Ymgysylltiad Cyhoeddus Mewn Archwilio

Seminar Dysgu a Rennir ar Fil Cenedlaethau'r Dyfodol

Yn swydd ddiwethaf fi roeddwn i’n gweithio i hybu cyfranogiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, felly mae ‘di bod yn wych i weld sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgysylltu â phobl. Mae gwefannau Fy Nhref Iach a Fy Ngheredigion yn hawdd i bobl eu defnyddio (ar gyfrifiadur ac  ar ffôn symudol) ac maent yn osgoi lot o’r jargon sydd mewn ymgynghoriadau traddodiadol.

Mae’r ymdrechion yma wedi ysgogi fi i ddechrau meddwl amdano bwrpas ein hymgysylltu â’r cyhoedd – pa wahaniaeth mae fe’n gwneud i’n gwaith ni?

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn edrych ar ddulliau amrywiol ac arloesol, a gan fy mod i’n gweithio i gorff archwilio mae fe ‘di bod yn ddiddorol iawn i weld sut mae’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn edrych i gynnwys pobl yn ei waith. Mae ymgysylltiad wedi’i ymgorffori yn ei gwaith, gan gynnwys ar lefel strategol.

Mae Cyfranogaeth Cymru yn ymgymryd â’r gwaith gyda AGGCC, felly fe wnes i ddal i fyny â’i Reolwr Mandy Williams i ddarganfod bach mwy am sut maen nhw’n bwriadu sicrhau bod lleisiau pobl yn llywio gwaith AGGCC . Roedd e’n ddiddorol clywed sut maen nhw’n edrych i gyfoethogi eu gwaith archwilio a chael darlun cliriach o wasanaethau.

Un o egwyddorion y Gyfnewidfa Arfer Dda yw does dim angen ailddyfeisio’r olwyn, felly os oes rhywun wedi datblygu dull diddorol mae ‘na lawer gallwn ni ddysgu ohono. Mae yna lot o wybodaeth ar wefan AGGCC, gan gynnwys eu cynllun cyfranogi, sy’n adnodd defnyddiol sy’n gallu cael ei addasu.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth feddwl amdano Bil Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n meddwl bydd rhaid i’r sector cyhoeddus yng Nghymru sicrhau bod penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud gyda lles tymor hir mewn golwg. Gan fod ymgysylltu â’r cyhoedd yn elfen allweddol o’r fil (a’r cysyniad o ddatblygu cynaliadwy yn gyffredinol), fe wnes i dal i fyny ‘da Mike Palmer, sy’n gweithio i reoli a datblygu ymateb Swyddfa Archwilio Cymru i’r bil.

Roedd e’n ddiddorol iawn clywed sut bydd y bil yn golygu newid y ffordd mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio, yn enwedig yn y ffordd ni’n archwilio cyrff allanol.

Mae hyn i gyd yn dod â fi yn ôl i’r pwynt ar ddechrau’r blog ‘ma – pa wahaniaeth bydd cyfranogi yn gwneud i’n gwaith ni? A hefyd sut ydyn ni’n dangos bod ein gwaith archwilio ni’n cael effaith ar wasanaethau cyhoeddus Cymreig? Gan mai dinasyddion yw’r rhai sy’n derbyn gwasanaethau, maen nhw mewn sefyllfa ddelfrydol i werthuso os yw’n gwaith ni wedi gwneud gwahaniaeth i’r ddarpariaeth o wasanaethau. Unwaith eto, mae’n ddiddorol iawn i ddarllen am Baneli Adolygiad Ansawdd AGGCC, sy’n adolygu ac yn gwerthuso ei waith nhw o ran meysydd gwasanaethau penodol.

Felly ar y cyfan mae lot o bethau diddorol i gadw llygad arno, o ran yr hyn y mae Bil Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei olygu i ni, a hefyd yr hyn y gallwn ei ddysgu o ddulliau cyfranogi AGGCC.

Felly, fy nghwestiwn i yw sut gall Swyddfa Archwilio Cymru symud ein dull o ymgysylltu â’r cyhoedd ymlaen?

Dyfrig

Un sylw ar “Ymgysylltiad Cyhoeddus Mewn Archwilio

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s