Archifau Misol: Rhagfyr 2013

Craffu Celtaidd – rhannu gwersi ar draws Môr Iwerddon

Craffu

Yn gyntaf, diolch i Swyddfa Archwilio Cymru am y gwahoddiad i’r seminar ‘Goleuni ar Graffu’ a’r cyfle i weld â’m llygaid fy hun y dysgu a rennir sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cychwynnais o Ddulyn gyda thri nod

  1. Dysgu mwy am y Craffu ‘ma mae pawb yng Nghymru’n canu ei glodydd!
  2. Gweld sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn mynd ati i weinyddu a chynnal seminarau dysgu a rennir.
  3. Edrych ar y posibilrwydd y gallai swyddfeydd archwilio Cymru ac Iwerddon gydweithio a rhannu gwybodaeth.

Cyn y seminar, rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n amheus a fyddai’r trafodaethau am y swyddogaeth graffu mewn llywodraeth leol yn berthnasol i mi (nid yw awdurdodau lleol Iwerddon yn rhan o gylch gwaith ein swyddfa ac maen nhw’n cael eu harchwilio gan Wasanaeth Archwilio Llywodraeth Leol ar wahân). Fodd bynnag, sylweddolais yn un o’r gweithdai fod craffu yn ei ystyr ehangach yn rhan o unrhyw drefn lywodraethu effeithiol.

Irish Audit Office

Efallai mod i’n anghywir (nid dyma’r tro cyntaf), ond rwy’n credu mai agwedd hollbwysig ar graffu llwyddiannus yw gofyn y cwestiynau iawn i’r bobl iawn ar yr adeg iawn (a’u gofyn drosodd a throsodd nes i chi gael atebion boddhaol!). Mae’r egwyddor honno’r un mor berthnasol i’r rhai sy’n llywodraethu ysgol yn Cork neu ysbyty yn Galway, ag y mae i lywodraeth leol yng Nghymru.

O ran fy ail nod, roeddwn i’n arbennig o awyddus i weld a allai’r pum partner a oedd yn hwyluso’r seminar weithio gyda’i gilydd i gyflwyno rhaglen gydlynol. Gyda chymaint o bartïon yn cyfrannu, roedd perygl o gael negeseuon cymysg neu agenda orlawn. Yn hynny o beth, rwy’n credu bod y fformat gweithdai wedi gweithio’n dda iawn, gan roi’r cyfle i edrych ar sawl thema wahanol a rhoi’r cyfle i’r sawl a oedd yno ddewis y rhai mwyaf perthnasol i’w gwaith.

Hoffwn ddweud hefyd mai uchafbwynt y diwrnod i mi oedd cyflwyniad Peter Watkin Jones ar yr ymchwiliad cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Canol Swydd Stafford. Er y gallai’r pwnc fod wedi bwrw cysgod dros y digwyddiad, llwyddodd y siaradwr i daflu goleuni ar y methiannau a welwyd a chynnig gobaith am ddyfodol gwell. Er y gwyddom i gyd pa mor bwysig yw dysgu o’n camgymeriadau a’n profiadau ni’n hunain, gall dysgu o fethiannau mewn awdurdodaethau eraill fod llawn mor werthfawr (ac yn llai poenus o lawer).

I brofi bod swyddfeydd archwilio yn gwrando ar eu cyngor nhw’u hunain, cefais gyfarfod gydag aelodau’r tîm cyfnewid arfer da drannoeth y seminar i drafod cyfleoedd i’n swyddfeydd gydweithio a rhannu dysgu yn y dyfodol.

Felly, a minnau wedi cyflawni’r tri nod (coron driphlyg, fel petai), dyma fi’n troi am adre.

I gloi, rhaid i mi ddweud fy mod wedi cael fy siomi ar yr ochr orau gan nifer y cyfraniadau Cymraeg yn y seminar a sut y cawsant eu hwyluso (heb ffws na ffwdan) gan y trefnwyr. Credaf ei bod hi’n deg dweud bod yr iaith Wyddeleg yn wynebu llawer o anawsterau tebyg, felly hwyrach bod hwn yn faes arall addas ar gyfer rhannu dysgu.

Slán agus beannacht libh go léir.

