ColaBoraBora: Ail-ddiffinio ‘BETH’ trawsffurfio ‘SUT’

Mae Rosa o ColaBoraBora wedi paratoi’r blog isod i ni cyn ei gweithdy yn ein cynhadledd sy’n dwyn y teitl ‘Buddion Cyffredin: Creu Cydweithrediad Rhwng Cymru a Gwlad y Basg’. Mae’n sôn am ethos diddorol ColaBoraBora, cydgysylltu’r gymuned a’r sector preifat, a’r prosiectau y maent wedi gweithio arnynt hyd yn hyn …

Gan mai cynhadledd am Wlad y Basg yw hon, mae’r blog hwn wedi’i gyhoeddi mewn Basgeg, Cymraeg a Saesneg.

Mae ColaBoraBora yn gwmni cydweithredol o fenter gymdeithasol, sy’n ymroddedig i ddylunio gwasanaethau a helpu i greu amgylcheddau a phrosesau arloesi ar y cyd sy’n canolbwyntio ar bobl. Rydym yn helpu gwahanol fathau o gleientiaid i ddychmygu sefyllfaoedd posib a dymunol ar gyfer y dyfodol er mwyn creu cyfleoedd newydd ar adegau o newidiadau. Yn ogystal, rydym hefyd yn eu helpu i’w rhoi ar waith yn llwyddiannus. Mae ein gwaith yn seiliedig ar roi’r un sylw i’r BETH (yr heriau) ag a rown i’r SUT (sut i fynd i’r afael â’r heriau).

Proponemos nuevos sistemas y metodologías para abordar retos relacionados con la innovación estratégica, organizativa y social. Trabajamos principalmente en proyectos donde se interrelacionan lo público, lo comunitario y lo privado.

Nuestra propuesta de trabajo se sitúa a medio camino entre lo cultural, lo social, lo económico y lo político, abordándolo desde unas perspectivas CO- y TRANS-. Ofrecemos un mix de servicios a medida, basados en la combinación de diversas maneras de hacer, entre la investigación, la consultoría, el diseño, el acompañamiento y la formación. El objetivo es aplicar la creatividad desde la inteligencia colectiva, para pasar de lo abstracto a lo concreto, desarrollando las ideas en forma de productos, servicios y experiencias tangibles.

En ColaBoraBora somos una pequeña tribu de personas entusiastas y críticas, curiosas y comprometidas. Un grupo con formaciones y experiencias diversas (artes, diseño, economía, sostenibilidad, facilitación de procesos, marketing…). Un equipo de profesionales que trabajamos de manera transdisciplinar, remezclando prácticas y saberes.

Diseñando para el bien común

En ColaBoraBora entendemos el diseño como un conjunto de procedimientos para crear soluciones y abordar oportunidades, mediante una planificación y organización diferencial, significativa y eficiente de recursos, procesos, infraestructuras y/o personas. Perseguimos un diseño transformador, un diseño libre y abierto, un diseño para todas, que se sigue preguntando sobre cómo vivimos y cómo podríamos vivir. Un diseño orientado a la comunidad, entendida como un grupo social en un contexto situado, con ciertas características u objetivos compartidos, ya sea esta una empresa, un vecindario, un grupo de usuarias, un gobierno, etc.

Un diseño, en el que los QUÉs y los CÓMOs, atienden a la cada vez más pertinente idea de bien común, desde el procomún y de forma comunitaria.

  • Bien común, un antiguo concepto filosófico, político y económico, que se refiere a aquello que es compartido y beneficioso para el conjunto de los miembros de una comunidad. El bien común es expresión de la voluntad colectiva, se logra a través de una participación co-responsable y puede disfrutarse tanto individual como colectivamente.
  • Procomún (del término anglosajón commons), un modelo de gobernanza de los bienes comunes. La manera de producir y gestionar en comunidad bienes y recursos tangibles e intangibles, que nos pertenecen a todas, o mejor, que no pertenecen a nadie, como por ejemplo: las semillas, internet, el folclore, las lenguas, el agua potable, el genoma o el espacio público. Gracias a la ética hacker y las licencias libres, el procomún se hace extensible a cada vez más ámbitos vitales a través del diseño de productos y sistemas libres y abiertos.
  • Auzolan, una forma propia de trabajo vecinal en beneficio de la comunidad, basada en la co-responsabilidad, la participación y la colaboración comunitaria. Además de servir para el mantenimiento y desarrollo de recursos comunes, contribuye a fortalecer el sentimiento de pertenencia, la confianza y el reconocimiento entre los miembros de la comunidad.

Rydym yn cyflwyno systemau a dulliau newydd i fynd i’r afael â heriau sy’n gysylltiedig ag arloesi strategol, sefydliadol a chymdeithasol. Rydym yn gweithio’n bennaf ar brosiectau lle mae’r sector cyhoeddus, y gymuned a’r sector preifat yn cael eu cydgysylltu.

