Archifau Misol: Chwefror 2014

Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Llawlyfr Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Craffu

Mae’n deg dweud i Virginia a minnau dreulio llawer o amser yn trafod y ffordd y byddem yn rhedeg ein gweithdy, a gallem yn hawdd fod wedi meddwl am ddigon i lenwi diwrnod, felly roedd cyfyngu hyd y gweithdy i awr yn dipyn o her.

Penderfynwyd y dylai’r gweithdai ganolbwyntio ar yr egwyddor o gymryd rhan yn y gwaith craffu, ac ar rannu rhai o’n profiadau gyda’r gynulleidfa. Roeddem yn teimlo hefyd ei bod yn bwysig iawn i bobl gael cyfle i rannu syniadau â’i gilydd yn y gweithdy. Gwnaethom gytuno y dylai ein gweithdai gael eu gweld fel man cychwyn, ac y byddai’r blog hwn yn ffordd dda o lenwi’r bylchau, felly bant â’r cart…

Beth a wnaethom ar y dydd?

Dechreuodd Virginia a mi drwy roi’r cyd-destun i’r hyn y mae’r Cynulliad yn ei wneud o ran craffu, a beth yn union yr ydym yn ei graffu. Un o brif swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol yw craffu ar waith Llywodraeth Cymru, gan graffu ar y ddeddfwriaeth a gynigir ganddi, ar y polisïau a bennir ganddi ac ar yr arian sy’n cael ei wario. Buom yn siarad am sut y mae ehangu cyfranogaeth yn y gwaith craffu yn flaenoriaeth i’r Cynulliad. Mae ‘ymgysylltu â phobl Cymru’ yn un o’n blaenoriaethau corfforaethol, ac mae ‘cynyddu’r graddau y mae pobl yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc, yn ymwneud â gwaith y Cynulliad’ hefyd yn flaenoriaeth gorfforaethol. Felly, dylai pawb sy’n gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol wybod pa mor bwysig a sylfaenol yw’r elfennau hyn yn ein gwaith bob dydd.

Aethom yn ein blaen i sôn am y ffyrdd o graffu sydd gennym, gan gynnwys sesiynau tystiolaeth ffurfiol y Pwyllgorau a dadleuon yn Siambr y Senedd. Soniasom yn fyr am ffyrdd mwy creadigol o gael pobl i gyfrannu, megis gwahodd pobl i ddefnyddio hashnodau Twitter ar gyfer cwestiynau, cynhyrchu pecynnau fideo, a chynnal digwyddiadau, gwe-sgyrsiau, ac arolygon ar-lein a’u tebyg. Ni waeth pa waith ymgynghori a wnawn o ran craffu, mae cynllunio’n elfen gyffredin, a gwnaethom rannu gyda’r gynulleidfa rai o’r prif bethau i’w hystyried ar gyfer craffu yn y Cynulliad.

National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gallwch weld y cyflwyniad a ddefnyddiwyd gennym ar y dydd yma.

Ar ôl y cyflwyniad, ffurfiwyd pum grŵp ffocws. Gofynnwyd i dri grŵp ystyried y manteision o gymryd rhan ar raddfa ehangach yn y gwaith craffu, a gofynnwyd i’r ddau arall ystyried pa bethau a allai rwystro hynny rhag digwydd. Cafwyd llawer o syniadau diddorol o’r trafodaethau hyn, a gellir eu gweld yma.

Ar y diwedd, gofynnwyd i bobl gynnig un peth y byddent yn ei wneud yn wahanol o ganlyniad i’r gweithdy hwn. Dyma rai o’r ymrwymiadau:

“Byddwn yn chwilio am ymrwymiad ehangach yn y Cyngor ac yn ‘benthyg’ adnoddau o dimau eraill yn amlach”

“Llais y bobl – mynd i’r gymuned i glywed barn pobl”

“Rhoi adborth i’r rhai sy’n cymryd rhan”

Beth nesaf? Rydym i gyd wedi rhannu arfer gorau. Rydym yn gwybod ychydig mwy am yr hyn y mae eraill yn ei wneud i annog cymryd rhan yn y broses graffu, ac mae gennym restr o fanteision, rhwystrau, syniadau am sut y gall pethau gael eu gwneud yn y dyfodol, a hyd yn oed ymrwymiadau gan bobl y byddant yn gwneud pethau’n wahanol.

Drwy ddefnyddio #scrutiny13, cefais ddau ymateb pan ofynnais beth oedd cyfranogwyr am i’r blog gynorthwyo ag ef:

  • Addasu dulliau gweithio
  • Pwy i’w gynnwys a sut i adnabod ‘cynulleidfaoedd’

Mae addasu dulliau yn rhywbeth a grybwyllwyd gennyf yn gryno yn y cyflwyniad. Rydym wedi canfod ei bod yn well gan wahanol gynulleidfaoedd ddulliau gwahanol, ac nid yw pob dull yn addas at bob pwnc. Mae teilwra eich dull o weithredu yn hanfodol. Gan nad yw’r tîm yr wyf i’n ei reoli yn gweithio gydag un math o gynulleidfa yn unig, mae’n hanfodol ein bod yn ceisio cyngor ac arweiniad gan y rhai sydd yn gweithio gydag un gynulleidfa yn unig.  Lawer gwaith, mae’r arbenigedd hwn i’w gael mewn awdurdodau lleol, neu mewn sefydliadau a grwpiau cynrychiadol. Maent yn fan cychwyn gwych ar gyfer profi eich syniadau am ddulliau ymgysylltu, a hefyd ar gyfer cynnal arolygon ac ati ar ffurf cynllun peilot, i sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir yn briodol, a bod y cwestiynau yr ydym yn eu gofyn yn berthnasol.

