Cydweithio

Craffu

Welsh Government / Llywodraeth CymruAi’r gynhadledd Goleuni ar Graffu yw’r tro cyntaf i Graffu fod yn ganolbwynt y sylw? Mae’n sicr yn awgrymu bod tro ar fyd. Byddai rhai’n dweud bod dyheadau Deddf Llywodraeth Leol 2000, ar ôl yr holl waith caled i ddatblygu craffu, yn barod i gamu i’r prif lwyfan; yn barod i arwain gwelliannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus ar ran y dinesydd.

Rhaid cydnabod bod sawl enghraifft eisoes o gydweithio sy’n herio ein syniadau am graffu; Consortia Addysg Rhanbarthol, prosiectau a ariennir gan Gronfeydd Cydweithio Rhanbarthol, a datblygiad parhaus Byrddau Gwasanaethau Lleol a Chynllunio Integredig Sengl. Ond mae’r llwyfan yn ddigon mawr i ychwanegu’n helaeth at y cast, ac adeiladu’r arferion sydd eisoes ar waith a’u datblygu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Graffu fod yn fwy ymatebol, mae’n rhaid sicrhau bod herio priodol yn digwydd a bod atebolrwydd effeithiol ar waith. Dyma gyd-destun newydd y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mae craffu mewn sefyllfa dda i gyflawni’r dyheadau hyn.

Y Gronfa Datblygu Gwaith Craffu sy’n arwain y cast. Mae’r gronfa’n annog ceisiadau sy’n barod i arloesi wrth ystyried effaith craffu ar fodelau newydd o ddarparu, ac sy’n ceisio dod o hyd i’r ffordd orau o sicrhau bod craffu’n parhau’n rhan allweddol o ddyletswyddau trosolwg gwasanaethau cyhoeddus.

Wrth gwrs, mae’r cyfan wedi cymryd cryn amser i’w ddatblygu. Cawsom Beecham a Simpson ar hyd y daith a dynnodd sylw at fanteision posib cydweithio wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Hyd yma, gwelwyd yn glir bod angen sicrhau fframweithiau atebolrwydd priodol i sicrhau bod y rhai sydd ynghlwm wrth gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dwyn i gyfrif mewn modd effeithiol a thryloyw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwyslais cynyddol ar y potensial i gydweithio er mwyn creu senario lle mae partneriaid gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau cyhoeddus cost-effeithiol o ansawdd uchel, a hynny gyda llai o adnoddau. Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth yn gyson wedi bod yn pwysleisio na ddylid ymateb i bwysau ariannol dim ond drwy wneud pethau’n wahanol, ond y dylid gwneud pethau gwahanol.

A ninnau ar drothwy’r Gynhadledd, mae’n meddyliau ni’n troi at gyhoeddiad arfaethedig yr adroddiad ar y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae craffu’n elfen hanfodol a chanolog o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus ar ei newydd wedd; a pha bynnag fodelau a gaiff eu mabwysiadau, rhaid i graffu effeithiol fod yn ganolbwynt i’r cyfan o safbwynt atebolrwydd. Bydd y rhai sy’n gyfrifol yn cyflawni eu swyddogaethau gwneud penderfyniadau yn dipyn gwell os cânt eu herio’n briodol.

Mae Llywodraeth Cymru am weld craffu’n digwydd wrth fynd ati i ddatblygu trefniadau cydweithio newydd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ac nid – fel sydd wedi bod yn digwydd yn rhy aml o lawer yn y gorffennol – ar ôl i’r penderfyniadau gael eu gwneud pan mae’n dipyn anoddach argyhoeddi pobl o bwysigrwydd sicrhau atebolrwydd effeithiol.

Wrth gwrs, mae Mesur Llywodraeth Leol 2011 yn ganolog i hyn – dyma’r sylfaen ar gyfer swyddogaeth graffu sy’n ymateb i, ac yn cefnogi modelau o gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n newid. Mae rheoliadau craffu a dyletswyddau trosolwg ar y cyd, sy’n caniatáu i Awdurdodau Lleol sefydlu Cydbwyllgorau i graffu ar wasanaethau a gyd-gomisiynir ac a gyd-ddarperir, yn eu lle.

Mae’n bwysig cofio bod cyfle o hyd i ddylanwadu ar y naratif gan fod yr ymgynghoriad ar Bersonau Penodol yn dal i fynd rhagddo a bydd yn dod i ben ar 21 Tachwedd. Croesewir adborth ar sut y gall hyn sicrhau trefniadau effeithiol er mwyn craffu ar wasanaethau a ddarerir gan bartneriaethau gwasanaethau cyhoeddus.

 Un pwynt bach i gloi. Gall pawb sy’n ymwneud â hyn elwa ar gymorth y Ganolfan Craffu Cyhoeddus, sy’n cael ei hariannu i ddarparu cymorth pwrpasol ym maes craffu yng Nghymru. Mae’n cynorthwyo i ddatblygu swyddogaeth graffu sy’n gallu ymateb yn effeithiol i batrymau newidiol darparu gwasanaethau cyhoeddus, gan sicrhau craffu da ar yr un pryd – herio lleol i sicrhau bod dinasyddion yn derbyn gwasanaethau o’r lefel ac o’r safon y mae ganddynt yr hawl i’w disgwyl.

Richard Shearer – Llwyodraeth Cymru

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s