Mae ein cynnig gwaith wedi’i leoli hanner ffordd rhwng y diwylliannol, y cymdeithasol, yr economaidd a’r gwleidyddol. Rydym yn cynnig cymysgedd o wasanaethau wedi’u teilwra, yn seiliedig ar gyfuniad o wahanol ddulliau, megis ymchwil, ymgynghori, dylunio, cefnogi a hyfforddi. Yr amcan yw cymhwyso creadigrwydd trwy ddeallusrwydd ar y cyd, symud o’r haniaethol i’r pendant, datblygu syniadau ar ffurf cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau diriaethol.

Mae ColaBoraBora yn griw bach o bobl frwdfrydig, feirniadol, chwilfrydig ac ymroddedig. Grŵp gyda hyfforddiant a phrofiad amrywiol (celf, dylunio, economeg, cynaliadwyedd, hwyluso, marchnata ac ati). Tîm o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn ffordd trawsddisgyblaethol, gan ailgymysgu arferion a gwybodaeth.

Dylunio er lles pawb

Yn ColaBoraBora, rydym yn meddwl am ddylunio fel set o brosesau ar gyfer creu atebion a mynd i’r afael â chyfleoedd, trwy gynllunio a threfnu adnoddau, prosesau, isadeileddau a / neu bobl yn unigryw, sylweddol ac effeithlon. Rydym yn ymdrechu i gael dyluniad trawsnewidiol, dyluniad am ddim ac agored, dyluniad i bawb, sy’n cwestiynu’n barhaus sut ydym yn byw a sut y gallem fyw. Dyluniad sy’n canolbwyntio ar y gymuned, a ddeellir fel grŵp cymdeithasol mewn cyd-destun wedi’i leoli, gyda rhai nodweddion neu amcanion a rennir, boed yn gwmni, cymdogaeth, grŵp defnyddwyr, llywodraeth ayyb.

Dyluniad lle mae’r ‘BETH’ a’r ‘SUT’ yn mynd i’r afael â’r syniad cynyddol berthnasol er lles pawb, mewn modd pro-gyffredin a chyfunol.

  • Er lles pawb, cysyniad athronyddol, gwleidyddol ac economaidd sy’n cyfeirio at yr hyn sy’n cael ei rannu ac sy’n fuddiol i holl aelodau cymuned. Mae er lles pawb yn fynegiant o’r ewyllys torfol, fe’i cyflawnir trwy gyfranogiad cyd-gyfrifol a gellir ei fwynhau yn unigol ac ar y cyd.
  • Pro-gyffredin (o’r cyfnod Eingl-Sacsonaidd), model llywodraethu’r cyffredin. Y ffordd i gynhyrchu a rheoli nwyddau ac adnoddau diriaethol ac anniriaethol mewn cymuned, sy’n perthyn i bob un ohonom, neu yn hytrach, yn perthyn i neb, er enghraifft: hadau, y rhyngrwyd, llên gwerin, ieithoedd, dŵr yfed, y genom neu’r gofod cyhoeddus. Diolch i foeseg yr haciwr a thrwyddedau am ddim, mae’r pro-gyffredin yn cael ei ymestyn i feysydd mwy a mwy hanfodol trwy ddylunio cynhyrchion a systemau am ddim ac agored.
  • Auzolan, math o ‘waith cymdogaeth’ er lles y gymuned, yn seiliedig ar gydgyfrifoldeb, cyfranogiad a chydweithio cymunedol. Yn ogystal â chynnal a datblygu adnoddau cyffredin, mae’n helpu i gryfhau’r teimlad o berthyn, ymddiriedaeth a chydnabyddiaeth ymhlith aelodau’r gymuned.

Ychydig o hanes yr hyn rydym wedi’i wneud hyd yn hyn:

A lo largo de nuestra trayectoria hemos diseñado y desarrollado infinidad de proyectos; desde la facilitación de pequeños procesos puntuales, al diseño y puesta en marcha de proyectos de larga duración con una gran complejidad e implicando a numerosos agentes. A continuación enumeramos una selección de proyectos, que sirva para ilustrar nuestro trabajo

  • Diseño de entornos para la innovación ciudadana y emprendimiento social como HARROBItik HARROBIra con BilbaoEkintza, El Far con BarcelonaActiva, What if…? con ZaragozaActiva o #1CeS1FINDE con el Ayuntamiento de Sant Boi.
  • Programa de formación sobre emprendimiento social colectivo para mujeres en situación de vulnerabilidad Juntas Emprendemos, con la Diputación de Bizkaia en el marco de RedKOOP.
  • Conceptualización, diseño y puesta en marcha del Centro de Innovación Social EUTOKIA con Bilbao Ekintza.
  • Diseño y puesta en marcha del programa Bherria, impulsado por el Gobierno Vasco y dirigido a fomentar nuevas formas de participación y relaciones entre la administración pública y las iniciativas ciudadanas.
  • Conceptualización y el diseño del programa cultural la Capital Cultural Europea DSS2016EU con el Ayuntamiento de Donostia.
  • Puesta en marcha de la red social de crowdfunding Goteo como parte de la Fundación Goteo, de su nodo local GoteoEuskadi con a Irekia del Gobierno Vasco, así como las convocatorias dirigidas específicamente a proyectos de salud CROWDSASUNA con a Innobasque.