Mae’r trafodaethau cychwynnol hyn yn ein gwneud yn ymwybodol o faterion y mae angen eu hystyried wrth gynllunio’r gwaith hwn, fel y pethau a ganlyn:

  • Ymgysylltu â Sipsiwn a Theithwyr. Maent yn debygol o fod â lefelau isel o ran llythrennedd, felly ni ddylai’r dulliau a ddefnyddir ddibynnu ar ddarllen ymlaen llaw gan y cyfranogwyr
  • Ymgynghori ar bynciau sensitif. Golyga hyn y byddwch efallai am ddefnyddio senarios bach gyda’r grwpiau ffocws (hynny yw, creu senario a gofyn i bobl wneud sylwadau amdano yn hytrach na gofyn iddynt gyfeirio at amgylchiadau personol na fyddant yn gysurus yn eu trafod efallai).
  • Ymgysylltu â busnesau bach a chanolig eu maint; mae’n bosibl na fydd ganddynt lawer o amser, sy’n golygu ei bod yn anodd eu cael i deithio i ddigwyddiad ar adeg benodol.

Rwyf yn argymell hyn yn gryf fel rhan o’r broses gynllunio. Unwaith y byddwch wedi pennu eich amcanion a nodi pwy yr ydych am ei gynnwys yn y gwaith craffu, siaradwch â phobl sy’n gweithio gyda’r gynulleidfa bob dydd fel y gallwch ddysgu o’u profiadau ac fel y gallant eich rhoi chi ar ben ffordd.

Mae nodi eich ‘cynulleidfaoedd’ yn dibynnu’n helaeth ar bwnc eich prosiect craffu. Yng nghyd-destun y Cynulliad, rydym yn adnabod y rhai y mae polisi, gwariant neu ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt ac yn eu rhannu’n ddwy garfan: y rhai yr ydym yn disgwyl clywed ganddynt, a’r rhai nad ydym yn disgwyl clywed ganddynt. Ar yr ail garfan yr ydym ni’n canolbwyntio,  yn enwedig os ydynt yn llai abl i gysylltu â ni. Gan ddibynnu ar y grwpiau yr ydych wedi eu nodi, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.

Y gwir amdani yw bod angen adnoddau i ddenu mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses graffu—pobl, arbenigedd a chyfleusterau—ond efallai nid cymaint ag y byddech yn ei feddwl.

Efallai y gallech ddechrau trwy edrych ar y tasgau y mae’r bobl sy’n ymwneud â’r gwaith craffu yn eich sefydliadau yn ymgymryd â hwy a’u hadolygu, gan weld a ellir rhoi tasgau eraill yn eu lle a all arwain at gynnwys y cyhoedd yn ehangach yn eich prosiect craffu.

Rwyf wedi cynnwys fersiwn PDF o’n pecyn cymorth ymgysylltu yn y blog hwn. Dyma’r tro cyntaf i ni ei gyhoeddi y tu allan i’r sefydliad—fe ddechreuodd fel adnodd ar-lein i staff, ac mae’n cael ei ddefnyddio hyd heddiw. Mae’n cael ei ddiweddaru bob wythnos (byddwn yn diweddaru’r fersiwn PDF o dro i dro yn ogystal). Mae’r dulliau yn y pecyn cymorth yn amrywio’n fawr; mae rhai yn defnyddio llawer o adnoddau, ac mae eraill yn defnyddio fawr ddim (er enghraifft, mae gwe-sgyrsiau’n costio’r nesaf peth i ddim, a gellir eu trefnu mewn byr o dro unwaith y mae’r cyfrifon wedi cael eu creu).

Mae’n bwysig nodi mai pethau sy’n gweithio i ni yw’r rhain. Efallai na fydd rhai o’r dulliau hyn yn briodol nac yn realistig ar gyfer eich sefydliad neu’ch prosiect chi, ond byddwn yn eich annog, serch hynny, i edrych drwy’r pecyn i weld beth a allai weithio i chi.

#accessallareas i Heddlu Gwent

Mae monitro ein cyfrif Twitter @GoodPracticeWAO yn weithgaredd dyddiol i bob aelod o’r tîm, gyda’r nod o rannu cynnwys diddorol mor eang â phosib.

Ar 31 Hydref 2013, fy nhro i oedd hi. Yn gynnar yn y prynhawn, daeth cwpl o negeseuon trydar gan Heddlu Gwent i’m sylw, gyda’r hashnod anarferol #whougonnacall. Fe ddechreuais ddilyn yr hashnod gyda diddordeb brwd. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach fe ges i sgwrs ffôn ag Emma Chapron, Rheolwr Cyfathrebu Marchnata Heddlu Gwent, i ddysgu mwy am eu cyfres o ymgyrchoedd Twitter sy’n hyrwyddo eu gwasanaethau cefnogi.

Dyma beth oedd gan Emma i’w ddweud am yr ymgyrch.

GwentPolice RGB Crest

 Pwy ydym ni?