Shane Carton

Oifig ân Ard Reachtaire Cuntas agus Ciste/ Office of the Comptroller and Auditor General (Swyddfa Archwilio Genedlaethol Iwerddon)

Dydyn ni ddim yn Kansas mwyach…

Jessica Crowe yw Cyfarwyddwr Gweithredol y Ganolfan Craffu Cyhoeddus, elusen annibynnol a sefydlwyd yn 2003 i hyrwyddo gwaith craffu ac atebolrwydd gwell wrth wneud penderfyniadau ar draws y sector cyhoeddus.

jessica_portrait_jpg250x166

Ddydd Iau diwethaf, clywais weinidog llywodraeth leol yn dweud pethau fel hyn:
“craffu yw calon ac enaid llywodraethu da”
“craffu yw’r llywodraeth mewn llywodraeth leol”
“mae pawb o’r arweinyddiaeth i’r rheng flaen yn deall rôl a gwerth craffu… dyma’r amodau angenrheidiol i graffu allu ychwanegu gwerth ”
“craffu yw’r gwasanaeth buddsoddi i arbed clasurol”

I ddarllenwyr yn Lloegr – na, doeddwn i heb gael fy hudo i ffwrdd dros yr enfys i wlad chwedlonol Oz. Y gweinidog dan sylw oedd Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth yng Nghymru, yn rhoi’r prif anerchiad mewn cynhadledd ar graffu yng Nghaerdydd, a ddenodd 250 o bobl. Fel y bydd rhai ohonoch yn gwybod, dechreuodd y Ganolfan Craffu Cyhoeddus gyflwyno rhaglen newydd bwysig yng Nghymru yn gynharach eleni ar ran Llywodraeth Cymru, ac roeddem yn cefnogi’r gynhadledd hon fel rhan o’r rhaglen, ynghyd â’n partneriaid, Swyddfa Archwilio Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd.

Cafwyd gweithdai gan y Ganolfan Craffu Cyhoeddus ar ein model Enillion ar Fuddsoddiad ar gyfer dangos effaith adolygiadau craffu, anerchiad cloi rhagorol gan Tim Gilling, a fi oedd yn cadeirio’r gynhadledd gyfan. Gydag amrywiaeth eang o weithdai, yn cynnwys un gan Catherine Howe o Public-i, sydd bob amser yn ddiddorol, a chyflwyniad cyfareddol gan Peter Watkin Jones, cyfreithiwr i Ymchwiliad Francis, roedd digon ar yr agenda i gymaint o gynadleddwyr allu cyfiawnhau cymryd diwrnod llawn o’r gwaith i ddod.
Yr hyn oedd yn arbennig o galonogol i mi oedd yr ymdeimlad amlwg yna o egni a phenderfyniad yn yr ystafell. Er gwaethaf llwyddiannau craffu nodedig yng Nghymru, er enghraifft ’Adolygiad Caerdydd o’r economi nos ac adolygiadau a ddisgrifiwyd ar y diwrnod, er enghraifft Adolygiad Wrecsam o farchnadoedd ac ’Adolygiad Abertawe o gymorth i rai syn gadael gofal mae nifer o gynghorau yng Nghymru wedi cael trafferth gwella’u gwaith craffu. Fodd bynnag, byddwn yn dweud fod y gynhadledd yr wythnos diwethaf yn drobwynt yn y broses o adeiladu consensws newydd na ddylid goddef safonau craffu gwael neu gymedrol yng Nghymru mwyach. Dyma ystafell (fawr) lawn o bobl a oedd yn barod i newid ac yn gadarnhaol ynglŷn â sicrhau bod ymarfer craffu gan aelodau yn addas i helpu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i fynd i’r afael â’r heriau y byddant yn eu hwynebu dros y blynyddoedd i ddod.

Clywsom gynrychiolydd o Ynys Môn yn dweud ei fod wedi’i ysbrydoli i fynd yn ôl ac ailfeddwl ynglŷn â sut maen nhw’n gwneud pethau a her wych gan gynghorydd arall ynglŷn â sut i ddatblygu brand cryf i graffu yng Nghymru. Gwelsom brysurdeb ar stondin y Ganolfan Craffu Cyhoeddus dros amser cinio, gyda chopïau o Tipping the Scales – ein canllaw ar Enillion ar Fuddsoddiad drwy’r model craffu – yn mynd fel slecs. Ond nid hunanganmoliaeth gyffyrddus oedd popeth chwaith. Dywedodd un o gynghorwyr yr wrthblaid yn ei awdurdod – sef yr unig aelod craffu a oedd yn bresennol o’r awdurdod hwnnw mae’n debyg – sut oedd craffu yn gorfod brwydro i dorri allan o reolaeth grŵp y mwyafrif, a gan aelodau a fyddai wedi hoffi mwy o gydnabyddiaeth o’r camau a gymerwyd (gyda chefnogaeth y Ganolfan Craffu Cyhoeddus) i wella craffu yn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru.
Ond yn gyffredinol, cefais argraff gref iawn o ddatblygiad yr hyn roedd y Gweinidog yn ei alw’n gymuned graffu bwrpasol a llawn gweledigaeth yng Nghymru. Felly, beth sydd wrth wraidd y weledigaeth ‘rywle draw dros yr enfys’ hon? Credaf fod sawl elfen yn ei chymell:
• Ymrwymiad gwleidyddol diffuant a diddordeb gan y Gweinidog Llywodraeth Leol, sydd wedi gwneud pwynt o ymweld â chynghorau Cymru a siarad yn uniongyrchol â chynghorwyr etholedig – ac sydd wedi gwneud buddsoddiadau go iawn ar gyfer gwella i gefnogi’r diddordeb hwn, ar ffurf rhaglen y Ganolfan Craffu Cyhoeddus a hefyd y Gronfa Datblygu Gwaith Craffu sy’n ariannu mentrau craffu ledled Cymru;