Participamos impartiendo conferencias o talleres en numerosos foros como TED x Madrid, NESI Forum, Labmeeting, Open Design Conference, Librecon, Arquitecturas Colectivas, Think Commons, Zinc Shower, etc.

Formamos parte activa de numerosas redes y grupos de trabajo colectivo entre las que destacan: Wikitoki, laboratorio de practicas colaborativas; KARRASKAN, red vasca para la innovación en cultura y cultura de la innovación; Eiken+, cluster de las industrias creativas de Euskadi; REAS, red estatal de economía alternativa y solidaria; Goratuz, red de cooperativas pequeñas de Bizkaia; Innobasque, red vasca para la promoción de la innovación; o Espacio Plaza / Sarean, asociación para el desarrollo comunitario desde la acción cultural en el barrio de San Francisco (Bilbao).

Drwy gydol ein hanes, rydym wedi dylunio a datblygu amrywiaeth eang o brosiectau; o hwyluso prosesau bach penodol, i ddylunio a gweithredu prosiectau hirdymor gyda chymhlethdod mawr ac yn cynnwys nifer o bartïon. Mae detholiad o brosiectau, sy’n dangos y math o waith rydym yn ei wneud wedi’u rhestru isod:

  • Dylunio amgylcheddau ar gyfer arloesi gan ddinasyddion ac entrepreneuriaeth gymdeithasol megis HARROBItik HARROBIra gyda BilbaoEkintza, El Far gyda BarcelonaActiva, What if …? gyda ZaragozaActiva a #1CeS1FINDE gyda chyngor dinas Sant Boi.
  • Juntas Emprendemos, rhaglen hyfforddi ar entrepreneuriaeth gymdeithasol gyfunol ar gyfer menywod sy’n agored i niwed, gyda chyngor taleithiol Bizkaia fel rhan o RedKOOP.
  • Cynllunio, dylunio a gweithredu Canolfan Arloesi Cymdeithasol EUTOKIA gyda Bilbao Ekintza.
  • Dylunio a gweithredu’r rhaglen Bherria, a lansiwyd gan lywodraeth Gwlad y Basg a’i hanelu at feithrin ffurfiau newydd o gyfranogiad a chysylltiadau rhwng gweinyddiaeth gyhoeddus a mentrau dinasyddion.
  • Cynllunio a dylunio’r rhaglen ddiwylliannol Prifddinas Diwylliant Ewrop DSS2016EU gyda chyngor dinas Donostia.
  • Sefydlu Goteo, gwefan cyllido torfol, fel rhan o Sefydliad Goteo, ei gwesteiwr lleol, GoteoEuskadi, gyda llywodraeth Gwlad y Basg, Irekia, yn ogystal â’r galwadau a gyfeirir yn benodol at brosiectau iechyd CROWDSASUNA gydag Innobasque.

Rydym yn cymryd rhan mewn darlithoedd neu weithdai mewn nifer o fforymau megis TED x Madrid, Fforwm NESI, Labmeeting, Cynhadledd Dylunio Agored, Librecon, Collective Architectures, Think Commons, Zinc Shower ayyb.

Rydym yn rhan weithgar o nifer o rwydweithiau a grwpiau gwaith ar y cyd, ymhlith y rhain mae: Wikitoki, labordy o arferion cydweithredol; KARRASKAN, rhwydwaith Gwlad y Basg ar gyfer arloesi mewn diwylliant a diwylliant o arloesi; Eiken +, grŵp o ddiwydiannau creadigol o fewn Gwlad y Basg; REAS, rhwydwaith wladwriaeth ar gyfer economi amgen ac economi yn seiliedig ar undod; Goratuz, rhwydwaith o gydweithfeydd bach yn Bizkaia; Innobasque, rhwydwaith Basgaidd ar gyfer hyrwyddo arloesi; a Espacio Plaza/Sarean, cymdeithas ar gyfer datblygu cymunedol yn seiliedig ar weithredu diwylliannol yng nghymdogaeth San Francisco (Bilbao).