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y bobl sy’n dilyn cyfrifon Twitter a Facebook Heddlu Gwent wedi cynyddu. Ym mis Ionawr 2014, roedd gennym 39,800 o ddilynwyr ar Facebook a 19,900 o ddilynwyr ar Twitter. Mae’r rhan fwyaf o’n gohebiaeth yn canolbwyntio ar ddiweddariadau gan y 23 o dimau plismona ardal yng Ngwent, yn ogystal ag apeliadau am wybodaeth a newyddion am ddigwyddiadau. Mewn gwirionedd, dim ond braslun o’r hyn y mae Heddlu Gwent yn gorfod ymdrin ag ef a geir gennym – nid yw ein gwasanaethau cymorth yn cael llawer o sylw, a gall ymddangos fel mai dim ond problemau parcio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n mynd â’n sylw!

Rydym yn ymwybodol hefyd bod ein tudalen Facebook yn cyrraedd cynulleidfa ehangach fyth ac, yn aml, mae ein rhyngweithio â’r gynulleidfa hon yn fwy cyson a manwl o gymharu â’n rhyngweithio â’n cynulleidfa ar Twitter.

Felly, aethom ati i geisio cyflawni’r amcanion canlynol:

  1. Cynyddu nifer y bobl sy’n dilyn cyfrif Twitter Heddlu Gwent.
  2. Gwella dealltwriaeth o sut mae adrannau llai gweledol yr heddlu’n gweithredu a’r hyn y maent yn ei wneud.
  3. Ymgysylltu mwy â’n dilynwyr yn y cyfryngau cymdeithasu.

Sut aethom ni ati?

Cawsom y syniad o gynnal nifer o ddiwrnodau targed ar Twitter o’r enw #accessallareas gyda’r nod o ganolbwyntio ar feysydd plismona nad ydym yn sôn amdanynt yn rheolaidd. Ar y diwrnodau hyn, dim ond negeseuon am ddigwyddiadau pwysig oedd yn cael eu hanfon i Twitter a Facebook.

Roeddem ni bob amser yn dechrau gyda gohebiaeth fewnol – gan sicrhau mai ein swyddogion a’n staff oedd y cyntaf i wybod am y diwrnodau hyn.

Yna, roeddem yn hyrwyddo’r digwyddiadau ymlaen llaw i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, asiantaethau partner a’r cyfryngau. Byddai llawer o’n partneriaid yn ail-drydar ein negeseuon er mwyn ein helpu i hyrwyddo’r diwrnodau i gynulleidfaoedd ehangach fyth.

Roedd prif ffocws y diweddariadau ar ein cyfrif Twitter, ond rhoddwyd hefyd grynodebau o’r gweithgarwch ar Facebook gydol y digwyddiadau.

#behindbars

BEHINDBARS_Edited

Canolbwyntiodd ein digwyddiad cyntaf ym mis Mai 2013 ar ein dwy Ddalfa yng ngorsafoedd heddlu Ystrad Mynach a Chanol Casnewydd. Penderfynwyd dechrau gyda’r Ddalfa gan na fydd y rhan fwyaf o’r cyhoedd byth yn gweld y tu mewn i gell, diolch byth, heblaw ar y teledu. Felly, aethom ati i ganolbwyntio ar yr hyn y byddem ni am ei wybod – sut mae cell yn edrych, pa fwyd mae carcharorion yn ei gael, am ba hyd y gallwn ni gadw rhywun yn y ddalfa, a yw pawb yn cael prawf cyffuriau ac ati. Lleolwyd un swyddog cyfathrebu ym mhob dalfa rhwng 7am a 7pm – buont yn trydar manylion cryno am bawb a gadwyd yn y ddalfa yn ystod y cyfnod hwnnw, ynghyd â negeseuon a luniwyd ymlaen llaw ynglŷn â sut mae’r unedau’n gweithio, gan ddefnyddio’r hashnod #behindbars.

#trafficcops

TRAFFICCOPS_lowercase

Ar gyfer ein hail ddigwyddiad ym mis Mehefin 2013, aethom ni allan gyda’n tîm plismona’r ffyrdd. Unwaith eto, roedd gennym restr o negeseuon a luniwyd ymlaen llaw ynglŷn â’r pethau roeddem ni’n ei gredu y byddai gan y cyhoedd ddiddordeb ynddynt. Yna, aethom allan gyda char patrol rhwng 8am a 5pm – gan drydar yn fyw am unrhyw ddigwyddiadau yr ymatebwyd iddynt. Yn anffodus, bu’n ddiwrnod tawel, felly doedd ein negeseuon ddim mor ddiddorol ag yr oeddem ni wedi ei obeithio.

#whougonnacall

facebookcover_851x315_fcr

Yn nigwyddiad olaf y flwyddyn, aethom ati i ddilyn Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu (lle rydym yn derbyn galwadau 101 a 999) ar Galan Gaeaf – un o nosweithiau prysuraf y flwyddyn i’r ganolfan. Unwaith eto, roeddem wedi paratoi amryw o negeseuon ynglŷn â sut mae’r ganolfan yn gweithio a nifer y galwadau y mae’n ymateb iddynt. Gan ein bod yn gwybod y byddai’n noson brysur, penderfynwyd ei rhannu’n ddwy ran. Rhwng 3pm a 6pm, postiwyd negeseuon a oedd wedi eu llunio ymlaen llaw – aethom ati i gynnwys teitlau ffilmiau arswyd yn ein negeseuon er mwyn eu cadw’n amserol! Yna, rhwng 6pm a hanner nos, postiwyd negeseuon ynglŷn â phob galwad a oedd yn ymwneud â Chalan Gaeaf, o wyau a thân gwyllt yn cael eu taflu i bartïon tŷ a oedd wedi mynd dros ben llestri.

