Hwyluso dwyieithog – sut gallwn ni gwneud hyn yn well?

Eisteddfod Genedlaethol 2013 / National Eisteddfod 2013

Yr wythnos diwethaf fe wnes i a Mike Palmer (sy’n canolbwyntio ar Ddatblygu Cynaliadwy ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru) gynnal gweithdy ar gyfer y Gweithgor Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn y ‘Steddfod yn Ninbych. Fe wnaeth y gweithdy edrych ar roi’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru ar waith.

Fe wnaethon ni fwynhau cynnal y gweithdy, ac fe wnaeth ein galluogi i rannu gwybodaeth a’i chasglu ar sut gall Llywodraeth Cymru gynnwys pobl yn eu sgwrs cenedlaethol ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol.

Ar ôl y sesiwn fe wnaeth Mike a fi eistedd lawr a thrafod beth aeth yn dda a’r hyn y byddem yn ei newid yn y dyfodol.

Achos mod i ‘di cael cyfle i weithio mewn amgylchedd Cymraeg fel iaith gyntaf, fe wnes i fwrw ati’n frwdfrydig i baratoi’r cyflwyniad yn Gymraeg. Gallwch gweld y Prezi yma, neu mae’r cyflwyniad mae ‘di seilio arno ar wefan Cyfranogaeth Cymru. Roedd hyn yn gamgymeriad, achos dylen i wedi gwneud y sleidiau’n ddwyieithog. Iaith gyntaf rhai o’r cyfranogwyr oedd Saesneg, ac er wnes i gyfieithu’r wybodaeth i Saesneg wrth i mi fynd ymlaen, byddai cael y wybodaeth yma yn ddwyieithog o’r dechrau wedi gwneud y broses yn lot haws.

Ond y peth wnaeth ein taro ni fwyaf oedd ynghylch hwyluso dwyieithog a chydlyniant cymunedol. Gan fy mod i’n siaradwr Cymraeg, rydw i wastad wedi bod yn awyddus i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y cyfle i gyfrannu yn Gymraeg, felly rydw i wedi sefydlu grwpiau ar wahân fel rhan o ddigwyddiadau rydw i wedi bod yn eu rhedeg. Tra bod hyn wedi galluogi pobl i gymryd rhan yn iaith eu dewis nhw, mae hwn hefyd yn golygu dyw pobl sy’n siarad ieithoedd gwahanol ddim yn cael clywed safbwyntiau’r grŵp arall. Wrth gwrs, gallwn gael grwpiau i roi adborth i’w gilydd, ond sut allwn groes-beillio syniadau fel bod pawb yn wir ddatblygu syniadau ar y cyd?

Os ydyn ni’n dod â’r grwpiau hyn at ei gilydd, sut allwn ni sicrhau nad yw’r siaradwyr Saesneg yn teimlo’n rhwystredig achos dydyn nhw ddim yn deall Cymraeg, a sut ydym ni’n sicrhau nad yw siaradwyr Cymraeg yn teimlo’n rhwystredig achos maen nhw’n cael eu gorfodi i gymryd rhan yn Saesneg?

Rwy’n ymwybodol iawn bod y blog yma’n gofyn lot o gwestiynau yn hytrach na chynnig atebion, felly fi ‘di bod yn chwilio am “hwyluso dwyieithog” a nifer o dermau eraill ar Google. Rydw i hefyd wedi trydar ymarferwyr ar gyfer syniadau, ac mae Edward Andersson o Involve wedi cynnig rhai syniadau gwych i mi. Cawson ni drafodaeth ar sut gallai Gwerthusiad Cyfranogol (neu Participatory Appraisal yn Saesneg) helpu achos mae’r technegau yn weledol a dyw nhw ddim yn dibynnu ar iaith. Awgrymodd Edward edrych ar Raglen Tlodi Oxfam DU, sydd wedi cynhyrchu canllaw da o’r enw Have You Been PA’d?

Fe wnaeth Mike a fi hefyd drafod y mater o gyfieithu. Er wnaethon ni ein gorau i osgoi jargon, roedd rhai o’r termau wnaethon ni eu diffinio ar y dechrau yn benodol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus (fel ymgysylltu a chyfranogiad). Sylweddolom fod rhai o’r termau ychydig yn aneglur yn Saesneg (engagement a participation) yn cymhlethu pellach wrth iddynt gael eu cyfieithu. Os yw’r dinesydd yn wirioneddol wrth wraidd gwasanaethau, rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n defnyddio termau mae pobl yn eu deall. Fe wnaeth Edward bwynt arbennig ar hwn hefyd – bod y cyfieithiad yn dangos natur artiffisial y gair Saesneg gwreiddiol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio newid hyn, trwy newid enw’r Bil Datblygu Cynaliadwy i’r Bil Cenedlaethau’r Dyfodol. Bwriad newid yr enw yw bod pobl yn deall beth mae’r bil yn anelu i gyflawni (sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn nawr ddim yn cael effaith andwyol ar bobl yn y dyfodol). Ond ar y llaw arall mae llawer o bobl yn dweud bod y term ‘datblygu cynaliadwy’ yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ac mae’n cael ei daflu o’r neilltu a’i effaith yn cael ei leihau. Bydd yr un peth yn digwydd gydag ymgysylltu â dinasyddion?

Ni allai fod yn dda yn seicolegol nac yn gymdeithasol i wahanu ein gilydd ar sail iaith. Mae maint yr her yn golygu does dim amheuaeth byddaf yn edrych ar hyn eto yn y dyfodol, ac rwy’n siŵr i flogio eto arno. Fe wna i bostio unrhyw adnoddau defnyddiol ar hwn isod, ac os ydych yn gwybod am unrhyw ganllawiau defnyddiol byddai fe’n grêt os gallwch wneud yr un peth.

Diolch o flaen llaw am eich help!

Dyfrig

PS Rwy’n gwybod bod Cyfranogaeth Cymru ar gael os oes angen unrhyw gymorth ar ymgysylltu gan fudiadau Cymreig – rwy’n mynd i droi atynt am gymorth ar y pwnc yma nawr!

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s