Ai Cwmnïau Cydweithredol yw’r Dyfodol? gyda Rebecca Evans AC

Cyn ein digwyddiadau Gwlad y Basg, siaradon ni â Rebecca Evans AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Tai ac Adfywio. Roedd hi’n gadarnhaol iawn ynghylch sefydliadau cydweithredol ac arloesedd Gwlad y Basg. Gwnaeth hi sôn am sut gall y sector prydlesu elwa ar ddulliau cydweithredol a’r ffaith fod sefydliadau cydweithredol yn gallu meddwl yn fwy creadigol ynglŷn â’r problemau y mae sefydliadau yn eu hwynebu yn y gymdeithas fodern. Roedd hi’n credu bod digonedd o arfer da draw yng Ngwlad y Basg, y gallwn ni ddysgu o hynny yng Nghymru, yn ogystal â gallu cynnig rhywfaint o wybodaeth fewnol i Wlad y Basg, hefyd. Mae ei neges am gydweithredu a’r buddiannau cyffredin yn union yr hyn a welodd Chris Bolton ar ei ymweliad â Gwlad y Basg i ddysgu mwy am eu cydweithfeydd.

Ymunwch â ni yn ein digwyddiadau Gwlad y Basg y mis Rhagfyr hwn i ddysgu mwy. Dilynwch y ddolen hon: https://tinyurl.com/waobasque18

Profiad cydweithredol Mondragon

Cyn ein cynhadledd #WAOBasque mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredu Cymru, mae Fred Freundlich o Brifysgol Mondragon wedi ysgrifennu blog yn esbonio cefndir y brifysgol a’i rôl yn y grŵp Mondragon…

mondragon-logoHelo o Brifysgol Mondragon yng Ngwlad y Basg. Bydd dau ohonom o’r brifysgol, Leire Uriarte a Fred Freundlich, yn cynnal gweithdai yn y Gynhadledd Buddiannau Cyffredin sydd ar y gweill, ac roeddem eisiau sôn ychydig yma am y brifysgol a’i rôl yn y grŵp Mondragon, gan y bydd ein hamser yn y gynhadledd yn brin.

I’r rheini ohonoch sy’n anghyfarwydd â’r gair “Mondragon”, dyma’r enw am dref ddiwydiannol yn nhalaith Gipuzkoa yng Ngwlad y Basg, lle y gwnaeth rhwydwaith mawr o gwmnïau cydweithredol llwyddiannus gan weithwyr ddechrau yn y 1950au, ac sy’n parhau i fod yn llewyrchus hyd heddiw. Cymerodd y grŵp ei enw o dref Mondragon, a bellach mae’n cynnwys tua 100 o gwmnïau cydweithredol gan weithwyr ym meysydd uwch-weithgynhyrchu, manwerthu, bancio, ymchwil a datblygu technoleg a gwasanaethau eraill.

Beth sydd gan y brifysgol i’w wneud â hyn oll?

Yn gryno, fe wnaeth esgor ar y grŵp cydweithredol. Gwnaeth y profiad cydweithredol Mondragon cyfan dyfu o fentrau ym maes addysg, gan gynnwys y brifysgol. Gwnaeth offeiriad Catholig o’r enw Arizmendiarreta gyrraedd ym Mondragon yn 1941 a phenderfynodd ar unwaith y dylai rhan fawr o’i genhadaeth ganolbwyntio ar addysg, a oedd yn ddiffygiol iawn yn fuan ar ôl Rhyfel Cartref Sbaen. Creodd ysgol dechnegol fach yn 1943, ond dechreuodd hefyd ar bob math o brosiectau addysgol eraill, rhai ffurfiol a rhai anffurfiol, gyda phlant ac oedolion, mewn ystafelloedd dosbarth ac yn y gymuned. Roedd llawer o’r gwaith yn aml yn drefnu cymunedol, yn ogystal ag addysg, ond beth bynnag, roedd yr holl weithgarwch hwn yn hanfodol i lwyddiant Mondragon maes o law.

Cafodd y coleg technegol-galwedigaethol a grëwyd ganddo ei ail-greu mewn blynyddoedd diweddarach mewn trefi cyfagos ar gyfer astudiaethau clerigol a chadw cyfrifon, ac yna hefyd ar gyfer athrawon, ac allan o’r colegau hyn, datblygodd tri chanolfan addysg uwch yn y 1960au a’r 70au yn canolbwyntio ar beirianneg, busnes ac addysg. Am ychydig ddegawdau gwnaeth y tri chanolfan hyn gydweithredu fwy neu lai yn llac, ond yna yn 1998 gwnaethant ymuno i greu Prifysgol Mondragon a ffurfiwyd canolfan arall, y bedwaredd un, yn ddiweddarach.