Beth wnaethom ni ei gyflawni?

Yn ystod ein digwyddiad Twitter diwethaf, #whougonnacall ar Galan Gaeaf, derbyniwyd dros 1,600 o ddilynwyr newydd o fewn yr wythnos a chafodd ein negeseuon eu haildrydar gan bron i 2,000 o bobl a’u nodi fel hoff negeseuon gan 900 o bobl. Hwn oedd y digwyddiad mwyaf llwyddiannus o’r tri o bell ffordd – roeddem ni wedi dysgu gwersi o’r diwrnodau blaenorol ac wedi gofalu ein bod ni’n canolbwyntio mwy ar y cyhoedd. Rydym ni wedi llwyddo i gadw’r rhan fwyaf o’r dilynwyr hyn.

Cawsom lefelau uchel o ryngweithio ar y noson, gyda llawer o bobl yn cysylltu â ni i ddweud eu bod nhw’n methu â chredu rhai o’r galwadau rydym ni’n gorfod ymdrin â nhw. A dyna oedd ein nod – dangos i’r cyhoedd bethau na fyddent yn eu gweld fel arfer.

Cafodd y digwyddiad lawer o sylw yn y cyfryngau, gan gynnwys ar BBC Radio Wales, www.walesonline.com, Western Mail, Gwent Gazette, Rhymney Valley Express a phapurau newydd lleol eraill.

Pa wersi wnaethon ni eu dysgu?

Cafwyd sawl gwers werthfawr.

–          Mae ein dilynwyr yn y cyfryngau cymdeithasu wrthi’n bennaf gyda’r nos. Er na allwn ni staffio hyn yn rheolaidd, mae’n gallu bod yn ddefnyddiol newid ein patrymau gwaith ar gyfer y digwyddiadau hyn i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â chynulleidfa mor eang â phosibl.

–          Mae hiwmor yn bwysig! Er nad yw hiwmor bob amser yn briodol gyda rhai o’r pynciau rydym ni’n sôn amdanynt, roedd sylw tafod mewn boch neu hashnod ffraeth yn annog pobl i rannu ein negeseuon, o’u defnyddio’n ddoeth.

–          Pwysigrwydd ceisio ymateb i bob sylw/cwestiwn os yn bosibl. Roedd ein tudalen Twitter yn brysur tu hwnt yn ystod y digwyddiad #whougonnacall, ond roedd hi’n ymddangos bod y bobl hynny y llwyddon ni i ymateb iddynt wir yn gwerthfawrogi’r ymdrech.

–          Pwysigrwydd dim ond postio negeseuon am bethau y credwch y bydd gan y cyhoedd ddiddordeb ynddynt. Nid ymarfer ticio bocs mohono.

–          Pwysigrwydd cynllunio pethau’n ofalus a gofalu fod gennych chi ddigon o staff i fonitro ac ymateb i’r negeseuon.

–          Rhoi cymaint o gyhoeddusrwydd â phosibl i’r digwyddiad ymlaen llaw a gofyn i’ch partneriaid ledaenu’r negeseuon.

–          Cydgysylltu eich digwyddiadau gyda chyfnodau gweithredol prysur, yn enwedig os ydych chi’n trydar yn fyw am yr hyn mae’ch sefydliad yn ei wneud. Dywedodd Tîm Plismona’r Ffyrdd eu bod nhw’n methu â chredu pa mor dawel oedd pethau ar y diwrnod y dewison ni eu dilyn nhw! Fodd bynnag, roeddem ni’n gwybod bod Calan Gaeaf bob amser yn ddiwrnod prysur i Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu, felly roeddem ni’n siŵr o lwyddo.

Dyfodol Hysbysebu Hysbysiadau Cyhoeddus yng Nghymru: Rhan III

Dyma’r diweddaf yn y gyfres ynghlyn a dyfodol hysbysbu hysbysiadau Cyhoeddus yng Nhgymru gan Alastair Blair p the Potent Mix.

Dyma linc i

Rhan 1

Rhan II

potent mix logoAlastair Blair

Gyda thwf y rhyngrwyd a thranc papurau newydd o ganlyniad (byddaf yn sôn mwy am hyn mewn blog arall cyn hir), roedd rhaid i gyhoeddwyr papurau newydd ystyried sut i ymateb. Newidiodd fawr ddim ar y dechrau. Yn raddol, dechreuodd y maes recriwtio, y peiriant arian sy’n sail i lawer o bapurau newydd lleol, ddirywio, yn rhannol oherwydd bod y cyhoeddwyr wedi bod yn rhy araf yn datblygu eu harlwy ar-lein i ategu’r cyfrwng print traddodiadol. Yn sgil twf hysbysfyrddau swyddi, gyda Monster ar flaen y gad ar y cychwyn, sylweddolodd sefydliadau’r sector cyhoeddus y byddai’n syniad da datblygu eu pyrth eu hunain, gan osgoi’r gwariant enfawr ar hysbysebion recriwtio mewn papurau newydd. Ar wahân i Monster, ac Indeed erbyn hyn hefyd, mae’n werth nodi bod y rhan fwyaf o hysbysfyrddau swyddi’n cael eu cyhoeddi gan gyhoeddwr ‘prif ffrwd’ gyda phortffolio print mawr.

