Gwneud y mwyaf o’ch asedau

Oeddech chi’n gwybod bod costau ynni busnes wedi codi o 243% ers 2006?

Na, doeddem ni 3. Asset Management Imageddim chwaith. Mae sector cyhoeddus Cymru yn ymwybodol o’r angen i leihau costau a gwella gwasanaethau. Ond beth ydych chi’n ei wneud pan rydych yn wynebu costau sydd yn ymddangos i fod allan o’ch rheolaeth? Gallwch geisio reoli eich asedau yn well trwy ddefnyddio syniadau neu ddulliau newydd. Bwriad Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yw’ch cynorthwyo i ddod ar draws y syniadau a’r dulliau newydd trwy gynnig seminarau, adnoddau a chanllawiau am ddim ar reoli asedau.

Beth ydym yn ei olygu gyda rheoli asedau?

Mae’n cwmpasu amrediad o bynciau, gan gynnwys ynni, TG, fflyd, adeiladau a pheiriannau – pethau sydd eu hangen arnoch i wneud i’ch sefydliad weithio. Tra eich bod methu gwaredu’r asedau yma o’ch cyllideb, fe allwch chi geisio eu rheoli yn well. Y bwriad yw arbed arian heb gael effaith negatif ar ddarparu gwasanaethau.

Mae gwaith da wedi cael ei wneud ar draws y DU ar reoli asedau. Mae dros £800m wedi cael ei arbed ers 2004 yn ystâdau llywodraeth ganolog, yn ôl Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon. Yng Nghymru, mae’r Gweithgor Asedau Cenedlaethol yn cynorthwyo sefydliadau i weithio gyda’i gilydd i arbed arian. Ond mae costau yn codi o hyd a nawr bod datblygu cynaliadwy yn dyfod yn egwyddor graidd i’r sector cyhoeddus yng Nghymru, beth am edrych ar rai syniadau newydd?

Dyna beth mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn ei wneud eleni. Rydym yn bwriadu rhedeg seminarau am ddim a chasglu arfer da ar reoli ynni, fflyd, TG ac adeiladau. Fe rannwn ni rai syniadau a themâu allweddol sy’n deillio o’n gwaith ar y blog yma ac ar ein gwefan. Yn y cyfamser, efallai bydd y wybodaeth rydym wedi ei gasglu eisoes yn ddefnyddiol i chi.

Pam fod dod ar draws syniadau newydd yn bwysig? Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu cyfnod ariannol tynn ac fe all risgiau sydd wedi eu rheoli a’u hystyried yn dda helpu. Gall rhannu a dysgu o brofiadau ein gilydd gynorthwyo sefydliadau i ddelio â rheoli asedau mewn ffordd newydd. Yn lle brwydro â rheoli ynni ar eich pennau eich hunain, gallwch addasu dulliau llwyddiannus sefydliad arall – dyna ein hathroniaeth.

Beth arall sydd ar gael?

Gallai gwefan newydd y Gweithgor Asedau Cenedlaethol fod yn lle da i ddechrau. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni flog gyda rhai syniadau diddorol ac mae gan y Guardian gasgliad o astudiaethau achos ar gynaliadwyedd oddi wrth fusnesau. Bydd ychydig o ymchwil cyffredinol yn troi lan nifer o syniadau allai fod yn ddefnyddiol.

Nid yw rheoli asedau ar gyfer eich adran ystadau a chyfleusterau yn unig. Mae’n galluogi  gwasanaethau ar draws eich holl sefydliad. Gallwch dreulio ychydig o amser yn datblygu eich strategaeth a gweld pa newidiadau allwch chi eu gwneud i arbed arian. Os nad ydych yn gyfarwydd â rheoli asedau, gallwch wneud ychydig o ymchwil i weld pa mor bwysig ydyw a beth allwch chi ei gyflawni.

Cadwch olwg ar ein gwefan ar gyfer syniadau ac adnoddau newydd i’ch cynorthwyo i edrych eto ar eich rheolaeth o asedau. Bydd casgliad o adnoddau rheoli ynni ar gael ddiwedd mis Gorffennaf. Gallwch hefyd weld gwybodaeth am ein Seminar Rheoli Ynni ar ein gwefan. Ar y dydd, gallwch ddilyn #WAO_EM ar Twitter i weld syniadau a dulliau newydd.

Hoffem glywed oddi wrthoch os ydych chi’n gwneud gwaith diddorol ar y pwnc yma neu os ydy’n syniadau yn arbennig o ddefnyddiol i chi – gadewch sylwad i ni isod.

Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s