• Diddordeb o’r newydd ym mhotensial craffu i gefnogi gwella gwasanaethau ac atebolrwydd cryfach gan reolyddion, er enghraifft Swyddfa Archwilio Cymru, sydd cyn hir yn lansio eu hastudiaeth fawr o graffu ledled Cymru, yn seiliedig ar ddysgu drwy fethodoleg adolygu gan gymheiriaid;

• Cydnabyddiaeth fod angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru newid ac addasu i her caledi a galwadau a disgwyliadau cymdeithasol sy’n newid, a chydnabyddiaeth y gall proses graffu ddemocrataidd gynhwysol helpu i adeiladu cefnogaeth a derbyniad o’r angen i newid – drwy gynnwys dinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau wrth ddatblygu atebion ochr yn ochr â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Mae’n ddyddiau cynnar, ac mae camau sydd ar y gweill, er enghraifft datblygu set o Nodweddion Craffu Effeithiol wedi’u cytuno ar gyfer rheolyddion a gwleidyddion y bu’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus yn cynorthwyo Rhwydwaith Swyddogion Craffu Cymru i’w datblygu yn dilyn astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru, yn helpu i symud pethau ymlaen i’r cam nesaf. Y neges fwyaf y ceisiais ei chyfleu yn y gynhadledd oedd yr angen i ymarferwyr craffu yng Nghymru ysgogi mwy o gysondeb a chodi ymarfer craffu i’r safonau uchaf. Gyda’r heriau y mae gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau yn eu hwynebu, ni fydd craffu cymedrol neu anghyson yn ddigon: mae angen i gydweithwyr herio ymarfer gwael, bod yn hunanfeirniadol a dysgu o brofiadau pobl eraill beth sy’n gweithio.

Wedi meddwl, mae hon yn neges dda i ymarferwyr craffu ledled Lloegr (a mannau eraill) hefyd. A does dim angen i chi wisgo esgidiau rhuddem na chlicio’ch sodlau – gallwch ddilyn trafodaethau’r gynhadledd ar Twitter ar #scrutiny13, (gyda’r uchafbwyntiau wedi’u crynhoi’n gyfleus ar Storify), darllen blog y Gyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru am amrywiaeth o syniadau gan gyfranwyr, gwylio fideos o gyfweliadau â rhai o’r siaradwyr ar Vimeo, neu ddysgu mwy yn gyffredinol ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru.

Peidiwch â phrynu caledwedd

Defnydd effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth

Ni gyd yn caru fe. Mae ‘na goleuadau sy’n fflachio ar galedwedd, llinellau cŵl, ac mae’n edrych yn hynod o dda wrth iddo fe hymian mewn raciau. Mae’n creu argraff ar ddieithriaid, ac mae’n dilysu ni fel arbenigwyr. Mae fe hefyd yn ddrud iawn ac mae’n cael ei danddefnyddio’n fodd anhygoel. Fe wnaeth Google (ie, y Google yna) darganfod yn y 2000au cynnar bod eu canolfannau data yn rhedeg ar 10% o’r uchafswm posibl. Mae lot o’r sector cyhoeddus yn y DU yn llawer gwaeth, gyda Swyddfa’r Cabinet yn awgrymu bod rhai ohonom yn defnyddio cyn lleied â 5% o’n hasedau mwyaf drud.

Gofynnwch i unrhyw Bennaeth Technoleg Gwybodaeth pam maen nhw’n gwario siwd gymaint ar galedwedd a byddant yn dweud “wel, bydd e ddim yn gweithio hebddo”, neu os yw’r Pennaeth Technoleg Gwybodaeth gyda MBA byddai nhw’n dweud “mae’r caledwedd yn ganolog i’n cenhadaeth”. Sy’n codi cwestiwn diddorol – pam ydyn ni’n teimlo bod angen prynu’r modd o gynhyrchu ar gyfer cyfrifiadura, pan does gennym ddim amheuaeth o gwbl amdano brynu trydan neu ddŵr?