Cydnabyddir yn gyffredinol bod y sector cyhoeddus yn araf yn newid. Dyma oedd yn rhannol gyfrifol am arafwch yr ymateb gan y cyhoeddwyr i dwf y rhyngrwyd: roedden nhw’n dal i gael hysbysebion print a refeniw sylweddol o’r sector cyhoeddus. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o Gynghorau a rhannau mawr o’r sectorau addysg ac iechyd yn y DU yn defnyddio eu hysbysfyrddau swyddi eu hunain. Mae rhai o’r rhain yn llwyddiannus iawn, megis NHSjobs a myjobscotland (enillodd hwn wobr Ddigidol Sector Cyhoeddus y DU am Wasanaethau a Rennir ddwy flynedd yn ôl), a daeth y llwyddiant hwn law yn llaw â’r dirywiad yn refeniw hysbysebion papurau newydd. Dim ond mater o amser oedd hi cyn i rywun gyflwyno’r syniad o wneud yr un fath gyda hysbysiadau cyhoeddus.

Gan ei fod eisoes wedi sefydlu myjobscotland fel enghraifft o borth ar-lein sy’n lleihau gwariant awdurdodau lleol ac yn cynyddu effeithlonrwydd trwy leihau costau cysylltiedig a gweinyddol, y sector llywodraeth leol yn yr Alban yw arweinydd y DU yn y maes hwn. Sawl blwyddyn yn ôl, cafodd yr Improvement Service (IS), cwango sy’n gweithio i gefnogi gwaith y Confederation of Scottish Local Authorities (COSLA), y dasg o drefnu tendr ar gyfer porth i hysbysiadau cyhoeddus. Tua’r un pryd, cafwyd ymgais yn senedd yr Alban i newid y gyfraith sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i hysbysiadau cyhoeddus gael eu rhoi mewn papurau newydd. Trafodwyd hyn ym mis Ionawr 2010 a phleidleisiodd y senedd yn erbyn y cynnig. Roedd y diwydiant papurau newydd wedi lobïo’n eang (ac yn llwyddiannus) i geisio dylanwadu ar y canlyniad. Nid yw’n syndod i lawer o’r lobïo hwn ddefnyddio data a ddewiswyd yn benodol i gefnogi’r achos. Yn ogystal, dywedwyd wrth gynrychiolwyr etholedig bod y papurau newydd a) yn cyflogi llawer o bobl leol, b) yn bwysig i ddemocratiaeth leol, ac c) na fyddai’r wybodaeth yn cyrraedd y bobl hynny nad ydynt yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd. Wrth gwrs, os yw hyn yn wir, pam mae’r cyhoeddwyr yn buddsoddi’n enfawr yn eu harlwy ar-lein eu hunain?

Er gwaethaf hyn, cyflwynwyd y porth hysbysiadau cyhoeddus newydd, www.tellmescotland.gov.uk, ac aeth yr IS ati i gyflwyno rhaglen hyfforddi fawr i annog Cynghorau’r Alban i ddefnyddio’r porth. O ganlyniad, cyflogodd yr IS thePotentMix i ddarparu hyfforddiant i holl Gynghorau’r Alban i’w cynghori ynglŷn â sut i leihau cynnwys eu hysbysiadau statudol ac anstatudol. O ganlyniad, mae cannoedd ar filoedd o bunnoedd o arian trethdalwyr yn cael eu harbed bob blwyddyn (er y gellid arbed mwy fyth – fel y byddaf yn esbonio mewn blog yn y dyfodol): ffigur sy’n talu am gost y porth a mwy, gan wrthbrofi rhai o’r adroddiadau a’r dadleuon yn senedd yr Alban a oedd yn awgrymu y byddai cost unrhyw ateb digidol yn golygu na fyddai unrhyw arian yn cael ei arbed o gwbl.

Alastair Blair
thepotentMix

 Fy safbwyntiau i yw’r rhain. Os hoffech chi ddysgu sut i arbed arian ar eich hysbysebion hysbysiadau cyhoeddus, ewch i: http://www.thepotentmix.co.uk/services/public-notice-advertising


 

Dyfodol Hysbysebu Hysbysiadau Cyhoeddus yng Nghymru: Rhan II

Dyma’r ail blog yn y gyfres o dri.  Ofynodd Alastair Blair, o the Potent Mix, trodwethaf, a Oes unrhyw un yn darllen hysbysebion hysbysiadau cyhoeddus mewn papurau newydd? yn y blog yma, mae o yn trafod yr efaith o’r hysbysebion.

potent mix logo

Alastair Blair

Yn y blog diwethaf, gofynnais y cwestiwn cyffredinol, ‘a oes unrhyw un yn darllen hysbysebion hysbysiadau cyhoeddus mewn papurau newydd?’.  Wrth i nifer y bobl sy’n darllen papurau newydd leihau, mae’n amlwg y bydd llai o bobl yn gweld yr hysbysiadau cyhoeddus statudol a gyhoeddir yn eu papurau newydd wythnosol lleol. Ond a oedden nhw’n eu darllen nhw yn y lle cyntaf? Beth mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn ei awgrymu? Fel y nodwyd eisoes, mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn y maes hwn wedi’i wneud yn yr Alban, ond mae ganddo oblygiadau enfawr i Gymru a gweddill y DU gan ei bod hi’n annhebygol iawn mai dim ond yn yr Alban y mae’r casgliadau hyn yn berthnasol.