Heddiw, mae gan Brifysgol Mondragon bedair cyfadran (Peirianneg, Busnes, Gwyddorau Gastronomig a’r Dyniaethau ac Addysg) lle y mae tua 4800 o fyfyrwyr yn dilyn graddau coleg-galwedigaethol, prifysgol neu ôl-raddedig. Gallant ddewis astudio o blith arbenigeddau amrywiol ym maes peirianneg, busnes, entrepreneuriaeth, gastronomi/celfyddydau coginio, cyfathrebu clyweledol neu dri is-bwnc addysg. Mae gan bob cyfadran ei “stori” a pherthnasedd i Mondragon, wrth gwrs, ond gallai Cyfadran y Dyniaethau ac Addysg fod yn arbennig o ddiddorol i Gymru am reswm penodol: yr iaith Fasgeg, “Euskara”. Ffurfiwyd y coleg athrawon ynghanol y 1970au er mwyn helpu i hyfforddi athrawon cynradd ac uwchradd i weithio yng Ngwlad y Basg, fel un o’r ymdrechion niferus yn rhanbarth Gwlad y Basg i adfywio’r iaith.

Mae rôl y brifysgol, mewn ffyrdd penodol, yn wahanol i brifysgolion confensiynol, o ystyried ei pherthynas agos iawn â busnesau cydweithredol Mondragon. Cafodd y cwmni cydweithredol Mondragon cyntaf ei ffurfio gan bump o raddedigion y coleg technegol cyntaf a chafodd nifer o gwmnïau cydweithredol diweddarach eu creu a’u staffio gan raddedigion Prifysgol Mondragon. Mae’r brifysgol wedi cael ei hintegreiddio’n agos iawn â’r grŵp Mondragon ac yn ganolog i’w genhadaeth y mae’r isod:

  • trosglwyddo gwybodaeth, hynny yw helpu sefydliadau i arloesi o ran technolegau cynnyrch a phroses; mewn gwaith, rheolaeth a pherchnogaeth ac mewn dulliau addysgu a dysgu; yn ogystal â…
  • pharatoi myfyrwyr gyda’r wybodaeth ymarferol a’r cymwyseddau cymdeithasol i ddod yn weithwyr sy’n aelodau effeithiol o’r cwmnïau yn y grŵp neu’n athrawon mewn ysgolion rhanbarthol.

Yn sicr mae graddedigion Prifysgol Mondragon yn rhydd i fynd i weithio i gwmnïau neu ysgolion confensiynol ac mae ei hathrawon yn gweithio â sefydliadau confensiynol yn ogystal â sefydliadau cydweithredol mewn prosiectau trosglwyddo gwybodaeth. Mae Prifysgol Mondragon yn parhau i fod yn aelod annatod o rwydwaith Mondragon a’i ffocws canolog yw cyfrannu at y gymuned gydweithredol a datblygu economaidd yn y rhanbarth drwy gydweithredu â chwmnïau ac ysgolion ar brosiectau cymhwysol, gan ddarparu graddedigion â sgiliau iddynt a hyrwyddo entrepreneuriaeth ym maes busnes ac addysg.

Mae’r brifysgol yn mynd i’r afael â’r genhadaeth hon mewn ffyrdd gwahanol. YN GYNTAF, mae’r brifysgol yn sefydliad cydweithredol ei hun. Mae’r cyfadrannau wedi cael eu strwythuro’n gyfreithiol fel cwmnïau cydweithredol addysgol nid er elw a chyda’i gilydd maent yn ffurfio’r cwmni cydweithredol ail radd sef y brifysgol. Mae gan bob cyfadran dair etholaeth (staff, myfyrwyr ac “aelodau cydweithredol” — cwmnïau lleol, awdurdodau trefol ac ati) ac mae gan bob etholaeth draean o’r pleidleisiau mewn cyrff llywodraethu cydweithredol (Cynulliad Cyffredinol a Chyngor Llywodraethu).

Mae AIL strategaeth er mwyn cyflawni’r genhadaeth hon yn canolbwyntio ar ddulliau addysgu a dysgu sy’n gymhwysol iawn ac yn aml yn seiliedig ar grŵp: mae’r myfyrwyr yn gwneud llawer o waith datrys problemau, yn seiliedig ar brosiectau mewn grwpiau, gan fynd i’r afael â sut i drin problemau ymarferol mewn timau cydweithredol.

YN DRYDYDD, mae’n rhaid i fyfyrwyr gwblhau profiadau lluosog ar leoliad dros y pedair blynedd, gan weithio a gwneud gwaith cwrs yn aml mewn cwmnïau cydweithredol lleol. Y syniad yw bod y brifysgol mor agos at y cwmnïau â phosibl.

