd Cyngor Gweithredu Cwirfoddol Cymru gwaith ymyrraeth gynnar bod y sector eisoes yn ei wneud mewn cymunedau. Fodd bynnag, roeddent yn teimlo nad oedd llawer o bobl yn gwybod faint y maent mewn gwirionedd yn cynnig a bod llawer mwy o le i gynnwys y sector gwirfoddol nid fel ‘trydydd’ sector ond fel rhan annatod o wasanaethau ataliol yn y gymuned.

Yn olaf, ceir enghreifftiau o fudiadau sy’n barod i gymryd risgiau a reolir yn dda ac addasu ymagweddau newydd fel y maent yn mynd. Trafod Cyngor Sir Ynys Môn eu gwaith ar drawsnewid gwasanaethau plant, gan symud o sicrwydd diogel i ansicrwydd diogel. Fel mae Bromford wedi’i wneud, trafododd Cartrefi Conwy gwaith ar broffilio tenantiaid, er mwyn symud i ffwrdd o’r dull un-maint-i-bawb ac addasu i bob cleient. Clywsom enghreifftiau o sut mae newidiadau bach iawn mewn adnoddau fel y rhain, ynghyd â pharodrwydd i lansio gwasanaethau amherffaith ac addasu yn ôl yr angen, yn gallu cael effaith fawr ar ddatblygu gwasanaethau ataliol.

Fodd bynnag, fe hefyd trafodom ni amrywiaeth o heriau y mae profiadau cynrychiolwyr yn eu rolau o ddydd i ddydd. Y cyntaf ac efallai’r un a ddisgwylir fwyaf o’r rhain oedd cyllid. Yn benodol, sut i daro cydbwysedd rhwng ariannu gwasanaethau statudol ac ariannu dulliau atal arloesol. Ar ben hynny, os mae gweithgareddau atal yn llwyddiannus, mae disgwyl y bydd gwariant yn lleihau dros amser yn aml. Ond yn dal angen adnoddau hyn i gynnal gwaith atal.

Yn ail, sut yr ydych yn dangos manteision gwaith ataliol? Sut ydych chi’n dangos rhywbeth yr ydych yn rhwystro rhag digwydd? Roedd hyn yn her arbennig i gynrychiolwyr pan mae’r canlyniadau ariannol neu eraill yn cael eu gweld gan eraill.

Gallwch weld yr holl gyflwyniadau ar ein gwefan, yn ogystal â mwy o’r syniadau allweddol a godwyd yn ystod y dydd.

Gwneud integreiddio yn “fusnes craidd”

Erthygl blog gwadd gan Yr Athro David Oliver.

Mae David yn Fferyllydd Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Royal Berkshire; Athro Gwadd Meddygaeth i Bobl Hŷn, City University, Llundain; Cymrawd Gwadd, Cronfa’r Brenin; Darpar Lywydd, Cymdeithas Henoed Prydain; ac yn gweithio yn y Department of Health National Clinical Director for Older Peoples Services (Lloegr).

Does bosib fod y ffaith fod y boblogaeth yn heneiddio yn rheswm i ddathlu yn hytrach na’i weld fel bwgan mawr. Mae’n fuddugoliaeth i amodau cymdeithas, meddygaeth ataliol ac iechyd y cyhoedd, ynghyd â datblygiadau mewn triniaethau meddygol. Mae’n rhoi mwy o obaith i ni gyd y gallwn fyw’n hŷn. Ychydig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd bron i hanner poblogaeth y DU yn marw cyn eu bod yn cyrraedd eu 65 oed. Erbyn hyn, dim ond 14% sy’n marw cyn cyrraedd 65 oed, a phobl dros 80 oed yw’r demograffig sy’n tyfu gyflymaf. Erbyn 2030, bydd dyn 65 oed yn byw tan y bydd yn 88 oed ar gyfartaledd, a menyw 65 oed yn byw tan y bydd yn 91 oed ar gyfartaledd.

Er bod pobl hŷn yn nodi lefelau uchel o les a hapusrwydd ar y cyfan a bod llawer ohonynt yn dal i fyw’n annibynnol, nid oes modd anwybyddu’r ffaith y bydd mwy o bobl hŷn yn arwain at ganlyniadau anochel: mwy o bobl â Chyflyrau Hirdymor lluosog, syndrom eiddilwch, Dementia a rhyw fath o anabledd neu ddibyniaeth. Yn aml, mae’r unigolion hyn yn dibynnu ar wasanaethau ac ymarferwyr lluosog ac ar ofal anffurfiol gan deulu a ffrindiau.

Mae angen i’n model gwasanaeth presennol symud mwy tuag at ataliaeth a gofal cydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar anghenion unigolion yn hytrach na chlefydau unigol, a chydnabod bod gofal pobl hŷn o’r fath bellach yn “fusnes craidd” i systemau iechyd a gofal. Os na fyddwn yn llwyddo i ddarparu’r gofal priodol i bobl hŷn ag anghenion cymhleth, ni fyddwn yn llwyddo i wneud hynny ar gyfer unrhyw grŵp. Mae gan hyn oblygiadau radical i’r gweithlu, addysg a hyfforddiant a gwaith integredig a chydweithredol rhwng sefydliadau. Mae Cymru eisoes wedi gwneud trefniadau i helpu i gyflawni’r nodau hyn, ac mae ganddi lawer o enghreifftiau o wasanaethau da i bobl hŷn. Ond mae angen i ni rannu arferion da yn gyflym ac i’r fath raddau fel bod gweddill y gwasanaethau’n datblygu i fod cystal â’r gwasanaethau gorau, a bod yn barod i archwilio systemau iechyd eraill er mwyn gweld enghreifftiau o wasanaethau da.

Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn a’r “gymuned arfer da” a fydd yn deillio ohonynt yn helpu i hwyluso sgwrs gyhoeddus, gwella cydweithredu ac annog rhannu syniadau da. Yn y pen draw, rydym yn gobeithio y bydd yn arwain at wasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i “ddatganiadau cenhadaeth” ac at wasanaethau sy’n canolbwyntio ar anghenion y boblogaeth sy’n heneiddio.

Dyma cipolwg o rai o brif negeseuon adroddiad diweddar gan Yr Athro Oliver a’i gydweithwyr, ‘Making our health and care systems fit for an ageing population’.