 

Cefais fy nghyflogi gan yr Improvement Service (IS) i helpu i ddatblygu’r achos busnes newydd ar gyfer COSLA i’w gyflwyno i Holyrood gyda’r nod o newid y gyfraith yn yr Alban. Ysgrifennais ddrafft cyntaf y papur hwn, a oedd yn seiliedig ar ymchwil eang a gynhaliwyd gan IS a thePotentMix.

Prin iawn yw’r wybodaeth am nifer y bobl sy’n darllen hysbysebion hysbysiadau cyhoeddus yn y wasg leol. Cynhaliwyd ymchwil ar effeithiolrwydd hysbysebion cyffredinol yn y cyfryngau lleol gan y Newspaper Society yn 2011 (Living Local), ond aeth yr ymchwil hon ati i grwpio hysbysebion hysbysiadau cyhoeddus ochr yn ochr â hysbysebion cyffredinol, heb archwilio’n benodol a oedd hysbysiadau cyhoeddus yn cael eu darllen yn eang. Awgrymodd astudiaeth gan Swyddfa’r Cabinet yn Camden yn 2007 (‘Informing the public in a multi media age’) mai dim ond 1.4% o’r boblogaeth sy’n darllen hysbysiadau yn y wasg leol. Yn ogystal, mae amryw o arolygon llai wedi’u cynnal gan wahanol gyhoeddwyr lleol, ond mae eu dilysrwydd a’u cymhwysedd ystadegol i’r boblogaeth ehangach yn amheus o ystyried y samplau bach a ddefnyddiwyd a’r ffaith bod y samplau wedi’u cymryd o baneli darllen presennol papurau newydd yn aml, felly roedd hi’n annhebygol y byddent yn cynrychioli’r cyhoedd (mewn geiriau eraill, roedd y samplau wedi’u cymryd o bobl a oedd eisoes yn defnyddio’r papur newydd).

Fel rhan o ymchwil yr Alban, gofynnwyd i sampl o Gynghorau, gan gynnwys dau gyngor dinas (Glasgow, Dundee) a chyngor ardal fwy gwledig (Dwyrain Ayrshire), fonitro’r ymateb i’w hysbysebion hysbysiadau cyhoeddus. Mae’r dystiolaeth yn gryf: yn Glasgow, am fis gofynnodd yr Adran Gynllunio i bawb a ddaeth i’w swyddfa i drafod mater yn ymwneud â chais cynllunio beth oedd wedi peri iddynt wneud hynny. Dim ond 6% a ddywedodd eu bod wedi dod i’r swyddfa o ganlyniad i weld hysbyseb. I’r gwrthwyneb, dywedodd 48% eu bod wedi dod i’r swyddfa o ganlyniad i ‘Hysbysiad Cymdogaeth’; hynny yw, yr hysbysiadau a ddosberthir (yn ôl gofyniad statudol) i gymdogion a allai gael eu heffeithio gan gais cynllunio/datblygiad.

Yn ogystal, aeth Cyngor Dinas Dundee ati i fonitro galwadau i’w Ganolfan Alwadau dros gyfnod o dros 8 wythnos: doedd dim un yn ymwneud â hysbyseb hysbysiad cyhoeddus. Yn Nwyrain Ayrshire, lle aethpwyd ati i fonitro hysbysiadau ffyrdd, dim ond un ymateb a gafwyd mewn perthynas â hysbyseb mewn mis. Cawsom hefyd dystiolaeth anecdotaidd gan amryw o Gynghorau eraill a oedd yn cefnogi’r astudiaethau manylach hyn.

Yng Nghymru, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ymchwil o’r fath, ond gwn nad yw Adran Gynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cofio’r tro diwethaf (mewn blynyddoedd) i unrhyw un ymateb i un o’u hysbysebion.

Efallai mai rhan o’r broblem yw nad yw’r hysbysebion hyn yn hawdd eu darllen. Er bod llawer o dystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu nad yw’r arddull, y teip, maint y ffont ac yn enwedig yr iaith a ddefnyddir mewn hysbysebion hysbysiadau cyhoeddus yn ‘hawdd eu defnyddio’ nac yn hygyrch i’r rhai heb gefndir ym maes cynllunio neu’r gyfraith, ar hyn o bryd does dim tystiolaeth empirig i gefnogi’r honiadau hyn. Fodd bynnag, mae fy mhrofiad i o hyfforddi Cynghorau ledled y DU ar gynnwys hysbysebion hysbysiadau cyhoeddus wedi dangos bod hyd yn oed staff y Cynghorau hyn yn cael trafferth gyda’r iaith gyfreithiol, felly pa obaith sydd gan y cyhoedd?

Felly, os yw’r cyhoedd yn ei chael hi’n anodd deall yr hysbysebion hyn a’u bod yn cael y wybodaeth o bosteri a hysbysiadau lleol beth bynnag, beth yw’r pwynt parhau i roi’r hysbysebion hyn mewn papurau newydd?