I GLOI, mae’r brifysgol yn ceisio annog gwerthoedd cydweithredol. Efallai mai hon yw ein tasg anoddaf, o ran ei gwneud yn dda ac o ran gwybod pa mor dda mae’n gweithio. Ni ellir “addysgu” gwerthoedd mewn ystafell ddosbarth draddodiadol ac ni ellir eu gwerthuso drwy arholiad. Er gwaethaf y rhwystrau amrywiol, mae amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu trefnu, y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth, fel y gall y myfyrwyr a’r athrawon … nid addysgu… ond cwestiynu, dadlau, trafod ac ati. … a thrwy hynny helpu ei gilydd i ddysgu’r gwerthoedd a ddylai fod yn sail i fenter lwyddiannus y mae ei pherchnogaeth yn cael ei rhannu’n helaeth ac y dylai ei phenderfyniadau gael eu gwneud mewn ffyrdd cyfranogol. Mae’r “addysg gwerthoedd” hon wedi bod yn sialens barhaol ar gyfer Prifysgol Mondragon, ac mewn gwirionedd, ar gyfer pob un o gwmnïau cydweithredol Mondragon, ac mae’n sicr o barhau i fod yn un o’n mentrau pwysicaf ac anoddaf.

MONDRAGON Corporation – 2018 – English – Inglés – Anglais – Englisch – Ingelesa – Inglese – Inglês from MONDRAGON Corporation on Vimeo.

Dyna’r cyfan am y tro. Edrychwn ymlaen at drafod hyn oll gyda chi yn y gynhadledd sydd ar y gweill  ddydd Mawrth, 4 Rhagfyr.

Hoffem hefyd eich gwahodd i wrando ar y weminar ar brynhawn 3 Rhagfyr – A all yr economi gymdeithasol ein hachub? Beth all Cymru ei ddysgu oddi wrth brofiad Gwlad y Basg?

Cwmnïau Cydweithredol: Ai Nhw yw’r Dyfodol? Gyda Leanne Wood AC

Cawsom sgwrs gyda Leanne Wood AC am gwmnïau cydweithredol ac economi Gwlad y Basg , cyn ein digwyddiad #WAOBasque.  Mae’n dweud bod cwmnïau cydweithredol yn cynnig sefydlogrwydd i gymunedau mewn cyfnodau o galedi economaidd, ynghyd â galluogi pobl i gael rhan yn eu gwaith, gan gymell cynhyrchiant yn y gwaith. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am gwmnïau cydweithredol, ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar ddydd Llun 3 Rhagfyr drwy’r ddolen: https://tinyurl.com/webasq

Hoffem hefyd eich gwahodd i ddod i’n cynhadledd ddydd Mawrth 4 Rhagfyr, mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru. Cofrestrwch yma: https://tinyurl.com/basquetick

I gael isdeitlau, pwyswch “CC” (closed captions). Dewiswch eich iaith gan ddefnyddio’r botwm settings/cog.

Ai Cwmnïau Cydweithredol yw’r Dyfodol? Gyda Derek Walker

Cawsom sgwrs gyda Derek Walker er mwyn holi am Wlad y Basg a chwmnïau cydweithredol cyn ein cynhadledd ym mis Rhagfyr. Rydym yn edrych ymlaen at allu cyflwyno rhai cynrychiolwyr gwych o rai o sefydliadau mwyaf llwyddiannus, arloesol a blaengar y rhanbarth. Yn y digwyddiad arbennig iawn hwn, gwahoddir gwasanaethau cyhoeddus i ddysgu am eu dulliau arloesol a newydd o ddelio â heriau sydd gennym yn gyffredin, a sut mae Gwlad y Basg yn rhoi cenedlaethau’r dyfodol wrth wraidd ei heconomi.

Derek Walker yw Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Cydweithredol Cymru. Mae’r ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth â ni i ddod â #WAOBasque i chi, cynhadledd sy’n canolbwyntio ar bopeth sy’n ymwneud â Gwlad y Basg. Cofrestrwch yma: https://tinyurl.com/basquetick

“Dewis gwneud, nid gorfod gwneud!” RCE Cymru yn Rhannu ei Wybodaeth â Gwasanaethau Cyhoeddus

Nid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gymwys i brifysgolion yng Nghymru, felly pam eu bod yn ffurfio rhwydwaith i ymchwilio a rhannu eu gwybodaeth sy’n helpu gwasanaethau cyhoeddus i weithio tuag at nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

Yr ateb syml yw bod gweithio o fewn fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi bod o fudd i’w hymchwil, ac maent yn croesawu effaith bosibl rhannu eu gwybodaeth.

Mae RCE Cymru yn rhwydwaith o’r holl brifysgolion yng Nghymru sy’n cydweithio mewn grwpiau penodol a elwir yn Gylchoedd o Ddiddordeb er mwyn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus, drwy ymchwilio a rhannu eu gwybodaeth â’i gilydd. Gallai rhannu eu gwybodaeth gael effaith anhygoel. Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn gweithio mewn partneriaeth ag RCE Cymru i ddod â digwyddiad sy’n archwilio’r ‘Cylchoedd o Ddiddordeb’ hyn i chi ar 7 Tachwedd, mewn digwyddiad a elwir yn “Gwerth Mewn Rhannu”. Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma: Dysgwch fwy am RCE Cymru drwy ddilyn @CymruRCE ar Twitter.