Yn ôl ym mis Medi fe wnaeth dros 60 o arbenigwyr Technoleg Gwybodaeth, a fi, cyfarfod mewn seminarau Swyddfa Archwilio Cymru yng Ngogledd a De Cymru i rannu arfer da (sef, ‘dwgyd syniadau’) a gobeithio, herio eu rhagdybiaethau. Rwy’n hoffi her dda i’m rhagdybiaethau, ond fe wnaeth yr amheuon o amgylch Cyfrifiadura Cwmwl dim jyst herio fy rhagdybiaethau ond eu mygio!

Cloud Computing / Cyfrifiadura Cwmwl

Roedd ‘na lot o resymau yn cael eu rhestri amdano pam dylai chi ddim mabwysiadu’r cwmwl. Mae diogelwch. Bydd pawb yn gallu cyrchu eich data. Mae’r rheoliad, ac fe fydd Americanwyr yn arestio eich Prif Weithredwr ……. ond wedyn, does ‘na ddim goleuadau yn fflachio oes ‘na? Dyw hyn o reidrwydd yn wir. Wrth gwrs gallwch greu llanast o faterion diogelwch ar y cwmwl yn yr un ffordd a gallwch adael eich diogelwch mewn hash os da chi’n trio, ond does dim rheswm go iawn pam dylech.

Rwy’n hoffi cyfrifiadura hawdd. Rwy’n hoffi darparu gwasanaeth sydd jyst yn gweithio. Dydw i ddim eisiau rhedeg canolfan data yn yr un ffordd dydw i ddim eisiau rhedeg gorsaf bŵer neu reoli cronfa ddŵr. I mi, mae Cyfrifiadura Cwmwl yn cynnig cyfle i brynu’r faint dymunaf, pryd mai’i angen arnaf. Dim mwy o le nag sydd angen.

Dyw e ddim yn hawdd i ni fel proffesiwn. Ni’n tueddu i feddwl amdano Dechnoleg Gwybodaeth fel ymarfer mewn rheoli caledwedd, yn hytrach na gwasanaeth i gwsmeriaid.

Dyma ymarfer i chi. Dychmygwch fod eich Prif Weithredwr wedi gwahardd prynu unrhyw beth corfforol o gwbl. Mae’n hawdd prynu’r ddarpariaeth o weinydd trwy’r cwmwl (ac yn wir, yn hawdd ar gyfer y sector cyhoeddus drwy G-Cloud), cysylltedd â wal dân – tic, meddalwedd fel gwasanaeth – tic, dyfeisiau defnyddwyr? Mae hwn yn fwy o broblem, ond gallai strategaeth BYOD da datrys hynny. Yn wir, os oes ganddo’ch signal ffôn symudol da (a gallwch hyd yn oed ffeindio ffordd o amgylch hynny), does dim angen rhwydwaith yr adeilad arno’ch chwaith.

Wrth gwrs, does dim lot mewn bywyd yn syml, a dyw hwn ddim yn syml chwaith. Ond mae’n werth ystyried , ‘Faint byddai fe’n costio fi os dydw i ddim yn uwchraddio hon, ond yn hytrach yn ei brynu fel gwasanaeth ar-lein yn lle?’

Mae’n costio llawer i gadw pob un o’r gweinyddwyr yn gynnes, wedi’i bwydo, eu hanwesu a’u caru. Efallai bod hyn yn swnio fel heresi, ond gallech chi wneud yn well, yn rhatach, ‘da llai o ymrwymiadau os ‘da chi’n  prynu’r gwasanaeth trwy’r cwmwl?

Dim bod da fi obsesiwn bach neu unrhyw beth, ond ar 13 Rhagfyr byddaf yn trafod cyfrifiadura cwmwl: y chwedlau, wedi chwalu, gyda Peter Middleton o raglen G-Cloud Swyddfa’r Cabinet. Roedd 2013 yn flwyddyn allweddol ar gyfer y gwasanaeth cyhoeddus, yn flwyddyn dyngedfennol wrth gydnabod na allwn barhau i ddarparu o dan y model presennol. Rhaid i ni fod yn fwy craff, yn fwy cydweithredol, yn rhatach, ac yn syml yn well yn yr hyn ni’n gwneud. Amser i chwalu rhai o’r chwedlau.

– Evan Jones, Llywodraeth Cymru