Alastair Blair
thepotentMix

 Fy safbwyntiau i yw’r rhain. Os hoffech chi ddysgu sut i arbed arian ar eich hysbysebion hysbysiadau cyhoeddus, ewch i: http://www.thepotentmix.co.uk/services/public-notice-advertising

 

 

Byrddau Cytbwys

Seminar Dysgu a Rennir Ynglŷn ag Ymddiriedolwyr

Fe wnaeth weithdy Norma Jarboe ar Fyrddau Cytbwys yn ein Seminarau Dysgu a Rennir diweddar ar gyfer Ymddiriedolwyr arwain ato sawl enghraifft o arfer da. Rhannodd Norma syniadau amdano’r pwysigrwydd o gael bwrdd cytbwys, a hefyd ystadegau gwnaeth atgyfnerthu rhai o’i negeseuon allweddol, a gallwch gweld Norma’n trafod rhai o’r rhain isod.

Yn ystod y gweithdy fe wnaeth rhai mynychwyr rhannu rhai o’u dulliau gyda phawb arall oedd yn y gweithdy. Fe wnes i dal fyny gyda rhai o’r rhain ar ôl y gweithdy er mwyn casglu eu sylwadau.

Hoffwn ddiolch i Bernadette Fuge, Cadeirydd Age Cymru, Ray Singh, Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a Joanne Moore, sy’n Rheolwr Adnoddau Dynol a Llywodraethu ar gyfer Anabledd Dysgu Cymru, gan fod nhw wedi rhoi o’u hamser fel ein bod ni’n gallu rhannu eu gwybodaeth mor eang â phosibl.

Bernadette Fuge

Rhannodd Bernadette Fuge sut wnaeth Age Cymru cael bwrdd sydd gyda’r sgiliau angenrheidiol i adlewyrchu’r cyfeiriad mae’r mudiad yn mynd, ac fe wnaeth Ray Singh rhannu dull Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Felindre hefyd. Mae Joanne Moore o Anabledd Dysgu Cymru wedi rhannu’r newidiadau maen nhw wedi gwneud i ehangu amrywiaeth eu bwrdd, yn benodol sut maen nhw wedi recriwtio ymddiriedolwyr newydd a’r math gwahanol o gyfryngau maen nhw’n defnyddio i gyrchu grwpiau nas clywir yn aml. Ar y pwynt ‘ma’n y gweithdy roedd sawl person yn brysur yn ysgrifennu rhai o awgrymiadau Joanne i lawr. Mae sylwadau hi ar gael yn y podlediad yma.

Roedd e’n ymddangos bod cyfethol ymddiriedolwyr yn ffordd boblogaidd o bontio rhai bylchau sgiliau penodol.

Ray Singh of Velindre NHS Trust / Ray Singh o Ymddiriedolaeth GIG Velindre

Roedd rhai mynychwyr yn cael trafferth ‘da’r cyfyngiadau amser o ran y cyfnodau roedd aelodau yn gallu treulio ar fyrddau, gyda rhai pobl yn rhannu sefyllfaoedd ble roedd aelodau’r bwrdd wedi bod yna am fwy na 17 mlynedd . Rhannodd Ray Singh, Aelod Annibynnol o Fwrdd Ymddiriedolaeth GIG Felindre, eu hagwedd nhw ato hwn, ac fe wnaeth Bernadette Fuge rhannu dulliau Age Cymru hefyd.

Mae Age Cymru wedi rhoi dull diddorol iawn ar waith, ble maen nhw wedi dechrau cynnal gwerthusiadau blynyddol ar gyfer yr ymddiriedolwyr ar ei fwrdd. Mae Bernadette wedi rhoi manylion bellach yn y podlediad yma.

Mynegodd sawl person yn y gweithdy eu rhwystredigaeth am eu hanallu i gyrchu rhai grwpiau nas clywir yn aml. Rhannodd Joanne Moore rhai o ddulliau Anabledd Dysgu Cymru. Os nad oeddech chi yn y gweithdy ‘ma, dyma beth oedd ganddi i’w ddweud.

Learning Disability Wales / Anabledd Dysgu Cymru

Gobeithio bod y blog ‘ma wedi rhoi ychydig o flas i chi am y wybodaeth ddefnyddiol rhannwyd yn y gweithdy Byrddau Cytbwys. Mae ‘da ni mwy o wybodaeth i rannu ‘da chi yn dilyn ein seminar yng Ngogledd Cymru, felly cadwch lygaid arno’r blog ‘ma!

Ena

303 Eiliad

Ar bnawn dydd Gwener olaf mis Ionawr fe wnaeth grŵp o bobl dod i Swyddfa Archwilio Cymru yng Nghaerdydd i roi cynnig ar rywbeth doedden nhw ddim wedi gwneud o’r blaen…… siarad am rywbeth diddorol am 5 munud i bawb arall yn y ‘stafell.

Dyna ddiwedd y cyfarwyddiadau. Roedd y syniad wedi’i seilio’n fras ar strwythur 300 Eiliad.

Felly beth ddigwyddodd?

Wel, fe wnaeth saith person siarad am bynciau amrywiol, ond serch hynny roedd popeth yn ffitio gyda’i gilydd ac yn llifo. Fe wnaeth pawb gwneud cyflwyniadau mewn fformatau gwahanol, gan gynnwys sleidiau, fflip siart, siarad heb nodiadau, a hyd yn oed enghraifft o dechneg myfyrdod ble rydych chi’n ‘cerdded yn gyflym gyda darn o bapur’.

Roedd pawb yn meddwl roedd e’n brofiad defnyddiol, ble roedd yna rywfaint o wybodaeth a syniadau y gallan nhw roi ar waith yn bersonol neu gyda’u gwaith. Mae yna gynllun i wneud rhywbeth tebyg ymhen ychydig o fisoedd. Yn y cyfamser, dyma grynodeb byr o bob un o’r cyflwyniadau 303 eiliad (mewn geiriau pob un o’r saith cyflwynwr).