 
Os hoffech ddefnyddio is-deitlau, cliciwch “CC” (closed captions). I newid pa isdeitlau iaith sy’n ymddangos, pwyswch y botwm cog/gosodiadau, ewch at isdeitlau a dewiswch eich iaith

Community Impact Initiative C.I.C.

Menter gymdeithasol flaengar yw’r Community Impact Initiative C.I.C. (Y Cii) @TheCiiUK a leolir yn Ne Cymru sy’n ceisio datblygu a darparu atebion arloesol i broblemau cyson ac ardaloedd lle mae eu hangen yn ein cymunedau lleol sy’n arwain at amrywiaeth o fanteision personol, cymdeithasol ac economaidd.

Wedi’i sefydlu gan Trystan Jones, sefydliad dielw yw’r Cii, lle mae’r incwm a gynhyrchir ar gyfer ei weithgareddau, gyda’r elw’n cael ei ail-fuddsoddi er mwyn gwella’i fentrau cymunedol a chaniatáu iddynt barhau, gan ei alluogi i ymdrechu tuag at ei weledigaeth a’i genhadaeth:

  • Gweledigaeth: Dyfodol lle mae ein cymunedau’n llwyddo ac yn ffynnu.
  • Cenhadaeth: Gwella ein cymunedau drwy atebion arloesol, gan ddarparu cyfleoedd i unigolion wedi’u hymyleiddio wneud cyfraniad ystyrlon at gymdeithas.

Prosiect diweddar a ariannwyd gan Y Loteri Fawr Cymru a Sefydliad Screwfix yw’r Prosiect Etifeddol Cymunedol sy’n cefnogi unigolion di-waith, wedi’u hymylu ac yn ddifreintiedig i ddatblygu sgiliau adeiladu a chyflogadwyedd drwy brynu, adnewyddu a gwerthu eiddo sy’n wag neu sydd wedi dadfeilio ledled Cymru. Yn gryno, caiff eiddo eu prynu gan y Community Impact Initiative, fel arfer drwy arwerthiant, cânt eu hadnewyddu drwy weithgareddau’r prosiect a’u gwerthu yn ôl i’r farchnad dai.

Rydym yn cyflogi tîm prosiect sy’n cefnogi ein cyfranogwyr i ddysgu a datblygu sgiliau adeiladu wrth gyflawni’r gwaith o adnewyddu’r eiddo. Drwy’r gweithgareddau hyn, mae’r cyfranogwyr yn datblygu ystod eang o sgiliau, yn gwella eu lefelau hyder, yn cyflawni cymwysterau, yn cael profiad o leoliadau gwaith gwirfoddol ac yn symud yn agosach tuag at gael cyflogaeth. Yn ei dro, caiff yr eiddo hwn a oedd yn arfer bod yn wag neu wedi dadfeilio eu rhoi yn ôl i mewn i’r farchnad dai, gan leihau effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol, trosedd a fandaliaeth, a’r effaith andwyol y gall hyn ei gael ar ein cymunedau.

Mae pob achos o adnewyddu eiddo yn bartneriaeth unigryw rhwng y Community Impact Initiative a sefydliad cymorth sydd yn ardal leol yr eiddo, megis elusen, cymdeithas dai, ysgol, darpariaeth EOTAS, CEM neu wasanaethau prawf. Ar ôl prynu’r eiddo rydym yn ymgysylltu â sefydliadau posibl er mwyn nodi pwy fyddai â diddordeb mewn gweithio gyda ni.

Mae’r sefydliadau cymorth hyn yn cyfeirio unigolion at y prosiect y maen nhw’n credu y byddai’n cael budd o’r cymorth a ddarperir, yn amrywio o’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn adeiladu, i rai sydd â diffyg hunanhyder.

Gallai enghreifftiau o brosiectau gynnwys y canlynol:

  • Partneru ag elusen leol sy’n cefnogi unigolion sydd â diddordeb mewn cael mynediad i’r diwydiant adeiladu, ond sydd â rhwystrau i wneud hynny, megis diffyg profiad neu ddim yn meddu ar y cymwysterau gorfodol perthnasol. Yn yr achos hwn, bydd y prosiect yn caniatáu i’r cyfranogwyr cael profiad o’r diwydiant adeiladu mewn amgylchedd cefnogol ac empathetig, datblygu amrywiaeth o sgiliau ar draws sawl masnach, a chyflawni cerdyn Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil sy’n orfodol i weithio ar y safle. Felly, yn yr achos hwn bydd y prosiect yn gam perffaith tuag at yrfa mewn adeiladu.
  • Partneru â sefydliad cymorth cam-drin domestig lleol sy’n cefnogi menywod sydd â diffyg hyder a hunan-barch oherwydd eu cefndir. Yn yr achos hwn, rydym yn cefnogi cyfranogwyr nad oes ganddynt uchelgeisiau i gael gafael ar gyflogaeth yn y diwydiant adeiladu o reidrwydd ond sydd am ddatblygu sgiliau y gallant eu defnyddio yn eu cartrefi eu hunain. Mae canlyniadau’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar wella lefelau hunan-barch, hyder a chymhelliant yn hytrach na chyflogaeth.
  • Partneru ag ysgol leol sydd am roi cipolwg ar y diwydiant adeiladu i’w disgyblion a sut y gall pynciau ac astudiaethau ysgol ymwneud â chyflogaeth yn y diwydiant hwn. Yn yr achos hwn byddwn yn cefnogi disgyblion i gael profiad o amgylchedd adeiladu a chael rhagflas o’r amrywiaeth o fasnachau a sgiliau cyn y bydd yn rhaid iddynt benderfynu ar lwybr gyrfa yn y dyfodol. Mae cael profiad o’r amgylchedd gwaith yn galluogi disgyblion i ddeall pa gymwysterau sydd eu hangen yn ystod eu taith addysg statudol, gan ddarparu cipolwg a fydd yn eu cefnogi i ymgysylltu â’u hastudiaethau.