303 Seconds / Eiliad

1. Diwrnod Hacio’r GIG Caerdydd ar benwythnos 26/27 Ionawr, 2014 (#nhshd). Chris Bolton

Roedd y cyflwyniad yma yn rhedeg trwy sut wnaeth Diwrnod Hacio’r GIG Caerdydd gweithio, a hefyd syniadau ar rai o fanteision y digwyddiad a’r risgiau posibl. Mae’n bosib gellir defnyddio elfennau o’r dull gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae Chris yn gweithio gyda’r prif drefnydd Dr Anne Marie Cunningham i edrych ar etifeddiaeth y digwyddiad a’i effaith. Cadwch lygad ar y blog yma neu blog Chris am y newyddion diweddaraf.

2. Twitter a fi. Helen Thomas

Helen yw Pennaeth Proffesiynol Therapi Galwedigaethol mewn Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Siaradodd Helen am ei phrofiad hi o drydar yn bersonol. Yn ei geiriau hi:

“Roedd hwn yn rhan o gyflwyniad wnes i i fy Nghyfarwyddiaeth ynglŷn â mynychu Ysgol Haf Academi Cymru yn 2013. Roeddwn i’n meddwl am seicoleg dysgu gadarnhaol: deall beth sy’n gyrru chi ‘mlaen,  ac ail-grefftio bywyd, gwaith, cariad, chwarae a chyfeillgarwch o amgylch cryfderau’ch cymeriad chi.

“Edrychais ar fy nhrydar i ac fe sylweddolais i ble mae fy angerdd i, sef o amgylch defnyddwyr gwasanaethau a staff, ‘all you need is love’. Mae fe mor bwysig i fod yn angerddol am beth da chi’n wneud, ac mae hyn yn dod yn glir trwy beth rwy’n trydar ar Twitter”.

3. Cadwch symud! James Moore

Mae symud yn wirioneddol bwysig am ddau reswm:

  • Mae ymarfer corff caled yn wrtaith i’r ymennydd ac yn gwneud ni’n graffach.
  • Wrth i ni weld , clywed a theimlo’r byd o wahanol lefydd, da ni’n deall pobl eraill yn well.

Mae’r ddau beth ‘ma yn gwneud ni’n fwy llwyddiannus!

Gallwch ffeindio allan mwy am raglen Cerdded ac Ymchwilio James ar wefan Academi Cymru, neu @Explorewalk ar Twitter.

4. Ymwybyddiaeth ofalgar a dilysrwydd. Moira Morgan

I barhau ‘da’r thema o symud, fe wnaeth Moira gwneud arddangosiad go iawn o dechneg myfyrdod ‘gerdded yn gyflym gyda darn o bapur’. Sgil sy’n werth datblygu.

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cefnogi dilysrwydd drwy fod yn bresennol gyda’ch cydweithwyr, teulu a ffrindiau. Mae’r dechneg amdano wybod bod hyn yn ei hun yn ddigon, a bod chi eich hun yn ddigon.

Gallwch weld sleidiau o gyrsiau Moira ar wefan Academi.

5. 5 awgrym ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol. Ena Lloyd

Ers ei phlentyndod ar arfordir Ceredigion, mae Ena wedi magu uchelgais i nofio mewn cynifer o’r moroedd a’r cefnforoedd y byd ag y gallai. Mae hyn wedi arwain at deithiau epig drwy dros 50 o wledydd a dyw hi ddim wedi gorffen eto.

Gan fod Ena’n teithio ar ei phen ei hun, mae hi wedi datblygu dull o oroesi a ffynnu am pan da chi’n filoedd o filltiroedd o gartref.

Gallwch ddarllen am rai o deithiau Ena yma.

6 . Athroniaeth FISH! Jackie Parsons

Gwella diwylliant sefydliadol trwy Athroniaeth FISH! Datblygodd John Christensen yr Athroniaeth FISH! yn 1998. Mae’r athroniaeth yn seiliedig ar ei brofiad o Farchnad Pysgod Pike Place yn Seattle, Washington State, UDA.

Mae’r athroniaeth yn cynnwys:  ‘Chwarae’, ‘Bod Yna’, ‘Gwneud eu Diwrnodau’ a ‘Dewis eich Agwedd’.

Mae’r athroniaeth wedi cael ei fabwysiadu gan lawer o gwmnïau a sefydliadau er mwyn gwella gwaith tîm ac i ddatblygu  gwasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.

7 . GEMAU YMADAEL. Bethan Johnson.

Y syniadau o; greadigrwydd, darganfod a llif dylanwad y seicoleg o ymgysylltu. Dyma beth sy’n ffurfio sail y dull a ddatblygwyd gan Mihaly Csikszentmihali.

Fe wnaeth e ddatblygu profiad dysgu newydd yn Budapest o’r enw GEMAU YMADAEL. Mae grwpiau o bobl yn cydweithio i ddatrys posau gweithredol yn fyw, er mwyn datblygu addysg, meistrolaeth a llif.

Roedd y sesiwn yma’n llif o gymysgedd eclectig a wnaeth darparu rhywfaint o ddysgu ymarferol roedd pobl yn gallu rhoi ar waith yn bersonol neu yn y gweithle.