Fel mae’r enghreifftiau hyn yn dangos, bydd pob eiddo yn brosiect unigryw ei hun ym maes y Prosiect Etifeddol Cymunedol lle mae’r canlyniadau wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion yr unigolion a gefnogir.

Ym mis Awst 2018 prynwyd ein heiddo prosiect eiddo cyntaf ym Merthyr Tudful. Yn ystod y broses o brynu gwnaethom ymgysylltu â Cartrefi Cwm Merthyr, cymdeithas dai sy’n cefnogi miloedd o bobl yn yr ardal leol.

Ar ddechrau mis Medi 2018 dechreuodd 10 cyfranogwr y prosiect. Cymysgedd o ryw ac oedran, daeth pob un o gefndir gwahanol, â graddau amrywiol o brofiad o adeiladu a gweithio. Fodd bynnag, roedd gan bob un nod cyffredin o ddysgu sgiliau ac ennill y cymwysterau sydd eu hangen i gael gafael ar gyflogaeth yn y diwydiant adeiladu. Drwy’r adnewyddiad penodol hwn byddant yn cael profiad o amrywiaeth o feysydd adeiladu gan gynnwys plastro, gwaith saer, peintio ac addurno, gosod cegin/ystafell ymolchi, teilsio, lloriau a garddio.

Yn dilyn atgyfeiriad at y prosiect gwnaeth pob cyfranogwr gwblhau cwrs Iechyd a Diogelwch a chynllun hyfforddiant sy’n amlinellu eu targedau CAMPUS. Mae ein staff prosiect yn monitro cynnydd bob dydd ac yn cynnal adolygiadau ffurfiol bob pythefnos er mwyn sicrhau cynnydd yn erbyn targedau.

Ar adeg ysgrifennu mae pob cyfranogwr wedi ymgysylltu’n dda â’r prosiect ac wedi dangos gallu gwych i ddysgu a gwella ar yr amrywiaeth o sgiliau masnach dan sylw. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gwahodd cwmnïau adeiladu lleol i ddiwrnodau agored er mwyn iddynt weld cyfranogwyr yn dangos eu sgiliau â’r posibilrwydd y byddant yn cael cynnig lleoliadau, prentisiaethau a chyflogaeth.

Mae effaith y Prosiect Etifeddol Cymunedol yn bellgyrhaeddol ac nid yw’n gyfyngedig i’r canlyniadau a gyflawnir gan y cyfranogwyr. Ein bwriad yw bod y prosiect yn parhau i dyfu a datblygu a chyflawni canlyniadau ar lefel bersonol, cymunedol ac economaidd:

  • Personol – cefnogi unigolion i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau, cyflawni cymwysterau a chefnogi eu cynnydd i mewn i gyflogaeth.
  • Cymunedol – Bydd y canlyniadau personol hyn yn cefnogi ein cymunedau lleol drwy gynyddu incwm oherwydd cyfraddau cyflogaeth uwch, gan alluogi’r cymunedau hyn i ffynnu.
  • Economaidd – mae’r effaith economaidd yn bellgyrhaeddol o bosibl, mewn ffyrdd megis lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, lleihau’r pwysau ar sefydliadau cymorth arbenigol a datblygu gweithlu sy’n cyd-fynd â datblygiadau eiddo ac adeiladu yn y dyfodol.

Yn fodel sydd ar ei gamau cynnar ar hyn o bryd, ein bwriad yw, drwy ddefnyddio cyllid Loteri Fawr Cymru a Sefydliad Screwfix, y gall y model ddod yn hunangynhaliol yn yr hirdymor.

Rydym yn falch iawn o gyflwyno dull gweithredu arloesol sy’n wahanol i unrhyw un arall yng Nghymru ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi ein cymunedau i ffynnu drwy’r gweithgareddau hyn.